Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

HIRWAUN,

News
Cite
Share

HIRWAUN, CYFARFOD YMADAWOL Y PARCH. D. M. LEWIS, M.A. Nos Fercher, yr 19eg cynfisol, yn nghapel yr Annibynwyr Seisonig Hirwaun, y cynaliwyd cyfarfod ymadawol y Parch D. M. Lewis, M.A., gweinidog anwyl a pharchus yr eglwys uchod, fir ei fynediad i Cambridge, lie ygraddiodd, i ymgy- meryd Ag addysgiaeth private pupils am dymhor ar gyfer y gwahanol golegau yno. Yn mysg lluaws edmygwyr a chyfeillion personol Mr Lewis, yr oedd yn bresenol o Aberdar y Parchn W. Edwards, Ebenezer; J. Davies, Soar; R. T. Howells, Tabernacl, a Silyn Evans, Siloa. Y Parchn W. J. Williams (M.C.), E. C. Evans (B.), a J. R. Williams, Nebo, yn nghyda llawer ereill o wahanol eglwysi y lie, yn nghyda'r Parch R. Cynon Lewis, Treforris. Cymerwyd y gadair gan Mr W. Williams, Bryn Cynon House, un o ddi- aconiaid hynaf, ac un o golofnau cryfaf a ffydd- lonaf yr achos yn y lie. Wedi cael cAn gan Morgan Davies, dywedodd y Cadeirydd:— Anwyl Gyfeillion,—Yr ydym wedi ymgyfarfod yma heno ar aehlysur neillduol, a drwg iawn genyf fod galw am gyfarfod o'r fatb. Dymunaswn hefyd pe buasai yr anrhydedd o lywyddu yn dis- gyn i ran rhywun mwy addas na mi ond gan mai dyma ddewisiad yr eglwys i mi, fel un o aelodau hynaf yr eglwys, lywyddu, ymddangosai yn angharedig yno? wrthod. Fy nghysur mawr pa fodd bynag, ydyw fod yma ddigon o siaradwyr heno i wneyd i fyny am bob diffyg yn y Cadeir- ydd. Gwyddoch fod Mr L. wedi tori ei gysylltiad a'r eglwys hon. Drwg genyf ddyweyd iddo breg- ethu ei farewell sermon nos Sabboth diweddaf, ac nid yw ein trallod yn terfynu yma, oblegid bwriada ymddeol o'r weinidogaeth yn gyfangwbl, ao ymgyflwyno i ddysgeidiaeth ysgolheigiol. Yr wyf yn dywedyd hyn gan y credaf yn ddiamheu fod y golled nid yn unig yn lleol, ond yn llawer eingach, am nad allwn fforddio golli o'n pwlpudau dalentau a galluoedd meddyliol o radd mor uchel. G wn y bydd yr eglwys yn cydsynio A mi pan ddy- wedaf fod Mr Lewis wedi gosod anrhydedd uchel arnom wrth ymgymeryd Wn bugeilio fel deadell feohan am bum' mlynedd, a theimlwn yn rhwym- edig iawn iddo am i ni gael ei wasanaeth gwerth- fawr cyhyd o amser. Penderfynodd rbai ohonom ddangos ein parch i Mr Lewis ar yr achlysur o'i ymadawiad drwy rywbeth mwy sylweddol na cbyfarfod fel hwn i ddatgan ein teimladau caredig tuag ato, ond pan wybu ef y bwriad, gwrthododd yn y modd mwyaf pendant i dderbyn un math o dysteb, a gallaf eich sicrhau yn herwydd gwyl- eidd-dra natur Mr Lewis, i ni gael gwaith mawr i gael ei gydsyniad i gyfarfod cyhoeddus fel hwn hcno-dywedai, nas gwyddai beth gawsai y bobl i ddyweyd am dano ar achlysur o'r fath. Er hyny, teimlem ni fod ei wasanaeth yn y gorphenol yn achos crefydd, moesoldeb, a dysgeidiaefeta yn y lie, purdeb ei fywyd, ei s61 gyda phob peth da, urdd- asol a dyrcnafol, yn destynau priodol a chymhwys iawn i ymhelaethu arnynt. Bu yn traddodi dar- lithiau gwyddonol yn y lie, a thrwy ei offerynol- iaeth ef yn unig y oychwynwyd y science and art classes, pa rai a arweiniodd ef ei hun yn llwydd- ianus am rai blynyddoedd. Y mae llawer o lin- ellau ereill yn nghymeriad Mr Lewis yr hoffwn aros arnynt, megys ei ddyddordeb yn addysgiaeth yr ieuenctyd yn yr eglwys, ac yn wir yn mhob peth perthynol i lwyddiant yr achos, ond teimlwn y buaswn fel Cadeirydd yn tretbu gormod ar amser y cyfarfod i wneyd hyny. Wrth derfynu, dymunaf gyflwyno i Mr Lewis drosof fy hun, a thros yr eglwys, fy niolchgarwch mwyaf diffuant am yr ymroddiad a'r ffyddlondeb a ddangosodd tra yn gweinidogaethu i ni, a dymunwn iddo yn y modd mwyaf trwyadl, lwyddiant mawr yn y dyfodol, ac yr wyf yn sicr y cofir am ei dymher addfwyn a'i gymeriad Cristionogol dysglaer am hir amser genym oil. Galwodd yn nesaf ar y Parch J. Davies, Soar, i atierch y cyfarfod. Yn mysg pethau ereill, dy- wedodd, y teimlai anhawsdra mawr i ddyweyd yr hyn oedd ar ei feddwl mewn cyfarfod o fath hwn, yn neillduol i ddyweyd fel y teimlai tuag at Mr Lewis, yn mhresenoldeb un mor wylaidd. Bu yn y cyfarfod gynaliodd yr eglwys i benderfynu rhoddi galwad i Mr Lewis, a chofiai y pleser mawr gafodd i glywed fod Mr Lewis wedi eydsynio â'u cais, oblegid gwyddai yn dda am nodweddion ar- dderchog ei gymeriad moesol, yn nghyda'i gyr- haeddiadau addysgol uchel. Daethai i'r cyfarfod yn unig i ddyweyd farewell, a hyny yn ystyr lawnaf ac eangaf y gair. Hyderai mai fare well wnai Mr Lewis yn ei gylch newydd, fel yr oedd wedi gwneyd. Credai fod dyfodol uchel a llwydd- ianus o'i flaen, a dymunai iddo fendith y nefoedd. Galwyd yn nesaf ar Mr Johns, un o'r diacon- iaid, yr hwn a ddywedodd yehydig o eiriau todd- | edig i'r perwyl canlynol: Fod Mr Lewis yn meddu ar gymhwysderau addysgol uchel, fod ei ofal dros yr icuaine yn yr eglwys yn fawr. Synai yn ami b'le cai Mr Lewis gymaint o amynedd at y'plant, ond ymddangosai fel yn colli, ac yn aDghofio ei hun yn llwyr yn ei waith. Y Parch W. J. Williams (M.C.), a alwyd yn nesaf. Dywedai ei fod yn dyfod yno i gynrych- ioli eglwys Bethel. Fod Mr Lewis yn cael ei fawr barchu gan enwadau ereill yn ogystal a'i Enwad ei hun. Teimlai yn fawr wrth golli Mr L., oad nad oedd drwy symud i Cambridge ond myned i giVr arall o'r dref, oblegid mai tref ar scale dipyn yn eang yw ein hynys erbyn hyn. Teimlai yntau nerth y gair farewell, ond gwell ganddo ystyr Gymreig y gair, na'r un Seisonig, sef H canu yn iacb." Dadganiad o ddymuniad da, a hyny mewn can. Cyfeiriodd at ymdrechion Mr Lewis gyda'r science and art classes, a chyda dir- west. Cafodd Mr L. bob amser yn model o fon- eddwr Cristionogol, ac ymddangosai fel yn cyn- rycbioli Cristionogaeth yn ystyr lawnaf y term. Mr George Williams, diacon o'r eglwys, a alwyd yn nesaf, a dadganodd yntau y mwynhad a'r adeiladaeth gafodd o dan weinidogaeth Mr L., yn nghyda'r golled ddirfawr i'r eglwys o'i golli. Yna galwyd ar y Parch W. Edwards, Ebenezer, i siarad, yr hwn wedi gwneyd ychydig gyfeiriadau at y Cadeirydd yn hunan-ymwadu, ac yn gadael eglwys dda i fyned allan gydag ereill i gychwyn achos Seisonig, a ddywedodd, nad allai Mr L. lai na bod yn foneddwr Cristionogol, oblegid ei fod wedi ei freintio gan natur a Ehagluniaeth yn nodedig i hyny. Adwaenai dad Mr Lewis er's dros ddeugain mlynedd, ac am burdeb meddwl ac urddasolrwydd cymeriad, anfynych y cyfarfyddir A neb rhagorach na'r Parch E. Lewis, Brynberian. Bu gyda'r eglwys yn Mount Pleasant ar bob am- gylchiad pwysig o'i sefydliad hyd yn awr, a gobeithiai gael bod eto yn y dyfodol. Yn nesaf, y Parch Silyn Evans, Siloa, a ddy- wedai y cofiai yn dda am ei gyfarfyddiad cyntaf a Mr Lewis yn Abergorleeb, cyn i'r un ohonynt fyned i Goleg. Pregethai Mr L. o'r Rhufeiniaid a Mr Evans o'r Dadguddiad. Yr oeddynt ill dau yn bregethwyr da a chymeradwy y pryd hwnw. Edmygai chwaeth yr eglwys yn dewis dyn mor ddysgedig, haelfrydig, ac urddasol a Mr L. i fod yn weinidog arnynt, a charai hwynt yn fawr am hyny, a gobeithiai y rhoddent alwad i un o'i fath eto, os gallent ei gael. Y Parch E. C. Evans (B.), a ddywedai, iddo ef fod am ychydig mewn hwyl i feio y council yn Nghaerdydd am wrthod Mr Lewis, ond wedi ystyried iddynt ei ddewis yn un o saith allan o 24 o ymgeiswyr, gwelai eu bod wedi dangos fod ganddynt syniad uchel ohono, ac y dylai Hirwaun deimlo yn falch o'r anrhydedd hon. Cyfeiriodd at waith Mr Lewis yn gwrthod tysteb. Hyn yn dangos ei wreiddioldeb. Gwell i'w bobl ef beidio gwneyd yr na cynyg iddo ef, rhag iddo ei dderbyn. Yn awr, galwodd y Cadeirydd ar Mr Lewis i siarad. Esgynodd i'r pwlpud, a dywedodd, nas gwyddai yn iawn pa fodd i ateb i'r boll bethau caredig ddywedwyd am dano y noson hono, nac i gydnabod yr holl garedigrwydd dderbyniodd, nid yn unig gan ei bobl ei hun, ond gan weinidogion ac eglwysi y gymydogaeth am y tymhor o bum' mlynedd y bu yma. Daethai i'r penderfyniad i ymddeol o'r weinidogaeth oddiar y syniad nad oedd yn hollol gyfaddas i'r gwaith, ac nid oddiar unrhyw annealldwriaeth rhyngddo a'r eglwys nen ei frodyr yn y weinidogaeth. Tybiai rhai mai caled ac annifyr iawn yw rhan gweinidog Ymneillduol; pe dywedai ei brofiad ei hun, nid felly y teimlodd ef. Beth bynag fuasai ei dynged yn y dyfodol, nis gallasai byth deimlo yn dded- wyddach nag y teimlodd yn ei fywyd gweinidog- aethol. Lion ganddo weled cynifer o'i frodyr o Aberdar a Hirwaun yn bresenol. Cafodd hwynt bob amser yn garedig, a diolchai iddynt yn y modd cynesaf am byny. Dylai Ymneilldnacth lawenychu yn y meddiant o gynifer o foneddigion Cristionogol i lafurio yn ngweiaidogaeth y Gair. Diolcbai i weinidogion y lie o bob enwad am y cyfeiriadau caredig at yr ymdrechion wnaed tuag at gynydd meddyliol eymdeithasol a moesol yn y lie, er hyny drwg ganddo na wnaed rhagor. Cyfeiriodd un o'r diaconiaid at yr Ysgol Sul, teimlai hoffder mawr i hyfforddi yr ieuainc, a gobeithiai y cerid y gwaith da ddechreuwyd yn mlaen i berffeitbrwydd. Wrth derfynu, dymunai bob amser gynydd a llwyddiant yr eglwys— buasai yn ofid mawr ganddo glywed am un adfyd wedi disgyn i'w rhan. Diolchodd yn garedig iddynt am eu caredigrwydd, a gobeithiai y dangosid yr unrhyw garedigrwydd i'w olynydd, gan hyderu y caent un yn fnan. Diolchodd i weinidogion ac eglwysi y lie am eu caredigrwydd at yr eglwys, yr hon er nad oedd ond bechan, yr oedd ganddi le a gwaith a adewid yn bur debyg heb ei wneyd pe na wnaethent hwy cf. Y mae gan eglwysi Seisonig waith mawr i ymdrechu ag anfanteision yn Nghymru, ac yr oeddynt yn teilyngu pob cydymdeimlad a chymhorth. Wrth ddyweyd ffarwel iddo, gallai ddadgan ei deimlad yn well nag yn iaith y Salmydd, Heddwch a fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau." Yna wedi cael can gan Mis3 Roberts, galwodd y Cadeirydd ar y Parch J. R. Williams, Nebo, i siarad. Buont yn gyfeillion mynwesol am bum' mlynedd. Cafodd Mr L. yn gyfaill didwyll a phur. Meddai ar galon o aur pur i gyfoethogi y neb ddelai yn agos ato. Ambell i ffermdy gwyn- galchedig yn y wlad yn ymddangos yn fychan iawn, ond er hyny yn orlawn o ymborth ar gyfer gauafau i dd'od. Felly Mr L. Ni fynai ef i ni gredu ei fod yn neb, er hyny pan eid i'w gwmni, teimlid nerth ei gymeriad pur a'i wybodaeth eang -haen ar haen yn ystordy ei feddwl, a theimlai yn ami yn falch o'r briwsion syrthient oddiar fwrdd y gwr cyfoethog. Mr L. yn ymadael A'i eglwys ar y telerau goreu. Gweinidogion yn sefyll yn uchel yn marn eu heglwysi pan gant alwad, ond yn fuan syrthiant yn isel, ac weithiau bendramwnwgl, yna rhaid cael cyfarfod ymadawol i godi, trwsio, a gwyngalchu y brawd ar gyfer eglwys arall. Nid felly yma. Mr L. yn ymadael wedi gwneyd ei ddyledswydd, nid y linell o ddy- ledswyddau dorid allan iddo gan ei eglwys a'r lie, ond wedi rhoddi ei hun yn anymwybodol a dystaw fel y ffynon risialaidd er disychedu ereill. Credai Mr L. ei fod yn gwneyd yn iawn wrth ymadael. Arferai Mr L. weithredu yn gydwybod- ol, a dylid rhoddi credid iddo am weithredu felly yn yr amgylchiad presenol. Nis gallai y byd eto fforddio M.A's i le o fath Hirwaun. Gyda'r holl fanteision addysgol sydd ar dd'od i gyrhaedd y Cymry, gellir dysgwyl gwyr o deitlau ocbel yn mhob pwlpud, ac i fritho ein cynulleidfaoedd, hyd hyny, rhaid i Hirwaun ymfoddloni ar oleuadau Hai. Fod gan Mr L. feddwl miniog, wedi ei drainio yn dda i dori defnyddiau ar gyfer teml fawr y dyfodol. Ei gymeriad gloew genym ar ol i fedd- wl am dano, mae yn perarogli yn hyfryd Can- molai yr eglwys am ei ffyddlondeb a'i gweitbgar- wch, yr hon, er nad hysbysai holl bapyrau y wlad ei gweithredoedd da, nad oedd yn ol i un eglwys yn y lie am ei haelioni a'i dyfalbarhad. Galwyd yn nesaf ar y Parch E. T. Howell, Aberdar. Dywedai fod ganddo araeth hyd nes y clywodd Mr Lewis yn siarad, ond wedi clywed y geiriau pwrpasol, syml, a cbynes, oddiwrth tin oedd mor anwyl ganddo a Mr Lewis, ei fod wedi colli yr oil. Cyfarfyddai a chyfaill yn ddiweddar, yr hwn a ddywedai, "You are going to lose Mr Lewis from Hirwaun, it seems you can't believe how sorry I am, for I love him as a brother." Ystyriai Mr L. fel dolen gydiol i gysylltu Anni- byniaeth A'r man cysegredig lie y cafodd ei chryd. Y rhai oeddent wir gychwynwyr Anni- byniaeth oil wedi graddio yn Cambridge. Parch R. C. Lewis, Treforris, a alwyd yn nesaf. Teimlai yn yr un sefyllfa a'r Gwyddel hwnw a elwid i siarad ar ddiwedd cyfarfod, a ddywedai fod ei frodyr wedi dyweyd y cwbl o'i flaen, a gadael y gweddill iddo ef. Felly yntau y noson hono. Siaradodd yn uchel am ffyddlondeb a chyf- addasder Mr Lewis fel ysgrifenydd yr English Congregational Association of Glamorganshire and Carmarthenshire, a'r teimlad hwyrfrydig oedd yn y frawdoliaeth wrth dderbyn ei ymddiswyddiad. Wedi i Mr D. M. Richards, Aberdar, un o hen aelodau yr eglwys yn Hirwaun siarad, a thalu diolchgarwch i'r Cadeirydd, ac wedi canu y Doxology, terfynodd y Parch R. T. Howell, Aberdar, trwy weddi. Yr oedd y teimladau mwyaf hapus ond hiraethlawn, yn rhedeg drwy yr holl gyfarfod, a phawb yn dadgan eu dymuniadau da i Mr Lewis, ac yn dymuno Duw yn rhwydd iddo.

TALGARTH.