Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

RHYDYBONT A CHAPEL NONI. -

LLANGLYDWEN A'R CYLCHOEDD.

News
Cite
Share

LLANGLYDWEN A'R CYLCHOEDD. "Plenydd.Cafodd y cymydogaethau yma eu breintio a dau ymweliad gan y boneddwr a'r dar- lithydd enwog uchod yr wythnosau diweddaf. Traddododd gyfres o ddarlitbiau dros y mudiad dirwestol dan arwydd y Riban Glas yn nghapelau gwabanol enwadau yr ardaloedd yma, sef Glandwr Llwynyrhwrdd, Nebo, Henllan, a Login (B.) y tro cyntaf; ac yn Trelech, Bwlchygroes (M.C), Maenclochog, a Chefnypant, y tro diweddaf. Yin- dyrai y bobl i'w wrandaw o bob cyfeiriad, bu rhai yn ei wrandaw bump neu chwech o weithiau, a chawsant ddarlith newydd ganddo bob tro. Siaradai mewn iaith syml, heb fod yn eithafol o un ocbr, ond gwirioneddau a ffeithiau oedd gan- ddo, a gosodai y rhai hyny mor glir ac amlwg o flaen y gwrandawyr, fel nad oedd modd dywedyd yn eu herbyn. Cadwai y tyrfaoedd i'w wrandaw am yn agos i ddwy awr heb fod neb yn teimlo blinder. Yr oedd ei wybodaeth gyffredinol, a'i allu desgrifiadol, yn gwneyd i'r gwrandawyr wylo a gwenu bob yn ail. Yn sicr efe ydyw Booth Cymru. Mae ei ymweliadau wedi gwneuthur llawer o ddaioni yn y rhanau hyn o'r wlad, drwy godi dirwest yn uwch i'r lan yn meddwl y bobl yn gyffredinol. Taliodd fywyd newydd yn yr hen ddirwestwyr, ac ymunodd llawer o'r newydd a'r mudiad. Gwnaeth rai nodiadau yn Cefnypant am y colofnau yn sefyll," a fyddai yn werth i ath- rawon yr Ysgol Sul a blaenoriaid eglwysi (sydd yn cadw draw o'r cyfarfodydd dirwestol) i'w cofi >, ac i feddwl am danynt eto. Nid oedd neb o'r blaen- oriaid yn bresenol yn rhai o'r lleoedd a nodwyd, or fod y capelau yn orlawn. Mae rbai blaenor- iaid yn yr ardal ymn, hefyd wedi bod yn eithriadau i'w cymydogion yn gyffredin, trwy ddarparu diod feddwol i'r rhai oedd yn en cynorthwyo yn y cyn.. auaf gwair diweddaf, a tbobyg nad acth pawb adref mor sobr ag y daethant. Frodvr, ni ddylai y pcthau hyn fod, "nid yn wingar" ond yn blaenori. mewn gweithredoedd da. Mae ymddyg- iadau fel hyn, nid yn unig yn sefyll ar ffordd Ilwyddiant dirwest, ond yn dadwneyd yr hyn a wnaed eisoes. Gobeithio v eeir diwygiad yn hyn ■-ic y coir diwygiad crefyddol nert-hufyn ganlyno'l i'r diwygiad dirwestol, lei y dytuunai Plenydd" nes gwneyd yr eglwysi yn rhy boeth i oddef pethau fel yna yn y set fawr. Dyfodiad etifedd i'w oed.—Anrhegodd Mr E. S. Protberoe, Y. H., Dolwilym, ei holl denantiaid a gwledd ar ddyfodiad ei fab hynaf i'w oed. Cyf- lwynodd y deiliaid hefyd anrhegion i'r etifedd. Yn yr hwyr cyneuwyd coelcerth fawr o dan er dathlu yr amgylchiad. Anerchwyd y rhai oedd yn bresenol gan Mr B. Davies, Spite, a Mr Lewis Davies, Trefedw. Diamheu fod y boneddwr yn teilyngu canmoliaeth am y gwasanaeth mae wedi ei wneuthur i'r ardal, yn neillduol fel meddyg. Hir oes iddo i wneuthur llawer o ddaioni eto, ac i'w fab ar ei ol i wneyd mwy. Gwnaeth 8yr John Barleycorn ei ymddangosiad ar y maes, ac er fod yna rai oedd yn bur hoff o'i gymdeithas, ac yn ymgrymu hyd y Ilawr er mwynhau ei gymdeithas yn well, methwyd a difa yr holl ddarpariaeth, a gorfu iddynt ddychwelyd tipyn yn ol. Gobeithio na wnaiff ei ymddangosiad mewn amgylcMadau o'r fath byth mwy yn yr ardal yma. Oni ellid defnyddio yr arian mewn ffordd a wnai fwy o les i'r ardal na'r uchod ? Agoriad Eglwys y Llan.-Bydd yn dda efallai gan rai oberwydd hen gysylltiadau, i glywed fod yr hen eglwys uchod wedi ei hadgyweirio a'i phrydferthu yn ddiweddar. Bu mewn cyflwr pur wael am flynyddau. Agorwyd hi yn ffurfiol ar y 24ain cynfisol. Bu yuo esgobion, archddiacon- iaid, olleiriaid, a churadiaid. Ond yr oedd yn eithaf amlwg cyn diwedd y dydd, fod rhai ohonynt wedi en magu ar fronau Ymneillduaeth. Mae y ferch yn well na'r hen fam i godi pregethwyr. NATHAN.

MAENCOCIYEWY N.

--------------LLANDILO.

CWMAFON.