Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

"MORGANS, SAMMAH."

.DOWLAIS.

LLANELLI.

News
Cite
Share

LLANELLI. Cyfarfod Blynyddol y Tabernacl.—Cynaliwyd yr wyl flynyddol hon ar y Sabboth a'r LInn, Medi 16eg a'r I7eg, pryd y gweinyddwyd gan Doctor John Thomas, Liverpool, a'r Parch E. Stephen, Tanymarian. Boreu Sabboth, am 10 o'r gloch, cyd-addolai eglwys Capel Als ag eglwys y Taber- nacl, yn nheinl brydferth yr olaf yn ol yr arfer ar yr wyl flynyddol. Daethai torf fawr yn ngbyd- y boreu yn deg, a'r pregethwyr yn enwog a phobl- ogaidd. Dechreuwyd yr oedfa gan Tanymarian, a phregethodd Doctor Thomas. Cafwyd oedfa neillduol o dyner drwyddi. Ar ol gwneyd y casgliad, galwodd Mr Williams y gweinidog, ar Mr Johns, yr hwn a gynygiodd fod y cynulliad lluosog-yn cael ei wneyd i fyny yn benaf gan gynulleidfaoedd Capel Als a'r Tabernael-yn dat- gan ei gydymdeimlad a. Doctor Rees, Abertawy, yn ei gystudd trwm diweddar, yn nghyda'i llawenydd yn wyneb yr arwyddion o'i wellhad, a'i ddymimiad am fod i'r Arglwydd:ganiatau iddo es- tyniad dyddiau dros lawer o flynyddoedd i wasan- aethu ei genedlaeth yn dda. Eiliwyd gan Mr Williams, a rhoddwyd ef i'r gynulleidfa, yr hon a gododd ar ei thraed fel un gwr er dangos ei chy- meradwyaetb. Dywedwyd geiriau caredig am y Doctor Rees y boreu hwn. Y mae yn wr anwyl iawn yn ngolwg pobl Llanelli. Terfynwyd y cyf- arfod trwy weddi gan Dr Thomas. Ymadawodd y dorf yn y teimlacku tyneraf a goreu o wledd y boreu. Am 2, dechreuodd Mr Williams, y gwein- idog, a phregethodd Tanymarian. Yr oedd ar ucbelfanau y maes. Tanymarian a Dr Thomas am chwech, a nos Lun. Dechreuwyd yr oedfaon hyn gan Mr T. Thomas (pregethwr icuanc), a'r Parch J. Davies, Bethel. Nos Sul a nos Lun yr oedd y Tabernacl yn llawer rhy fach i ddal y gynulleidfa. Trodd canoedd yn ol oddiwrth y drysau. Prydnawn dydd Llun, am 2 o'r gloch, cynaliwyd Cymanfa Ganu, dan arweiniad Tanymarian. Daethai yn nghyd oddeutu 250 o aelodau y gwa- hanol gorau perthynol i Capel Als, Siloa, Bryn, Dock, a'r Tabernacl. Wedi darllen a gweddio gan y Parch J. Thomas, Bryn, canwyd y tonau canlynol allan o lyfr Stephens a Jones Neander, Erfyniad, Bethesda, Siloh, Clement, Treborth, Noddfa, Y Delyn Aur, Huddersfield, &c. Yr oedd Tanymarian yn ei hwyliau goreu yn arwain. Cafwyd cyfarfod da, a'r capel yn llawn, er mai prydnawn dydd gwaith ydoedd. Gwnawd casgliad yn mbob oedfa, a chasglwyd, fel y cly wsomT ger Ilaw YISO. Dyna gasgliad campus, ond modr yr eglwys fawr hon wneyd ychwaneg y tro nesaf, ond iddi dynu allan ei adnoddau. å

Advertising

DAU SABBOTH GYDA'H SAESON.…