Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

UNDEB YR ANNIBYNWYRI 0 Y M…

News
Cite
Share

sathrant ef o dan dracd os bydd angen cyn y peidiant a'u hamcanion iselwael. Mae llawer wedi gosod eu bryd ar ymgyfoethogi, a mynant hyny os yn bosibl, serch peryglu eu cymeriad. Un peth ydyw ymgyfoethogi, ond peth arall ydyw gwneyd hyny gyda d wylaw glan. Cyfoeth wedi ei gasglu heb yn ffordd cyfiawnder, bydd yn sicr o ddeffro cydwybod rhyw ddiwrnod i ddycbryn a gwae. Yn awr, os mynwn feddianu cymeriad an- rbydeddus, ac nid oes neb na fynent, pe gallent oi gael yn eu ffyrdd anhygyrch eu hunain, ond mae hyn yn anmhosibl; os mynwn feddianu y cy- meriad a enilla gymeradwyaeth cymdeithas, mae yn rhaid i ni ar y naill law ymgadw oddiwrth y petbau a'u drygant—y cveigiau a achosant ei longddrylliad; ac ar y Haw arall, ymwasgu at y pethau a'u cyfodant i fyny. Mae llawer o bethau a ddrygant gymeriad, ond tuag at i ni ymgndw yn y cyfeiriad ydym eisoes wedi gymeryd, nodwn yma ddau beth yn unig. Mac cybydd-dra a cliffyg djinoldcb yn gvmeyd hyn. Nid oes parch gwirioneddol yn neb tuag at gybydd. Mae hwn gan gymaint ei galedu a'i greulondeb, yn amddifadu ei hunan, ei deulu, cymdeithas, a Duw, o'r pethau mae ganddynt bawl gyfreithlawn iddynt. Gofyner iddo yn garedig am ychydig gynorthwy at achosion dyn- garol a chrefyddol, a cheir ei weIed ef ya cyfnewid trwyddo. Os gall ymadnewyddn o'r ysgydwad- y I y shock-a. chael ei anadl ato, yna dechreua bro- tcstio yn y modd difrifolaf yn erbyn balchder a gwastraff y byd. (Gwna byn wrth reswm er mwyn dyogelu ei logell). Olrheinia hanes y tylwyth yma, oblegid balch a gwastrafflyd ydyw pawb sydd ar eu gofyn ganddoef; olrheinia eu hanes yn ol i'w dechreuad, a dywed yn ei ysbryd, os nad mewu geiriau, y dylent gael marw yn hytrach na byw. Os llwyddir i gael ycbydig oddiwrtho, ceir hyny ar yr amodau caethaf, yn j ,,ac enwedig yr amod o beidio galw ganddo drachefn. j EDW y drygionus a bydra," ac mae hwn yn ddiau yn nn olr graddau iselaf. Hefyd Mae balchder ac afradaeth yn darostwng cymer- iad. Ihw y nodwedd hwn i'r golwg trwy wahan- ol ffyrdd, yn neillduol yn yrymgais gref a welir i ymddangos i'r cyhoedd y peth nad ydym. Gellid meddwl wrth drvvsiad allanol rhai, wrth weled eu cadwynau a'u modrwyau aur ac arian, ffurf eu gwisg a'u cerddediad, eu bod yn ymveiniaid penaf y wlad, pan nad ydynt mewn gwirionedd ond perthynasau agos i'r yswain dimai, a ddarlunir mor ogleisiol gan y diweddar a'r doniol Mynyddog. Dywedai gwraig respectable wrth siarad a hi rai blynyddau yn ol, am nodwedd wisgiadol yr oes, fod gw-ahaniaeth dirfawr yn hyn, i'r hyn pan oedd hi yn ieuanc. "Yr amser hwnw," meddai, yr oedd yn ddigon hawdd adnabod y feistres oddi- wrth y forwyn, ond yn bresenol nis gellwch, oddi- eithr y gellir adnabod y fcistres trwy ei bod yn gwisgo yn fwy destlus a da, a'r forvoyn trwy fod ei gwisg yn fwy flashy ac ami wg. Aeth boneddiges urddasol allan ar brydnawn hafaidd i'r TrclA) Gardens, ac wrth edmygu gwely prydferth o llodau, gwelai foneddiges arall dybiau o'r un safie a hithau wrth yr un gorchwyl. Ond wedi edrych yn fanylacb, pwy oedd ganddi er ei mawr syndod, ond ei morwyn ei hunan. Yr oedd allan ar ei monthly holiday, ac wedi bod mewn siop yn talu am fenthyg dress sidan iddi am y dydd. Nid oes rhaid dyweyd i'r forwyn yma syrthio raddau lawer yn syniad ei taeistres ohyny allan. Dealler, nid ydym yn dyweyd dim yn erbyn gwisgo yn bryd- ferth a, destlus, cdmygwn hyn i'r graddau helaeth- af. Mac y grcadigaeth oddiallan, yn enwedig y blodau amryliw, wedi eu gwisgo yn hardd ac yn ogoneddus, a bydded fod pobl rhinweddol ein gwIad, yn feibion ac yn ferched a phawb wedi eu gwisgo felly hefyd, ond y ffordd sicraf i hyny ydyw, gwisgo yn weddus i'r sefyllfa. Nid bod yn afradus ydyw bod yn brydferth, ac nid bod yn ddandiaidd yw bod yn ddestlus. Mae y prydferth a'r destlus bob amser yn gymeradwyol pan mac yr afradus a'r dandy yn wrthddrychau chwerthin- iad a thosturi. Dywedai yr enwog Carlyle am y dandy, mai addolwr dillad ydyw, ci fod yn byw i wisgo, ac nid gwisgo i fyw, fel y bydd y mwyafrif o bob!. Mae cymeriad anrhydeddus yn beth clod- fawi, a thuag at ei feddianu ymgadwn oddiwrth y peth'au a'i darostyngant, ac ymwasgwn at y pethau a'i cyfodant i fyny. Byddwa byw yn weddus i'n sefyllfa, mae hyn yn ddangosiad o synwyi*, ac mae synwyr a gweddusder yn addurn i gymeriad. Byw yn weddus i'r sefyllfa IV. ER MWYN GOGONIANT Duw. Dyma ddylai fod canolbwynt gweithrediadau pob dyn. "Canys, i'm gogoniant," meddai Duw, 'y creais ef, y lluniais ef, ac y gwnaethym ef.' Mae yn bwysig byw yn weddus i'r amcanion rhag-gry- bwylledig, er cysnr ac anrhydedd dyn, a dyogelwch eyuKloithas, ond mae yn anhraoti.it»1 bwysioaoli i fyw felly er gogoniant JDuw. Gogoniant Duw, dyma ddyben bodolaetb, ac mae y dyn da mor drwyadl yn ei amcan a'i gydymdeimlad a hyn, fel y dywed gyda Paul, "Pa un bynag, gan byny, ai bwyta, ai yfed, ai beth bynag a wneloch trwy boll gylchoedd bywyd, "Gwnowch bob poth er gogoniant i Dduw." "Canys o hono of, a thrwy- ddo ef, ac iddo ef y mae pob peth. Iddo or y byddo y gogoniant yn dragywydd. Ameu." z7, Yn nesaf galwycl ar y Parch D. Silyn Evans, Aberdar, i draddodi araeth ar GEIRWIREDD. Dywedir fod y Saeson yn lledgyhuddo y Cymry odri pbechod, ac mai nn o'r tri hyny ydyw, man-gelwyddau. Mae'n brofedigaeth i ni dybio fod Pwvllgor Undeb yr Auuibynwyr Cymreig am eleni o'r un farn a hwy am y cyhuddiad yna, oherwydd y mater a ymddiriedwyd i Ini ydyw Geirwiredd. Modd bynag, dengys y Pwyll- gor hwn raddau boddhaus o gyfrwysdra yn ei ddewis- iad o air i draethu arno, a esyd allan berson non genedl yn yr agwedd orcu ami, ac os byiid person neu genedI yn ddiffygiol mown unrhyw rwyraedi^aeth foesol, mae'n fv.y dewisol ganddi (raol traethiad ar y rhiuweddau sydd yn wrt.liwyueb i'w diffygion, riag ar y diffygion en hunain. Purion peth, serch hyny, a fyddai. i ni ystyried cywirdeb cyliuddiad yr ysbïwyr hyn o Loegr sydii yn ysb'io i'n nodweddion moesol, ac os oes ganddynt fymryn o sail i'n difrio, ni ddylem fod fel trillion Ai yn esgeuluso ein tai ein hunain wrth erlid ar ol y cynllwyuwyr. Dywed un llyfr am ryw bobl, A hwy a anelasant eu tafod fel bwa i ge'wydd, ac ni.1 at wirioue id yr y rngryfhasaiit ar y ddaear. Gochelwch bawb ei gymydog, ac na choelied neb ei frawd, canys pob brawd gan dtlisodli a ddisodla, aphob cymydog a rodia yn dwyllodrns, pob un hefyd a dwylla ei gymydog, a'r g\dr nis dywedant. hwy a ddysgant eu tafodau i ddy cdyd celwydd, ymflinasant yn gwneuthur anwiredd." Goiygfa alarus yn wir! Cenedl o bobl yn prentisio ei hun i ddysgu y ffordd fwy.;if cywiain i ddyweyd ct-lwyddau—a'i bywyd yn anwirsdd byw ar ei hyd, a'i theuluoedd, a'i chwmrii- acth, a'i masnach yn gelwydd mewn gair a gwcitbred. Tybcd fod Jeremiah yn y geiriau cryfion hyn wedi portroada peutref, neu dref, neu gymydogaetb yn Nghymru yn y ganrif bon ? Ciedwn fod yn mysg personau a chymdcithasnn ddigon o barch i'r gwir, ac o ymlyniai wrth y gwir, i ddal ein ceuedl rhag myncd yn bentwr o unigolion drwgdybns, ac i ddyogelu masnach rhag myned yn dryblith ac yn anymarferol. Ond os cvhudda rhyw sylwedydd ni o fan-anwireddau, beth am ein dieuogrwydd yn wYllcb yr abseniad ? Nis gallwn adael y cwe:tiwn gyda'r crybwylliaS ohono. Caiff aros o flao-n ein meddwl, a bo yn achlysur ymholiad bras a brysiog i'r arweddion a roridir i eirwiredd yn ngwa- hanol gysylltiadau ac ymdrafodaethau bywyJ. GSIliWXREDD AG YJIDDTDDANION CYFFREDIN Y BOBL. Saif ymddyddanion cyffredin genym am siarad man a mynych y bob], ar yr heol ac ar yr aelwyd, yn y gwaith, ac VB y ffair, ar wahanol betiiau ac yn nglYl1 a w, gwahanol bersonan, o sofyllfa'r tywydd yn y gymyd- o.^aeth i sefyllfa masnach yn y deyrnas, ac o helynt:on y wreigan yn ei bwthyn I amgylchiadau'r frcniues ar ei gorsedd. Y mae geirwiredd yn wrihweithiol i bob math o athrod ac enllib mewn ymddyddanion cyffredin. Cyd- nabyddwn oil agosrwydd y berthynas sydd rhwng pur- deb ysbryd a phurdeb iaith, a chredwn mai ditfyg- o'r btaenat sydd yn cyfrif am bob frurf ar anghoethder yn yr olaf. Adnabyddid dosbarth o ddynion ynnyddiau'r apostolion, nadoeddynt yn gwarchod gartref yn dda, a dywedid hyny am danynt, er mwyn dyweyd peth gwaeth, sef, en bod yn lledaenu gwrachlaidd chwe ilau. Mae'n debyg eu bod fel y camolion yn nc¡¡id eu lliw yn 01 y gwrthddrychau, neu yn fwy cywir, yn unol a rhyw neilldnolioo perthynol i'w natur, yn cytnliwysoeu hunain at yr p.rnflylehiadau, yn ystumio y gwir i sefyll • faoedd pobl, ac yn yailrsgo'n ddioglyd o bunt i fyriydd i chwilena bo an an gyhoeddi gwaeleddau. Tvbod fod y rhai hyn yn y bvd yn awr ? Os ydynt, suae John Bunyan wedi rhoddi introduction amsorol olionynt i gymdeithas. Meibion ydynt un a elwir Chwedl Dog, yn trigo yn ac enw pob un ohonynt yn siaradus, ac or teced eu tafod, creaduriaid gwael ydynt. Proffesant yiulynsarwch dibaid wrth y gwirionedd, ti-imlant yn aruthr dros bob anhegweh, deailant am- canion dynion o bell, corcant gan bwysau (?) eu doethineb a'u crefydd, llyfnach yw eu g3natt Lag ymenyn, a rhytel yn eu calon, tynerach yw eu geiriau nag olew, a hwynt yn gleddvfau noethiot;, a chwcdleu- ant o heol i dy nes gyru tref-Iwyth o bobl yn mhenben a'u gilydd. Vfele faint o ddefnydd mae ycbydig dan yn ei. enyn. Ai tafod, tan ydyw Nid dyweyd y gwir ydyw bywyd o'r fath. Y mae eirwiredd nodeb barchus ae nrddasol yn nglyn 4'i holl y n.dclyddanion. Y mac geirwiredd yn groes i bob twyll-eir:acth ac anmhonodrwydd mewn ymddyddanion cyil'rcdin. Onid oes twyll-eiriaeth yn hod ? Canfyddir hyn mewn ym- driniaethau cytnndebol a masnachol rhwng prynwr a gwerthwr, gwas a moistr, rhieni a phlant. Y mae mewn manau yn y Deheudir son am gelwydd at use crefft. Ni ehawsom allan yn mha ranbarth o'r byd mae'r use, ond yn y Deheudir y eawsom y son ac ymddengys ei fod yn cael ei ystyried yn wasanaeth iaehus a manteisiol gan y rhai sydd yn ei droi i'w liaraean.J |Yr ydym yn earu y siarad sydd yn benodol, ac nid yu 11awn o anmhenodrwydd. Gofyner i arnbtdl un sefyllfa y peth a'r peth, Dell am amgylehiadau hwn a hwn, a rhyfedd mor gwmpasog ac ane^lur yr etyb y goi'yni.id. Rhydd yn f-yntaf oil rywfath o rag-ar- weiuiad arwyddluniol iiiuwii plygu pen, a llatsu gweil, a Ihwymo safn, a mwmian yn ngwaelod ei wddf, ac wed'yn sieryd mewn ion gwynfanus a chyda gofal meddylgar. Wei, mae'n lied dda ag ystyried pob peth ynte. A glywsoch ehwi ddim yn ddiweddar? Ni bum yn yr ardal er's dyddiau bellach, end yr oedden nhw yn dyweyd fod petbau wcdi newid yn anghyffredin yn ddiweddar acw, Ond dyna, peidiwch a son gair o'm pen i. Y tafod tewi yw'r tifod goreu ynte?" Os ydyw A yn gofyn cwestiwn i B am rywun neu ryw beth, ac os ydyw D yn anmharo i i'w ateb, dyweded hyny yn onest cyn dywedyd dim arall, oblegid mae rhyw fonglerwaith o ateb o'r fath a nodwyd yn gab- leddns mewn moes, ac yn gythreulic; mewn egwvddor. Deuir i gyffyrddiad ag ambell un bylaw dros ben ar eiriau mwysion, ac i siarad yn y fath fodd fel nad yw yn 'bosibi gwybod In un a ydyw yn credu haner ei amser yr hyu ddywed. Un tro daliodd amaethwr wrug i'w gymydog yn lledrata pys yn ei aae, a chur- odd hi yn ddidrugaredd, am yr hon oruchwyliaeth y rhoddodd gwr y wraig gyfraith arno, ac i gyfb wnhau ei hun, tyngai yn y llys, Ni churais rnohoni ond a'm bys," ac er cymaiut y pellder sydd o'r pys yn y C'le i'r bys yn y llaw, rhyddhaodd ei hun. Y mae twyll-hon- iadau a rnynegiadau tryblyg mor gamarweiniol a cheffyl-dwfr yr hen Geltiaid gynt, yr hwn, meddent ydoedd ysbryd drwg ar ffurf ceffyl, ac yn eymbell teithwyr blinedig i'w farchogaeth, ac ar ol cu cymeryd i fanau anghyfanedd yn diflanu i awyr, neu rywbeth arall, ac yn eu gadael hwytbau i'w hurtrwydd a'u hanghyfleusdra. Cyffelyb ydyw'r a^weddau hyn ar ymddyddanion cyffredin, tra yn cymhell dynion i'w marcbogaeth fel rhai buan droed ac csmwyth i'w cymeryd i'w cyrchfan, ond yn yr angen mwyaf o'u gwasauaeth yn troi yn luater horses a diflanu i niwl, a gadael eu marchogwyr yn ddiymgeledd rhwng creigiati a mynyddoedd. Rhoddwn y fantais i'r rhai hyn o fod radd neu ddau yn well na'r lleill a soniasom am dan- ynt, end nis 2allwn eu rhyddbau o gellwair p-ryging, ac mae bod dyn yn treulio ei oes, neu ran ohoni ar dir cellweirdod a ffalsedd, yn mallu ei ddefnyddioldeb, ac yn ei wneyd yn un y dylai cymdeithas wylio rhagddo. :M:ao'r dyn geirwir yn ddidwyll, unplyg, ac eglur yn yr hyn oil a ddywed. Y mae geirwii edd yn gwrthod pob math o orimodiaith a chosg ystor'ion mewn ymddyddan- ion cyffredin. Gorebwyl ffwdanus ydyw cadw rhai dynion o fewn teifynau y gwir. Croesant y ffin-glawdd fan y mynont, pryd y mynont, ac fel y mynont. Er y dylai siarad a gwybodaeth dyn fod yn ogyhyd i'r terfyn fel y cledrau ar y rheilffyrdd, eto sylwasom cyn hyn ar gledryn siarad ambell un, yn hwy o filldiroedd na chledryn ei wybod, a hyn sydd yn cyfrif fod cer- bydrcsi siarad yn rhedeg oddiar yrail mor ami. Pryd bynag y sieryd rhyw ddynion, rhaid iddynt siarad yny superlative degree. Os bydd yn wlyb, mae'n wlyb dychrynllyd. Os bydd yn oer, mae'n oer ofnatsan. Os byddant wedi ymweled a rhyw fan, gwelsant bethau angbygool i bawb ond iddynt eu hunain. Os gwnaeth rhywun dro medrus erioed, hwynthwyam wneyd pethau felly. Os canmolant rywun, dyrcbafant ef hyd y nef ac o'r ochr arall, os condemniant rywun, tynant or i lawr hyd yn uffern. Rhyfedd mor anturiaethus cu s^ lwadau, ac mor garlamns eu drychfeddyliau ydynt! Ymrana y dosbarth hwn i ddwy adran. Dyweyd pethau eithafol a wna un ohonynt am dano ei hun a'i amgylehiadau ond dyweyd pethau eithafol a wna'r llall am creill a'u hamgylchiadau. Gellid casglu oddi- wrth ddifrifwch a dyfalwch y ddau, mai er mwyn gor- ganmol y ganwyd hwy i'r byd, a diau eu bod yn lianu o gyff y Cretiaid gynt, am eu bod bob amser yn gel- wyddog. Bryd bynag y sieryd y naill am dano ei bun, a'r 'lall am ereill, mae'r peiriant siarad yn rhedeg mor chwyrn, fel mai eithriad ydyw iddynt i aros yn yr orsaf er pob arwydd sydd ar eu ffordd i hyny ac "os ydyw yn bwysig i nnrhyw gwmpeini i sicrhau gwasan- aeth y continuous break, yn bendifaddeu ni ddy!ai y cwmpeini—y limited company hyn—esgeuluso hyny, oherwydd tra y maent yn chwerthinllyd o ffyddlon i'w hamcan, maent yn annyoddefol o ddialw am daDynt yn eu gwaith. Y mae ymddyddaniacth yn cael ei ilygru, ui I a gormodiaith o'r fath yn unig, ond helyd ag hancsion masw ag ystraeori anfaethlon. Rhoddodd un awdwr ddosbarthiad triphlyg i gelwydd; sef celwydd diuystriol i ddrygu cymydog, celwydd gwasan;re'.hgar i helpu cymydog, a chelwydd cellweirus (jocose) i ddi- fyru cymydog. Y mae eolwyddau jocose yn ofidus o barchus yn nglyn llawer un yn yr oes hon. Yn mhJith arferion anheilwng y Cymry gynt, nid y lleiaf anheilwng ydoedd eu cyd^yfarfyddiad i adrodd y naill i'r Hall anwirecldau cellweirus. Hwyrach y cynelid yr Eisteddfod hon ar aelwyd ffermdy cvfagos ar hirnos gauaf, yn ngoleu'r lloec ac wrth wres y tan, a threulid lii i adrodd i'w gilydd am y goreu hen chwedl- aii gwerinol oeddynt ar air ac ar arfer, a'r cystndl, uwr blaenaf wrth reswm a ystyrid yn anwylddyn y bohl, a gwron yr ardal a thywysog y wlad. Y sywaeth fod gormod o gystadlu eto mewn cynuiliadau amddifad o wirionedd a moesolrwydd, a thra yr e trychir ar hyn yn arwydd o ffraethineb a hynawsedd, dylid edt-yoh arno hefyd yu tynu oddiwrth ddifrifoldeb bywyd, ac yn bryf difaol with wraidd defnyddioldeb. Tyb.id fod yn bre- senol ddynion yn eu llawn dwf o ran deall a phrofiad yn treulio eu horiau hamddeaol mewn lleoedd anaddas hefyd, i ddifyrn partion a rhigymau gwagsaw a di- bwynt ? T.vbed fod ieuenetyd ein gwlad, ac ereill o bosibl, yn cymeryd eu penffoli a'u swyno i roddi eu coel a'u harian i ddyhirod diwaith a gwrachod digy- wilydd am ddarllen eu tesni, neu ddyweyd celwyddau wrtliyiit ? Os oes, nis gallant, hawlio iddyut eu hunain y cymeriad o fod yn eirwir, oblegid mae geirwiredd yn diwyllio y meddwl oddiwrth y fath sothaeh, ac yn dysgu dyn ei fod yn rhy gysegredig ei gyfrifoldeb i fyw ar eoojr hanosion, ac yn rhy (ldwylol ei natur i ddifyrn ei huu ag ysgafnder ac ysmaldod.