Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

...■•...I YR YSGOL SABBOTHOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SABBOTHOL. Y WERS RHYNGWLADWRIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. MEDI 23.—Y bachgen Samuel.—1 Sam. iii. 1-19. Y TESTYN EuBAiDD.—" Am hyny Eli a ddywed- odd wrth Samuel, Dos, gorwedd ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, Arglwydd; canys y mae dy was yn clywed. Felly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei le." —Adnod 9. RHAGARWEINIOL. PAN anwyd Samuel yr oedd Israel mewn cyflwr isel iawn. Yr oedd y llywodraeth yn llaw Eli yr arch- offeiriad; ond gan ei fod yn hen, gadawai y gwaith i'w feibion, y rhai oeddent "feibion Belial: nid adwaen- ent yr Arglwydd." Trwy eu hymddygiadau dygasant wasanaeth yr Arglwydd i waradwydd. Er fod Eli ei hun yn ddyn da, eto nid oedd nerth yn ei gymeriad i geryddu ac i atal ei feibion annuwiol. Am hyn cafodd ei geryddu gan yr Arglwydd, gwel 1 Sam. ii. 27-36. Anfonodd Dnw broffwyd ato i'w fygwth, oherwydd ei fod, trwy ei dynerwch gormodol, wedi cadarnhau dwy- law ei feibion mewn drygioni. Mynega iddo y torid ymaith yr offeiriadaeth oddiwrth ei deulu—y diosgid Hophni a Phinees, ei feibion, o'u holl awdurdod—y byrlieid eu bywydau, ac y chwerwid eu holl gysuron. Ar ol Eli daeth Samuel i awdurdod yn Israel, a thrwy ei ddylanwad dygwvd hwy yn rhydd oddiwrth orthrwm y Philistiaid. Fel barnwr cyrhaeddodd i ddylanwad mawr yn mhlith plant Israel. Preswyliai yn Ramah, ond byddai yn cylchdeithio i Bethel, Gilgal, a Mispah, i weinyddu yn ei swydd bwysig. Fel proffwyd hefyd yr oedd yn nodedig, a sefydlodd yn Israel ysgol y pro- ffwydi. Efe hefyd a sefydlodd y freniniaeth yn Israel. Yn ei hen ddyddiau anfonwyd ef i eneinio Dafydd, mab Jesse, yn frenin ar Israel. Bu farw yn Ramah, a chladdwyd ef yn nghaml galar cyffredinol y genedl. Dyn rhagorol a nodedig iawn ydoodd—dyn mawr gyda Duw. Dechreuodd wasanaethu Duw yn blentyn, a pharhaodd i wneuthur hyny nes marw. ESUONIADOL. Adnod 1.—" A'r bachgen Samuel a wasanaethodd yr Arglwydd ger bron Eli. A gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau byny nid oedd weledigaeth eglur." A wasanaethodd-yn y pethau ag y gallai bachgen o'i oedran ef wasanaethu, sef goleu y lampau, agor y drws, &c. Yn ol y Saesoneg, "y plentyn Samuel." Delir allan ymddygiad Samuel mewn gwrthgyferbyniad i feibion EI;. Gwrthryfelasanthwy, ond gwasanaethodd Samuel. Ni adawodd chwaith iddynt ddylanwadu yn ddrwg arno er mai plentyn oedd. Ger bron Eli-o dan arolygiaeth Eli. A gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hyny- y gair proffwydoliaethol oedd werthfawr, neubrin, yn amser Eli. Nid oes genym hanes ond am ddau bro ffwyd yn nyddiau y barnwyr. Nid oedd weledigaeth eglur. Yn llythyrenol, ni chyhoeddwyd uorhyw gen- adwri Ddwyfol. Os byddai yr Arglwydd yn amlvgu ei hun, i bersonau unigol y gwnai, ac nid oedd hyny i gael ei wneyd yn bysbys. Yn nghanol y tywyllwch moesol hwn y codwyd Samuel. Adnod 2.—" A'r pryd hwnw, pan oedd Eli yn gor- wedd yn ei fangre, wedi i'w lygaid ef ddechreu tywyllu, fel na. allai weled." Yn llythyrenol, A'r pryd hyny, pan oedd Eli yn cysgu yn ei fangre." Wedi i'w lygaid ef ddechreu tywyllu. Trwy henaint yr oedd ei oiygon yn pallu. Yn ei fangre, sef y man y cysgai. Nodir y ffeithiau hyn er mwyn dangos paham y tybiodd Samuel mai Eli a'i galwodd, ac iddo redeg ato pan glywodd y llais. Sylwa M. Henry-" Yr oedd yn ceisio neilldu- edd yn fwy oherwydd fod ei lygaid yn dechreu tywyllu, cystudd a ddaeth yn gyfiawn arno ef am gau ei lygaid rhag sylwi ar feiau ei feibion." Adnod 3.—" A chyn i lamp Duw ddiffoddi yn nheml yr Arglwydd, lie yr oedd arch Duw, a Samuel oedd wedi gorwedd i gysgu." A chyn i lamp Duw ddi- ffoddi. Nodir yr amser o'r nos, ychydig cyn iddi ddyddio, pan y llosgai y lampau yn wanaidd, neu eu dodid allan. Un o'r lampau yn nghangenau y can vjll- bren a olygir yn ddiau, oblegid nid oedd y brif lamp un amser yn diffoddi. Yn nheml yr Arglwydd. Mae y gair teml yA cael ei ddefnyddio fel yn cvnwys yr adeiladau oedd o amgylch y Tabcrnacl. Yn un o'r rhai hyn y cysgai Samuel ac Eli. Enwir yr arch fel yr arwydd gweledig o bresenoldeb Duw, yr hwn a alwodd ar Samuel. Adnod 4.—" Yna y galwodd yr Arglwydd ar Samuel- Dywedoddyntau, Wele fi." Galwodd arno trwy lais clywadwy, gan ei enwi. Ateborid yntau ar unwaith, "Wele fi," gan dybied mai Eli oedd yn galw. Welefi. Dyna'r ffurf oedd i ateb galwad, a dangos parodrwydd i ufuddhau. Mor barod y mae i weini ar Eli. Adnod 5.— Ac efe a redodd at Eli, ac a ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. Yntau a ddywedodd, Na elwais, fy mab dychwel a gorwedd." Nid oedd Eli wedi clywed y Ilais, ac felly tybia ei fod wedi cam- synied. Gorchymyn iddo fyned i orwedd. Tybiai Eli ei fod wedi bod yn breuddwydio. "Ac efe a aeth ac a orweddodd." Y mae Samuel ei hun erbyn hyn yn tyb- ied mai breuddwyd oedd. Adnod 6.—"A'r Arglwydd a alwodd eilwaith, Sam- uel. A Samuel a gyfododd, ac a aeth at Eli, ac a ddy- wedodd, Wele fi canys gelwaist arnaf. Yntau a ddy- we lodd, Na elwais fy mab; dychwel a gorwcdd." Mynychwyd yr un alwad, a gwnaedyr un camgymeriad yr ail wait! Adnod 7-—"Ac nid adwaenai Samuel eto yr Ar- glwydd,ac nid eglurasid iddo ef air yr Arglwydd eto." Yma y ceir y rheswm paham yr oedd Samuel yn cam- synied y llais am lais Eli. Nid adwaenai Samuel eto arwyddion o bresenoldeb yr Arglwydd, neu y drefc trwy ba un y datguddiai efe ei feddwl i'w broffwydi. Gwyddai y gair ysgrifenedig, ac yr oedd yn gyfarwydd a meddwl Duw yn hwnw; ond ni ddeailodd eto y ffordd yn yr hon y mae Duw yn datguddio ei hun i'w weision y proffwydi, yn neillduol trwy lais dystaw main." AC'ROd 8.—" A'r Arglwydd a alwodd Samuel dra- chefn y drydedd waith. Ac efe a gyfododd, ac a aeth at Eli, ao a, ddywedodd, Wele fi; canys gelwaist arnaf. A deallodd Eli mai yr Arglwydd a alwasai ar y bach- gen." Y drydedd waith. Yn hyn dangosir amynedd acysbrydgostyngedig Samuel. Deallocld Eli. "Rhaid fo^ hyn yn achos gofid iddo, gan y gwelai ei fod yn gam tuag- at ddiraddiad ei deulu, fod Duw pan oedd ganddo rywbeth i'w ddywedyd, yn dewis ei ddywedyd wrth Samuel, ei wasanaethwr, ag oedd yn gweini iddo, ac nid wrtho ef. A darostyngai ef yn fwy, pan gaffai yn ol llaw mai cenadwri ato ef ei hun ydoedd, ac eto yn cael ei hanfon ato trwy fachgen. Yr oedd ganddo res- wm i edrych ar hyn megys arwydd pellach o anfoddlon- rwydd Duw." Adnod 9. Am hyny Eli a ddywedodd wrth Samuel, Dos, gorwedd ac os geilw efe arnat, dywed, Llefara, Arglwydd; canys y mae dy was yn clywed. Folly Samuel a aeth ac a orweddodd yn ei Ie." Bhoddodd Eli gyfarwyddiadau i Samuel yn ddirwgnach pan alwai Duw arno y tro nesaf. Trwy hyn dangosa fod ynddo ysbryd rhagorol, er ei fod yn gweled fod galwad Duw yn myned heibio iddo ef. Adnod A daeth yr Arglwydd, ac a safodd, ac a alwodd megys o'r blaen, Samuel, Samuel. A dywed- odd Samuel, Llefara canys y mae dy was yn clywed." Daeth y llais yn agos, fel pe buasai yr un a lefarai ger llaw. Heblaw hyny hefyd, yr oedd yn ryw ymddang- osiad gogoneddus. Dangosa Samuel bob parodrwydd i ufuddhau, pa beth bynag ydoedd y genadwri. Adnod 11.—" A dywedodd yr Arglwydd wrth Sam- uel, Wele fi yn gwneutliur peth yn Israel, yr hwn pwy bynag a'i clywo, fe a ferwina ei d iwy glust ef." Yr oedd y genadwri yn un alarns, a buasai y newydd yn disgyn ar glustiau yr Israeliaid fel swn annymunol. Arferir yr un ymadrodd yn 2 Bren. xxi. 12, a Jer. xix. 3. Yr oedd y genadwri yn dal perthynas a thy Eli. Adnod 12.—" Yn y dydd hwnw y dJgaf i ben yn er- byn Eli yr hyn oil a ddywedais am ei dt ef, gan dde- chreu a diweddu ar unwaith." Yr hyn oil a ddywedais, trwy wr Duw, gwel pen. r. 27-36. Gan ddechreu a diweddu ar unwaith. Yn golygn y cyflawnir yn hollol y cwbl a ddywedwyd o'r dechreu i'r diwedd. Arwyddir y gallasai, o bosibl, fod am enyd cyn y dechreuai, ond na fydded iddynt alw yr ymaros hwnw yn rhyddhad, na'r oediad hwnw yn faddeuant; canys pan o'r diwedd y dechreua, efe a wna waith hollol ohono, ac er iddo aros yn hir, efe a dory adref." Adnod 13.—"Mynegais hefyd iddo ef, y barnwn ei dy ef yn dragywydd,am yr anwiredd awyrefe; oherwydd i'w feibion haeddu iddynt felldith, ac nas gwahardd- ndd efe iddynt." Bai-nti-eyflawni barti. Oherwydd i'w feibion haeddu iddynt fclldith-yn fwy priodol, Oherwydd i'w feibion wneuthur eu hunain yn felldig- edig." Dygasant arnynt eu hunain felldith trwy eu hymddygiadau. Anwiredd Eli oedd hwn-nis gwa- harddodd efe iddynt. Os dangosodd ei ffieiddiad o'u ffyrdd drygionus, eto nid i'r graddau v dylasai wneuthur efe a'u ceryddodd, ond ni chosbodd hwynt am y drwg a wnaethant, nag ychwaith eu hymddifadu o'u gallu i wneuthur drwg, yr hyn fel tad, archoffeir- iad, a barnwr a allasai wneuthur." Y mae y rhai nid ydynt yn gwahardd pechodau rhai creill yn dangos gwendid cymeriad ac yn anflyddlon i Dduw. Adnod 14.—" Ac am hyny y tyngais wrth dy Eli, na wneir iawn am anwiredd ty Eli as aberth, nac a bwyd- offrwm byth." Yr oedd modd gwneyd iawn dros bech- odau yr offeimid a'r bobl yn ol gosornd Duw. Gwêl Num. xv. 25. Ond nid oedd iawn i fod dros bechodau meibion Eli. Yr oojd eu pechodau mor waradwyddus. Yr oedd yna bechodau dan y gyfraith nas gallesid eu glanhau ond y mae gwaed Crist yn glanhau oddiwrth bob pechod. Adnod 15.—"A Samuel a gysgodd hyd y boreu, ac a a orodd ddrysau ty yr Aglwydd a Samuel oedd yn ofni myncgi y weledigaeth i Eli." A Samuel a gysgodd—yn fwy priodol, a orweddodd hyd y boreu. A agor odd ddrysau. Y mae y gair yma yn wahanol i'r gair a ddefnyddir yn Ex. xxvi. 3G. Golygir yno curtain, ond yma, drws o goed, yr hyn sydd yn dangos fod adeiladau parbaol wedi eu codi o amgylch y babell. Rhaid fod Samuel tua deuddog oed, fel y tybir oddiwrth natur y gwaith a gyilawnai. Yr oedd yn naturiol ei fod yn ofni mynegi y genadwri i Eli, gan ei bod yn oynwys y fath farncdigaeth. Diau ei fod yn caru ac yn parchu Eii yn fawr, ac yr oedd gorfod mynegi y wciedigaeth yn faieh ar ci feddwl. Adnod 1G.—"A Eli a alwodd ar Samuel, ac a ddy" wedodd, Samuel fy mab. YlJtau a ddywedodd, Wele fi." Mac yn sier fod Eli yn awyddus i gael gwybod both ydoedd natur y genadwri a gawsai Samuel. Felly y mae yn ei alw ato y cyfleustra cyntaf. Adnod 17.—"Ac efe a ddywedodd, Beth yw y gair a lefarodd yr Arglwydd wrthyt." Dylid gadael allan yr Arglwydd. Nid ydyw Eli yn ei ddcfnyddio. Er ei fod yn tybied mai cenadwri oddiwrth yr Arglwydd ydoedd, nid ydyw yn berffaith sicr, ac felly nid ydyw yn defnyddio enw yr Arglwydd. Na chela, atolwg, oddiwrthyf: fel hyn y gwnelo Duw i ti, ac fel hyn y chwanego, os cell oddiwrthyf ddim o'r holl bethau a lefarodd efe wrthyt." Ofnai nad oedd daioni yn y genadwri iddo cf, ac eto y mae yn awyddus i wybol yr 011. Tyngheda Samuel i ddywedyd yr oil. Adnod 18.—" A Samuel a fyuegt Jd iddo yr holl eiriau, ac nis celodd ddim rhagddo. Dywedodd yntau, Yr Arglwydd yw efe gwnaed a fyddo da yn ei olwg." Bu Samuel yn ffyddlon i adrodd y genadwri a dder- byniodd mor eglur ac mor eyflawn ag y gallasai. Ymostyngodd Eli i ewyllys Duw. Cydnabydda bawl Duw; cydnabydda hefyd ei fod yn gyfiawn a sanctaidd yn yr oil a wna. Adnod 19.—" A chynyddodd Samuel; a'r Arglwydd oedd gydag ef, ac ni adawodd i un o'i eiriau syrthio i'r ddaear." Galwyd Samuel i'r swydd broffwydol pan oedd yn fachgen tua 12 oed. Daeth yn adnabyddu&yn fuan fel proffwyd yr Arglwydd trwy yr holl wlad. Pa beth bynag a ddywedai fel proffwyd a gyflawnid. Cafodd ei anrhydeddu yn fawr fel proffwyd. GWERSI. Mae Duw yn gofalu am bersonau cymhwys yn mhob cyfnod yn hanes yr Eglws i ddwyn yn mlaen ei amcanion gogoneddus ef mewn perthynas i'r Eglwys. Yr oedd bamuel, er yn ieuanc, yn hoffi ty Dduw, a'i galon wedi ymserchu yn ngwasanaeth y ty. Yr oedd yn meddu cymeriad pur, ae ysbryd gostyngedig. Yr oedd yn meddu ar ddigon o wroldeb a phen 'er- fyniad i draethu holl gvnghor Duw. Dangosodd bob ffyddiondeb yn ngwasanaeth yr Arglwydd gyda'r pethau lloiaf, yr hyn a brofai ei gymhwysder i dderbyn gweledigaethau oddiwrth jr Arglwydd. Anrhydeddwyd Samuel gan Dduw fel proffwyd ffyddlon. Duw a gyflawna air ei was, ac a gwblba gynghor ei genadon." GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. Esboniwch ystyr yr ymadroddion, a gair yr Arglwydd oedd werthfawr yn y dyddiau hyny," nid oedd weledigaeth eglur." 2. Beth oedd gwaith neillduol Samuel yn nheml yr Arglwydd ? 3. Wedi clywed y llais yn galw arno, paham y mae yn myned at Eli P Esboniwch y-tyr yr ymadrodd nid adwaenai Samuel eto yr Arglwydd," &c., yn adnod 7. 4. Beth oedd natur y genadwri a gafodd ? 5. Beth oedd pechod neillduol Eli ? 6. Paham y mae Eli mor awyddus i wybod y genadwri gan Samuel ? 7. Pa fodd yr ymddygodd Eli wedi clywed ? 8. Eglurwch nodwedd cymeriad Samuel fel proffwyd.

Galwadau. -----

Advertising