Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

WORKINGTON, CUMBERLAND.

News
Cite
Share

WORKINGTON, CUMBERLAND. Yr Aclios Cymreig.—Yr wyf wedi meddwl am- rywiol weithiau am anfon yehydig- gofnodion o'r lie uchod. Dicbon nad annyddorol fydd gan ein cydgenedl yn Nghymru glywed am danom mewn ystyr grefyddol. Sefydlwyd yr achos uchod gan ddau enwad yn fwyaf neillduol er's tua tair neu bedair blynedd ar ddeg yn ol mewn lie o'r enw Derwent Tinplate Works o fewn milldir i'r dref uchod. Erbyn hyn mae ein cydgenedl yn y lleyn fwy gwasgaredig, a'r gweithfeydd wedi cynyddu i'r fath raddau fel y tybiwyd yn briodol symud yr achos i'r dref, fel ag i fod yn fwy cyflens a cban- olog. Felly llwyddasom i gael ystafell gysurus i ymgyfarfod ynddi yn St John's Court, Jane-street, am yr ardreth o bedair punt ar ddeg y flwyddyn. Er ein bod yn yehydig, ag o wahanol enwadau, gallwn ddyweyd, wele y bobl yn gytun yn yr nn lie, ag o'r un iaith, er's pump Sabboth bellacb. A'r Sabbothau diweddaf ydoedd y rbai cyntafi bregethu Cymraeg gael eu traddodi yn y dref, a'r Parch J. M. Jones, Nebo, Llanllyfni, a gafodd y fraiut o wneyd hyny yr hwn a fa yn ein gwasan- aethu am dri Sabboth. Y mae yn ddiau fod y gyriulleidfa luosog a ddaeth yn nghyd y Suliauyn profi doethineb y symudiad. 0 frodyr, gweddiwch drosom ar ran y chwaer fechan, Derwent Eowling Mill. R. S. JONES.

ABERTEIFI.

MEITHRIN TRAMGWYDD.

Advertising

CYMANFA LIVERPOOL A BIRKENHEAD.