Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

CAESFYEDDIN A'R CYLCHOEDD.

News
Cite
Share

CAESFYEDDIN A'R CYLCHOEDD. Cyfarfocl Pregethu. — Cynaliwyd cyfarfodydd blynyddol y;Wesleyaid Seisoaig, Sul, Awst 19eg, a phregethodd y Parch H. Price Hughes, M.A,, Rhydychain. Nos Fercher pregethodd yn nglyn a'r un cyrddau y Parch Richard Roberts, Llun- dain. Cafwyd benthyg capel Heoldwfr i gynal y cyfarfod hwn, daeth torf fawr yn nghyd i wrando y pregethwr galluog a phoblogaidd hwn. Casglwyd yn y cyfarfodydd i gyd y swm o £106. Yr Ysgolion Sul,- Yr adeg hon yr ydys yn arfer rhoi treat i'r Ysgolion Sul. Yn fynychaf y treat fydd gwibdaith i Lanstephan i fvvynhau o awelon iachus y mor, a dringo ochrau y bryn y saif y castell arno, neu ymbleseru ar hyd y rhodfeydd sydd dan y coed yn gwynebu ar y mor, ac os mynir, ymdrochi yn yr hallt-ddwfr sydd yn gwa- hanu Glanyferi oddiwrth Llanstephan. Wedi cael eu cario yno y mae pob un i fwynhau ei hun yn ol fel bydd yn dewis. Gwibdaith i Lanstephan oedd treat yr ysgolion canlynol eleni, sef Heolydwfr (M.C.), Heol Awst, Union-street, Penygraig, ac Abergwili. Te a chwrdd llenyddol oedd fancy Heolyprior, yn Annibynwyr aBedyddwyr. Mwyn- haodd y cyntaf eu hunain ar un o "berci Cwm- ocrnant," a'r olaf yn y marchnadle—pob un yn ei ffordd ei hun yn mwynhau ei hun. Boddiad.-Boddodd dyn o'r enw David Elias yn afon Towy, nos Sadwrn, y 25ain cynfisol. Preswyl- iai yn ymyl y Star Inn, Llangunnor, ac y mae yr amgylchiadau dan ba rai y dygwyddodd y peth yn rhai rhyfedd iawn, er nad oes dim sail i'r si annymunol aeth ar hyd y gymydogaeth. Yn ol tystiolaeth ei wraig ac ereill, daeth gartref gyda'r tren 3 prydnawn Sadwrn oddiwrth ei waith ar y rheilffordd yn LIandybie. Yna tua phump o'r gloch aeth yn nghwmni James Griffiths i'r dref i wel'd Mr Mullard i ofyn caniatad i fod yn absenol oddiwrth ei waith dros yr amser y byddai yn cynorthwyo James Griffiths i adeiladu ty yn y Wenallti Wedi gwel'd Mr Mullard, ymadawsant a'u gilydd. Yr oedd David Elias yn myned i'r farcbnad i brynu cig, yr oedd y pryd yma yn ber- ffaith sobr, ac felly hefyd yn ol tystiolaeth un pan yn croesi'r bont ar ei ffordd adref cyfarfyddodd coachman Major Bate, Bryntowy, ag ef yn agos i Penymorfa. Trodd Dafydd Elias i Danyrallt at ei hen feistr, Mr D. Thomas, yfodd yno lasied o ddiod, a chan eu bod hwy Mr a Mrs Thomas yn myn'd i Bont Richard Eynon, cartref tad Mrs Thomas, mynai Dafydd Elias fyn'd gyda hwy. Ceisient bwy ei rwystro, ond myn'd wnaeth gyda hwy a cbroeswyd Towi yn ddyogel yn y cwch -eiddo Mr Thomas. Yfodd ycbydig laseidiau o ddiod gref yn Pont Richard Eynon, ac ymadaw- odd tua 10 o'r gloch, ac yn ol pob tebyg iddo wneyd am yr afon i gael croesi yn y cwch, ond methodd rywsut yn ei amcan a syrthiodd i'r afon. Cafwyd ei gorff prydnawn dydd Mercher, gor- weddai ar ei gefn mewn pwll 12 troedfedd o ddyfnder. Wrth ei chwilio cafwyd pob peth ganddo, yr ariau, a'r cig ag oedd wedi brynu, &c., fel y gellir casglu mae syrthio wnaeth wrth chwilio am y eweh. Gtfwyd un o bedolau ei esgidiau wedi ei throi i fyny mewn modd fuasai yn ddigon i dripio" y dyn mwyaf gofalus. Dygwyd rheithfaru o "Cafwyd wedi boddi." Adnewyddu tnvyddedau i werthu diodydd mcddwol. — Yr oedd yr adeg i wneyd hyny dydd Llun, y 3ydd cyfisol. Yr oedd cyhuddiadau yn erbyn 18 o dai, a phendcrfynir eu trwyddedau hwy yn mhen pythefnos. Dywedai y Cadeirydd (Dr Hughes) fod cyfnewidiadau pwysig wedi cymeryd lie yn ddiweddar yn nglyn a thrwyddedi, a bod ganddynt hwy fel Ynadon hawl nid i wrthod rhoddi rhai newyddion yn unig, ond hefyd i wrth- od adnewyddu trwyddedau oedd wedi cael eu rhoddi am lfynyddau. Nid oeddent hwyyn medd- wl arfer yr hawl hono eleni, ond yr oedd pob tebygolrwydd y buasent yn ei harfer hi y fivvydd- yn nesaf, oblegid credai ef nad oedd tref yn y deyrnas ag oedd wedi ei gorlenwi a thafarndai fel yr oedd Caerfyrddin. Ceir yma 105 o dafarndai i 10,000 o drigolioa, neu yn fwy priodol i 8,000. Credai y Doctor mai y nifer olaf oedd yn gwncyd defnydd o'r 105 tai hyn felly tafarn ar gyfer bob 76 o'r trigohou a rhaid oedd gwneyd y nifer yn llai, a rhybuddiai bwynt hyd yn nod pe na bai cyfnewidiad yn y gyfraith, ei bod yn eithaf posibl ar ol y fhvyddyn hon y buasai yr ynadou yn llei- hau eu rbif. Wrth gwrs, y rhai'cyntaf i golli eu trwyddedau, fyddai y rhai fuasai a mwyaf o gy- huddiadau yn eu herbyn y nesaf atynt fyddai y cyfryw funsai drwgdybiaeth am danynt, ei bod yn hysbys iddynt fod y gyfraith yn cael ei thori mewn llawer i dafarndy, ond hyd yn hyn nad oeddent wedi cael tystiolaethau digon cedyrn i'w dwyn o fiaen y faiuc. Hysbysid hwynt gan yr heddgeid- waid bod y ddeddf Y11 cael ci thori gan rai bob Subboth tybieut felly mai priodol iddynt hwy oedd eu rhybuddio ar gyfer y dyfodol, fel na byddai ganddynt y pryd hyny esgus am eu pechod. Nid oeddent hwy heb ystyried fod llawer o dafarn- wyr yn y dref yn cario eu masnach yn mlaen mewn modd anrhydeddus, ac yr oedd yn drueni mawr bod y eyfryw yn cael dyoddef oherwydd y lleill nad oedd mor ofalus am drefn, a rhool, a chyfraitb. Digon tebyg y bydd gofal mwy yn mhlith y frawdoliaeth dafarnyddol am y gyfraith a'i gofynion y flwyddyn nesaf. Da genym uad yw cyfeillion dirwest yn segur yr adeg hon, ond yn gweithio yn egniol, ac y mae i ddirwest heblaw h wy ugeiniau o wyr nad ydynt yn codi cwpan Bacchus at eu gweiusau, ond eto heb y gwroldeb hwnw i ddangos byny i'r byd. Yr wyf wedi synu lawer gwaith beth sydd yn peri i rai gadw eu tai at y fath fasnach. Nid bywiolaeth erioed, oblegid mae degau ohonynt nad ydynt ond hongian gyda hi, a thrugaredd a tbeuluoedd y rbai hyn fuasai dwyn oddiarnynt y drwyddod, a'u gyru at rywbeth gwell, a sicrhiiai iddynt hwy ac i'w teuln- oedd gartref mwy cysurus, Y mae y fath nifer o dafarndai yn ysmotyn du ar gymeriad ein hen dref grefyddol; ond credwn hyn, nad yw meddw- dod yn fwy yma na lleoedd ereill, oherwydd byn, dyfodiaid i'r dref sydd yn eu cynal-os cynal rhai hefyd-ae nid trigolion y dref. Gwawried y dydd pan y bydd sobrwydd yn teyrnasu yn mhob man. GOHEBYDD.

TREHARRIS.

TABERNACL, SCIWEN.

AGORIAD PENYGROES, PENFRO.

CAPEL ANNIBYNOL SALE M. LLANYMDDYFRI.