Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

YR YSGOL SA-BBOTIIOL.I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SA-BBOTIIOL. Y WERS EHYNGWLADWEIA.ETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. MEDI 9fed.—Euth a Naomi.-Ruth i. 14-22. Y TESTYN EURAIDD-" A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymadaw a thi, i gilio oddiar dy ol di: canys pa le bynag yr elych di, yr iif finau ac yn mha le bynag y lletyech di, y lletyaf nnau dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw inau."—Adnod 16. EHAGAKWBINIOL. ENWIR y llyfr hwn ar enw Ruth, am mai ei hanes hi yn benaf a gynwysa. Y mae yn fath o atodiad i Lyfr y Barnwyr, ac yn rbaglith i hanes Dafydd, achyddiaeth yr hwn a olrheinia. Tybir yn gyffredin fod y dygwyddiadau a gofnodir wedi cyoieryd lie rhwng dyddiau Josua a Gedeon, yn amser Samgar, y trydydd barnwr fu ar Israel. Mae yr hanes yn eglurhad nodedig o oruwch- reolaeth Rhagluniaetb, ac y mae yn dwyn perthynas neillduol ag acbyddiaeth y Gwaredwr. Cynwysa hefyd gysgod nodedig o alwad y Cenedloedd, canys Moabes oedd Ruth. Yn Llyfr y Barnwyr, ni chofnodir ond yr amgylchiadau cyffrous hyny a ddygwyddasant pan oedd Israel dan arweiniad eu Barnwyr yn ymdrechu ym- ryddhau eu hunain o afaelion eu gorthrymwyr. Yn Llyfr Ruth, ceir golwg ar arferion teulnaidd y dyddiau hyny, y rhai sydd yn dangos fod purdeb, a chariad, a symledd yn nodweddu llawer teulu, er yn nghanol rhyfeloedd a son am ryfeloedd. Y mae yn debygol mai Samuel a ysgrifenodd y llyfr hwn, a hyny yn nyddiau Dafydd. Y mae yr hanes yn nodedig o ddyddorol, ac wedi ei gyfleu yn y modd mwyaf effeithiol. Gadawa Elimelech a'i wraig Naomi, a'i ddau fab Mahlon a Chilion, Bethlehem Judah, ac ymfudant i wlad Moab. Safai y wlad ar yr ochr ddwyreiniol i'r Mor Marw, a phreswylid hi gan hiliogaeth Lot. Cenedl eilnnaddolgar a drwg ydoedd. Daeth Elimelech a'i deulu yma i chwilio am ymborthi'wanifeiliaid, canys yr oedd newyn yn Bethlehem. Tybir ei fod o gyfoeth mawr mewn anifeiliaid. Paham yr aeth i Moab yn lie i'r Aipht, yn ol arfer yr Israeliaid mewn adeg o newyn, nis gellir pender- fynu i sicrwydd. Efallai nad oedd y ffordd i'r Aipht yn ddyogel oherwydd y gelynion, ac y mae yn ymddangos fod buddugoliaethau Ehud wedi rhoddi rhywfath o safle i Israel yn ngwlad Moab. Y mae eu henwau yn awgrymu eu bod fel teulu o safie arirbyded-dus-Elimelech, fy nuw yn frenin; Naomi, hawddgar neu prydferth Mahlon a Chilion, llawenydd ac addurn. Dywedir fod pob enw cyfansawdd yn terfynu gyda melech yn perthyn i ddynion o safleoedd uchel. Ni ddy- wedir yn bendant fod Elimelech wedi pechu wrth ymfudo i Moab, ond y mae yr hanes yn awgrymu hyny. Yr oedd Israel wedi ei sefydlu yn Ngwlad Canaan, ac ni ddylasent symud i diriogaeth y Cenedloedd. Dylasai Elimelech fod yn foddlawn dyoddef gartref, ac ymddiried yn ei Dduw, yn hytrach na pberyglu ei hun a'i deulu i ganol dylanwadau eilunaddolgar a phechadurus y Moabiaid. Y mae yr adfyd a'i cyfarfyddodd ef a'i deulu yn dangos nad oedd wedi gwneuthur yn iawn. Felly y mae Naomi yn cyffesu. Ceir hanes y blinfyd a'i cyfarfyddodd yn penod i. 3-5. Bu Elimelech farw wedi cyrhaedd tir Moab cyn i'w feibion briodi dwy o ferched y Moabiaid. Diau y buasai hyn yn ddrwg yn ei olwg, gan fod Duw yn gwahardd hyn—gwcl Deut. vii. 2. Dywed y Caldaeg, "Hwy a droseddasant orchymjn gair yr Arglwydd, wrth gymeryd gwragedd dyeithr." Y mae yn wir iddynt fod yn hynod o hapus yn eu priodas. Ni ddylanwadwyd arnynt i addoli duwiau gau, ond o'r ochr arall, ni lwyddasant hwythau i gael eu gwragedd i addoli y gwir Dduw. Ar ol marwolaeth ei gwr y penderfynodd Ruth obeithio dan adenydd Duw Israel, a dywedir yn bendant fod Orpah wedi dychwelyd at ei duwiau. Er hyn, y mae yn ymddangos fod eu cartref yn un dedwydd, er nad yn un llwyddianus. Wrth frwydro ag anffodion bywyd, ymwasgent yn dynach at eu gilydd mewn serch ac anwyldeb. Bu farw Mahlon a Chilion, a gadawyd y fam a'r ddwy wraig weddw i gysuro eu gilydd goreu y gallent. Pendcrfynodd Naomi ddychwelyd i'w hen gartref, ond cynghorai eu mherched-yn-nghyfraith i aros yn eu gwlad gyda eu pobl; ond y fath oedd ymlyniad ei merched- yn-nghyfraith fel y penderfynodd Euth fyned gyda hi, ac y mae Orpah yn dangos fod ganddi gariad cryf ati, er nad digon cryf i adael ei gwlad, a'i phobl, a'i duwiau. Yr oedd addysgiadau ac esiarnpl Naomi wedi dwyn Ruth i garu Duw Israel. Glyua wrth Naomi, ESBONIADOL. Adnod 14.—"A hwy a ddyrchafasant eu lief ac a wylasant edwaith: ac Orpah a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi." A hwy a ddyrchafas an t en lief, sef Orpah a Ruth. Yr oeddent yn unol yn hyn, a chymysgai eu lleisiau fel un llais. Felly defnyddir y rhif unigol fel yn adnod 9. Yr oedd ymlyniad y ddwy wrth Naomi yn fawr. Wylasant eilwaith, gan gyfeirio at yr hyn gofnodir yn adnod 9. Orpah a gusanocld ei chwegr. Ei mam-yn-nghyfraith. Cusan ffarwel. Glynodd Ruth wrth ci chwegr. Yn hyn daw y gwabaniaeth oedd yn nghymeriad y ddwy i'r golwg. Sylwa un hen esboniwr (Fuller) ar y gwahaniaeth hwn-" First, a blazing meteor falling out of the air; secondly, a fixed star fairly shining in the heaven." Y mae Orpah yn dangos ei phenderfyniad trwy roddi cusan ffarwel, a Euth yn dangos ei phenderfyniad trwy lynu. Y mae y gair yn un cryf iawn-glynn yn benderfynol. Adnod 15.—"A dywedodd Naomi, Wele, dy chwaer-yn-nghyfraith a ddycbwelodd at ei phobl, ac at ei duwiau dychwel dithau ar ol dy chwaer- yn-nghyfraith." Ei phobl. Y Moabiaid, disgyn- yddion Lot, y rhai oeddent yn byw i'r dwyrain i'r Iorddonen a'r Mor Marw. Ei duwiau. Prif dduwiau y Moabiaid oeddent Chemosh a Baal- Peor. Dychwel dithau ar ol dy chwaer-yn- nghyfraith. Nid ydym i gasglu fod Naomi yn awyddus i Ruth ddychwelyd. Y mae yn rhoddi Ruth dan y test i'w phrofi. Yr oedd yn rbaid i'w dewisiad o Dduw Israel fod yn hollol wirfoddol, ac yn hollol benderfynol. Mae apel yr Arglwydd Iesu i'w ddysgyblion pan y mae y torfeydd yn ei adael yn debyg o ran ei ysbryd. Adnod 16.—"A Ruth a ddywedodd, Nac erfyn arnaf fi ymadaw a thi, i gilio oddiar dy ol di: canys pa le bynag yr elych di, yr iif finau ac yn mha le bynag y lletyech di, y lletyaf naau dy bobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw di fy Nuw inau." Yn y geiriau hyn mae Ruth yn datgan ei phenderfyniad sefydlog i lynu wrth Naomi a Duw Israel. Yr oedd bywyd Naomi wedi dwyn Ruth i ymserchu yn y genedl y perthynai Naomi iddi, ac yn ei Duw. Nid rhyw benderfyniad sydyn oedd, ond dyma ei theimlad sefydlog, ac y mae yn datgan hyny mewn ymadroddion hynod o bryd- ferth a thoddedig. Pa le bynag yr elych di, yr lif finau. Er fod y wlad yn ddyeithr i mi, ond byddaf yn ddedwydd gyda thi. Lle bynag y lletyech di, y lletyaf finau. Er iddo fod yn fwthyn tlawd, Dybobl di fydd fy mhobl i, a'th Dduw dify Nuw inau. Y mae Ruth eisoes yn hawlio pobl Naomi a'i Duw yn bobl ac yn Dduw iddi hithau. Adnod 17. Lie byddych di marw, y byddaf finau farw, ac yno y'm cleddir: fel byn y gwnelo yr Arglwydd i mi, ac fel hyn y chwanego, os dim ond angeu a wna ysgariaeth rhyngof fi a thithau." Hi a ddymuna gael ei chladdu yn yr un bedd. Nid yw yn chwenychu cymaintac i'w hesgym gael eu dwyn yn ol i wlad Moab ond gan fod Naomi a hithau wedi uno eneidiau, y mae yn dymuno iddynt allu cymysgu llwch, mewn gobaith o gael codi yn nghyd, a bod yn nghyd byth yn y byd arall." Gwna lw. Trwy y llw hwn yr oedd yn galw ar Dduw—Duw Israel-ei chosbi os na fuasai yn ffyddlawn i'w hymrwymiad. Adnod 18—" Pan welodd hi ei bod hi wedi ymroddi i fyned gyda hi, yua hi a beidiodd a dywedyd wrthi hi." Pan ddeallodd Naomi north ei phenderfyniad, peidiodd a'i chymhell i fyned yn ol gyda ei chwaer-yn-nghyfraith, Gwelwch nerth penderfyniad pa fodd y mae yn dystewi profedigaeth. Y rhai ydynt bob bondcrfynu, ac yn rhodio ffyrdd crefyddol heb feddwl sefydlog, ydynt yn temtio y temtiwr, ac yn sefyll mewn drws haner agored, yr hwn sydd yn gwahodd lleidr: ond y mae penderfyniad yn cau ac yn bolltio y drws, yn gwrthwynebu y diafol, ac yn ei yru i ffoi." yru i ffoi." Adnod 19.—"Felly hwynt ill dwy a aethant, nes iddynt ddyfod i Bethlehem." Hwjnt ill dwy a aethant-" They trudged along, the two of them." Mae y geiriau yn ddesgrifiadol ohonynt ill dwy yn teithio yn nghwmpeini eu gilydd. O'r diwedd daethant at Bethlehem. Dinas ifechan yn nhiriogaeth Judah ydoedd Bethlehem, tua chwe' milldir i'r dehau o Jerusalem, ar y ffordd i Hebron. A phan ddaethant i Bethlehem, yr boll ddinas a gyffrodd o'u herwydd hwynt; a dywedasant, Ai hon yw Naomi?" Cyffroasant oherwydd y cvf- newidiad mawr a welent yn Naomi. Adna'bydd- ent hi ar unwaith ond y fath wahaniaeth oedd ynddi. Perthynai i un o'r teuluoedd parchusaf cyn myn'd, ac yr oedd yn adnabyddus felly. Beth yw yr achos o'r gwahaniaeth mawr hwn yn ei bymddangosiad? Pa le y mae Elimelech a'i phlant? Pwy ydyw yr un ddyeithr hon sydd gyda hi? Diau fod gofyniadau tebyg i hyn yn cael eu gofyn gau drigolion Betliloheui pan welsaut Naoui.v A dywetknunt. Y nue y gair yn y rhyw fenywaidd, ac yn golygu mai gwragedd y ddinas a ddywedasant hyn. Y mae Moab bob amser yn gadael ci 61 ar bawb sydd yn myned yno. Adnod A hi a ddywedodd wrthynt hwy, Na elwell fi Naomi: gelwch fi Mara: canys yr Hollalluog a wnaeth yn chwerw iawn a mi." Ystyr Naomi ydyw prydferth, ystyr Mara ydyw chwerw. Teimlai fod Mara yn enw mwy priodol arm yn y sefyllfa yr oedd ynddi. Yr oedd bywyd iddi yn Hawn chwerwedd. Adnod 21.—" Myfi a euthum allan yn gyflawn, a'r Arglwydd a'm dug i eilwaith yn wag: paham y gelwch chwi fi Naomi, gan i'r Arglwydd fy narostwng, ac i'r Hollalluog fy nrygu ? Y mae Naomi yn cyfaddef y cyfnewidiad, ac yn rhoddi y rheswm dros hyny. Cymera nrni ei hun y cyfrif- oldeb o fyn'd i wlad Moab. Y mae yn cymeryd y bai arni ei hun, ac yn cydnabod ei chamsyniad. Aethum am fy mod yn ewyllysio myn'd, ond dysgodd yr Arglwydd fi mai drwg a wnaethum trwy y profedigaethau a ddygodd arnaf. Mor y 11 dyner y mae o goffadwriaeth ei phriod Elimelech. Nid ydyw yn cyfeirio ato ef fel yn rhanol yn y bai. Adnod 22.—"Felly y dychwelodd Naomi, a Ruth y Moabees ei gwaudd (merch-yn-nghyfraith) gyda hi, yr hon a ddychwelodd o wlad Moab a hwy a ddaethant i Bethlehem yn nechreu cynhauaf yr heiddiau." Wedi i wragedd Bethle- hem gael esboniad am y cyfnewidiad yn Naomi, nid ydynt yn gofalu mwyach am dani; ond y mae Ruth y Moabees gyda hi, ac yn gweini yn ffyddlon iddi. Cynhauaf yr heiddiau, a fyddai tua'r pasg. GWERSI. Yn ymddygiad Ruth, gwelwn nerth pender- fyniad i lynu wrth Naomi a Duw Israel. Gwnaeth hyn yn wynob anfanteision mawrion. I y Yr oedd wedi ei dwyn i fyny yn ngwlad Moab, a'i dysgu i addoli Chemosh. Gwelai ei chwaer-yn- nghyfraith yn troi yn ol, ond eto glynodd yn ei phenderfyniad. Yr oedd ei phenderfyniad yn codi oddiar ystyriaeth ddifrifol o'r holl amgylchiadau. Nid cynhyrfiad y foment, end ffrwyth myfyrdod ac ystyriaeth ydoedd. Yr oedd ei phenderfyniad yn codi oddiar ysbryd hunanymwadol a serch cryf, folly yr oedd yn dal yn wyneb profedigaethau. Yr oedd yn benderfyniad a arweiniodd i ddiwedd gogoneddus mewn amser ac am dragywyddoldeb. Yn ein hymlyniad wrth Grist, dylem feddu yr un penderfyniad a ddangosodd Ruth. GOFYNIADAU Art Y WEES. 1. At ba gyfuod yn hanes Israel y mae Llyfr Ruth yn cyteirio ? 2. Pwy a'i ysgrifenodd, a pha amcati neiliduol sydd iddo ? 3. Pa. fodd y gellir casglu fod Elimelech a'i deulu mewn sefyllfa uchel cyn eu mynediad i Moab ? 4. Beth a'i dygedd i Moab, a phaham yr aethant i Moab yn hytrach na'r Aipht? 5. Pa le yr oedd gwlad Moab, a phwy oedd y trigolion ? 6. A oedd mynediad Elimelech i Moab yn bechadurus ? Profwch hyny. 7. Beth fu tynged y teulu yn ngwlad Moab ? 8. Paham y mae Naomi yn dychwelyd i'w gwlad ci hun ? 9. Beth fu yr achos i Orpah beidio cinlyn, a beth gymhollodol Eutli i ddilyn a glynu wrth Naomi ?

BANGOR.