Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Cynwysiad.I
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Cynwysiad. Jlysbysiadan 1, 2 Ymyion y Ffordd 3 Un'leb yr Annibynwyr Cymreig 4, 5, 6, 7 Umteb yr Annibynwyr Cymreig 4, 5, 6, 7 Yr Wythnos 8 Ffrnii c a Madagascar. 9 Llevn ac Eiifonydd—Machynlleth 10 Gohebiaethau 11 Y Wers Rhyngwhdwriaethol 12 Kysbysiadau 13, 14, 15, 16
AT EIN GOIiEBWYR.
News
Cite
Share
AT EIN GOIiEBWYR. Yn herwydd meithder Areithiau Cyfarfod C:hoeddus yr Undeb yn Ffestiniog, gorfodwyd ni i adael allan yr wythnos bon luaws o gyfarforlydd, &c., ac ysgrifau pwysig a ddyddorol, pa rai giint ymddang- os yr wythnos nesaf.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Gwelliantau Pwysig mewn Harness, (Trwy Freint-lythyrau Breninol Ei Mawrhydi). W. P OW ELL, Harness Maker, Merthyr Tydfil, A DDYMUNA alw sylw perchenogion a'r rbai -L-1- sydd yn defnyddio Ceffylau at ei Patent Gig Backhand {1,ncl Shaft Tugs. Hefyd, at ei Freintebau mewn Genfiiu a Ffrwynau (Bits and Bridles). Mae y gwellbntau hyn yn corffori awgrymiadau a gaed trwy brofiad helaeth. Trwy wneathur ymofyniad, anfonir cylchlyMiyrau a chynllunian, yn nghyda phob manylion, trwy y Post. Gellir cymhwyso y Patent Tug at Backhand and Tug o'r hen ffasiwn, trwy ei anfon i WILLIAM POWELL, y Breintebydd. CARDIFF GRAMMAR SCHOOL. A BOARDING AND DAY SCHOOL. DUTIES will be resumed on MONDAY, JULY JLJ' 30th, 1883. For Terms, &o., apply to the Head Master, R. G. LEVI, 13, Fitzalan Place, Cardiff. DYDDIADUR YR ANNIBYNWYR AM 1884. DAN OLYGIAETH Y PARCHN B. WILLIAMS, CANAAN. AC It. W. GRIFFITH, BETHEL. Pris Is. 6c., gyda rhwymiad hardd a llogellau; a 6c. mewn llian. BYDD, megys arfer, yn cynwys yr holl gyfnewidiadau enwadol, ac ni arbedir traul na thrafferth i'w wneyd yn gywir a chyflawri. Coficr ein rheolau sylfaenol—1. Ni roddir enwan gweinidogion nac eglwysi newydd i fewn heb gymeradwyaeth Ysgrifenydd y Cyfundeb y perthyna y cyfryw iddo. 2. Ni roddir enwau pregothwyr cynorthwyol newydd i fewn heb gymeradwyaeth gweinidog yr eglwys mae yn aelod ohoni; ac os na fydd gweinidog yno, bydd yn ofynol cael cymeradwyaeth diaconiaid yr eglwys. Wrth y rheolau hyn yr ydym wedi gweithredu o'r dechreuad, ac wedi dwys ystyriaeth, yr ydym wedi penderfynu glynu wrtbynt. Anfoner pob gwybodaeth i Rev B. Williams, Kilvey-terrace, Swansea, erbyn Medi 27ain, 1883; a phob archebion i Mr William Hsghes, Printer, Dolgelly.
Y Xi WYTHNOS. --
News
Cite
Share
Y Xi WYTHNOS. Ymsymudodd ton ddaeargrynfliol rhwng China ac Awstralia ar y 27ain cynfisol. Gan gymaint y cynhyrfiad, mae rhai o'r ynys- :1 oedd a frithent wyneb y mor yn y cvvr hwnw o'r byd wedi diflanu, ac ereill wedi dyfod i'r golwg yn eu lie, fel y mae morio yno ar byn o bryd yn beryglus dros ben. Ni ddeuir byth i wybod y golled mewn bywydau ac eiddo, er y dywed rhai fod 30,000 wedi eu lladd. Wedi gorcbfygu Annam mewn rhyfel ym- osodol, mae Ffrainc wedi gwneyd heddweh ar amodau sydd yn ei gwneyd yn feistres perffaith ar y wlad bono. Mae iddi frenin, ond yn ol y cytundeb ni fydd ond mewn enw yn imig. Bydd yr awdurdod goruchel yn cl y t, meddiant Ffrainc, a bydd ei milwyr yno i gadw meddiant o'r wlad. Mae China yn ehwyruu mewn modd bygythiol. Mae y Czar o Rwsia a'i briod ar ymweliad a Copenhagen. Derbyniwyd hwynt gan y Brenin, y Tywysog, a Brenin Groeg gyda rhwysg mawr, ac nis gallai brwdfrydedd y trigolion lai na rhoddi iddynt foddhad neill- duol. Mae O'Donell, llofrndd James Carey, ar ei ffordd o Penrhyn Gobaith Da i'r wlad hon. Trefnir iddo sefyll ei brawf yn Llun- dain, ac nid yn Dublin, rhag rhoddi achlysur i gynhwrf yn y ddinas hono. Nos Sadwrn diweddaf aeth gweithiau cotwm yn Alexandria ar dan, ac ni acbub- wyd dim ohonynt. Cyfrifir y golled rhwng deugain a haner can' mil o bunau. Yr adeg hon o'r flwyddyn yr arferir rhoddi ac adnewyddu trwyddedau i werthu diodydd meddwol. Mewn llawer man teimla yr ynadon nad yw y gwaith mor ddymsmol ag yr arferai fod. Gwneir pob ymdrech gan gyfeillion sobrwydd i gyfyngu ar derfynau y fasnach, trwy wrthwynebu ad- newyddu y drwydded i rai a droseddasant y gyfraitii yn ystod y flwyddyn ddiweddaf, a cheisio rhwystro i, roddi trwyddedau new- yddion. Codwyd pont yn ddiweddar dros gwm yn Switzerland, a'r dydd arall tra yr ooddid yn ei phrofi cyn ei thaflu yn agored syrthiodd o dan y baich a osodwyd arni. Lladdwyd amryw o geffylau a dynion, yn mysg y rhai yr oedd Maer Zele, un o Aelodau Cynghor Zurich, ac ereill. Yn Dublin, dydd Iau diweddaf, cynaliwyd cyfarfod gan Bwyllgor y Cyngrair Cenedl- aethol, o dan lywyddiaeth Mr Parnell. Yr occldynt ,wedi derbyn < £ 2,011 er y cyfarfod blaenorol, a phleidleisiwyd zC550 i'w rhanu rhwng y rbai a fwriwyd allan o'u ffermydd. Penderfynwyd i wneyd arddang- osiadau mawreddog mewn gwabanol bartbau o'r wlad yn ystod yr wythnosau dyfodol. Nid yw y diwedd eto. Cofus gan ein darlienwyr yr ymosodiad llofruddiog a wnaed ar yr Ewropeaid yn Alexandria yn mis Ebrill, 1882. Y dydd arall dygwyd i brawf nifer o'r personau a gybuddid o fod yn flaenllaw yn y gorehwyl. Traddodwyd 11 i farwolaeth, a dau i lafur penydiol am 15 mlynedd. Cafwyd na ddarfu i Major Harndi geisio cyfryngu i rwystro y mob yn eu creulonwaith, yr hyn oodd ei ddyledswydd, a dedfrydwyd ef i 5 mlynedd o lafur penydiol.
---FFRAINC A MADAGASCAR.
News
Cite
Share
FFRAINC A MADAGASCAR. MAE nifer o amgylchiadau wedi cyd- ddygwydd yn ddiweddar sydd yn peri fod Madagascar wedi dyfod i sylw neillduol. Nid oes yr un rban o'r maes Cenadol yn yr bwn y cymerir mwy o ddyddordeb gan Gristionogion yn gyffredinol na'r Ynys hon. Mae rhyw gysegredigaeth yn nglyn a'i hanes. Mwydwyd ei daear a gwaed merth- yron IESU, a chwythodd ystorm erledigaoth arni gyda rhuthr mwy ofnadwy nag y chwythodd ar unrhyw wlad arall yn hanes cenadaethau y ganrif brcsenol. Ond actli yr ystorm heibio, cliriodd yr awyrgylcb, a darostyngwyd y wlad i'r Efengyl, fel y sicr- hawyd rhyddid crefyddol yn mhob c\vr ohoni. Yr ydym ni fel cenedl yn teimlo Z, dyddordeb arbenig yn Madagascar, oblegid mai Cymry oedd y Cenadon cyntaf iddi, a'r gwasanaeth mawr a wnaethant iddi. Nis gallwn yma fyned i mewn i hanes ac am- gylchiadau a phrofedigaethau yr Ynys, na chymeryd golwg ar y llwyddiant mawr a'i dilynodd yn wladol, masnachol, a chym- deithasol, o dan ddylanwad Cristionogaeth yn unig gallwn ddyweyd na chymerodd cyfnewidiad mor drwyadl le yn hanes un- rhyw wlad arall mewn amser mor fyr. Ond nis gallai yr agwedd ddymunol yma ar bethau o dan ddylanwad Cristionogaetb, a thrwy lafur Prydain, lai na chyffroi eiddig- edd Ffrainc, ac yn enwedig ei hoffeiriaid Jesuitaidd, y rhai a'i gwylient gyda llygaid eryraidd oblegid gwelent fod hyn o angen- rheidrwydd yn cryfhau dylanwad Lloegr dros Madagascar, ac yn enwedig dros y Frenines RANAVONALA II, yr hon a ddygwyd i gofleidio Cristionogaeth, a'r hon, fel y dengys y newyddion diweddaraf o'r wlad, a fu farw mewn ymddiried llawn yn y GWAREDWR, am yr HWN y dysgwyd hi gan ein Cenadon. Nis gallasai dylanwad Lloegr gynyddu heb fod dylanwad Ffrainc yn gwanhau ac nis gallasai ein Cenadon ym- 0 godi mewn ffafr heb fod yr offeiriaid Jesuit- aidd yn disgyn yn eu golwg. Nid oes un ddadl nad Jesuitiaid Ffrainc sydd wrth wraidd y drwg, ac mai eiddigedd at lwydd- iant Crefydd Efengylaidd sydd yn eu cyn- hyrfu hwythau. Ond yr achlysur a gymer- wyd gan Ffrainc i wneyd y rbuthr diweddaf ydyw ei hawliad, ar gyfrif ryw hen gytun- deb, o ran o Ynys Madagascar ar y gogledd- orllewin iddi. Mae yr bawliad yma wedi ei chwilio yn fanwl gan ddynion anmhleid- iol, sydd yn hollol gyfarwydd a'r boll am- gylchiadau, ac y maent yn dangos yn glir, debygem, nad oes cysgod o sail iddo mewn unrhyw gytundeb a wnaed er y flwyddyn 1810, nac mewn unrhyw ddealltwriaeth a fodolai yn flaenorol i byny. Mae Mr ARNOLD, yr aelod Seneddol dros Sal ford, wedi ysgrifenu i'r Times lythyr maith, yn cynwys yr olrheiniad cliriaf, a llawnaf, a thecaf o ddim a ddarllenasom o gwbl ar y mater ac oni buasai fod ein colofnau wedi eu llwytbo yr wythnosau byn, cyhoeddasem ef yn llawn. Dengys mai yn 1810 y cy- merwyd meddiant o'r Ynys gan Syr ROBERT FARQUHAR, ac y meddianwyd gan y milwyr Prydeinig y gorsafoedd a ddelid o'r blaen gan y Ffrancod. Pan yr adferwyd Ynys Bourbon i Ffrainc, cadwodd Prydain ei gafael yn Madagascar, ac yn 1817 cwblbaodd gytundeb a brenin Madagascar, yn cydna- bod ei bawl of i freniniaeth yr Ynys. Yr oedd yn hollol ddiangenrhaid, gan hyny, i gyfeirio at unrhyw hawliad o eiddo Ffrainc pellach yn ol na hyny. Mae Lloegr a Ffrainc or hyny wedi gwylio Madagascar gyda dyddordeb, ac y mae cysylltiad agos wedi bod rhwng Lloegr a llwyddiant y wlad, ac y mae ein pobl wedi cyfranu canoedd o filoedd yn mhob ffordd er gwasanaethu gwareiddiad a chrefydd ynddi. Ceir fod 1,200 o'n cyd-ddciliaid yn yr Ynys. Trwy ddylanwad Lloegr y mae Llywodracth Madagascar wedi dileu caethwasiaeth, er fod caethwasiaeth eto yn aros yn un o sefydliad- au y wlad ond y mae yn sicr y llwyr olehir ef ymaith o'r Ynys cyn hir, os na bydd i ymyriadau estronol atal cynydd a llwyddiant gwladol a chrefyddol o'i mewn. Mae ein masnach a'r Ynys yn gymaint bedair gwaith ag ciddo unrbyw wlad yn Ewrop ac os caiff lonydd i fod yn llywodraeth annibynol, ac i ddadblygu ei hadnoddau, cynydda ei thrafnidaeth bob blwyddyn. Nid oes yr un lywodraeth frodorol yn Affrica sydd wedi dangos y fath arwyddion boddhaol o wlad- garwch a chynydd a Madagascar ac y mac t,