Hide Articles List

2 articles on this Page

MYNED I'R UNDEB.

DAU SABBOTH GYDA'H SAESON.…

News
Cite
Share

DAU SABBOTH GYDA'H SAESON. Fel y gwyr llawer o ddarllenwyr y TYST A'R DYDD, nid yw ffurf ac arddull allanol addoliad yn mysg y Saeson fel y maent yn mysg y Cymry. Y mae rhyw bethau gyda'r Saeson ag sydd yn rhag- ori ar y Cymry. Ar y cyfan, maent yn fwy am- serol yn eu dyfodiad i'r moddion. Pur anfynych, os byth, y gwelir y Saeson yn tyru at eu gilydd, ac yn sefyll ar y rheol o flaen y capel, gan rydd- ymddyddan yn nghylch ffasiwn a helynt y byd am ryw chwarter awr cyn dechreu yr oedfa, ac aros allan hyd nes y byddai caniad yr emyn cyntaf drosodd, fel y gwelir yn mysg llawer o'r Cymry. Deua y mwyafrif yn mysg y Saeson yn nghyd ryw bum' mynyd cyn amser dechreu yr oedfa, ac aiff pob un i'w le yn uniongyrchol, gan ddysgwyl yn amyneddgar am ymddangosiad y pregethwr, yr hwn yn gyffredia a ddaw o'i ystafell ag sydd yn nglyn â'1' capel yn rhywle. Ar ol i'r pregethwr esgyn y pwlpud, y rhan amlaf offrymir gweddi for cyn canu wedi hyny emyn, a hwnw o bosibl yn cynwys saith neu wyth penill, a chenir yr oil, fynychaf. Gan fod Ilyfrau hymnap gan bawb trwy y capel, a rhai hefyd yn mhob set i ymwel- wyr a ddygwydda fod yn y gynulleidfa, nid yw y pregethwr yn darllen ond dau neu dri penill o'r emyn, ac weithiau nid yw yn darllen ond cynwys. iad yr emyn. Mae pawb, o'r bynaf hyd yr ieu- engaf, yn gwneyd defnydd o'u llyfrau hymnau. Er fod yr emyn yn hir, ni byddis yn faith yn canu —eir drosto yn bur rwydd. Mae'r Saeson yn canu yn gyflymach na'r Cymry yn eu haddoliadau. Wedi canu, darllenir rhanau o'r Hen a'r Newydd Destamentau; ac ar ol canu eilwaith, gweddi, a hono heb fod yn fer iawn. Mae rhanau arwein- iol y Saeson yn cael mwy o amser a sylw nag eiddo y Cymry ond dichon fod y bregeth ar y cyfan yn ferach. Nid ydym yn cofio ar hyn o bryd am neb o'r brodyr Seisonig yn dechreu y cyfarfod mown chwarter awr ond Dr Parker. Chwarter awr yn gywir mae ef yn gymeryd i ddechreu oedfa canol dydd Ian, a thri chwarter awr i bregethu. Dichon fod Dr Parker yn eithr- iadol mewn byrdra dydd Iau i'r hyn ydyw ar y Sabboth. Fel rheol, nid yw gwasanaeth crefyddol yn mysg y Saeson yn fyr. Mae oedfa foreuol Mr Spurgeon yn parhau awr a tbri chwarter, a dwy awr ond deg mynyd. Y tro diweddaf y cawsom y fraint o'i wrando, yr oedd yn ddeg mynyd i un arnom yn myned allan o'r capel, a dechreu yn gywir am un-ar-ddeg. Cofied y darllenydd nad oes yn mysg y Saeson ond un Spurgeon. Pe byddai llawer yn gwneyd felly, ni chawsent y fraint o weled rhyw lawer o'u blaen y Sabboth dilynol. Mae y Sais, fel rheol, yn wrandawr pur astud, a'i lygaid ar y llefarwr. Ni chlywir swn, ac ni welir fawr cyffro trwy yr holl adeilad, ond a welir yn y pwlpud; nidyw pwnw yn lie cynhyrfua ac ystwrllyd iawn, er hyny ceir gwrandawia.d as- tud a siriol ddigon. Ni chymerwn arnom i ben- derfynu fod mwy o gywirdeb a gonestrwydd yn ngwrandawiad y Sais na'r Cymro; yr oil ddywed- wn ydyw, mai ambell i gynulleidfa Gymreig geir i gadw ei llygaid ar y pregcthwr o ddechreu yr oedfa i'w diwedd heb wacualu tipyn, gan blygu pen, rhwbio talcen, &c. Byddai yn dda fawn i'r Cymry ddysgu gwers oddiwrth y Saeson yn y cyf- eiriad yna. Byddai yn dda i'r Saeson, hwythau, i gael cynes- rwydd calon ambell i Gymroyn eu cynulleidfaoedd i gynesu ychydig ar y lie, fel y gallent, fel Paul, dori allan i waeddi, "Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Hargl wyàd Iest Grist." Oer iawn i lawer Cymro ydyw addoli yn mysg y Saeson. Tybiwn mai y wers fwyaf angenrheidiol i'r Cymro ddysgu gan-y Sais ydyw ei ddull a'i ysbryd wrth gyfranu. Mae y Sais yn mhell o flaen y Cymro yn hyn. 0 ran dull, gwna'r Sais gyfranu at gynal crefydd yn ol cyfarwyddyd y Testament Newydd—rhoddi bob wythnos (iveekly offering*), a rhoddi, gobeithio, fel rnao yr Argiwydd yjl I