Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

CAERLLEON A'R OYFFINIAU.

News
Cite
Share

CAERLLEON A'R OYFFINIAU. Mae dyn o'r enw Robert Jones mewn dalfa yma i'w ddwyn o flaen y frawdlys nesaf yn y ddinas hon, ar y cyhuddiad o geisio cymeryd ymaith fywyd ei blentyn chwe' mis oed drwy ei daro yn erbyn post y pellebyr, ac wedi hyny ei daflu i'r camlas. Gwaredwyd y plentyn ac y mae yn g well a. Dyddiau Sul a Linn, Awst 26ain a'r 27ain, cynaliwyd cyfarfod pregethu blynyddol y Method- istiaid Calfmaidd yma, pryd y gweinyddwyd gan y Parchn J. Harris Jones, M.A., Ph.D., Trefecca, • ac O. Thomas, D.D., Lerpwl. Dydd Llun, Awst 2/ain, agorwyd ysgol newydd yma perthynol i Eglwys St. loan. Cyflawnwyd y seremoni gan y Due Westminster, yr hwn a adeil- adodd yr ysgol ar dranl o saith mil o bunau, ac a roddodd y tir ei bunan hefyd. Yr un dydd ceisiodd John Cooper ladrata pwrs boneddiges yn ngorsaf y rheilffordd yma, a gwobr- wywyd of am IiYnli a dau fis o garchariad. Hefyd, yr lll1 aydcl nnfoawyd Mary Ann Elson i garcbar am ddau fis am ledrata gown o eiddo Sarah Ann Hughes. Yr wythnos ddiweddaf derlfrydwyd .Thomas Roberts, Maesydre, Wyddgrug, bachgenyn deu- ddeg oed, i ddeg diwrnod o garchariad, ac i fyned wedi hyny i ysgol ddiwygiol am bum' m]ynedd am ledrata car a cheifyl perthynol i Mr John Jones, butcher, Llanarmon. Yn ngorsaf y rheilffordd yn Bettws-y-eoed, dydd Sadwrn, Awst 25ain, aeth y gerbydres dros John Millington, un o weision y cwmpeini, a symudwyd ef i glafdy Bangor, ond bu farw yr un noswaith. Tra yr ydoedd dyn o'r enw Mesham o Bwcle sir Fflint y noswaith o'r blaen, yn gollwng allan ergyd o ddryll er mwyn ei lanhau, saethodd blentyn bychan, and nid yn farwol. Nos Fercher, Awst 29ain, lladdwyd Edward Davies, llytbyr-gludydd, drwy i dren redeg drosto yn ngorsaf y rheilffordd yn Fflint. Mae y inilwr o Wrexham y cyfeiriasom ato yr wythnos o'r blaen, yr hwn a ddiangodd ymaith gyda swm o arian, eiddo ei gydfilwyr, wedi dyfod i'r ddalfa, a'i ddedfrydu i naw mis o garchariad. Y dydd o'r blaen tra yr ydoedd gwra.ig glowr yn Wrexham yn magu ei pblentyn pymtheg mis oed. ac ar yr un pryd yn ceisio tori bara, ynddam- weiniol llithroad y gylle'.l ac aeth drwy drwyn y baban nes o'r bron ei wabanu oddiwrth ei wyneb, ond gan iddo gael cymhorth meddygol yn bryd- lou, hyderir y bydd i'r plentyn gael llwyr ad- feriad. Bore Gwener, Awst Slain, cafwyd corff John Ladmore yn yr afon Dyfrdwy. Ymddengys ei fod wedi cweryla a'i wraig o achos l'hyw ddrwg- dybiaeth y nos Lun blaenorol, ac aeth allan o'i dy yn y ddinas bon, gan ddyweyd ei fod yn myned i foddi ei bunan. Gan na ddychwelodd gartref, tybiai y wraig ei fod wedi myned at ei deulu i Manceiniou, ond yn mhea diwrnod non ddau an- fonodd i ymofyn am dano, a pban dderbyniwyd atebiad yn dyweyd nad oeddid yn gwybod dim o'i hane3, gwnaed ymchwiliad yu yr afon, a daothwyd o hyd i'r corff. GOHEBYDD.

[No title]

Advertising

BANGOR.