Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YR YSGOL SABBOTIIOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SABBOTIIOL. Y WEBS BNYHGWLADWLILABTHOK. {International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. MEDI 16.—Mam Weddïgar.-1 Sam. i. 21-28. TESTYN EURAIDD. Am y bachgen hwn y gwedeiais a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo.Adnod 27. RHAGARWEINIOL. GRLWIR. y llyfr hwn ar enw Samuel, nid am mai efe a'i hysgrifenodd, ond am ei fod yn cynwy3 banes bywvd Samuel, a'r pethau bynotaf a ddygwyddasant yn ei air)-, sor ef. Bernir mai casgliad o wahanol ysgrifeniadau ydyw dau lyfr Samuel, ond pwy a fu ya en casglu ac yn eu trefnu sydd aiihawdd ei benderfynt). Gellir tybied i Samuel ei hun ys.^rif'enu y lljfr cyntaf hyd at ddiwedd pen. xxiv., a bod y gweddill wedi ei ychwan- egu gan Jeremiah, Dafydd, Leu Ezra. Barna Dr Gill mai y proffwydi Gad a Nathan a ysgrifenodd yr ail lyfr a diwedd y llyfr cyntaf. Nis gellir penderfynu i sicrwydd awduriaeth y llyfrau hyn. Mae cysylltiad agos rhwng y llyfrau hyn ac amryw o'r Salmau, ac y mae yr amgylchiadau a gofnodir ynddynt yn tafiu goleani ar lawer o'r Salman. Samuel ydoedd yr olaf o'r Barnwyr. Mab ydoedd i Elkanah, o Ramath Sophim, yn mynydd Ephraim, o'i wraig Hannah. Yr oedd Hannah yn anmhlantadwy, ond ganwyd iddi Samuel mewn atebiad i weddi. Pan ofynai Hannah am fab, hi a addunedodd yr adduned hon. "0 Ar- glwydd y Jluoedd, os gan edrych yr edrychir ar gystudd dy lawforwyn, ac a'm cofi, ac nid anghofi dy lawfor- wyn, ond rhoddi i'th lawforwyn fab, yna y rhoddaf ef i'r Arglwydd holl ddyddiau ei einiocs, ac ni ddaw ellyn ar fii ben ef." Atebwyd ei gwed'di. Cafodd fab, a galwodd ei enw Samuel, sef nerth gweddi. Cofiodd Hannah ei hadduned, a chyflawnwyd hi. Dygwyd y bachgen i Siloh, lie yr oedd arch Du v, at Eli yr arch- offeiriad, a chyfl-vynwyd ef yn hollol nc am ei oes i wasanaethu yr Arglwydd. Trwy ddylanwad Samuel dygwyd oddiamgylch gyfnewidiad hollol yn arferion ac yn amgylchiadau cenedl Israel. Cyn dyddiau Samuel yr oeddent wedi syrthio i arferion eilunaddolgar, ae yn ddarostyngedig i'r Philistiaid. Y mae yr hanes a gawn yn llyfr y Barnwyr (xvii., xviii.), yn dangos eu bod wedi en darostwng yn isel ia^n fel conedl. Yn fuan wedi i Samuel ddyfod j awdurdod, daeth cyfne- widiadan ar bethau. Gyrwyd y Philistiaid o fewn eu terfynau, ac ail sefydlwyd gwasanaeth rheolaidd i'r gwir Dduw trwy y wlad. Mewn atabiad i'w gweddi rhoddodd yr Arglwydd Samuel i Hannah rhoddodd hithau of i'r Arglwydd, a rhoddodd yr Arglwydd ef i Israel ddengain mlynedd; a rhodd werthfawr ydoedd, Un o brif fendithion Daw i Israel ydoedd Samuel, bacbgen gweddiaa Hannah." ESBONIADOL. Adnod 21.—" A'r gw Elcarah a aeth i fyny, a'i holl dylwyth, i offrymu i'r Arglwydd yr aberth blynyddol, a'i adduned." Elcanah, gwr Hannah. Ty bir ei fod yn Lefiad o deulu Kohath. Ond er ei fod yn Lefiad, nid ydyw yn ymddangos ei fod yn gwasanaetbu yn y Tabernacl. Hynodir ef yn unig fel tad Samuel. A aeth ifyny, a'i holl dylwyth, i offrymu i'r Arglwydd." Sef o Ramathaim i Siloh, psllder o tua pedair milldir ar ddeg. Yn Siloh yr oedd y Tabernacl a'r arch, ac felly daeth yn brifddinas yr Israeliaid. Sat'ai oddeutu dwy filldir ar bymtheg i'r gogledd-ordewin o Jeru- salem. Yn Siloh y bu yr arch hyd nes y cymerwyd hi gan y Philistiaid yn nyddian Eli yr archoffeiriad. A'i holl dyhvyth, sef ei wragcld, ei blant, a'i wasanaeth- yddion. "Yr aberth blynyddol." Yr oedd yna dair gwyl arbenig i ba rai y gorchymynid i bob gwryw yn Israel fyned yn flynyddol. Yn y gwyliau hyn yr oedd- ent i offrymu aberthau i'r Arglwydd yn ol gorchymyn y gyfraitb. Dywedir mai ystyr llythyrenol y geiriau ydyw aberth y dyddiau, sef y degymau blynyddol oeddent i'w cyflwyno i'r Arglwydd ac i'w offeiriaid. Gwel Dout. xii. 17,18. A'i adduned." Trwy hyn ymddengys fod Elcanah wedi cydsynio ag adduned ei wraig Hannah. Adnod 22.—" Ond Hannah nid aeth i fyny canys bi a ddywedodd wrth ei gwr, Ni ddeuaf fi, hyd oni ddiddyfner y bachgen: YUIt y dygaf d, fel yr ym- ddangoso efe o flaen yr Arglwydd, ae y trigo byth." Ond Hannah, Nid oedd rhaid i'r gwragedd fyned, ac yr oedd gan Hannah reswm digonol dros area gartref. Hannah, yr un enw a Nana neu Anna yn ein dyddiau ni. Ystyr yr enw ydyw prydfertlnveli, medd rhai. l'ybia ereill mai gras neu rodd ydyw ei ystyr. Yr oedd yn wraig nodedu nid fel mam Samuel, ond fel proffwydes. Y mae ei chan o ddiolchgarwch yn un o'r rhai prydferthaf yn y Boibl, ac yn tebygoli i gan Mair, iram ein Hiachawdwr. Cymharcr 1 Sam. ii. 1-10, a Luc i. 46-55. "Hydoniddiddyfnery bachgen." Ni byddent yn diddyfnu eu plant yn y dwyrain hyd nes enbodrhwng dwy a thair oed, ac nid oedd Hannah am ymddangos ger bron yr Arglwydd hyd nes gallasai gyflawni ei hadduned trwy gyfiwyno ei mab iddo. Ac y trigo byth." Nid oedd y Lefiaid yn g-yffredin i was- anaethu ond l'hwng 25ain a 50ain mlwydd oed ond yr oedd Samuel i aros yn ngwasanacth yr Arglwydd ar hyd ei oe8. Adnod 23.—" Ac Elcanah ei a ddyVvedodd wrthi, Gwna yr hyn a welych yn dda aros hyd oni ddi- ddyfnech ef; yn unig yr Arglwydd a gyiiawno ei air. Felly yr arhddd y wraig, ac a fagodd ei mab, nes iddi ei ddiddyfnu ef." Y mae perffaith gyd-ddealltwriaeth rhwng y ddau, ac y mae Elcanah yu dangos fod gan- ddo ymddiriedaeth hollol yu oi wraig. "Yr Arglwydd a gyflawno ei air." Pa air a olygir gan Elcanah sydd anhawdd penderfynu. Darllenir gan Boothroyd dy air." Hyny yw, R'ulluo;;ed yr Arglwydd di i gyflawni dy air, trwy gyflwyno y bachgen i'r Arglwydd, i drigo yno byth. Tybia ereill fod yma gyfeiriad at ryw air a dderbyniasai Elcanah, nen ei wraig, oddiwrth yr Ar- glwydd trwy ddatguddiad mewn perthynas i'r bachgen. Adnod 24.—" A phan ddiddyfnodd hi ef, hi a'i dug efifynygyda hi, a thri o fustych, ac un ephah o beilliaici, a chostrelaid o win a hi a'i dug ef i dy yr Arglwydd yn Siloh a'r bachiren yn ieuanc." A th; i o .fnstych-uu yn boot),. -off rwi-r), un yn bech-afccrth, ac un yn aberth hedd, Darllenir yr ymaJrodd mewn am- ryw o'r cyfieithiadau yn wahanol—" Un bustach tair blwydd oed. Ni sonir yn yr adnod nesnf ond am offrymiad un bustach. Ond gan mai tair deafed ran cplmh o beiiliaid oedd i'w offrymu gyda philb bustach, a bod ephah yn cad ei nodi ynn, y mae yn debygol fod tri bustach wedi eu hoffrytnn. Ephah. Mesur o wyth galwyn, me Id rhai; ychydig (hos hcdwar galwyn, medd ereill. A chostrclaid o win, neu groen llavvn o win. Gvvnolid en costrelau o grwyn geifr, y croen wedi ei dyuu ymaith dros y pen heb ei agor ar ei hyd, a'r rhan isaf, a'r lie y linasai y coosau, wedi eu gwnio i fyny, a gwddf y croen yn wddf y gostrel." Haner bin, sef tua thri pint o win, oedd yn ddiod- offrwm guel Num. xv. 10. Felly yr ydym yn gweled fod oflErwm y cyscgriad yn cael ei wnejd i fyny o'r bustach, peilliaid, a'r gwin. A'r bachgen yn ieuanc." Yn Jlythyrenol, yn 01 yr Hebraog." Y plentyn oedd blentyn." Cyflwynwyd ef er ynjblentyn i wasanaeth yr Arglwydd. Ty Dduw ydoedd yr unig gartref yr oedd i wybod am dano, ac yr oedd i ddeibyn ei argr-affiadau cyntaf yno. Adnod 25.—" A hwy a laddasant fustach, ac a ddyg- asant y bachgen at Eli." Sof y bustach neillduol oedd yn cael ei gyflwyno yn ngwasanaeth cyflwyniad Samuel. Eli-yr archoffeiriad. Perthynai i dy Ithamar, mab ieueugaf Aaron. Barnodd Israel ddeu- gain mlynedd. Yr oedd yn ddyn da, ond beir ef am nad oedd yn llywodraethu ei dS" ei hun yn dda. Adnod 26—" A hi a ddywedodd, 0, fy arglwydd, fel y mae dy cnaid yn fyw, fy arglwydd, myfi yw y wraig oedd yn sefyll yma yn dy ymyl di, yn gweddio ar yr J Arglwydd." Dwg ar gofi Eli yr amgylchiadau a gof. nodir yn adnodau 14 a 15. Fel y mae dy enaid yn fyw. Y mae hon yn ffurf o Iw neillduol i lyfrau Samuel. Yn sefyll yma—ar yr un spot. Yr oedd yr holl amgylchiad yn fyw yn ei chof. Adnod 27.—"Amy bacbgen hwn y gweddyais a'r Arglwydd a roddodd i mi fy nymuniad a ddymunais ganddo." Yma y cawd ef trwy weddi, acyma y mae yn cael ei roddi i'r Daw sydd yn wrandawr gweddi." Er nad oedd wedi gwneyd ei hadduned yn gyhoeddus, eto yr oedd yn teioilo yr un mor rhwymtdig, ac y mae yn adrodd yr amgylchiadau i Eli. Adnod 28.—"Minan hefyd a'i rhoddais of i'r Ar- glwydd yr holl ddyddiau y byddo efe byw, y rhodd- wyd ef i'r Arglwydd. Ac efe a addolodd yr Arglwydd yno." Rhodd oddiwrth yr Arglwydd ydoedd, a hyny mewn atebiad i weddi. Dyma Hannah yn cyflwyrio y rhodd yn ol i'r Arghvydd. "Ac efe a addolodd." Pwy? Samuel, modd rhai. Er mai ieuanc ydoedd, eto yr oedd wedi oi ddysgu i addoli. Efe a addolodd -yn llythyrenol, plygocld i lawl', gan d langos ei fod yn cadarnhau geiriau ei fam yn y cyflwyniad ohono. Elcanah, medd ereill, fel pen-teulu. Darllenir hefyd a hwy," gan gyfetrio at y ddau, sef Elcanah a Hannah. GWERSI. Ynymddygiad Elcanah a'i dylwyth cawn olwg ar arferion dcfosiynol teulu crcfyddol. Cyrohotit i gyd i offrymu i'r Arglwydd ac i dalu eu haddunedau iddo. Mewn teulu crefyddo! cydnabyddir hawl yr Ar- glwydd i'r plant, a chyflwynir hwy iddo. Mewn teulu crcfyddol ceir perffaith gydgoriad a chyd-ddealltwriacth. "Ac Elcanah a ddywedodd, Gwna yr hyn a welych yn dda." Cydnabyddir hawliau gwasanaeth yr Arglwydd o offrwm, a darperir ar gyfer byny fel I hm arhcn;g o ddyledswyddau bywyd. Cydnabyddir gyda diolchgarweh roddion Duw, a theimlir rhwvmedigaeth i'w defnyddio er go"oniant i Dduw. Yn yr boll hanes yr ydym yn cacl pra.wf neillduol o nerth gweddi. Mor bi'ydf'crth ydyw cymoriad Hannah yn yr ysbryd diolchgar a ddangosa am i'r Arglwydd ateb ei gweddi, a'r Ifyddlondeb gyda pha un y mae yn talu ei haddun- edau i'r Arglwydd. GOFYNIADAU AR Y AVEES. 1. Paham y gelwir y llyfrau hynyn lyfrau Samuel? 2. Pwy oedd Samuel ? Rhoddwch banes amgylch- iadau ei enedigaeth. 3. Pivy oedd Elcanah ac Hannah ? 4. Beth a olygir wrth yr aberth blynyddol, a'i add- uned," yn adnod 21 p 5. I ba le yr iii Elcanah a'i dylwyth i offrymu eu hebyrth ? Paham yno 1 6. Paham y gomeddodd Hannah fyned gydag- of? 7. Pa bryd y cyflwynwyd Samuel i'r Arglwydd P Nodwch yr hyn oedd yn gwneyd i fyny offrwm y cysegriad. 8. Pwy oedd Eli, a pha beth oedd nodwcdd ei gymer- iad ? 9. Beth yn neillduol sydd yn nodweddu Hannah yn ei chyflwniad o Samuel i'r Arglwydd ?

Advertising

Llawer Mewn Ychydig.

Advertising