Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

[No title]

GWALLAU JEITHAWL POBLOGAIDD.

News
Cite
Share

GWALLAU JEITHAWL POBLOGAIDD. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONRDDIGION,-Mae yn hynod fod cynifer o ysgrif- enwyr Cymraeg gwir allnog mewn ystyrion ereill yn sylwi can lleied ar wir ystyr geiriau, ac felly yn arfer geiriau anmbriodol. Gan mai i'r TYST A'R DYDD yr wyf yn anfon, nodaf rai o'r cyfryw wyf i'w canfod yn ami iawn ynddo oddiwrth ysgrifenwyr poblogaidd. Un o'r gwallau nodaf yw galw cledrffordd ar reilffordd. GairCymraecrpur-ywrhail,aphanchwan- egir sill ato nne yr a yn treiglo i e, ae felly yn rhcii- ffordd yn lie rhailffordd. Benthyca'r gair rail oddiar y Cymro wnaeth y Sais. :Peth fflit yw ckdr, mogys cledr y llaw, cledr y ddwyfron, &c. Clodrffyrdd yw yr hen tramroads sydd o gwmpas y gweitlifeydd. Mae gormod o duedd mewn llawer i ildio geiriau Cymraeg pur am fod y Sa's wedi eu benthyca. Gwall arall sydd yu ami yn y TYST A'B DYDD yw galw Pontfaen ar Bont-y-fôn yn Morgan wg. Hen air Cymraeg am fuwch neu eidion yw m6n. Ooiobridge ydys yn alw ar y drof yn Saosoneg, a llun buwch ar bont yw pais arfau y dref. Mae lie yn Brycheiniog o'r enw Pontfaen, ond nid hyny yw enw'r dref sydd yn Morganwg. Eto galw croesaw ar gresaw. Nid rhoddi croes ar ysgwydd dyn yr ydys i fyned agef i'w groeshoelio wrth ei resawi, ond dangos cariad ato. Ystyr y gwreiddair gres yw cynesrwydd (gw6l Dr W. O. Pughe). Mae y gwall hwn yn mhob cyhoeddiad Cymreig wyf wedi weled end Cyfaill yr Aelwyd. Gwall sydd yn cael ei arfer yn gywilyddns o ami gan ysgrifenwyr dysgedig a galluog yw rhoi pa un a pa rai yn lie yr lbivit, yr hon, ac y rhai. Cymerer er engraifft y Gwyddoniaclur. Gwelir ynddo rai erthyglan heb y gwall hwn o gwbl, ac erthyglau ereill gwir alluog mewn ystyrion ereill wedi eu brithoag cf. Nid banod yw pa, ac nid rhagenw (yn briodol) yw un, ac ni ddengys chwaith y rhyw yn y rhif nnigol fel y gwna hwn a hon, ac nid yw ei arferu yn y dull yr ydys mewn un modd yn deilwng i'r iaith. Lie priodol pa tin yw naill ai yn ofyniad, megys, Pa un o'r dddau wnaeth ewyllys y tad ? Cadw y gorchymynion. Dy- wed odd yntau, Pa rai ? Neu yn amheuaeth, megys, Pa un bynag a wnelont ai gwrando ai peidio." Yr oedd cyfieithwyr ein Beibl yn dra gofalus i beidio syrthio i'r gwall hwn. Yr oedd y diweddar Caledfryn rai wythnosau cyn marw yn awyddus am ysgrifenu erthygl i ddangos hylldod" y dnll yr oeddid yn arfer y geiriau pa un a pa rai. A gofynodd i mi, os gallai ei hysgrifenu, a w nawn i ei heilebu (copy it), a'i hanfon i wahanol bapyran, gan fod ei iechyd ef mor wael. Addewais wneyd ond bu of farw cyn gll u ei h ysgrifenu. Pe gwnai beirniaid eisteddfoiau fod mor onest a chon- demnio y dull y defoyddir y geiriau, a'u gwneyd yn feiau gynifer o weithiau ag eu gosodir mown tiaethawd, effeithiai yn helaeth i ddiwygio y gwall hwn. GELLILLYNDU.

All BEN Y TWR.

HAWLIAU HYNAFIAETHOL Y CYMRY.

Y BEIBL YN YR YSGOLION DYDDIOL.