Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

LIVERPOOL.

News
Cite
Share

LIVERPOOL. CYFARFOD Y GWEINIDOGION CYMREIG. Am 3 o'r gloch prydnawn Llun, Medi 3ydd, cynaliwyd Cyfarfod Gwoinidogion Cymrcig Liverpool yn nghapel Park-road. II wn oedd cyfarfod cyntaf y tymhor eleni. Nid oedd mor liuosog ag arfer, am fod amryw o'r gweinidog- ion oddieartref, a dau o weinidogion ffyddlonaf y Wcslcyaid i'r cyfarfod wedi ymadael, a'u hol- ynwyr heb gymeryd eu lie ond cafwyd cyfar- fod rhagorol yn mhob ystyr. Llywyddwyd gan y Parch W. Williams (B.), Bonsfield-street; a darllenwyd papyr galluog gan y Parch Dr Hughes ar lyfr Dr Fair burn, a elwir The City of God. Penderfynwyd yn y cyfarfod terfynol yn Mai fod y llyfr hwnw i fod dan sylw yn y cyfarfod dyfodol, a bod Dr Hughes i agor yr ymddyddan arno, yr hyn a wnaeth mown modd gorchcstol; ond ni chyrhacddodd yr hyn a barotoisai ond dros benodau cyntaf y llyfr. Cafwyd sylwadau ychwanegol gan creill. Pas- z, iwyd penderfyniad o lawenydd ar ddychweliad dyogel y Parch W. Nicholson, ac o gydym- deimlad a'r Parch G. Ellis, M.A., Bootle, yn ei gystudd blin. Bydd y cyfarfod nesaf yn y Tabernacl y LInn cyntaf yn Nhachwcdd, ac y mae y Parchn 0. Thomas, D.D., J. Thomas, D.D., W. Williams, Bonsfield-street, ac II. Jones, Birkenhead, i ddarparu br-asluniau o bregethau ar Matt. vi. 22. 23, a'r rhai hyny i gael eu beirniadu gan y cyfarfod. Mae y cyfar- fodydd byii o werth dirfawr, ac ni fyuai y rhai sydd yn eu dilyn yn fwyaf cyson er dim fod hebddynt. Darparodd eyfeillion caredig Park- road yn helaeth ar gyfer y cyfarfod; ac yn mhob man lie yr a y mae yn cael y croesaw mwyaf. AGORIAD ORGAN NEWYDD Y TABERNACL. Mae y Tabernacl wedi myned o clan adgy- weiriad ac adnewyddiad trwyadl. Yn anffodus, pau goclwyd y capel, codwyd ef yn rhy agos i'r graig, fel yr oedd y lleithder yn gweithio trwy y muriau, yr hyn a barai anghysur a thraul barhaus. Buasai yn arbediad o £ 500 o leiaf pc buasai hyny wedi ei wneyd ar y dechreu. Agor- wyd yn awr fwy na llathen o le clir rhwng y capel a'r graig o aragylch y capel. Adeiladwyd commitec room helaeth, a minister s vestry, a cloak room, a pliob cyfleusderau yn nglyn a hwy. Gwnaed dwy class room at wasanaeth y plant ieuengaf yn yr Ysgol Sabbothol. Paent- iwyd yr ysgoldy a'r capel, ac addurnwyd y nenfwd a'r parwydydd yn orwych. Cafwyd pwlpud newydd hardd, a chyfDewidiwyd safle y cantorion, ac aeth traul yr holl bethau hyn yn rhyw £ 1,200. Ehoddwyd organ fawr o wneuth- uriad Mr Willis, un o organ-adeiladwyr blaenaf y deyrnas. Mesura ddeunaw troedfedd o led, ac y mae ei phibellau mawrion oil wedi eu goreuro. Chwareuir yr organ o dan y pwlpud, yn ei ffrynt, ae eistedda y cantorion yn dair rhes o bob tu i'r pwlpud, yn gwynebu ar eu gilydd, ac ar yr organydd. Mac y trefniad y mwyaf cyf- leus. Bydd cost yr organ yn £700, fel y cyr- haedda yr holl draul i ryw £2,000, Aed i'r capel Sabboth, Medi 3ydd, a phregethwyd y boreu a'r hwyr gan y Parchn H. Jones, Birken- head, a Dr Thomas. Ni fwriedir cael cyfarfod- ydd ail agoriad, oblegid fod y Gymanfa y Sab- both nesaf. Nos Fercher, Medi 5ed, cafwyd cyngerdd—mawrcddog, wrth gwrs-i agor yr organ. Llywyddid gan Dr Thomas, yr hwn ar y dechreu a draddododd anorchiad byr, yn cynwys mynegiad o'r argymeriad presenol, o'r hwn y cymerwyd y ffeithiau uchod. Arwein- iwyd gan Tanymarian gyda'i holl fedr a'i frwd- frydcdd arferol. Canodd Eos Morlais a Mrs M. J. Williams er boddlonrwydd i bawb, a chanodd cor y lie amryw ddarnau yn rhagoroi. Gwasanaetliai Mr Branscombe, un o chwareu- wyr blaenaf y Philharmonic Hall, wrth yr or- gan, a thynodd allan holl nerth a phereiddiwch ei seiniaii. Diau nad oes organ o'i bath, o ran gwertli mewnol ac uddurnwaith allanol, mewn unrhyw gapel Cymraeg perthynol i unrhyw enwad. Cynlluniwyd ac arolygwyd yr holl waith gan Mr Thomas Owens, Richmond- terrace; ac er ei fod yn orchwyl anhawdd i gydio yr hen waith a'r newydd, eto y mae wedi ilwyddo i'w wneyd or clod iddo ei hun a bodd- lonrwydd i creill; a sicrheir fod yr holl rai a ymgymerodd a gwalianol ranau y gwaith wedi ei gyflawni yn oncst a ffyddlon. Mae eglwys y Tabernacl wedi sierhau tir at godi capel ac ys- goldy yn Anfield-road. Codir yr ysgoldy yn ddioed, a chodir y capel pan welir fod angenion y gymydogaeth yn gofyn hyny. Mae yr eglwys or yn hen bellach, eto yn iach a bywiog, ac yn gryfach at waith nag y bu erioed ac yr oedd y dorf luosog a ddacth yn nghyd i'r cyngerdd nos Fercher, a'r ysbryd caredig a ddangosid, yn brawf eglur fod yr cglwysi creill o bob cnwad yn llawcnhau yn ei llwyddiant.

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMREIG.

Y COLEG GOGLEDDOL.