Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

STOCKTON-ON-TEES.

News
Cite
Share

STOCKTON-ON-TEES. URDDIAD GWEINID00. Dyddiau Sul a LIun, Medi 9fed a'r lOfed, cynaliodd cglwys Annibynol Gymreig y dref hon I gyfarfodydd urddiad Mr R. Erans, diweddar o Goleg Aborhonddu, i gyflawn waith y wcinidog- aeth Gristionogol; a chan fod yr oglwys yn ddiweddar wedi myned i dipyn o draul er ad- newyddu a glanhau y capel-ei baentio, farnishio, a'i ddodrefnu yu hardd a chyfleus—meddyliwyd mai nid anfuddiol fyddai gwircddu yr hen ddiareb, Lladd dan aderyn ag un gareg." Penderfynwyd casglu ar ddiwedd y cyfarfodydd tuag at dwyn treuliau yr adnewyddiad. Y gweinidogion o Gymru a wasanaethodd eleni ar yr achlysur oeddynt y Parchn Profif. D. Rowlands, B.A., Aberhonddu, a R. P. Jones, Pencader, sir Aberteifi. Am 1030, borou Sul, dechreuwyd gan y Parcli T. Jones (B), a pbre- gethodd Mr Jones, Pencader, oddiar Rhuf. xiv. 9 ar yr un adeg, pregethodd Proff, Rowlands yn Saesoneg yn nghapel Annibynol Seisonig Norton- road. Am 2 o'r gloch, gwasanaeth Saesoneg. Dechreuwyd gan y Parch E. Evans, y gweinidog newydd; a phregothodd Proff. Rowlands oddiar Matt. xiv. 2. Am 6 yn yr hwyr, pregethodd y Parch R. P. Jones oddiar Rhuf. ii. 7, a'r Proffeswr oddiar Es. xxv. -6-8—y ddau yn Gymraeg. Dydd LInn, am 2 o'r gloch, cynaliwyd cyfarfod yr urddiad, yr hwn a gariwyd yn mlaen gan mwyaf yn yr iaith Saesoneg. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch J. W. Goffin, South Stockton. Holwyd y gweinidog ieuanc yn y drefn arferol gan y Parch G. S. Ordish, gwein- idog eglwys Annibynol Seisonig Norton-road— Beth a'i tueddodd i gyflwyno ei hun i waith y weinidogaeth Gristionogol, Ei syniadau ar brif athrawiaethauy Bcibl, Trel'n Eglwys y Testament Newydd, &c. Atebwyd y gofyniadau gan Mr Evans yn wylaidd, pur gynwysfa-wr, a ibra boddhaol. Gofyuodd Mr Ordish am arwydd oddi Avrth yr eglwys o'i dewisiad o Mr Evans, yr hyn a wnaedgydag unfrydedd ar unwaith a gofynodd am yr un arwydd o du Mr Evans, yr hyn a wnaeth yn wylaidd a gostyngedig. Wedi canu penill, gweddiodd y Parch H. Kendal, Darlington, yn daer a gwresog iawn ar i Dduw Israel fendithio yr eglwys a'r gweinidog. Yna cafwyd anerchiad gan y Parch J. Bogue, B.A., gweinidog y Presby- teriaid Ysgotaidd, yr hwn a longyfarchai Mr Evans ar ei sefydliad yn y dref boblog hon, a gobeithiai y cawsai lawer o wenau yr Arglwydd, ac y gwelid fod ei lafur yn llwyddo yn yr Arglwydd. Yna traddododd Proff. Rowlands siars i'r gweinidog oddiar 2 Cor. v. 20—"Am hyny yr ydym yn genadau dros Grist," &c. Ar ol canu penill Cymraeg, traddododd y Parch R. P. Jones, Pencader, siars yn Gymraeg i'r eglwys oddiar 1 Thes. v. 12, 13—"A gwneuthur cyfrif mawr ohonynt mewn cariad er mwyn eu gwaith," &c. Sylwadau rhagorol; da fyddai i'r eglwys eu dal mewn cof. Wedi canu penill Cymraeg, terfynwyd gan Mr D. James, myfyriwr yn Ngholeg Nottingham. Ar ol y cyfarfod bwn, gorfu ar Proff. Rowlands ymadael, oherwydd fod amgylchiadau yn ei alw i fan arall. Am 7 yn yr hwyr, pregethodd y Parch R. P. Jones, Pencader, oddiar loan iii. 8. Yr oedd h wn yn gyfarfod nodedig-yr oedd yr eneiniad oddi uchod i'w deimlo, ac Ysbryd y peth byw yn y traddodiad o'r gwirioneddau. Ar ol y cyfarfod hwn, cynaliwyd cyfeillach gyffredinol, gyda gwahoddiad i bawb aelodau crefyddol i aros ar ol. Yr oedd hon yn un o'r cyfeillachau goreu y buom ynddi erioed. Yr oedd yr holl ffiniau gwahaniaethol enwadol fel pe wedi llwyr ddiflanu, oherwydd yr oedd yn bresenol aelodau o bob enwad, a phawb yn adrodd en profiadau yn y modd mwyaf rhydd, ac yn llon- gyfarch Mr Evans ar ei ddyfodiad i'r lie mor siriol a chynes a phe buasent yn croesawu gweinidog i'w plith eu hunain. Felly terfynodd cystal cyfres o gyfarfodydd ag y cawsom yn ein bywyd. Yr oedd yr hen Efengyl mer afaelgar, a'r hen ystori am y Grocs mor swynol ag erioed. Derbynied y gwahanol enwadau crefyddol Cymreig yn y lie ddiolchgar- weh cynesaf yr eglwys Annibynol am eu caredig- rwydd a'u sirioldeb yn tori i fyny y gwasanaeth yn y gwahanol gapeli ar yr achlysur, ac yn rhoddi eu presenoldeb mor gryno yn yr holl gyfarfodydd. Parhaed brawdgarweh, yw ein dymuniad. Casglwyd y swm anrhydeddus o .£30, heb ofyn am geiniog gan neb tuallan i'r capel. Ni chanfaswyd am danysgrifiadau oddiwrth neb, ond gadawyd yn hollol ar rydd-ewyllys pob un i roddi yn ol ei gydwybod ei hun. Nid yw yr eglwys ond bechan o rhif-o gylch 70—heb yr un aelod uwchlaw sefyllfa gweitbiwr. Dyma un o'r engreifftiau goreu a welsom eto o nerth yr ewyllys rydd. GOMER.

C Y SEGRY SB AIL.

Advertising

CYMANFA LIVERPOOL A BIRKENHEAD.