Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

YMYLON Y FFOEDD. -

News
Cite
Share

YMYLON Y FFOEDD. Nos Sadwrn, Medi 29ain. "NID da gormod o ddim." Yn wir, "Nid da bwytlt llawer o fel." Dichon mai cystal bellach fyddai i'r cyfeillion fu yn adolygu ac yn ad-dreinu ar gyfarfodydd yr Undeb, ei gadael ar a gafwyd. Mae pawb yn cytuno fod y cyfarfodydd yn Ffestiniog, ar y cyfan, t5 yn rhai rbagorol iawn, a sicrbeir eu bod wedi gadael argraff dda ar eu bol. Nis gallesid dysgwyl i gyfarfodydd o'r fath, yn y rhai yr oedd cynifer o bersonau yn cynnryd rban, fyned heibio heb rai brychau a meflau ond os na bydd awgrym cynil a charedig yn ddigon i ddiwygio dynion, ofer fydd plethu fflangell o fan reffynau. Llun- ier i gall baner gair," ac efe a'i gwcl yn y fan, ac a gymer addysg ond Er i ti bwyo ffol mewn morter a pbestl yn mblith gwenith, eto nid ymedy ei ffolineb ag ef." "Os oes rhyw bwynt ymarferol yn codi o'r hyn fu dan sylw, da y gwneir, wrth ei wynt- yllu yn mbellach trwy y Wasg, ond am bob cyfeiriad personol—digon bellach. Cefais yr ail ran o HANES YR EGLWYS 'GBISTIONOQOL," gan y Parch D. Griffith, Dolgellau, wythnos i beno, ond yn rby ddiweddar i alw sylw ati y pryd hwnw. Darllenais hi yn fanwl wedi byny gyda hyfrydwch mawr, ac yr wyf yn barod i ddyweyd am yr ail ran, bob peth a ddyweaais am y rban gyntaf. Mae Mr Griffith yn ysgrifenu fel pe buasai wedi byw trwy y cyfnodau, ac yn adnabyddus yn ber- sonol a'r cymeriadau a ddygir ganddo ger bron. Gallu gwerthfawr mewn hanesydd ydyw medru dwyn y cyfnod yr ysgrifena arno yn fyw o flaen ei ddarllenydd, neu gymeryd ei ddarllenydd yn ol i'r cyfnod. Ateba y naill neu y llall y pwrpas ond cyn gallu ei wneyd rhaid i'r hanesydd ei hun fod yn bollol gartrefol yn y cyfnod, ac yn meddu y gallu i ysgrifenu yn syml, ac eto yn swynol; ac nid oes neb ar ol darllen y ddwy ran sydd wedi eu cyhoeddi na chyd- nebydd fod Mr Griffith yn meddu pob un o'r ddau. Gobeithio y deil ieuenctyd Cymru ar y cyfle bwn i gael hanes yr EgIwys Grist- ionogol trwy y byd am fwy na deunaw can' mlynedd, wedi ei ddwyn i gylch bychan, ac am bris isel. Yn nesaf i'r wybodaeth am Grist, nid oes dim mor bwysig a'r wybod- aeth am ei eglwys. Bydd yn dda genyf weled llwydd- iant fy hen gyfeillion yn mha gylch bynag y byddant yn troi ynddo, ond iddynt-fod o ryw wasanaeth i gymdeithas. Dygwyddais droi yn un o bapyrau Caernar- fon i weled y dyfarniadau yn ngtyn ag Arddangosfa Amaethyddol Mon ac Arfon sydd newydd ei cbynal yn Mangor, a gwel- ais fod y wobr am yr amaethiad goreu wedi ei henill gan fy ben gyfaill MB. MORRIS ROBERTS, TYMAWR. Mae yn debyg ddarfod i Mr Robert Davies, Bodlondeb, brawd i'r aelod anrbyd- eddus dros Fon, gynyg .gwobr o £10 i'r tenant yr bwn y ceid ei fferm yn y sefyllfa uchaf mewn diwylliant. Rhaid oedd i'r fferm fod yn ychwaneg na 50 o erwau o dir, a rhoddid y wobr i'r ffermwr oedd wedi gwario mwyaf o'i arian ei hun mewn diwyll- iadau yn ystod pum' mlynedd. Dau yn unig a ymgystadleuodd. Mr W. Thomas, Newbwlch, yn mhtwyf Bangor, a Mr Morris Roberts, Tymawr, Llanddeiniolen ac i'r olaf y dyfarnwyd y wobr gan y rhai yr ym- ddiriedwyd iddynt i ddyfarnu. Rhoddir canmoliaeth i Mr Thomas am y gwelliantau a wnaeth ar ei fferm, a'r arian a roddodd allan, ond am yr byn a wnaeth Mr Morris Roberts, dywedent Y mae Tymawr, yn nbenantiaeth Mr Morris Roberts, befyd mewn ystad o feithriniad rhagorol. Cyfan- swm yr arian a wariwyd ar y fferm hon, yn ol y dystysgrif ydoedd, £ 474 5s. 8e. ar 252 o erwau, mewn diwreiddio hen gloddiau, D gwneyd rhai newyddion, adfer diffeithdir, symud ceryg o'r meusydd, dyfrffosi, &c. Cwblhawyd y gwelliantau hyn mewn dull hynod o foddhaol. Ymddengys fod cryn ofal wedi ei arfer gyda magwraeth y stoc ieuanc, a bod llawer iawn o fwyd prynol yn cael ei ddefnyddio. Cedwir yr adeiladau, yr amaethlan, y tf, a'r ardd, mewn trefn ragorol. Cedwir y celfi amaethyddol, pan heb fod mewn defnydd, mewn ystafell a ba- rotowyd i'r pwrpas. Yn hon cedwir set gyflawn o gelfi i wneyd unrhyw adgyweir- iadau angenrheidiol. Defnyddir agerbeir- iant i barotoi bwyd i'r anifeiliaid, ac y mae canmoliaeth neillduol yn ddyledus i Mr Roberts am ei drefniadau rhagorol i borthi ei stoc. Y mae'n rbaid eu bod wedi costio swm mawr iddo ar wahan i'r hyn a gofnodir yn ei adroddiad. Yr ydym yn dyfarnu y wobr i Mr Roberts." Wedi clywed y dy- farniad, a gweled fod y fferm yn y fath stad o ddiwylliad, rboddodd boneddwr y Vaynol X5 yn ychwanegol i Mr Roberts, ac yn sicr dylai amaethwyr sydd yn rhoddi eu hamser a'u harian i ddiwyllio tiroedd pobl ereill gael cydnabyddiaeth am eu llafur a dyogel- wch am eu digollediad, pe gosodid angen- rheidrwydd arnynt i symud. Yr wyf yn llawen gyfarch fy hen gyfaill ar ei lwydd. iant, ac yn dymuno iddo brydnawnddydd teg i fwynhau llafur ei 'ddwylaw.—Mae Y GYMDEITHASFA BRYDEINIG newydd orphen cynal ei chyfarfod blynyddol yn Southport, pryd y darllenwyd Iluaws o bapyrau galluog ar destynau gwyddonol, ac y cafwyd dadl rydd ar y testynau hyny. Nid wyf yma yn bwriadu cyfeirio yn union- gyrchol at yr un o'r materion fu dan sylw, ond yr oedd yn dda genyf weled enwau cynifer o bobl ddysgedig a galluog sydd yn credu yn drwyadl mewn Cristionogaeth yn eymeryd rban mor flaenllaw yn y cyfarfod- ydd. Mae perygl dirfawr i adael y maes eang a phwysig yma i wyddonwyr amheus, nes peri i'r syniad fyned allan fod rbyw angbydwelediad rbwng Cristionogaeth a dar- ganfyddiadau diweddaf gwyddoniaeth. Nid gwiw i ni geisio cau ein llygaid yn erbyn y darganfyddiadau a wneir, er fod llawer ohonynt yn newydd a dyeithr, a hwyracb yn myned yn erbyn ein holl olygiadau blaen- orol. Nidoes ganwirionedd ddadguddiedig ddim i'w ofni oddiwrth wirioneddau natar- iol; er y gall dadguddiedigaetbau yr olaf beri chwildroad hollol ar ein dehongliad ni o wirioneddau y blaenaf. Mae presenoldeb dynion galluog a dysgedig, sydd yn meddu fl'ydd ddiysgog mewn Cristionogaeth, yn rhwym o effeitbio yn dda, a rhydd brawf nad ydynt yn myned i oddef i Gristionog- aeth a gwyddoniaeth gael eu gwahanu. Ar y Sabboth yr oedd dynion blaenaf yr Eglwys 9 Sefydledig ac Ymneillduaeth yn pregethu yn Southport. Yn mysg ereill yr oedd yr Esgob Ryle, o Liverpool, yn cynrychioli yr Eglwyswyr; a Dr Pope yn cynrychioli y Wesleyaid ac uid, oedd raid i'r Annibyn- wyr gywilyddio o Dr Fairburn, a Mr Eustace Conder oedd yno yn eu cynrychioli, ac y mae y pregethau a draddodwyd gan- ddynt yn brawf eglur eu bod yn hollol gymhwys i ymafael yn y cwestiynau mawr- ion sydd yn cynhyrfu y byd yn y dyddiau hyn. Teimlwn wrth ddarllen adroddiad o'r cyfarfodydd hyn, a'r ymddyddan a ganlynai ddarlleniad y papyrau, fod genym ni fel Cymry eto lawer i'w ddysgu mewn goddef ein gilydd, a gwrando yn foneddigaidd, hyd yn nod pan y byddo dynion yn traethu syn- iadau hollol wahanol i'r hyn a gredir genym. Hyd nes y dysgir hyn, gwell o lawer ydyw cadw yn ddigon pell oddiwrth bethau dadl- eugar, a chymeryd i fyny yn unig bethau ymarferol, nas gall fod llawer o ddadl yn eu cylch, oddigerth ar ryw fanylion dibwys. LLADMERYDB.

O'M LLYFRGELL.