Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

RHYDYBONT A CHAPEL NONI. -

News
Cite
Share

RHYDYBONT A CHAPEL NONI. Bu y ddwy efengyles Gymreig enwoor Misses Davies a Phillips ar ymweliad a'r lleoedd uchod Sabbotb, Awst 19ag. Yr oedd yma ddysgwyliad mawr am danynt drwy yr holl ardaloedd. Cynal- iwyd cyfarfodydd gweddi lluosog a chynes ar hyd yr wythnos flaenorol yn y ddau le i ddymuno am i'r Hwn sydd wedi eu codi a'u donio at ei waith mawr a phwysig eu llwyddo yn ein mysg y Sab- both. Yr oeddynt yn Capel Noni y boreu yn gwrando y Parch D. Williams, y gweinidog, yn traddodi y genadwri gyda nerth mawr oddiar Hosea xi. 8, ac yn cydgofio angeu y groes, a'r dorf fawr mewn dagrau gorfoledd. Am 2 o'r gloch, bu y ddwy efengyles yn anerch y dorf aruthrol gyda nerth a dylanwad anarferol. Yr oedd yno gawod- ydd o ddagrau edifeirwch yn cael eu tywallt gan y gwrandawyr, a chawodydd hefyd o ddagrau llawenydd yn cael eu tywallt gan y saint, a diau fod yno ganoedd yn barod i ddyweyd fel Pedr ar fynydd y gweddnewidiad, Da yw i ni fod yraa." Am 6, drachefn, yr oeddynt yn Rhydybont, ac er mor nerthol a dylanwadol oeddent am 2 yn Noni, rhaid addef eu bod ar dir nwch mewn nerth ac ysbrydolrwydd yn y cyfarfod hwyrol. Yr oedd yr ben gapel eang yn orlawn, ac yr oedd yno dyrfa fawr y tu allan wedi methu cael lie i fewn. Yr oeddym wedi clywed llawer yn adrodd hanes y ddwy chwaer ieuanc hyn, ac wedi darllen hanes eu hymweliadau a'r eglwysi; ond yn wir, yr yd- ym yn rhwym o addef eu bod yn y lleoedd yma wedi codi lawer yn uweh na'n dysgwyliadau. Cynaliwyd cyfeillacli grefyddol ar ol y cyfarfod- ydd cyhoeddns yn y ddau Ie, pryd yr arosodd rhai dychweledigiun newydd yn ein mysg. Nid oes ynom yr ambeuaeth lleiaf nad yw y ddwy chwaer ieuanc hyn wedi eu donio a'u daafon gan yr Arglwydd i faes y cynhauaf mawr. Y mae dwysder eu teimiad, difrifoldeb a thaerineb eu gweddiau, gonestrwydd eu hapeliadau at gyd- wybodau y gwrandawyr, yn nghyda chrefyddolder ou bysbryd a'u hymddyddanion yn y tai y lletyant ynddynt, yn brofion diymwad eu bod yn eiddo i Dduw Israel, ac hefyd eu bod yn cael eu barddel a'u llwyddo ganddo yn mhob man fel y cyfryw. Yr ydym o'n calon yn dymuno iddynt fywyd ac iechyd am flynyddoedd lawer, yn nghyda nerth o'r uchelder, i ddeffro yr eglwysi a'u hadeiladu yn ffydd sancaidd yr Efengyl, ac hefyd i ddychwelyd pechaduriaid wrth y canoedd at Fab Duw. Gwir Edmygyjdd.

LLANGLYDWEN A'R CYLCHOEDD.

MAENCOCIYEWY N.

--------------LLANDILO.

CWMAFON.