Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Hide Articles List
3 articles on this Page
Advertising
Advertising
Cite
Share
SING WELL SPEAK, WELL! — Doughty's Voice Lozenge lias been gratefully appreciated by thousand's of clcrical, musical, and other eelobritics for nearly 40 years. It imparts to the voice clearness of sound and brilliancy of tone. •JENNY JJIND.—" I liavc much pleasure in confirming, as far as mycxperienec extends, the testimony already so general in favour of the Lozenges prepared by you (Miles Doughty). (Id, la, 2s t'd, 5s, and lis-post free, 7d, Is 2d, etc Ask your Chemist f or them.—F.NE WISER Y and SONS, 1, Kin- Edward- street, London, E.G. Established A.D, 174G. Gellir lliwio dresses, clogan, cotiau, hosanau, a phop math o ddillad yn llwyddianus gyda'r Diamond jpyes. Lliwiau ifasiynol. Dim oDd Go gaD fferyllwyr.
YR YSGOL SABBOTI-IOL.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
YR YSGOL SABBOTI-IOL. r WEES KHYNGWLADWMAETHOL. {International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TREFFYNON. MEDI 2.-Marwolaeth Samson.- Barn. xvi. 21-31. Y TESTYN EuRAiDD.—" Duw Israel yw efe sydd yn rhoddi nerth a chadernid i'r bobl. Bendigedig fyddo Duw."—Salm Ixviii. 35. RHAGAKWEINIOL. MAB ydoedd Samson i Manoah, o dylwyth y Daniaid. Ystyr ei enw ydyw, fel yr baul. Ganwyd ef mewn ffordd wyrthiol yn Sorah. Oynysgaeddwyd ef a nerth anarferol. Yr oedd i fod yn Nazaread o'r groth, ac yr oeld cadwraeth ei gryfder yn dibynu ar gadwraeth ei adduned Nazareaidd. Yr oedd yr a,iduned hon yn gofyn iddo ymneilldno oddiwrth win a diod grcf. Nid oedd i fwyta dim oil a wneir o winwydden y gwin. Nid oedd ychwaith ellyn i fyned ar ei ben ef, ond yr oedd i adael i gudynau gwallt ei ben dyfu (Num. vi.). Yn gyffredin am dymhor y parhaai yr adduned hon, ond yr oedd Samson, Samuel, a loan Fedyddiwr, i fod yn Nazareaid holl £ ddyddiau eu heinioes. Ystyr yr adduce < ydoedd ymjysegriad llwyr a hollol i'r Arglwydd. Cod- wyd Samson i fod yn waredydd i Israel oddiwrth ormes y Philistiaid, y rhai a fu yn eu gorthrymu am ddeugain mlynedd. Gan fod tiriogaeth Dan yn ymylu ar diriog. aeth y Philistiaid, yr oeddent yn fwy ago red i'w hym- osodiadau, ac yn dyoddef mwy oddiwribynt. Cododd yr Arglwydd waredwr o lwyth Das. Yr oedd y gwar- edwr hwn yn un o'r rhai hynotaf, yn gystal ag yn un o'r rhai enwocaf o holl farnwyr Israel. Gwnaeth ddi- frod mawr ar fyddinoedd y Philistiaid o dro i dro, a t,rwy ei eryMer personol, ac nid fel arweinydd ,VmIlaflai i ganol y perygl mwyaf, a rhyddhaaiei bun trwy fawr ddifetha y eelynion. Ceir banes ei orchesiior, yn Barn. xiv. 1-16. Y mae rhyw elfenSddigrifol yn rhedeg trwyddynt oil' fel pe buasai yn chw.areu â'r gelynion er difyrwch iddo ei hun. Yn hyn tcbygolai i Hercules y Grocgiaid, ac Atitar yr Arabiaid. Yr oedd \I edi ei godi gan yr Arglwydd i syflawni gwaith neillduol, sef dangos i Israel fod gallu Jehofah yn ddigonol i'w gwaredu ond iddynt hwy ymddiried ynddo. Er fod Samson wedi derbyn doniau neillduol gan yr Arglwydd, ac er ei fod yn gysegredig i'r Arglwydd trwy adduned eto y maeyn mhell o fod yn gymoriad teilwng. Y mae yn amlwg ei fod yn cael ei lywodraethu gan ei nwydau anianol. Ymserchodd mewn gwraig o ddyffryn Sorec, a'i henw Dalilah, yr hon trwy gymhelliad arglwyddi y Philist- iaid a'i hudodd i ddatjuddio iddi guddiad ei gryfder. Eilliodd ei ben tra yr oedd efe yn cvsgu, a bradychodd ef i ddwylaw y Philistiaid, ei phob]. Wedi ei gael ef i'w dwylaw, ymddygasant yn greulawn ato a thynasant ei Jygaid cf. Y mae yn amlwg fod Samson yn nodcdig nid yn unig mewn nerth anianyddol, ond hefyd mewn gallu meddyliol. Y mae ei holl ddywediadau yn dangos ei fod yn'llawn o arabedd. Trefna|ei gynlluniau i gyf- arfod y Philistiaid mewn dull sydd yn dangos ei all meddyliol. Camddefnyddiodd ei alluoedd. Anghofiai yn barhaus mae rhoddion Duw oeddent, i'w defnyddio i amcanion uwch na boddloni ei chwantau ei hun. Ni osododd nod uchel, teilwng o flaen ei fywyd, Ni wnaeth nemawr ddim a fu o les parhaol i Israel." Bu yn barnu Israel am ugain mlynedd. Cyfeiria awdwr y llythyr at yr Mebreaid ato fel engraifft o ffydd. Yn y Wers sydd dan ein sylw cawn hanes ei farwolaeth. ESBONIADOL. Adnod 21. Ond y Philistiaid a'i daliasant cf, ac a dynasant ei lygaid ef, ac a'i dygasant ef i waered i Gazah, ac a'i rhwymasant ef a gefynau pres ac vr oedd efe yn malu yn y carchardy." Ond y Philistiaid. Preswyhent gwr deheuol gwlad Canaan—rhanbarth Judah a Dan. Kr iddynt gael eu gorchfygu ar ddy- fodiad Israel i Ganaan, adlcddianasant y tir a cbadw- asant ef hyd ddyddian Dafydd. Yr oedd y bobl hyn yn elymon penderfynol i bad Abraham trwy yr oes- oedd. Ystyr yr enw ydyw crwydryn. Rhoddesy bob! hyn eu henw i w:ad Canaan-Palestina. Ac a dynasant e% lygaid. Y mae y ferf yn yr Hebrae" yn golygu tyllu. Dantrosir trwy hyn y dull creulawn yr ymddygent ato. Yr oeddent wedi penderfynu ei analluogi i wneyd dim niwed iddynt eto. Daliodd y Philistiaid ef ar ol i Dduw ei adael. Os cysgwn ar liniau ein chwantau, eawn,ddeffro yn sicr yn llaw y Philistiaid. Ei lygaid a'i bradychodd i bechod, gwelodd y butain yn Gazab, ac aeth i mewn ati hi ac yn awr dechreuodd ei gosbedisrapth yno." Ac a'i dygasant i waerecl i Gazah. Gazsh 'ydoedd eu prif ddinas. Fel y gallai ymddangos mewn gwendid, lie yn ddiweddaryroedd wedi rhoddi y fath amlygrwydd o'i nerth." Rhivymasant ef a gefynau pres. Er mwyn ei gadw yn ddigon dyogel. Yr oedd efe yn malu yn y carchardy. Yttyrid main y gorchwyl isaf a mwyaf llafurus a berthyn i'r ty. Oddiwrlh hyn gwelir sefyllfa waradwyddus Samson. Adnod 22. Eithr gwallt ei ben ef ddechreuodd dyfu drachefn ar ol ei eillio." Ar ol eillio saith gudyti ei ben yr ymadawodd ei north oddiwrtho. Yr oedd wedi tori ei adduned wrth adael ei wallt gael ei eillio. Yr oedd yn wadiad ar Dduw, ac mewn canlyniad yr oodd Duw wodi ei adael yntau. Fel yr oedd ei wallt yn tyfu, danth ei gryfder yn ol. Y mae hyn yn ddiau yn golygu fod ei gaion hefyd yn troi mewn edifeirweh at Dduw. Y mae yn adnewydduei adduned. Darlunia Milton ef yn dywedyd :— Nothing of all these evils hath befallen me But justly; I myself have brought them on, Sole author, I sole cause if aught seem vile, As vile hath been my folly." "Nid oedd tyfiad ei wallt yn achos nag yn arwydd o ddychweliad ei nerth, dilim pellach nag oedd yn nod ei gysegriad ae yn arwydd i Dduw ei dderbyn fel Nazar.. ead drachefn." Adnod 23.—" Yna arglwyddi y Philistiaid a ym- gasfilasant i abertba aberth mawr i Dagon eu duw, ac i orfoleddu canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd Samson ein gelyn yn ein dwylaw ni." Dagon oedd prif dduw y Philistiaid. Math o for-dduw ydoedd, y pen a'r rhanan uchaf yn debyor i ddyn, a'r rhanau isaf yn debyg i bysgodyn. Teimlent mor ddedwydd oherwydd dal Samson, fel y mynent gadw gwyl i'w duw er cofam yr amgylchiad. Y mae yn rhyfedd eu bod yn gallu priodoli hyn i'w duw, a hwythau wedi arfer y fath •rynlluniau isolwaol i'w ddal. Yr oeddent wedi talu i Dalilah am ei fradychu. Adnod 24.—" A phan welodd y bobl ef, hwy a gan- molasant eu duw; canys dywedasant, Ein duw ni a roddodd ein gelyn yn ein dwylaw ni; yr hwn oedd yn anrheithio ein gwlad ni, yr hwn a laddodd lawer ohonom ni." Y mae yn ymddangos fod y bobl yn cael rhyddid i fyned i odrych ar Samson i'r carchardy. Wrth ei weled wedi ei ddarostwng dyrchafent eu duw. Tybient fod eu duw hwy yn gryfach na Duw Israel. Daeth yn bwnc rhwng gallu Dagon a Duw Israel. Fel y cana Milton 'Twixt God and Dagon Dagon hath presumed, Me overthrown, to enter lists with God His deity comparing and preferring Before the God of Abraham." Yr hwn oedd yn anrheithio ein givlad. Darlloner hanes y dinystr a wnaeth gyda'r liwynogod yn penod xv. 5. A laddodd lavjer ohonom ni. Lladdodd un tro fil o wyr a gen asyn, penod xv. 15. Adnod 25.—" A phan oedd eu calon hwynt yn llawen, yna y dywedasant, Gelwcli am Samson, i beri i ni chwerthin." Y mae yn amlwg eu bod wedi eu cyn- hyrfu aan ddiod gadarn, ac yn eu hafiaeth y maent am gael Samson i'w difyru. "A hwy a alwasant am Samson i'r carchardy, fel y chwarenai o'u blaen hwynt, a hwy a'i gosodasant ef rhwng y colofnau." Yr oedd edrych arno yn ddall ac wedi ei ddarostwng yn achos o fawenydd iddynt. Heblaw hyn mynent iddo eu difyru hefyd trwy ryw arddangosiadau o'i rymusder y maeyn debyg a chyda ymwybodolrwydd o adferiad ei nerth, teinilai ci feddwl yn cael ei gynhyrfn i ymddial ar ei elynion ei hun, £ gelynion ei wlad. Tybia ereill mai ei alw allan i ddawnsio yn eu cwydd a wnaethant. Wedi gorphen dawnsio neu ddangos oi rymusdrr gosodant ef i sefyll rhwng y colofnau i fod yn wrthddrych gwawd yr holl dorf. Adnod 26.—"A Samson a ddywedodd wrth y llanc oedd yn ytuaflyd yn ei law ef, Gollwnr, a gad i mi gael gafael ar y colofnau y mae y ty yn sefyll arnynt, fel y pwyswyf arnynt." Fel un wedi blino, gofyna am gan- iatad i bwyso ar y colofnau. Yr oedd hyn yn awgrymu gweudid ynddo, ac felly y maent yn foddlawn. Tybir gan rai fod y llanc a'i har" einiai yn gyfalll i Samson, a'i fod wedi rhod.ii desgriifad inanwl o'r holl fan a'i fod yn gwybod yr hyn oedd ganddo mewn golwg. Felly y mae Samson yn ei ollwng, fel yr hysbysai yr hyn a ddvgwyddasai. Adnod 27.-A'r ty oedd yn liawn o wyr a gwragedd, a holl arglwyddi y Philistiaid oedd yno, ac ar y ncn yr oedd yn nghylch tair mil o wyr a gwragedd yn edrych tra yr ydoedd Samson yn chwareu." Y mae yn ym- ddaniros fod yr arglwyddi, a'r rhai mwyaf urddasol o'r gynulleidfa, oddifewn o dan y ncn, ac ar y ncn yr oedd yn nghylch tair mil. Adnod 28.—"A Samson a alwoddaryr Arglwydd, ac a ddywedodd, 0 Arglwydd lor, cofia fi, atolwg, a nertha. fi, atolwg, yn unig y waith hon, 0 Dduw, fel y (iialnvyf Ag tiri dialed(I ar y l'hilistiaid am fy nau lygad." Arddangosa Samson ddwysder ysbryd yn y weddi hon. Gofyna am i Dduw ei gofio, a'i gryfhan yr unwaith hwn. Addefa mai oddiwrth Ddnw y cafodd ei north. Y mae yn amlwg mai nid otidiar nwydau drwg ac ymddial personol y mae yn gofyn hyn, ond toimlai sol dros ogoniaut Duw Israel. Mae ei ysbryd edifeir- iolagweddjgarynproiihyn. Y raae yffaith id Jo gael ei ateb yn profi yr un peth. "lDnillodd nerth trwy weddi, y north hwnw ag oedd wedi ei golli trwy bechod, y mae yn adenill, fel un gwir edifo riol, trwy weddi." Adnod 29.—" A Samson a ymaflodd yn y ddwy golofn ganol, y rhai yr oedd y ty yn sefyll arnynt, ac a ymgynaliodd wcthynt, un yn ei ddeheulaw, a'r llall yn ei law aswy." "Mac yn debyg fod y dcml hon yn agored oddiuchod, ac yn cael ei chynal gan lnaws o golofnan, ar ddwy o'r rhai debygid, yr oedd yr holl adeilad yn sefyll. Efallai mai math o adail hirgrwn ydoedd, a bod y ddwy golofn hyn yn y canol, oddiar y rhaiyrymestyr.ai trawstiau i'r mur" o bob tu, i gynal oriel oedd o gylch ogylch yr adeilad. Dodid Samson rhwng y ddwy golofn hyny, fel y gwelid ef gan y rhai oil oeddynt ar y llawr, a chan y rliai oeddynt ar yr oriel; y cyfryw oriel a elwir yma y nen." Adnod 30.—" A dywedodd Samson, Byddcd farw fy einioes gyda'r Philistiaid. Ac efo a ymgrymodd a'i holl north, a syrthiodd y ty pr y pendefigion, ac ar yr holl bobl oedd ynrl,:o. A'r meirw y rhai a laddodd efe wrth farw, oedd fwy nag a laddasai efe yn ei fywyd." Bu farw yn y cymeriad o farnwr Israel, ac yr oodd yn blrod i roddi ci hUll yn aborth dros ei wlad. Taflodd y dim yg mwyaf ar dduw y Philistiaid, a hynv ar adeg pan yr oedd y miloedd yn ei aurhydeddu. Y itiae yu anrhydeddu Duw Israel. Adnod 3L-" A'i frodyr cf, a ho11 dy ei dad ef a | ddaethant i wared, ac a'i cymerasant ef, ac a'i dygas- ant i tyny ac a'i claddasaut cf rhwng Sorah ac Fstaol, yn meddrod Manoah ei dad. Ac efe a farn.ta ii lbi-ucl
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMBEIGr.…
News
Cite
Share
Cynygiwyd gan y Parch T. Johns, Llanelli, ac eiliwyd gan y Parch D. Oliver, Treffynon- Ein bod fel Cyuadledd Undeb yr Annibynwyr Cymreig yn dymuno datgan gyda theimladau o lawenydd a diolchgarwch y lies dirfawr mae Deddf Cau y Tafarnau y Sabboth wedi wneyd yn Nghymru eisoes. Nis gallwn lai nag ymofidio wrth weled fel y mae y twyll-glybiau (bogus clubs) sydd yn cynyddu mor gyflym yn ein trefi a'n gweitbfaoedd poblog yn gwrt-hweithio ei dy- lanwad daionus, a dymunwn yn y uiodd taeraf ar i Mr J. Roberts, A.S., geisio cael gan y Senedd i ddiwygio y ddeddf fel ag i gyfarfod y wedd newydd uchod mae y fasnach feddwol yn wisgo yn ein gwlad y dyddiau presenol. Cynygiwyd gan y Parch D. Adams, B.A., Hawen, ac eiliwyd gan y Parch D. A. Griffith, Troedrhiwdalar- Fod y Gynadledd hon yn dymuno datgan ei liwenydd o'r bwriad i ddathlu ar Tachwedd lOfed, 1883, Gwyl Bedwar Can'mlwyddol Luther, apostol y Diwygiad Protestanaidd, ac yn hyderu y bydd i'r amgylchiad fod yn foddion i alw sylw yr Enwad Annibynol at yr egwyddorion y rhoddwyd arbenigrwydd arnynt ganddo, ac i'n ^uno fel Protestaniaid Efengylaidd i wneyd TTp^l"TPS>wy e8,ni°l i wrthsefyll y dylanwadau iddo ac1yn:a^.Phabydd°1. mor,e^Do1 aelodau ieuainc ein cynml^od°]?eh V ySgU egwyddorion y Diwygiad trwy" 0u^itaeth &v dosbarth, y wasg, yr esgynlawr, a'r pwlpucH y Terfynwyd y Gynadledd trwy weddi gan y Parch J. Jones, Machynlleth. Y MODDION CYHOEDDUS. Gan fod capel Jerusalem nos Fawrth yn rhy fach i gynwys y gynulleidfa, pregethwyd yn nghapel y Wesleyaid ger llaw gan y Parchn O. B. Owen, Glandwr, a Proff. Rowlands, B.A., Aberhonddu. Dechreuwyd y cyfarfod gan y Parch J. Stephens, Llwynyrhwrdd. Yr un modd nos Fercher-nid oedd yr Assembly Room, lie y cynelid y cyfarfod cyhoeddus, yn agos digon eang i gynwys y Iluaws a ddaeth yn nghyd. Felly, cynaliwyd overflow meeting yn yr un capel a nos Fawrth. Dechreuwyd gan y Parch T. D. Evans, Victoria; a phregethwyd gan y Parchn T. Johns, Llanelli, a J. Davies, Taihirion. Boreu dydd Iau, am 7 o'r gloch, yn nghapel Brynbowydd, pregethwyd gan y Parchn R. Morgan, St. Clears, a B. Williams, Canaan. Ni chawsom wybod pwy ddechreuodd yr oedfa hon. Am 10 o'r gloch, ar y maes, mewn man nodedig o gyfleus, dechreuwyd trwy ddarllen a gweddïo gan y Parch O. Thomas, Brynmair; a phregethodd y Parchn J. Miles, Aberystwyth, a D. Jones, B.A., Abertawy. Am 2, yn yr un lie, dechrcuwyd gan y Parch W. T. Hughes, Ebbw Vale; a phregethwyd gan y Parchn B. Davies, Trcorci, a R. Rowlands, Aberaman. Am 6, yn yr un lie, dechreuodd y Parch E. H. Davies, Llanon; a phregethodd y Parchn J. Thomas, Merthyr, ac O. Evans, Llundain. Felly terfynodd un o'r goreu, os nid y goreu, o holl gyfarfodydd yr Undeb o'r dechreuad, ddeuddeng mlynedd yn ol. Er fod amryw o'r hynafgwyr ffyddlon wedi eu lluddias gan gystudd i fod yn bresenol, yr oedd y presenol- deb Dwyfol yn amlwg iawn o nos Fawrth hyd nos Iau, a chredwn fod caredigion Ffestiniog wedi cael ad-adaliad boddhaol am eu llafur a'u caredigrwydd. Yr oedd y cynulliadau, yn neillduol yn y cyfarfodydd pregethu ddydd Iau, yn aruthrol o fawr. Yr oedd yr ymwelwyr, yn weinidogion a lleygwyr, wedi dyfod o bob sir yn y Dywysogaeth, ac o drefydd mawrion Lloegr. Ni anghofia yr ymwelwyr letygarwch cyfeillion Ffestiniog, a dysgwyliwn fod yr Undeb wedi gadael dylanwad iachusol ar y lie, a bod pob enwad ac eglwys yn y lie wedi derbyn bendithion ysbrydol drwyddo.