Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YR UNDEB YN FFESTINIOG.

Adolygiad y Wasg. --

Telerau y Tyst a'r Dydd.

Y BEIBL YN YR YSGOLION DYDDIOL.

News
Cite
Share

ydym yn cydolygu a Titus fod rhai yn mhlitb y gwrandawyr dynion profiadol a medrus yn llawer mwy teilwng o draethu ar y mater na'r rhai gymerasant ran ynddo, ond gan i'r I wyllgor ddewis yr ola f, y peth lleiaf a allent ddysgwyl oedd tawelwch a chwareu teg i ddyweyd yr hyn a wyddent. Ond i ba ddyben y gwneir sylwadan fel hyn ? Beth a enillir ? Nid yw awgrymu mai tywyllwch ac anwybod- aeth y rhai sydd dros y Beibl yw y rheswm am hyny yn ddim ond honiad ffol. Profer hyny. Nid oedd y No, no," yn amlygiad o wybodaeth, medrusrwydd, na moesgarwch. Y peth ddaeth i'r golwg amlycaf yn byny oedd diffyg amynedd mewn un dosbarth i wra,ndo ar ddim fyddo yn groes i'w syniadau hwy. Rhoddodd y rhai oedd dros y Beibl wrandawiad tawel ac astud i'r rhai oedd yn ei erbyn, a ph'am na roddiil yr un chwareu teg i'r ochr arall, gan mai pendcrfyniad hollol agored oedd ger bron y cyfarfod, yn ol tystiolaeth yr Ysgrifenyddion P Wrth gofio, fe gynygiodd un brawd roddi goleuni ar y pwnc, ond rhywbeth gwahanol ddaeth i'r golwg, fel y gwyr y rhai oedd yn bresenol yn (Ida. Ond yr ymadrodd y dymunir galw sylvv Titus Llwyd ato yn benaf yw yr un a ganlyn, a dichon nad anfuddiol fyddai iddo gymeryd ad-drem drosto-" Eithafion haerllugrwydd oedd cyhuddo cynulliad parchus o grefyddwyr o fod am gadw oddiwrth eu plant y Llyfr y gwneid cymaint o ymdrech i'w roddi i'r paganiaid." Yr ydym wedi cael ein cyhuddo cyn hyn o feddu gormod o barch i ddyn:on penaf ein Henwad, a'n bod yn eu pleidio yn benaf am y rheswm hwn. Nid oedd hyny yn gywir. Ond addefwn yn hawdd fod genym barch neillduol i lawer, a bod rhai ohonynt yn ein tyb wedi cyrbaedd graddan helaeth o berffeithrwydd fel gweinidogion y Gair. Yr oedd y diweddar Barch W. Griffith, Caergybi, felly, ac y mae ercill o gyffelyb nodweddion yn fyw, ond nid yw yn weddns cyfeirio alynt. Buasai yn llawer mwy cydweddol a'n teimlad pe sallem gydolygu k llawer ohonynt ar y mater dan sylw, a gallwn sicrhau y darllenwyr mai argyhoeddiad divfn yn unig barodd i ni gymeryd y cwrs a gymerwyd yn Ffestiniog. Oberwydd y parcb uchel hwn sydd genym i ddvnion da o wahanol olygiadau, y mae cyhuddiad Titus LIwyd yn archoll dwfn i'n teimlad. Ond y peth gwaetbaf ydyw hyn, nad oes rhith o viirionedd ynddo. Y mater y traethid arno pan dechreuodd y banllefau o No, no," oedd dylanwad y Beibl mewn ystyr foesol ar y t6 sydd yn eodi trwy gyfrwng yr ysgolion dyddiol. Wedi i'r gwrthwynebiad godi, ac i'r Cadeirydd roddi caniatad i'r un oedd yn siarad i fyned rhaaddo, dywedwyd rhai brawddegau nad oeddis wedi eu bwriadu, a rhoddwyd fturf i ereill na roddid iddynt o dan amgylchiadau mwy ffafriol, a gadawyd brawddegan ereill heb eu gorphen oherwydd yr anfoddlonrwydd ddangoswyd ond trwy y cyfan, ni chymerodd dim le i gyfhwnhau Titus am ddwyn y fath gyhuddiad yn mlaen. Cyhuddo cynulleidla barchus o grefyddwyr am gadw y Beibl oddiwrth eu plant! Pwy ddywedodd air am eu plant ? Nid yn nghylch plant y gynulleidfa yr oeddis yn ddadleu, ond dros degwch a'r plant yn yr ysgolion dyddiol, ac yn benaf (! osodwyd y mater hwn allan yn ddigon eglur) y dosbatth hwnw o blant sydd hyd yr awrhon heb nnrbyw gyfrwng arall i gyrhaedd gwybodaeth Ys. gi ytbyrol. Mae yn y trefydd mawrion ganocdd ohonynt. Gelwir hwy gan y Saeson the gutter children. Nid ydym yn hoffi yr enw. A wna dysgn y Beibl yn yr ysgolion les i'r rhai yma ? Os na wna dysgu y Beibl yn yr ysgolion ddylanwadu yn dda mewn ystyr foesol arnynt trwy en gwneyd yn fwy geirwir a gonest, yn ogystal a dylanwadu ar on boll fywyd, addefwn nad oes gan y rhai sydd dros y Beibl ddim llawer i ddyweyd drosto. Mae y cwestiwn hwn yn deilwng o sylw unrhyw gynulliad gymer y pwnc o dan ystyriaeth, a dylid edrych arno yn ei wyneb. Buasai traethu ar y priodoldeb o ddysgu y Beibl yn yr ysgolion, ac ignorio ei ddylanwad moesol ar y plant sydd yn codi, yn hollol anheilwng o gynnlleidfa barchus" fel oedd yn Ffestiniog. Yn wir, y mae dynion teg, beth bynag yw eu barn, yn cydnabod y ffaith hon. Maent yn cydnabod y ffaith trwy eu cymhellion taer a gonest ar rieni ac athrawon yr Ysgol Sul i wneyd y diffyg i fyny. Mae Lladmerydd, yn ei sylwadau ar y discussion, yn dangos ei tod yn ddigon craff i weled y diffyg, ac yn ddigon gonest i'w addef, ac anoga grefyddwyr i godi at eu gwaith, er mwyn symud yr anhawsder. Os ceir y plant oil i'r Ysgolion Sab- bothol, collir un argument gan bleidwyr y Beibl, ac ni ofidiant ddim oherwydd hyny end bydd rhesymau ereill yn aros. Mae awr ar y Sabboth yn fychan iawn i ddysgu eneidiau anfarwol yn Ngair Duw, a bydd llawer o gyfrewidiadau wedi cymeryd lie cyn y ceir rhieni yn gyffredinol i wneyd y gwaith yn effeithiol ar yr aelwyd. Mae y pwnc o addysg ynddo ei hur. hefyd yn deilwng o sylw. Hawdd iawn ydyw rhanu addysg i secular a religious teaching, peth arall yw priodoldeb ysgariad y naill oddiwrth y llall, a'r effaitli a gaiff hyny ar ddyn sydd yn gyfrifol am yr oil a wna. Y pwnc pwysicaf i bob credadyn yn ei holl ymwneyd a'r Beibl, yn ei bertbynas ag ef ei hun ac yn ei berth- ynas ag ereill, ydyw, Beth sydd yn iawn iddo wneyd fel Cristion ? Mae rhai am gyfyngu y pwnc yn hollol i'r cwestiwn, Beth sydd yn gyson i'r Ymneillduwyr ? Y Cristion yn gyntaf, n'rymneillduwr yn ail, yw ein dadl. A dicbon, pe edrychid ar y mater olaf yn deg yn ei holl gysylltiadau, yn lIe ceisio gwneyd bwgan ohono, nad yw yr anghysondeb y sonir eyruaint am dano yn fawr, mwy na rhywbeth mewn ymddangosiad. A oes rhywbeth mewn gwirionedd yn galw am i'r Ymncill- duwyr fod yn erbyn darllen y Beibl yn yr ysgolion ? Mae y Pabyddion, a'r Iuddewon, a'r anffyddwyr yn erbyn y Beibl, ond nid ydym yn gwoled un rheswm boddhaol dros i'r Ymneillduwyr fod yr un ochr a hwy ar y cwestiwn hwn, a hwythau mor anhebyg iddynt ar bob cwestiwn arall; ond nid yw yr Ymneillduwyr fel corff yn ei erbyn. Mae y ffaith fod y Beibl yn caal ei ddysgu yn y rhan luosocaf o lawer o Ysgolion y Byrd'an yn Nghymru yn profi yn wahanol. Mae mwy yn mhlith yr Annibynwyr drosto nag a dybir gan lawer. Yr oedd dwseni yn Ffestiniog drosto, yn ol eu tystiolaeth hwy eu hunain wedi i'r cyfarfod fyned drosodd. Ond os anwybodaeth a thywyllwch yw yr achos eu bod drrsto, fel yr awgrymir, y peth doethaf yn Titus, neu rywun arall, fyddai ysgrifenu nifer o erthyglau i'r TYST i geisio eu goleoo, ac rid eu diystyru trwy sylwadau angharedig. Pe gwnai Titus hyn o dan ei enw priodol, diau yr atebid ef gan rywun o'r ochr arall, fel y Parch Simon Evans, Hebron. Modd bynag, gyda, chania,tad y Golygwyr, sicrhawn ef na chai ei ysgrifau basio yn ddisylw. Mae pleidwyr y Beibl wedi goddof digon, ac wedi bod yn ddystaw yn rhy hir. _Yr eiddoch yn gywir, Oswestry, Medi 23, 1883. JAMES CHARLES. [Nid ydym am ddyweyd dim ar y ddadl hon ar hyn o bryd, ond cynghorem ein gohebwyr parchus i fod yn ofalus yn y geirian a ddeCnyddiant rhag iddynt gael eu carrddeall, ac i hyny arwain i gecraeth ddifudd. Nidtegywyr ymadroddion, Rhoddodd y rhai oedd drns y Beibl wrandawiad tawel i'r rhai oedd yn ei erbyn," "Mae pleidwyr y Beibl wedi goddcf digon," &c. Nid oes neb yn erbyn y Beibl, ond y mae y ddwy ochr "drosto," a'r naili blaid yn ddiau yn gymaint o bleidwyr y Beibl a'r llall; ond y ddadl ydyw, Pwy sydd i'w ddysgu ? ac a ydyw yn iawn iddo gael ei ddysgu gan athrawon a gynehr trwy dreth a godir yn orfodol ? Mae y geiriau, dros y Beibl," ac "yn erbyn y Beibl," a "pbleidwyr y BeibI" yn rhwym o fod yn rhai tramgwyddus, er na byddo y rhai sydd yn eu defnyddio yn cysylltu a bwy yr ystyr sydd ar y wjneb yn fwyafnaturiul iddynt. Bydd defnyddio ymadroddion na byddo •i j ar en ya i'r ple'diau ddeall eu gilydd, a dyfod o hyd i'r gwirionedd, yr byn yn ddiau sydd mewn golwg gauddynt oll.-GOL