Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

CAESFYEDDIN A'R CYLCHOEDD.

TREHARRIS.

News
Cite
Share

TREHARRIS. AGO It I A DCA PEL NEWYDD. Lie newydd ddyfod i sylw y wlad ydyw hwn. Saif yn ymyl Mynwent y Crynwyr, ar ymyl yr afon Taf, rhwng Merthyr a Pontypridd, yn agos i'r basin glo sydd yn rhan uchaf Morganwg, oher- wydd hyny mae y glo yn ddwfn iawn yma, fel mai dyma lie y ceir y pwll glo dyfnaf yn Nghymru. mae'n debyg. Mae yma beth canoedd o dai newyddion wedi eu hadciladu, a bagad o addoldai gan y gwahanol enwadau crefyddol sydd yn ein gwlad. Er's rhyw dair blynedd yn ol, gwnaeth y Parch G. Williams a'r eglwys Annibynol yn Libanus, ffurfio eglwys newydd yn Treharris gyda rhyw 12 o aelodau. Adeiladwyd festri yn gyntaf, a thra yr adeiledid hono yr oeddent yn addoli yn y Philanthropic Hall, yr hon yn garedig a roddwyd iddynt gan Mr D. E. Jones, nes daeth y festri yn barod. Yr oedd yr Arglwydd yn eu bendithio yno fel erbyn heddyw maent wedi dyfod yn 140 o aelodau, a chapel braf ar waith. Dydd Llun, Gorphenaf 3ydd, am 3 o'r gloch, gosodwyd y maen coffadwriaethol yn mur y capel gan Mr D. E. Williams, Y.H., Hirwaun, ae yn sicr y mae efe yn saer macn par dda, a gwell fe osododd chcqua o C50 ar y maen. Cyflwynwyd iddo forthwyl prydferth a llwyarn arian (silver trowel) gan Miss Florence M. Williams, Mafon House, Quakers Yard, merch y Parch G. Williams y gweinidog, ac ar y trowel yn gerfiedig, Presen- ted to Mr D. E. Williams, J. P., on the occasion of laying the memorial stone of the Tabernacl Independent Chapel, Trebarris, September 1883." Gweddïwyd allan yn y fan gan y Parch J. Davies, Abercwmboy. Cafwyd anerchiad bywiog gan Mr y b Williams, a cbanwyd penill yn hwylus. Am fod y tyvvydd i raddau yn wlyb, awd i gapel y Bed- yddwyr Seisonig oedd yn yr ymyl. Neillduwyd y Parch J. Morgan, Cwmbach, i'r gadair, a chaf- wyd areithiau bywiog a grrymus gan y Parchn R. O. Jones, Bedlinog; R. Evans, Troedyrhiw; Morgans, Betbania Jones, Brynhyfryd J. Davies, Abercwmboy, a J. Davies, Soar, Aberdar, yn Qghyda'r Mri Edwards, Pentanas, a'r Ynad Heddwch o Hirwaun, yr hwn a wnaeth araeth arbenig ar ddyledswydd pobl i gyfranu at achos yr Arglwydd, ac yn neillduol y bobl sydd ag arian ganddynt. Fod y gweithiwr tlawd yn rhoddi a dim dros ben ganddo,"lawer yn fwy na'r cyfoethog sydd a pheth ganddo ar ol rhoddi. Daeth yn ei araeth ar draws Mr Crawsbay Bailey, yn Nghwm Rhondda, yn ei haelioni wedi adeiladu eglwys, er cyfleusdra i'w weithwyr, gwerth JC8,000, ac yn cadw curad ar ei draul ei burs, ond fod tuir rban o bedair o'i weithwyr yn Ymneilldawyx-, a dim byth yn myned i'r Eglwys, ac ni chlywodd Mr Williams fod Mr Crawshay Bailey yn rhoddi dim at ddyledion y capelau sydd yn mhlith ei weith- wyr, sef y rhai sydd yn gweithio y glo sydd dan ei diroedd. Fod ganddo barch mawr i Mr Bailey, a'i fod yn credu pe dodid yr achos yn deg o'i fiaen y gwnai gyfranu at achos Duw yn mhlith yr Anghydffurfwyr befyd. Bu Mr Williams dros wagder carcharau Cymru, a bod y bai n wyr yn gweled dim gwerth i gadw brawdlysoedd yma ddwywaith yn y fiwyddyn, a bod mor lloied o droseddau yn ngwlad y menyg gwynion i'w briod- oli i'r Efengyl, a itoll Jllldrethivn pobl grefyddol eiu gwlad. Gvvmiwd caugliad yn y oyfari'ud ac fe ddaeth y cwbl, rhwng X50 Mr Williams a 2 gini Mr D. E..Tones, Navigation Hotel, dros < £ 60. Bwriedir agor y capel o fewn cylch tri mis. Cymeraf y waith hon mai pcrthyn i gylcli Aberdar y mae Treharris, a deuaf adref heibio Mountain Ash gan eich hysbysu fod icchyd y Parch T. Llewellyn yn well, a'i fod yn pregethu yn gadarn fel cynt. Ond mae yn flin genyf hys- bysu darllenwyr y TYST fod iechyd y brawd ieuano a gobeithiol y Parch D. Griffiths, Cwmdar, yn hynod wael, er nid yn ddiobaith i gyrhaedd hen- aint teg. Yr Arglwydd a drugarhao wrtho. Canu sydd yn myned a hi yn Aberdar, gwir maent yn dyfod yn mlaen yn egwyddorion canu yn ol y cywreinrwydd mwyaf, ond yr wyf yn meddwlmai gwcll fyddai tonau i'w hyn;arf'er yn yr addoldai, anthemau a Salm-donau cymhwys i'r cysegr i roddi gogoniant i Dduw, a swyno ieuonc- tyd i'r addoldai. GOHEBYDD.

TABERNACL, SCIWEN.

AGORIAD PENYGROES, PENFRO.

CAPEL ANNIBYNOL SALE M. LLANYMDDYFRI.