Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

STOCKTON-ON-TEES.

C Y SEGRY SB AIL.

Advertising

CYMANFA LIVERPOOL A BIRKENHEAD.

News
Cite
Share

yn un peth, i/n galw yn uchel amom i roddi pob cefnogaeth o fewn ein gallu i'r ymdrechion egriiol a chanmoladwy a wneir y dyddiau hyn i sobri y byd. Melldith benaf ein awl ad yw anghymedroldeb, ac un o arwyddion mwyaf ffafriol yr amserau presenol, o'r tu arall, yw y deffroad, yr adfywiad, a'r Uwyddiant nodedig sydd wedi bod yn y deyrnas hon yn ddiweddar yn nglyn a'r achos dirwestol; ac yn awr, pan y mae miloedd o'n brodyr ar y maes ya ymladd yn ddewr yn erbyn meddwdod, a chyfeddach, a diota, y mae dirfawr berygl i ni ddigio y Nefoedd os ceir ni yn euog o sefyll draw, fel Mercz, a pheidio dyfod allan yn gynorthwy i'r Arglwydd yn erbyn y cedyrn. Bydded i ni ymdrechu magn y plant yn Nazareaid i Dduw o'r groth, a rhybuddio yr ieuenctyd i ochel rhag dechreu pellwair a'r diodydd meddwol, y rhai sydd wedi bod mor ddinystriol i laweroedd a welwyd unwaith yn cychwyn yn obeithiol. Mae arwyddion yr amserau yn galw eto ar wylwyr Seion i anghefnogi pob difyrwch iselwael ac amheus. Mae tuedd ryteddol yn yr oes hon i redeg ar ol difyrwch. Hwyrach fod perygl i'n pobl ieuainc roddi gormod o'u bryd ar ryw fath o ganu, a dim ond canu, fel pe byddent yn adar, yn hytrach nag yn ddynion. Mae yn sicr, pa fodd bynag, fod llawer o bethau isel a dichwaeth wedi cael euhadrodd a'u canu hyd yn nod mewn capelau yn ystod yr uga;n mlynedd diweddaf, ac y mae y dylanwad wedi bod yn andwyol iawn i grefydd. Yn awr, fe ddylai gwylwyr Isnwl osod eu gwyneban yn grvf yn erbyn pethau o'r fath hyn. Na chaniatacr i Beth ei, ty Dduw, gael ei droi yn Beth-afen, ty y gwagedd, ac na oddefer i'r ffieidd-dra anghyfaneddol gael oi ddwyn i'r lie sanctaidd. Drachefn, y mae arwyddion yr amserau yn galw yn uchel ar wylwyr Seion i ymdrechu gwreiddio yr ieu- enctyd yn egwyddorion crefydd efcngylaidd a Phrotestanaidd. Un o nodweddion arnlycaf yr oes hon ydyw amheuaeth. Mae anffyddiaeth, o dan rith gwyddoniaeth, yn diwyd hau hadau amheuon yn meddyliau llaworoedd, ac y mae lluaws o bobl ieuainc mor bonwan a meddwl fod coleddu amheuon yn arwydd o fcddylgarwch, heb gofio fod y rhan fwyaf o'r dynion mwyaf galluog a dysgedig a fedd y byd herldyw yn gredinwyr diysgog yn ngwirioneddau y Beibl. Mae Defodaeth a Phabyddiaeth hefyd ar gynydd, ac y mae heidiau o Jesuitiaid wedi ymsefydlu mewn amryw fanau yn Nghymru; ac y mae lie i ofni nad ydym fel gwlad a chcnedl mor barod ac mor gymhwys ag y byddai yn ddymunol i wynebu y gwahanol beryglon hyn. Tra y mae gwybodaeth gy llredinol yn cynyddu yn gyflym, y mae seiliau i gredu fod gwybodaeth Y sgrythyrol yr oes hon yn llawer mwy arwynebol nag ei do yr oes o'r blaen. Camsyniad anffodus iawn oedd rhoddi yr Holwyddoregau heibio, gan fod hono y ffordd fwyaf manteisiol a llwyddianus i roddi syniad cryf i bobl ieuainc am athrawiaetlian crefydd ac y mae He i ofni fod llawer o'n pregethu yn ystod y blynyddau diweddafwedi bod a'i duedd yn fwy i ogleisioteimladau liaji i oleuo meddyliau ac argyhosddi cydwybodau. Y mae arwyddion yr amserau yn galw am bregethu mwy esboniadol, a da fyddai gweled dosbarthiadau Beiblaidd yn cael eu sefydlu yn gyifredinol. Ond wedi y cwbl, angen mawr yr amberau presenol ydyw tywalltiad belacth o'r Ysbryd Glan. Fe roddai hyny wedd newydd yn fuan ar bobpeth yn ein mysg, canys fe ymlidiai betbau niweidiol ae aonymunol allan o'n plith, ac fa wnai y drwg yn dda, a'r da yn well. Cyfyd drain a mieri ar dir fy mhohl, byd oni thywallter arnom yr Y sbryd o'r uchelder," &e. Bydded i wylwJr Seion ddyfod i deimlo yr angen am dano o ddifrif, ac yna fe ddaio yr amser nodedig i'r Arglwydd gyfodi a thrugarhau wrth Seion. Galwyd yn ddiweddaf ar y Parch D. lloberts, Wrexham, yr hwn a gyfeiriodd at Lais yr amscroedd at bobl oedranus yr cghvysi." Dywedodd:— Lied dywyll oedd ,ar Issichar yn y fcndíth a gy- hoeddai ei dad arno cyn ei farw Issachar sydd yn asyn asgyrnog yn gorwedd rhwng dan bun, ac a wcl lonyddwch mai da yw, a'r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fy id yn gaeth dan deyrnsfed." 0'id erbyn i Moses, cyn ei farwolaetb, fendithio meibion Israel, mae yr asyn wedi dyfod yn astronomydd. Yr hwn oedd yn rliy ddiog i adacl y tir hyfyd wedi dringo i blith y ser yr hwn oedd yn rhy hurt i ymysgwyd oddiwrth ei bynau, yn medru deall y clock mawr a wna-thai Duw Israel, a chyfrif symudiadau y byscdd ar wyneb dial y wybren yr hwn oedd yn rhy lwfr i'w amddiffyn ci liun yn medru gwybod a chyfarwyddo beth a ddylai Israel ei wneuthur" yn" galw y bobloedd i'r mynydd i aberthu ebyrtl) cyfiawnder." Gan fod y gwyliau yn cael ou rheoli gan y cyrff nefol, er deall amser y new- yddleerau, &c., hwynt-hwy fyddent yn cyhoeddi yr amserau, a thrvvy hyny yn galw y bobl i'r gwyliau i abcrthu. (Hwy oedd Robert Roberts, Caergybi, y Cymry. neu Zadkiel y Sacson). Y mae gan yr amser- oedd lais at bobl oedranus yr cghvysi; ac y mae o bwys ei ddeall; hob hyny y mae tuedd ynddynt i fyned 1 ymollwilg i dddifrawder, ac i feio pob peth. Nid oes un olygfa yn fwy poenus na gweled hen grefydd*r yu n;icall symud gyda'r amseroedd heb ei orfodi, ei lusgo. Yr oedd hen amaethwr wedi myned am y tro cyntaf i weled agerlongyn ymyl Pont Menai—yr enw oedd ganddynt ar yr agerlong y pryd hwnw oedd llong dan," Tra y bu efe i lawr yn y cabin gyda, chyfaill, y mae y lion yn cychwyn hob yn wybod iddo ef; aphan ddacth i'r dcck y mae yn tori allan i Hoeddio a'i lioll nerth, Wei, bobl, nid ydwyf fi ddim yn myn'd," Ond myn'd oedd raid bcllach. Y mae gormod o duedd i ofyn, Paham y bu y dyddiau o'r blam yn well oa'l' dyddiau hyn ? Nid o ddoel.hineb yr wyf yn ymofyn am y peth hyu." Yr oedd yr hen grcfyddwyr yn y dyddiau o'r blaen yn gwneyd gorchestion-myned drwy bob tyvsydd, bellder mawr, yn gyson i'r capel. Yroodd yn orchest. Ond y mae crefyddwyr y dydd- iau hyn yn gwneyd corcliestion hofyd. A phwy sydd yn gwneyd yr aberth mwyaf P Myned drwy y bobl i'r capelydd oedd arwyddion yr amseroedd hyny, end myned a'r capelydd at y bobl ydyw arwyddion yr am- seroedd hyn. Y mll.e pob cymhariaeth a ddefnyddir yn yr Ysgrythyr i osod allan y Cristion yn dangos ei fod i fyned ar gynydd. Llwybr y cyfiawn sydd fel y goleuni, yr hwn a, lewyrcha fwy-fwy hyd ganol dydd." Y cyfiawn hefyd a ddeil ei ffordd, a'r glân ei ddwy- law a ychwanega gryfder." Y mae rhyw ieuenctyd parhaol yn pevthyn iddo. Pan yn myned yn hen, nid ydyw yn heneiddio Ffrwythant eto yn euhenaint; tirfion ac iraidd fyddant." Y winwydden a nvddir yn ieuanc iawn ac yn ir Pan el hon gangen gu, n; oddef hon ei nyddu." Ond y mae gwinwydden yr Arglwydd yn dirf ac iraidd yn ci henaint. Un o'u hynodrwydd ydyw eu bod yn hawdd eu trin." Adnevvyddant eu nerth," ac ad- newyddir eu hieuenctyd." Dywedai y Salmydd ei fod "fel olewydden werdd yn nhj^ Dduw." Y rheswm pa- ham y mae yr olewyddenyn fytholwyrdd, meddir, ydyw bod ei rliisgl mor llawn o nodd, n id all y gwres mwyaf mo'i lwyr sugno. Y mae y credadyn, yn rhinwedd ei undeb it Christ, fel prenau yr Arglwydd. yn llawn sugn." "Niwyroddiwrth ddyfod gwres, ei ddeilen fydd ir, ac ar flwyddyn sychder ni ofala, ac ni phaid a thyfu." Ond" efe a fydd fel pren wedi ei blanu ar Jan afonydd dyfroodd, yr hwn arydd ei ffrwyth yn ei bryd, a'i ddalen ni wywa." Ei geinciau a gerddant, a bydd ei degweh fel yr olewydden, a'i arogl fel Liban- us." Heb wybod yr amserau y mae yn berygl i hen grefyddwyr fyned i ymoliwrig i ddifrawder, a gadael i ereill wcithio gystal ag y gwnaethant hwy yn eu tymhor, y byddai pob peth yn lied dda, heb gofio riad yw yp amser cadw noswyl eto. Y cytuudeb oedd bod "yn ffyddJawn hyd ang-eu." Wedi unwaith roi y 1 law ar yr aradr, nid yw y neb sydd yn edrych ar y pethau sydd o'i ol yn deilwng o deyrnas Dduw. A hyn gan wybod yr amser ei bod hi weithian yn bryd i ni ddeffroi o gysgu; canys yr awrhon mae ein hiacbawdwriaeth ni yn nes na phan grodasom. Y nos a gerddodd yn mhell, a'r dydd a nesaodd am hynybwriwn oddiwrth- ym weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau y gol- euni." Edrych yr amser—Beth ar y gloch ydyw? Y mae yn bryd codi. Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chvfod oddiwrth y meirw." Paid bod yn debyg i'r meirw. Daliwn gytles ein gobaith yn ddisigl (canys ffyddlawn yw yr hwn a addawodd) a chyd-ystyriwn bawb ein gilydd, i ymanog i gariad a gweithredoedd da. Heb esgeuluso ein cydgynnlliad ein hunain, megys y mae arfer rhai; ond anog bawb ein gilydd, a hyny yn fwy o gymaint a'ch bad yn gweled y dydd yn liesau." Yr ydym yn ncsu i'r porthladd chwtliwch am y luggage; mynweh fod nid yn uni;r mewn cyflwr, ond mewn agwedd barod. Dyna lais yr amseroedd at yr hen ddysgyblion. Terfynwyd y Gyfeillach gan y Parch O. Evans, ac ymadawodd pawb gan deimlo eu bod wedi mwynhau un o'r cyfoiliachau goreu, a dysgwylir eifeithiau- dymunol i aros ar ci hoi.