Skip to main content
Hide Articles List

6 articles on this Page

Y BARNWR HOMERSHAM COX A'R…

News
Cite
Share

Y BARNWR HOMERSHAM COX A'R CYMRY. Yn llys y man-ddyledion yn Llanidloes dydd Sadwrn wythnos i'r diweddaf, dywedodd y Barnwr Homersham Cox fod yr anudoniaeth dychrynllyd sydd i'w gael yn Nghymru yn gyffredinol yn cyffroi ei ddigo faint, ac yn peri i'w waed ferwi. Fod Cymru yn llawn Eglwysi a chapeli, a'r trigolion yn proffesu bod mor grefyddol, ac ar yr un pryd yn myned o gwmpasi ddyweyd eclwydd. Dyna gyhuddiad pwysig yn erbyn canoedd o ddynion nad oes eu rhag- orach, a dyweyd y lleiaf, mewn teyrngarwch a moesau da; a chyhuddiad na ddylasai dyn o safle gyhoeddus fel yr eiddo ef ei wneyd heb seiliau digonol. Nid ydym am wadu'^nad oes tyngu anudon yn Nghymru, ond ai rhydd Lloegr, Ysgotland, a'r Iwerddon o'r camwedd? Neu, a oes cymaint mwy o gelwydd ac anudon- iaeth yn Nghymru nag yn un parth arall o'r deyrnas, fel ag i gyfiawnhau y Barnwr Cox yn ei gondemniad ar y genedl yn gyffredinol. Ni fynwn daflu cochl, na gwneyd esgusawd dros yr anudoniaeth sydd yn ein mysg, ond credwn fod y Barnwr Cox wedi cymeryd mantais anheg ar ei safle i bardduo ein cymeriad fel cenedl, ac yntau yn estron yn ein plith. Cynaliwyd cyfarfod lluosog yn Dolgellau dydd Mawth, o dan lywyddiaeth Mr Edward Griffiths, Y.H., er mwyn gwrthdystio yn erbyn geiriau sarhaus Mr Cox, a mabwysiadwyd deiseb i'w hanfon i'r Arglwydd Ganghellydd yn dymuno arno i newid Mr Cox i circuit Seisonig, ac anfon Barnwr Cymreig yn ei Ie, gan fod tuedd i niweidio cyfiawnder trwy ei anwybodaeth o'r iaith Gymraeg. Mae Cymdeithas Ryddfrydol Bangor hefyd wedi galw cyfarfod am heddyw (dydd Mercher), i gymeryd i ystyriaeth eiriau y gwr uchod, a'r angenrheidrwydd o apwyntio Cymry fel Barn- wyr yn lie Saeson. Mae y cyfarfodydd hyn wedi eu cynal trwy awgrymiad Mr. Samuel Holland, A.S., yr hwn hefyd fydd yn cyflwyno y deisebau i'r Arglwydd Ganghellydd.

CAERLLEON A'R CYFFFINIAU.

DYFFRYN CLEDDAU. -

[No title]

Advertising

ATHROFA GOFFADWRIAETHOL ABERHONDDU.…