Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

ATHROFA ANNIBYNOL Y BALA.

News
Cite
Share

ATHROFA ANNIBYNOL Y BALA. (CYL'ANSODDLAD NEWYDD). Cynaliwyd Pwyllgor Gweithiol yr athrofa uchod yn y Bla:yr 11 eg cyfisol, a'r Cyfarfod Blynyddol y 12fed. Yn absenoldeb y Cadeir- ydd am y flwyddyn (Mr J. Hughes Jones, Aberdyfi), cymerwyd y gadair yn y Pwyllgor gan Mr N. Ilees, Cacrdydd. ac yn y Cyfarfod Blynyddol gan Mr C. R. Jones, U.H., Llan fyllin. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parch T. Lewis, B.A., Prifathraw Mr ,1. Parry, Trysor- ydd Parch T. It. Davies, Ysgrifenydd; Parch W. E. Hughes, Dolgellau Mr W. noyd Parry, Grammar School, Wyddgrug. Arholwyr yr ymgeiswyr, Parchn J. A. Roberts, B.D., Caer- gybi; D. Roberts. Wrexham; O. Thomas. ,v M.A., TrefFynon D. Oliver, Treffynon J. M. Rees, Pentrefoelas H. P. Jenkins, Wern, Ys- talyfera; J. Pritchard, Druid; Mr S. Evans Bangor; Mr D. Ll. Lloyd, U.K., Plasrueim, Ffestiniog Parchn I-1. Jones, Birkenhead O. Jones, Pwllheli; Mri L. J. Davies, Llanuwch- llyn E. Jones, Elgar, Talybont; Parchn T. Roberts, Wyddgrug; J. C. Jones, Penygroes; D. S. Jones, Cana II. W. Parry, Chwarelgoch E. M. Edmunds, Croesoswallt; Mr E. W Evans, Dolgellau Parchn J. M. Jones, Caer- gwrle; R. W. Griffith, Bethel; R. Rowlands, Treflvs; Z. Mather, Abermaw; R. Thomas, Glandwr; Cadben Toy, Fronhculog, Llangoll- en; Mri W. T. Rowlands. Tanycoed; J.. Cadwaladr, Ffestiniog J. J. Jones, Ffestiniog; J. Williams, Manchester, &c. Dechreuwyd yn y ddau eisteddiad o'r Pwyll- gor gan y Parchn II. P. Jenkins, Wern, a J. M. Rees, Pentrefoelas, ac yn y Cyfarfod Blynyddol gan y Parch T. Roberts, Wyddgrug. Dangosai Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gweithiol fod gwaith y flwyddyn wedi bodyn dra llwyddianus yn mliob ystyr. Mae Mr Lewis a'r myfyrwyr wedi mwynhau iechyd rhagorol ar hyd y flwyddyn, a dengys Adroddiad yr Arholwyr, y Parchn J. A. Roberts, B.D., ac O. Thomas, M.A., fod cynydd -tra dymunol wedi cael ei wneyd. Mae y myfyrwyr canlynol wedi ymgy- meryd a gweinidogaethu yn ystod y flwyddyn: —Mr H. W. Parry, yr eglwys yn Chwarel- goch, Bethesda, Arfon; Mr E. M. Edmunds, yr eglwysi Seisonig yn Maesbury, &c., Croesos. wallt; Mr W.O.Owen, yr eglwys yn lcn- ybont-ar-ogwy; Mr J. Evans, yr eglwys yn Nelson, Morganwg. Y mae Mr D. B. Evans yn bwriadu ymsefydlu yn fuan yn weinidog yr eglwys Seisonig yn y Wyddgrug, a Mr D. B. Hughes, yr eglwys yn Connah's Quay a Llan- eurgain. Mae Mr E. E. Roberts hefyd yn debyg o ymsefydlu yn fuan mewn eglwys Gymrcig yu yr Unol Dalaethau. Nid yw y myfyrwyr ereill yr oedd eu tymhor ar ben yn Mawrth diweddaf wedi sefydlu mewn eglwysi, ond y mae tebygolrwydd y bydd iddynt wneyd hyny yn fuan. Fel hyn, gwelir fod y sefydliad yn parhau i wasanaethu yr oglwysi. Derbyniwyd y pedwar ymgeisydd oeddynt wedi eu cymeryd i mewn ar brawf hefyd, a dangosent hwythau eu bod yn gwneyd cynydd boddhaol. Daeth un-ar-bymtheg o ddynion ieuainc i sefyll arholiad am dderbyniad, ac allan o'r rhai hyny derbyniwyd wyth ar orawf. Cyfnewid- iwyd ychydig ar reolau derbyniad myfyrwyr, fel ag i'w dwyn i gyfateb yn well i'r eynydd mawr sydd wedi ei wneyd mewn addysg elfenol drwy y wlad. Teimlai y cyfarfod fod llafur ymroddgar y Prifathraw Lewis yn hawlio iddo well cydna- byddiaeth nag a roddir iddo, a phenderfynwyd codi 925 yn ei gyflog. Diau y bydd hyn yn galondid mawr iddo, gan mai ewyllys y Pwyllgor, ac nid ei ddymuniad efydoedd. Etholwyd rhai i welthredll ar y Pwyllgor Gweithiol am y flwyddyn ddyfodol, a diolchwyd yn gynes i'r Pwyllgor oedd yn myned allan am ei ffyddlondeb. Diolchwyd hefyd yn arbenig i'r Prifathraw, y Cadeirydd, y Trysorydd, yr Archwilwyr, a'r Meddyg (Dr Jones, Bala), am eu gwasanaeth ftyddlon a llafurus. Bydd Adroddiad Blynyddol o'r casgliadau a'r tnnysgrifiad^u allan yn fuan. Mae trefniadau Jlhai cghvysi ydynt yn flyddlawn iawn gyda chasglu yn gyfrywjnas gellir gosod cu casgliact. el au i mewn yn yr Adroddiad eleni. Bydd coffad manwl am eu caredigrwydd yn yr Adroddiad nesaf. Diolchir i bawb sydd wedi cynorthwyo y sefydliad, ac ymdrechir yn barhaus i'w wneyd yn fwy o allu er daioni. Mae y myfyrwyr yn awr ar gychwyn i'w teithiau casglu, ac y mae genym bob hyder y rhoddir iddynt yr un der- byniad caredig ag y maent bob amser wedi ar- fer gael. T. R. DAVIES, Ysg. Blaenau Ffestiniog, Medi 14eg, 1883.

BYR YMWELIAD A'R DEHEUBARTH.,

UNIVERSITY COLLEGE OF WALES,…