Hide Articles List

4 articles on this Page

MESURAU DYFODOL.

News
Cite
Share

MESURAU DYFODOL. ER nad oes ond ychydig wythnosau er yr ymddatododd y Senedd, ac er nad yw ein Seneddwyr eto wedi cael ond prin amser i ddadluddedu ar ol eu llafur caled, eto nid yw yn rhy fuan i'r wlad ddatgan ei barn ar y mesurau a ddylai gael sylw blaenaf ein Seneddwyr pan gyfarfyddant. Gwelir fod parotoadau mawrion eisoes ar droed, ac yn ol pob argoelion bydd y gauaf sydd yn nesu yn dymhor o gyffroad a gweithgarwcli mwy nag arferol. Mewn gwladwriaeth rydd, y bobl sydd i symud gyntaf. Gwylio arwydd- ion yr amserau y mae gwladweinwyr crafif, a llunio eu mesurau yn ol yr addfedrwydd a welant iddynt yn marn a theimlad y bobl. Mae dosbarth mawr o ddynion cynhyrfwyr ydynt. Yr ydym yn defnyddio y gair yn yr ystyr oreu iddo nid i osod allan derfysg- wyr ac aflonyddwyr, ond i osod allan y dos- barth pwysig a gwerthfawr hwnw sydd ar Ilaen ein hoes yn cyffroi dynion i alw am fesurau diwygiadol, ac yn creu y farn gyhoedd; neu, yn ol iaith Arglwydd BEACONSFIELD, yn addysgu eu hoes. Dyma ydyw JOHN BRIGHT wedi bod dros ei holl fywyd. Mae wedi bod o flaen ei oes, yn ei dysgu, gan ei dyrchafu ato ei hun. Mae yn awr yn ei flynyddoedd olaf wedi dyfod yn fwy gochelgar, ac yn ceisio dangos ei hun yn fwy o'r gwladweinydd ond yn ei hen gymeriad fel addysgwr a cbynbyrfwr ei oes y mae yn ymddangos i'r fantais oreu. Dyma ydyw Syr WILFRID LAWSON, ac y mae yn gwneyd ei waith i bwrpas. Nis gall ar unwaith gael yr oil a geisia, ond nid yw hyny yn peri iddo ef ofyn llai nag a ddylai gael. Hawlia yr oil a greda sydd yn ddyledus iddo, a chymer yr hyn J mae gwladweinwyr pwyllog a gochelgar yn farnu sydd yn ddoeth a dyogel ei gauiatau; ond y cynhyrfwyr—yr agitators hyn, fel eu gel- wir, sydd yn gwneyd baich y gwaith. Cam- syniad cryn lawer o'n Seneddwyr ydyw ceisio bod yn whdweinwyr, ac felly yn ym- gadw rhag cymeryd eu rhan mewn addysgu b ac addfedu y wlad at fesurau diwygiadol. Yu ami pan y gofynir eu barn ar gwestiyn- au neillduol, nad yw y wlad yn gwbl addfed iddynt, ceisiant eu hysgoi trwy ddyweyd nad yw y wlad yn barod iddynt, ac addawant roddi ystyriaeth iddynt pan ddygir bwy ger bron y Ty. Dyna yr ateb a roddir gan lawer o'n hymgeiswyr Seneddol pan gwest- iynir hwy yn nglyn a Dadgysylltiad, neu y fasnach feddwol, a materion cyffelyb. Mae y fath atebion yn ddigon goddefol oddiwrtb wladweinydd fel M-r GLADSTONE. Yn wir, nis gellid dysgwyl iddo ef ateb yn wahanol. Nid yw y gwladweinydd i ddatgan ei farn yn groew nes y bydd yn barod i weithredu, ac y mae yn rhaid iddo ef arfer pwyll a gochelgarwch, ac na byddo yn rhwymo ei bun i fesurau heb ei fod yn gweled addfed- rwydd i ddeddfu arnynt. Ond camsyniad dybryd yn y rhan fwyaf o'n haelodau Sen- eddol ydyw ymhoni i fod yn wladweinwyr, pan y dylent gymeryd eu lie a'u rban fel cynhyrfwyr ac addysgwyr eu hoes, ac add- fedwyr meddyliau y wlad at y mesurau y credant sydd yn angenrheidiol. Dyma y dynion sydd yn enill dylanwad, ac yn sicr- hau eu hunain yn serch eu hetholwyr. Yn ol y datganiad a wnaeth Arglwydd HARTINGTON, y mae yn ansicr eto'pa fesurau a ddygir ger bron y Senedd nesaf. Ymddi- byna hynjr i fesur mawr ar y datganiad a wna y wlad o'i theimlad a'i barn yn y mis- oedd nesaf. Tyn y Weinyddiaeth ei chyn- lluniau allan yn ol hyny. Ycbydig fisoedd yn ol, credid yn lied gyffredinol mai gwaith cyntaf Senedd 1884 fuasai dwyn oddiam- gylch ddiwygiad etholiadol, trwy belaeth- iad y bleidlais i'r siroedd fel i'r bwrdeis- drefi, ac ad-drefniad yr eisteddleoedd ac y buasai y Senedd ar ol hyny yn tori i fyny, ac apeliad yn cael ei wneyd at y wlad o dan yr etbolaeth newydd ond credir gan lawer yn awr yr ymgymer y Senedd bresenol a dwyn oddiamgylch bethau ereill yn gyntaf, ac yr ychwanegir blwyddyn arall at flyn- yddoedd y Senedd bresenol. Mae hyny yn dibynu ar deimlad y wlad, ac ar yr amlyg- iad a roddir i'r teimlad hwnw yn y misoedd dyfodol. Mae yn eglur, pa fodd bynag, fod mesur cyflawn o ddiwygiad etholiadol yn cael ei ddarparu a rhoddir bywyd newydd i'r symudiad trwy y gynadledd bwysig sydd i'w chynal yn Leeds tua cbanol y mis nesaf. Bwriedir i'r cynulliad fod yn un o'r rhai mwyaf dylanwadol a gafwyd er's blynydd- au, ac yn cynrychioli yn deg holl adranau y bithid Ryddfrydig trwy y deyrnas. Bydd presenoldeb yr hen arwr profedig JOHN BRIGHT, fel cadeirydd, yn rhwym o wneyd y eyfarfod yn un dylanwadol, oblegid teimla pawb nad yw efe byth gymaint yn ei le ei hun a phan yn arweinydd y fath gynulliad. Bydd pob lie yn anfon eu cynrychiolwyr i'r cyfarfod wrth reol: lie y byddo y boblog- aeth uwcblaw 100,000, bydd ganddynt hawl i anfon 25 o gynrychiolwyr a phoblogaeth o dan 100,000, ac uwchlaw 50,000, i anfon deg; a phoblogaeth i slaw 60,000 i anfon pump. Bydd gan Glybiau Rhyddfrydol o fwy na 500 o aelodau hawl i anfon tri o gynrychiolwyr, a'r rhai y mae nifer eu haelodau o dan 500 i anfon dau, fel y bydd y Gynadledd yn gynrychioliadol bollol, a'r fath ag a ddyogelo gydweithrediad unol corff Rbydd- frydwyr y deyrnas ar yr hyn y cytunir arno. Helaethiad y bleidlais yn y siroedd fel yn y bwrdeisdrefi, er sicrhau hawliau cyfartal yr. holl ddeiliaid, pa un bynag ai mewn gwlad ai mewn tref y byddont, fydd y cwestiwn mawr o dan sylw; ond yn ddiau yn nglyn a hyny fe dry amryw bethau ereill i fyny, ac yn enwedig fe wesgir yn dyn am gael ad- drefniad ar y seddau, yn gystal a helaethiad ar y bleidlais. Dadleua rhai dros fyned yn gryf yn unig am y cyntaf, a gadael yr ail byd ryw adeg arall; ond os dengys y Gynadledd yn Leeds ei bod yn unol ac yn benderfynol am y ddau, ac os gwneir y defoydd a ellid o'r ysbaid rhwng y Gyn- adledd a chyfarfyddiad y Senedd i gynhyrfu y wlad ar y mater, credwn y gwel Mr GLADSTONE a'i Gynghor mai eu doethineb a'u dyogelwch fydd myned i mewn am bob un o'r ddau. Dibyna yn gwbl ar yr ysbryd a ddengys y wlad yn yr achos, ac ofer dysgwyl i'r Weinyddiaeth symud yn y mater hyd nes y gwelo fod y wlad wedi ei symud yn gyntaf, ac yr ategir yr hyn a ddygir i mewn ganddynt gan lais y cyhoedd. L y Mae materion pwysig ereill, yn wladol, cymdeithasol, ac Eglvvysig, a ddygir i mewn gan bersonau unigol, at y rhai nis gallwn yn awr gyfeirio; yn unig dywedwn mai yr unig obaith am lwvddiant y ihai hyny hefyd ydyw fod y wlad yn gyffredinol wedi ei chynhyrfu drwyddi i ofyn am danynt.

YI YSGOL SABBOTHOL.

CWM RHONDDA.

CEUGYBAR A LLANSAWEL.