Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

"MORGANS, SAMMAH."

.DOWLAIS.

LLANELLI.

Advertising

DAU SABBOTH GYDA'H SAESON.…

News
Cite
Share

llwyddo. Honyna ydyw rbeol y Testatment Newydd. Mae yn syndod meddwl fod oddeutu haner nifer 0 Saeson yn yr un dref, ac o ran dim allem farnu, yn agos yr un amgylchiadau, yn gwneyd cymaint arall a'r Cymry o gyflog i'w gweinidog. Nid oes dadl nad yw yr eglwysi Cymreig wedi gwella llawer yn eu cyfraniadau at bob peth yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf, ondy mae ganddynt dir lawer eto i'w feidianu cyn y codont cyfuwch a'r Saeson yn y gras hwn. Cryn orchwyl ydyw dysgu yr eglwysi yn y peth hwn. Awgrymir ato yn ami gan wahanol bersonau, ac ar wahanol amgylch- iadau, ond pur gynil yr ymdrinir ag ef. Fel y gwyr llawer o ddarllenwyr y TYST A'R DYDD, nid oes neb yn mhlith y Saeson, fel rheol, yn dyweyd dim yn gyhoeddus yn y capel ond y pregethwr. Gwneir pob eyhoeddzad o bob nabnv perthynol i'r eglwys o'r pwlpud. Gyda'r Cymry y mae cy- hoeddwr yn perthyn i bob eglwys, yr hwn sydd i ofalu am yr holl gyhoeddiadau pur anaml y cy- hoeddir dim gan y pregethwr. Mewn rhai eglwysi nid oes ond y cyhoeddwr yn siarad am gasglu, ac yn anog pobl i gyfranu ni chlywir neb arall yn agor ei enau braidd byth yn y cyfeiriad hwnw. Meddyliwn y cymer y diaconiaid yn y rban lucs- ocaf o'r eglwysi yn lied unol at siarad am gyfranu. Anfynych iawny dywedir gair gan y gweinidog ond ar aohlysur y gwyliau blynyddol. Byddai yn drosedd anfaddeuadwy yn ngolwg llawer pe cy- merai y gweinidog at ddyweyd gair yn y cyfeir- iad hwnw, oblegid mai gwaith y diaconiaid ydyw. Cydunwn yn hollol a'r cyfryw trwy ddyweyd mai gwaith y diaconiaid ydyw am byny mae yn well genym y drefn Gymreig na'r un Seisonig. Ond rbaid cydnadod nad yw y Cymry yn gweith- redu cystal a'r Saeson yn y peth hwn. Tybiwn fod y ffaeledd nid yn y cynllun, ond yn nghariad allan y cynllun. Rhaid felly, os bydd eglwys yn colli yn fawr yn y gras hwn, nad yw y diaconiaid mor ffyddlon i'w swydd ag y dylent fod. Dywed loan fod "y byd yn myned heibio;" ydyw, ac y mae ei ddull befyd yn myned heibio mor gyflym ag yntau. Mae y cyfnod hwn yn hynod am gapelau hardd a drudfawr, ac yn bur hynod yn ei ddull i dalu am y cyfryw. Art Unions a Bazaars ydyw go y dyddiau hyn. Mae y pethau yna yn fashionable dros ben yn ill hab cym- ydogaeth; nid yw y Saeson mwy na'r Cymry yn rbydd oddiwrth ddilyn y ffasiwn anghrefyddol yna. Beth fydd nesaf ? Dichon, fel y cyfeiriodd un boneddwr yn ddiweddar, mai rhedegfa ceffylau fydd y ffasiwn. Pwy a wyr na welir ambell i hen ddiacon yn dyfod allan yn bur grefyddol ei ysbryd i fetio gyda'r ceffyl melyn "Tom Spring," a'r gweinidog yn dyfod allan yn ei erbyn i fetia gyda'r ceffyl glas "Flyer;" ac wrth reswm mae'r enillwr i roddi yr elw at dalu dyled y capel. Cyf- nod hynod o flasus i gybyddion yn yr eglwys fydd hwnw. 0 bosibl y meddylia rhai ein bod yn siarad yn bur ddamegol a dychymygyl; gobeithio ein bod ond ofnwn nad ydytn. Nis gallwn gau pin llygaid; yr ydym yn driftio i rywle peryglus. Seion, aros, ystyria pa le yr wyt; dychwel i'th hen lwybrau, rhag ofn i ti ddinystrio dy hun. CYMKO.