Newyddion Cyffredinol. Mae Mr Jenkinson, yr hwn a enwogodd ei hun trwy ddarganfod a dal llofruddion Arglwydd Cavendish a Mr Burke, wedi ei wobrwyo a swydd gyda chyflog o £ 2,500 yn y flwyddyn. Cafodd Mr Gladstone dderbyniad tywysogaidd yn mhob man yr ymwelodd ag ef, ond yn f wy na'r cwbl y mae wedi mwynhau y daith yn fawr, ac wedi ymadnewyddu yn ei iechyd a'i ysbryd. Ar yr lleg o'r mis hwn, cynaliwyd cynadledd mewn cysylltiad a Chyflafareddiad Cydgenedl- aethol yn Milan, yn yr hwn y darllenodd Mr Henry Richard bapyr galluog yn dangos fel y mae yr egwyddor yn enill tir. Ciciwyd dyn i farwolaeth gan ddau Wyddel yn Birmingham, ar y 6fed or mis hwn. Cynygir gwobr o X100 gan y Llywodraeth i'r neb a roddo hysbysrwydd a arweinia i'w daliad. Eu henwau yw Martin McGann, a William llyan, y ddau yn arfer byw yn Birmingham. Ya herwydd annfuddhau i orchymyn yr awdur- dodau lleol, mai Miss Booth wedi ei bwrw i gar- char mewn lie o'r enw Neuchatel. Mae yn cael morwyn i weini ami, a phob triniaeth garedig. Ymddengys fod ei thad wedi apelio at y Llywod- raeth i gyfryngu ar ei rhan. Mewn canlyniad i addewid y Pab i geisio gan yr Esgobion yn Ffrainc i ddangos ysbryd heddychol tuag at yr awdurdodau gwladol, mae y Llywod- raeth o'u tu hwytbau wedi addaw llacio yehydig ar y cyfreithiau mewn perthynas â hwynt. Yn nhiriogaeth Farkiaseiver y dydd arall, tor- odd cynhvvrf mawr allan yn mysg y trigolion. Bu rhaid galw allan y milwyr cyn adfer trefn. Yn yr ysgarmes Iladdwyd deg a chlwyfwyd tua 70 o'r trigolion. Mae Gweinyddiaeth Servia wedi ymddiswyddo. Gan; fod y Brenin ar y pryd oddicartref, galwyd arno i ddychwelyd am nas gellid fEurflo gwein- yddiaeth newydd yn ei absenoldeb. Dydd Gwener diweddaf, yn Manchester, tra- ddodwyd dau heddgeidwad i sefyll eu prawf am ddynladdiad. Y mae Garmonydd" wedi bod yn darlithio ar Williams, Pantycelyn," y deuddeg mis diweddaf mewn cryn lawer o leoedd. Yn nghapelau y Trefnyddion Calfinaidd y mae wedi bod fwyaf. Gwyddom iddo fod mewn un addoldy Annibynol- addoldy mewn rhyw "ynys "-ben gymydog i'r darlithydd ydyw y gweinidog yno. Dywedir fod y ddarlith yn werth i'w chlywed. Deallwn fod yn meddiant "Rhod wy" lythyr dyddorol iawn oddiwrth Dr Hugh Jones, Llan- gollen, ac os cyhoeddir cofiant i'r duwinydd galluog, dylai y llythyr ymddangos ynddo. Y mae yn llythyr boneddigaidd iawn, ac y mae yn werth i'w gyhoeddi er esiampl i rai gweinidogion pa fodd i ysgrifenu llytbyrau boneddigaidd. Y mae Holwyddoregau yn dyfod i fri eto. Un o'r rhai diweddaf a ddaeth i'n Haw ydoedd un "Ieuan Wnion" ar "Hanes Joseph." Y mae yn llyfr bach dyddorol iawn, ac ni ryfeddem glywed fod rhai ysgolion yn ei ddefnyddio. A fyddai dim modd cael gan y Parch R. 0. Evans, Sammah, i gyhoeddi yn llyfryn bychan ei ymofynioii ar Y Tabernacl ?" Tybiwn y byddai yn un cymhwys iawn fel anrheg i'w roddi i blant yr Ysgol Sul. Y mae pob "gwers" ganddo yn dda iawn, fel y cofia ein darllenwyr a'u gwelsant yn Tywysydd y Plant dair blynedd yn ol. Y dydd o'r blaen cafwyd Robert Morris, amaethwr yn byw yn y Pentre-isa, Llandegla, wedi marw yn y cae. Yn sydyn iawn y bu tri ereill o'r gymydogaeth feirw yn flaenorol-Mr Thomas Jones, Ewyrth yr HandMrs Ann Edwards, Gwernol; a Miss Grace Mary Hughes, Dafarndowyrch. Mae y tafarnwyr yn teimlo yn ofnadwy yn erbyn geiriau Canon Wilberforce ac ereill. Yr oedd tafarnwyr Poole yn ciniawa yn Bourne- mouth, a dywedodd y Cadeirydd, Mr Marston, yr hwn sydd yn ddarllawydd mawr, os na fuasai yr offeiriadaeth yn dangos llai o atgasrwydd tuag at fasnach y diodydd meddwol, y buasai y tafarnwyr yn eu gadael, a myned i mewn am Ddadgysyllt- iad yr Eglwys.
Galwad. ADULAM, MERTHYR.—Deallwn fod y Parch D. C. Harris (Caeronwy), Mumbles, ger Abertawy, wedi dcrbyn galwad daer ac unfrydol oddiwrth eglwys Gynulleidfaol Adulam, Merthyr, a'i fod yntau wedi ei hateb yn gadarnbaol. Hyderwn y cydymdrechir i gael y ddyled drom sydd yn pwyso ar war yr eglwys i lawr, ac y gwelir hen esgobaeth y diweddar athrylithgar was da i lesu Grist y Parch D. T. Williams (Tydfilyn), eto yn blodeno fel y lili. Saif y cape) yn y man harddaf a fedd Merthyr Tydfil. Bydded i'r Arglwydd gyflwyno ei fendith drylwyr ar yr undeb dedwydd.—Eutropius,
CEOESAWIAD "GWAITH BARDDONOL HWFA MON," ALLAN O'R WASG, 1883. AR aden yr el)eda-urd(lune,,Id Yn marddoniaebh Hwfa Darfelydd awdr ofala Gadw'i goeth ddysg, g-ydag iaith dda. Dylanwad trwyadl awenydd-deilwng 0 dalcntysblenydd Deil i'r genedl, ar gynydd, Lawer dawn yn Dgoleu'r dydd. Er llunio iawn ddarlleniad —o buraf Barabl mewn traddodiad, Llawlyfr fydd ei Iyfr i'r wlid,- Mynir hwn mewn aweiniad. Ac ar ofal ysgrifen-y Gymrae: Ym mri uwchaf awen, Gwelir 61 llaw ddysglaer lion Ilndolns, yn mhob dalen. Ysbrydiaeth gwres bwriadau-a csgud Wjsgir, ar ffnrf rnydrau Llenoriaeth ddillyn eirian, Y gwir i gy', geir i'w gân. A gradd i'w wel'd o'u gwreiddioldeb,-ar drem, Geir drwy eu newydd-deb Eiliodd hoff ddelweddau, heb Wrthuni, mewn ffraethineb. Ymroddiad, grym mawreddig,—dyhewyd Awen gysegredig, Fwriada'r duwiolfrydig Gwedi hir brawf, gwyd i'r brig. Ac o sail addyssr sylwoldol,-oddiar Egwyddorion bythol, Yn athrawiaeth ei reol, Mae pen y gamp yn ei gol. A chred o barch i'r Daw byw,-fawl anian, Y eyflwyna'r cyfryw Prif destyn ei englyn yw Ei lywodraeth ddiledryw. O'i gadeiriog awdnriaeth-doi i arfor Diderfyn amrywiaeth O'i ddawn deg, ei Flwyddyn daeth, A'i air glttu ar "Bagluniaeth." Hyfryd edyn myfyrdodau-crebwyll, Ac arabedd pwyntiau Ceridwen, mewn creadau, Wna tanau'i hwyl i'w tynluu. O'r emyn hoff, tra mwyn weld,—at bryddest Bereiddiaf yr Orsed I O'n canghenog gynghanedd, I odlau'n glau delyn gwledd. Danteithion ddigon ddygir,-ar y ford, Gâr feirdd, yma hulir Y gwin melus ganmolir, Ddwg oreu nodd y grawn ir. Roll aneddan lienyd(lior)-a lenwir Gan ddylanwad Cristion: Barddoniaeth bur i ddynion, Nid ymad o ollaid Mon. A thrwy oleu atlii-ylitb,-yn enw Eneiniad cerdd gymhlith, Drwy eifwynder, o fendith, F,l ei lwydd, b'o'n nefol wlitb. GWALCHMAI.
TRI PH ENILL Ar ddyfodiad y Parch T. li. Owen i we-nidogaethu i Bethauia a SHoh, Llanddeusant. Praidd Bethania, byddwn lawen, Siloh na foed ehwaith yn drist, Ar ddylodiad tawel Owen I'n bugeilio'n nghorlan Crist: Gredwn oil mai nid dyfodiad 'Nol pweithrcdiad Satan yw, Oud dyfodiad ffyddlawn genad 0 anfoniad Ysbryd Duw. Llafur enaid o'r Llyfr anwyl Lifa'u hyawdl dros ei fin Ei lef ddyrchafa ar bob egwyl Angeu Crist a'i Ddwyfol riii; Cenadwri Duw gyhoedda Mewn rhyw oslef raslawn iawn, Ac i'r euog gwael eglura Hen amodau'r cariad 11awn. Uchel nod ei oes a'i egni Yw dwyn truain lu yn rhydd 0 dywyllwch i oleuni, Puracli na "oleuiii'r dydd,— Rl)estru rhai'nyi) mydiiin lesu, Gan gydymdaith a. hwy'i hun Cario'r faner nes gorobfygn, .k nicldiauu'r nef bob un. Pontys,ynytld, Llaijddensarit. J;Nr HUGHES.
SING WELL SPEAK WELL — Doughty$ Voice, Cosengc has been gratefully appreciated by thousand's of clerical, musical, and other cclcbritics for nearly 40 years. It imparts to the voice clcarue.-?s of sound aud brilliancy of tone.. JENNY LIND.-HI have much pleasure in connrniius, as far as my experience extends, the testimony already so eneral in iavonr of the Lo^cug-es lu-epared by you (Miles Doughty). 6d, Is, 2s lid, 5s, and 11&—por.i 7d. In 2d, <Sro A' k vour CUeuiisttor thonr.—F.XEWT.KUY andSO^S, 1, Kins* Edward. street-, London,
Llawer Mewn Yehydig. wn. i ddim p'am y mae nhw yn galw plant yr oes sy'n codi,' chodwn i mo honyn nhw yn fy myw," meddai mam fywiog oedd yn cael traffei-th fawr i gael ei phlant i fyny o'r gwely bob boreu. Nid yw yn unig yn ei phrofiad. Arwydd fod perygl yn ymyl ydyw fod y golcu coeh yn y golwg ar y rbeilffordd," meddai tad unwaith wrth ei blant. Ydi trwyn coch yn ar- wydd o hyny, hefyd nhad," gofynai ei faehgen bach a sylwai ar drwyn coch ei dad. Angbyfleus yn hytrach ydyw y fath gwestiynau cyfeiriadol. Ar foreu priodap, wrth yfed iechyd da y priol- fab, dywedodd un o'r cwmni, ei fod yn gobeithio y gwelai lawer boreu fel hwnw yn ei oes. Syrth- iodd gwynebpryd y briodferch gyda'r gair, a hyd hyny ni ddeallodd y cyfaill ystyr ei eiriau ei hun. Mae o fel nu yn bwydo dyn claf a Ilwy wag, ac yn siarad o hyd am gruel neis," meddai gwrafg diawd unwaith am un a ymwelai a'i thy, ac a siaradai yn dyner a chrefyddol, ond a ymadawai bob tro heb roddi dim iddi. Beth yw gwir wroldeb ?" gofyna papyr Americanaidd. "Myned i'r drws eich hun, pan na wyddoch pa un ai cyfaill hoff, ai y iooh-hawlcev, ai y dyn a'r bill sydd yn curo." Yr ail yn ami a ofnir fwyaf, ac nid heb achos. Yehydig o feirdd, meddir, sydd yn marw ya gyfoethog, ac eto ymddengys fod Longfellow wedi gadael 480,000 ar ei ol. 0 ran hyny, yr oedd Longfellow yn eithriad i feirdd wrth fyw, a phrof- odd hefyd ei fod ef felly wrth farw. Adgofiwyd lanci mawr, corffol, o Maine, pan yn talu ei fil mewn gwestdy, nad oedd wedi talu y waiter. Edrychai yn syn, a dywedai yn chwerw, fwyteais i 'run waiter." Yn sicr yr oedd yn ddigon mawr fel y gallasai wneyd. Ar gareg fawr mewn rhyd a groesir yn Cavan yn yr Iwerddon, y mae yn gerfiedig, Dalicr sylw-Pan y mae y gareg hon allan o'r golwg, nid yw yn ddyogel i groesi yr afoo." Gwyddelig iawn, onide ? Dywed papyr Americanaidd fod mam Mr Moody yn Undodwrda.—Mae dyn gwahanglwyfus yn byw ger Swatow, China, wedi cofleidio Crist- ionogaetb, ac yn awr yn genadwr i'w gyd-ddy- oddefwyr. Mae eglwys Gristionogol yn cael ei chodi ar y fan lie yr oedd yr hen farchriad er gwerthu caethion yn Zanzibar. Dygwyddodd peth digrif yn Brewster Sessions Flaxton. Cyflwynwyd deiseb i'r ynadon heddweh mewn ffafr i drwyddedu tafarn oedd i gael ei adeiladu. Yr oedd enwau 180 o wrywod yr ardal ar y ddeiseb. Cyflwynwyd deiseb arall yn gwrth- wynebu y trwydded wedi ei arwyddo gan wragedd y deisebwyr ereill, yn cael eu cefnogi gan Arolyo-- wyr yr Heddgeidwaid, a gwrthododd yr ynadon roddi deiseb. Glaniodd O'Donnell, llofruddiwr Carey, yn Lloegr yr wytbnos diweddaf.—Cymerwyd 40 o bersonau yn glaf yn Norwich ar ol yfed llaeth oddiwrth fuwch oedd yn dyoddef oddiwrth glefyd y troed a'r genau. Mae Tywysoges Cymru yn myned yn fyddar iawn.-Daeth pedwar gweithiwr yn Dublin o hyd i gwd yn cynwys 4,000 o sovereigns. Meddylir mai ffrwyth ysbail ydyw. Daetbpwyd o hyd iddo trwy i gi chwilioam lygod. Ar achlysur dadorcbuddiad cofadail Eowlands, Llangeitho, dywedodd Prifathraw Edwards, Aberystwyth :-¥ wers oedd y dylent ddysgwyl am ddynion mawr, ac aros am danynt hyd nes deuent. Nid gwir y gallai cant o ddynion bychain wneyd i fyny am un dyn mawr. Unwaith eto, yr oedd Daniel Rowlands yn gwneuthur gwaith oedd uwchlaw ei amgyffrediou ei hun. Yr oedd effeith- iau ei fywyd a'i waith i'w gweled yn sefyllfa Cymru yn awr. Nid oedd ef yn rhagweled hyn. Eto rbaid iddynt oddef y buasai of yn ffyddlawn i'r egwyddorion oeddynt yn awr yn ysgogi ;medd- yliau goreu ei wlad. Yr oedd rbai wedi dadleu pa un ai Eglwyswr ai Anghydffurfiwr oedd. Nis gellir dadleu y fath gwestiwn heb iddo eu har- wain i ynfydrwydd. Tyfiant dilynol oedd Anghyd- ffurfiaeth, er iddo yn ddiamheu godi or hyn a osodasai Rowlands i lawr. Os mynent fod yn ddilynwyr Eowlands, na fydded iddynt geisio gwneyd ei waith ef, ond eu gwaith eu hunain, a hyny heb wybod y canlyniadau. Os oedd eu gwaith yn gywir i'r gwirionedd, arweiniai yn rnlaen i ffurt o ddaioni am ba rai nas gallent ffurflo un ddirnadaeth. A pha beth bynag a darddai yn y dyfodol o'r gwirioneddau a lefarent, bydded iddynt dderbyn y canlyniadau hyny yn llawen, gan gredu fod y Goruchaf yn Uywcdraethu yn mreniniaeth dyttion ac yn nghynydd yr oesau, ac yn nghanlyniadau pob gwaith gonest a wneid i Dduw a dynbn.