Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Y PARCH. DAVID R. THOMAS,…

COLEG ABERHONDDU.

SARON, TREDEGAR.

News
Cite
Share

SARON, TREDEGAR. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,—Ychydig amser yn ol cefais y fraint o dreulio Sabboth yn y capel uchod, pryd y pregethwyd gan y gweinidog, y Parch E. Powell. Yr oedd yn preg- cthu yn hynod o hwyliog, ac yn ol pob ymddangosiad yn f:adael argraff briodol ar feddyliau y rhai oedd yn ei wrandaw, ac erbyn y gyfeillach nos Sul, cafwyd gweled dan yn rhoddi eu hunain i'r Arglwydd. Yr oodd amryw bethau yn ngtyn a'r eglwys yn tynu fy sylw. Yr oedd yno brydlondeb canmoladwy, y diaconiaid i gyd (nifer o ddeuddeg) yn eu lie i'r amser penodedig bob oedfa, yr hyn yr wyf yn en gymeradwyo yn fawr, sef gweled blaenoriaid eglwys Dduw yn rhoddi esiampl i'r aelodau pa rai ag oedd yn dilyn eu hoi, oddigerth ychydig nifer, a'r nifer hyny fel y cefais allan, oeddynt yn byw agosaf i'r capel. Peth arall, yr oedd yno gana da, y cor wedi ymgynull gyda'u gilydd ar yr esgyn. lawr, a phob Ilais wedi eu lleoli yn eu lie priodol, fel na byddai yno un gymysgedd i bcri unrhyw ddisgord yn y canu. Yr oeddynt yn eael- ca harwain gan Mr W. Charles, yn cael ei gynorthwyo yn chwareu yr offeryn gan Miss Alice Griffiths, Park-place. Yr wvthnosddi- lynol cynaliwyd wythnos o gyfarfodydd gweddïo i ofyn ar i'r Arglwydd i bresenoli ei hun yn eu plith y Sab- both, sef eu gwyl gasglu, ac fel y mae yr Arglwydd yn barotach i gyflawni, nag yr ydym ni i ofyn, felly yma, ete a ddaeth, nid yn unig erbyn y Sabboth, ond yr oedd pob arwydd ei fod yn ol ei addewid yn y canol ac yn bendithio drwy y cyfarfodydd. Yr oedd hi wedi mvne i yn hen hwyl y Cymru i waeddi ac Amen,' a'r canu mawl yn cael ei ddyblu a'i dreblu. Nos Iau, caf- wyd cyfeillach grefyddol ar y diwodd, pryd y daeth un brawd a dwy chwaer i ymofyn am loches ihag y dyin- hcstl yn holitau'r graig, a chododd brawd ar ei draed i liysbysu i'r eglwys i fod amryw o'r chwiorydd a ym- uuodd a. hwy yn ddiweddar yn ceisio ganddo i erfyn ar i'r c.'lwys weddyo yn daer ar i Dduw i achub en gwyr rhag y gelyn. Yr wyf wedi cael ar ddeall iddynt yn ystod y pedwar cymuudeb diweddaf dderbyn dennaw o aelodau yn ychwancgol at yr eglwys, ac y mae ganddynt amryw eto yn dysgwyl am ei lie y cymuudeb nesaf. Ewch yn inlaen gyda'r gwaith da ydyw fy nymuniad i, a chy- mered yr eglwysi hyny nad ydynt wedi declireu yr un gwaith esiampl oddiwrtbych. Ond dyma yr wyl fawr wedi dyfod, sef Sul a LIun, yr 2il a'r 3ydd o Fedi, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parchedigion J. Miles, Aberystwyth a W. T. Hughes, Penycae. Yr oedd yr hin yn anffafriol iawn, er hyny cafwyd cynulliadau Iluosog, a'r pregeth- wyr yn eu hwyliau goreu. Cafwyd casgliadau da ar y cyfan, a phob arwydd fod Duw yn eu plith. Nos Sul, o flaen Mr Miles, dechreuwyd yr oedfa drwy adrodd y chwechcd benod o'r Holm aid gan Mary E. Arthur, geneth fcchan 11 oed yn gampus o dda. A chan fy mod yn Annibynwr mor frwd, cliwiliais i mewn i hclyntion yr eglwys hon, a chefais allan i'r achos gych- wyn gyntaf yn Tredegar trwy i rai o drigoiion sir Gaerfyrddin i glywed fod yma gyflog da i'w gael yn ngwaith haiarn y lie, yr bwn a gychwynodd yn 1802, a phregethwyd i'r ychydig Annibynwyr hyny gan un o'r enw Mr Thomas o Benmaen, a dywedant y byddent yn cynal ei moddion cyhoeddns yn yard y seiri coed yn nhy un o hen achau Mrs Watkins, Castle-street, ac y byddent ar eu cymundebau yn arfer cerdded i Pen- maen, pelldcr o wyth milltir, peth dyeithr iawn i ni grefyddwyr yr oes hon. Byddent rai prydiau yn myned i T# Solomon, Blaenau, bryd arall i'r Groeswen. Yn 18W), dywcdir Iddynt gynal yr achos ynuhyun o'r 'dynt L, enw Edmund James. Er nad oeddynt ond bychan mewn nifer, eto i gyd nifer weithgar ac egnïol iawn oeddynt dros achos eu Gwaredwr. Buont mor weith- gar nes iddynt yn 1819 gyfodi capel iddyut eu hunaiu, yr hwn a agorwyd yn mis Mai o'r un flwyddyn. Yn 1821, ordeiniwyd y Parch Robert Morris i ddyfod i'w gweinidogaethu, yr hwn a fu yn ymdrechgar yn eu plith hyd ei farwolaeth yn 1825. Yn 1827 daeth y Parch Hugh Jones (Cromwel o Went) i'w bugeilio, yr hwn a barhaodd yn ei swydd am ddeunaw mlynedd gyda gradd helaeth o Iwyddiaut, ac ar ei ol ef yn 1845, daeth yr anfarwol fardd Ieuan Gwynedd, yr hwn a fu yn ffyddlawn fel gweinidog hyd nes methodd ei nerth a'i iechyd. Y nesaf a ymwelodd i'w bugeilio hwy ydoedd y Parch D. Evans, yr hwn a ddechrenodd yn 1849, ar ei ol ef wele Saron wedi cael ei breintio eto a dysgawdwr mawr yn Israel, sef yr enwog a'r anfarwol Barchedig D. Hughes, B.A., yr hwn a ddechreuodd ar ei weinidogaeth yn 1855. Yn ystod y flwyddyn gyntaf o'i weinidogaeth fe dynwyd yr hen Saron i'r llawr, a chyfodwyd Saron newydd yn eu lie, pryd y casglwydar ei hagoriad y swm o X167 Is. 32-c. Yr oedd Mr Hughes yn ddyn cymeradwy gan ei aelodau, ac yn wr parchus gan bob dosbarth yn y gymydogaeth. Ar ol marwolaeth Mr Hughes rhoddodd yr eglwys alwad un- frydol i'r Parch E. Powell, o'r Brychgoed, Brycheiniog, yr hwn a gydsyniodd a'r cais, ac a ddechreuodd ei bugeilio yn 1876. Y mae Mr Powell wedi bod ac yn parhau i fod yn weithiwr caled er pan y mae wedi sefydlu ei hun yn eu plith, nid yn unig yn ei eglwys ei hun, ond hefyd yn mhob canghen o symudiad daionus, yn enwedig gyda'r symudiad dirwestol. Y mae yr oglwys hon yn rhifo dros 300 o aelodau, heblaw y gwrandawyr, a'r Ysgol Sabbothol rhywbeth yn debyg. Bydded i Ysbryd yr Arglwydd barhau i aros yn eu plith ydyw gweddi a dymuniad FAENOLOG.

Family Notices

ABERAERON.

[No title]