Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

YMYLON Y FFOEDD. -

O'M LLYFRGELL.

News
Cite
Share

O'M LLYFRGELL. MAE yr oes hon yn nodedig am y lluaws Uyfrau a gyhoeddir ynddi, ae hefyd am yr awydd anghyffredinol i ddarllen pob peth newydd. Mae yna ryw ysfa yn rhedeg trwy gymdeithas yn gyffredinol i ddarilen, a gweled a chlywed y newyddion diweddaraf ar bob cwestiwn, lieu yr agwedd olaf ar bob mater. Mae un llyfr ychwanegol wedi em cyrhaedd er y bum yn ysgrifenu ychydig ar lenyddiaeth o'r blaen, sydd wedi tynu sylw cyffredinol. Cyhoeddwyd The Freedom of Faith, gan y Parch Theodore T. Munger, gyntaf yn America, ae ail-gyhoedd- wyd ef gan Meistri James Clarke, Llundain, a gwelwn hefyd fod cyhoeddwr arall wedi ei gy- hoeddi yn y wlad hon. Fel y g\vyr y rhan fwyaf o'n darllenwyr, gall unrhyw un yn y wlad hon gyhoeddi llyfr a argraffwyd yn yr Unol Dalaethau ac o'r ochr arall, gall unrhyw un yn yr Unol Dalaethau gyhoeddi Ilyfr gy- hoeddwyd gyntaf yn y wlad hon heb fod yn gyfrifol i neb pwy bynag. Anghyfiawnder hollol ydyw hyn, a dylai fod deddf international ar y cwestiwn. Mae rhifynau lawer o'r Traethodydd wedi eu cyhoeddi yn yr Unol Dalaethau, a deallwn fod yna argraffiad Americanaidd o Esboniad y Parch James Hughes wedi ymddangos yr ochr arall i'r Werydd, heb yr obebiaeth leiaf a'r perchenog- ion yn y wlad hon, llawer llai heb gydiiabydd- iaeth arianol. Ac y mae y llyfrau goreu a gy- hoeddir yn Lloegr, gan yr awduron goreu, llyfrau a werthir am brisiau uchel, yn cael eu hail-argraffu a'u gwerthu yn yr Unol Dalaethau am ychydig cents, heb gydnabyddiaeth o gwbl o'r awduron na'r cyhoeddwyr gwreiddiol. Da genym weled fod Mr Clarke yn rhoddi rhan o elw ei argraffiad ef i'r awdwr wrth ail-gyhoeddi The Freedom of the Truth yn y wlad hon. Mae y traethawd arweiniol yn cynwys syn- iadau yr awdwr ar Y Dduwinyddiaeth Newydd" sydd yn lefeinio cymdeithas yn y dyddiau hyn. Mae yn hawdd canfod hefyd tra y mae ganddo gydymdeimlad cryf d'r newydd, ei fod yn cydnabod fod i'r hen dduwinyddiaeth ei rhagoriaethau. Dengys yn y traethawd yma nad yw y rhai sydd yn rhoddi i fyny yr hen syniadau yn golygu byw heb dduwinyddiaeth o