Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Y BARNWR HOMERSHAM COX A'R…

CAERLLEON A'R CYFFFINIAU.

News
Cite
Share

CAERLLEON A'R CYFFFINIAU. Dydd Iau diweddaf, cyflawnodd Mr Emmerson, Y.H., Knutsford, hunanladdiad, trwy dori ei wddf ag ellyn. Yr un dydd, tra yr oedd Thomas Price, Pentre, ger Wyddgrug, yn croesi y reilllordd yn Connah's Quay, aeth y gerbydres drosto, a lladdwyd ef yny fan. Boreu Gwener diweddaf, yn Leadworks-lane, cafwyd plentyn o'r enw Laneeley yn ei wely yn farw. Tybir i'w fam ei fygu yn ddamweiniol. Dydd Mawrth, y 4ydd cyfisol, cynaliodd Anni- bynwyr Fflint eu cwrdd te blynyddol, a chafwyd eyfarfod cyhoeddus yn yr hwyr o dan lywyddiaeth y Parch Josiah Jones (M.C.) Dydd Mercher, y 5ed cyfisol, dinystriwyd a than das wair eiddo Mr Jones, Brittania House, Tre- ffynon, yr hyn a achosodd golled o tua chwech ugain punt. Ni chafwyd allan yr achos o'r t&n. Yn Ince, pentref yn agos i'r ddinas hon, dydd Sul, y 9fed eyfisol, cafwyd John White yn farw mewn llofft wair, a'r rhan fwyaf o'i gorff wedi ei ddifa gan lygod. Bu plant Ysgol y BwrddVron, ger Wrexham, dydd Mawrtb, yr lleg eyfisol, yn mwynhaueu hunain yn Brymbo Hall, palas y Gwir Anrhydedd- us G. Osborne Morgan, A.S. Tra yn disgyn o'r tren yn ngorsaf Bagillt, y dydd o'r blaen, heb gymeryd sylw fod y cerbyd mewn cryn uchder oddiwrth y llwybr, syrthiodd Mrs Alice Jones, a'i baban dau fis oed yn ei breichian, ac anafwyd hwynt yn fawr. Dydd Iau, y 6ed cyfisol, cafwyd ddau ddyn ieu- anc o'r enwau John Stratford a Henry Colling- wood yn euog o geisio lladrata pwrs boneddiges yn ngorsaf y reilffordd yma, a dedfrydwyd hwynt i un diwrnod ar hngain o lafur caled. Tra yr ydoedd Cadben Humberston, unig fab y Milwriad Humberston, Glan-y-wern, Dinbych, yn prysuro tua gorsaf y reilffordd yn y ddinas hon prydnawn Gwener, y 7fed cyfisol, syrthiodd ar yr heol, ac yn mhen ychydig fynydau bu farw o glefyd y galon. Ymwelodd Mr James Doyle, boneddwr o'r Iwerddon, ag Eglwys Gadeiriol y ddinas yma ddydd Mercher, y 12fed cyfisol; a thra yn nghwmni dau arall, syrthiodd i lawr mewn llewyg, a niweidiwyd ef mor fawr fel y bu farw y dydd canlynol. Gwnaeth dyn o'r enw Higgs ymgais at wneyd i ffwrdd a'i fywyd yn y ddinas hon, ar y 3ydd eyfisol, trwy gymeryd dogn o opium. Y mae y dyn yn gwella o dan driniaeth meddyg y clafdy, ac y mae yr ustusiaid o flaen y rhai y dygwyd ef, wedi ei draddodi i garchar i sefyll ei brawf yn y chwarter sesiwn nesaf. Dydd Sadwrn, yr 8Fed cyfisol, tra yr ydoedd Margaret Basnett, geneth fach rhwng tair a phedair mlwydd oed, gyda ei chyfoedion yn chwareu mewn maes yn cynwys tyllau mawrion tywodlyd, ymddengys fod swm uiawr o dywod wedi disgyn arni a'i chladdu, fel pan ddaethpwyd o hyd i'r corff yr ydoedd yn hollol farw. Cymerodd amgylchiad difrifol le yma ddydd Mawrth, yr lleg cyfisol. Yn y prydnawn aeth Miss Lockwood a Mr English i ymbleseru mewn cwch ar yr afon Dyfrdwy, a thra yn dychwelyd yn yr hwyr ymddengys i'r cwch droi, ac i'r boneddwr a'r foneddiges ieuanc foddi. Y diwrnod blaenorol yr oeddynt wedi gwneyd ymrwymiad priodasol. Yr un dydd, o fiaen yr ynadon yn y ddinas hon, gwnaed datguddiad o ugain mlynedd o fywyd priodasol. Cyhuddid James Critchley gan ei wraig o fygwth ei niweidio. Dywedai ei bod wedi bod yn briod am ugain mlynedd, ac yn ystod yr oil o'r bron o'r adeg hyny, ond yn fwyaf neillduol y tair wythnos ddiweddaf, dyoddefodd lawer oddi- wrth greulondeb ei gwr, yr hwn oedd wedibygwth cymeryd ymaith ei bywyd, ac yr oedd hyn oil i'w briodoli i'w dymher ddrwg a'i feddwdod. Ded- frydwyd ef i saith niwrnod o garchariad. GOHBBTDD.

DYFFRYN CLEDDAU. -

[No title]

Advertising

ATHROFA GOFFADWRIAETHOL ABERHONDDU.…