Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMBEIGr.…

News
Cite
Share

sylfaen y ty, fe fydd yr adeilad mewn perygl. Gwelsom ambell ddau wedi eu huno mewn priodas, a'u bywyd yn cidigon o esboniad mai ychydig- oedd y gofal gymer- wyd yn rhoddiad y syifaen i lawr. Yr oedd yna waharddiad yn nghyfraith Moses i ych ac asyn gael eu cyplysu a'u gilydd i aredig. Gyda gofid yr ydym wedi syiwiarlawerdauoeddyntyn fyrach cu clustiau, ac yn fwy eu hymenydd na'r creaduriaid crybwylledig, er yn llawn mor anghymhwys ar gyfer en gilydd, wedi ymuno rnewn priodas. Ac y mac gweled rhai felly cyn hyn wedi dwyn i'n eof hanes y Gwyddel hwnw oedd yn gwasanaethu fel boots mewn gwesty yn yr Iwerddon. Un noson fe gymysgwyd esgidiau y dy- eithriaid, ac yn anffodus cymerodd Pat esgid o bob par a gosododd hwynt wrth ddrws un boneddwr. Pan gododd hwn a'u gweled, fe ganodd y gloch, Ar hyny dyna Pat yn gwneyd ei ymddangosiad. Pat," meddai y boneddwr, you have brought me two odd boots." Shure yer honer," meddai Pat, that's strange, for there's another pair down stairs exactly lile' 'em." Mae gormod o'r odd pairs welir yn y byd priodasoi yn esboniad mai ychydigoedd y gofa! gymer- wyd wrth eu cyplysu. Elfen arall sydd a thuedd i s'crhau deàwyddwcll cartrefol ydyw ysiyiiaeth briodol o hawliau y naill a'r llall yn nhrefniadau ac amgylch- iadau y teuiu. Cofiwn fod cartref yn sefydliad pertli- ynol i gwmpeini-y gwr a'r wraig-a ddylai dim gael ei wneyd yn nglyn i\1' amgylchiadau heb gydsyniad aelodau y firm. Mae ymddwyn yn onest felly at ein gilydd yn cynyrchu cydweithrediad, a'r cydweithrediad yn esgor ar ddedwyddwch. Mao yu ddiau fod llawer o'r anghysur tenluaidd deim!ir yn nghartef ami i weithiwr yn ein gwlad yn codi o ddiffyg talu sylw pnodcl i'r ffaith hon. Mae amboll wraig mor awyddus am ragori ar ei chwiorydd yn yr un dosbarth a hi mewn gwisg. fel y defnyddia bob dyfais hyd yn nod i dwylJo ei gwr i gyrhaedd ei hamcanion. Os bydd dress non fonet newydd yn dyfod i'r ty, bydd wedi ei chael yn hynod rail. Faint gostiodd hi ? meddai y jiwr. "0, hyn," meddai bitbau. Yn sicr mi ro'dd yn rhad," meddai yntau. Dyna lyfr y siop," meddai hithau, gellwch weled drosoch eich hun," gan ei dallu ger ei fron. Ond erbyn ysbio, rhan o'r pris oedd yno, a'r rhan arall ar y bara, a'r caws, a'r ymenyn a fwyt- cid gan y teulu. Bryd arall bydd wedi cael darn o ddefnydd yn aeos am ddim gan ryw packman fydd wedi dyfod heibio, a dim ond rhy,v^wl;t yr wythnos i dalu. 0 bosibl fod hon y ffurf fwyaf dinystriol ar fas- nach i weithwyr ein gwlad y dyddiau hyn. Y mae y gwragedd hyny ydynt yn hoif o fasnachu yn y eyfeiriad yma yn llwyddo i werthu eu hunain yn rhad i'r pack- men yn llawer amlach nag y prynant ddim yn rhad wldiwrtbynt hwy. Wragedd y gynulleidfa, pender- fyuweh beidio twyIlo na chymeryd eich twyllo yn y cyfeiriad hwn. Ymddygwch yn onest tuag at eich gw £ r, a thuag at bawb. Mae llawer gwr o'r tu arall wedi myned yn aberth i'w flys, ac yn ystyried fod gwir urddas a dedwyddwcli i'w gad yn y dafarn ac yn y ehwaroudy gyda. y cwmni llawon; ac er cyrbaedd hyn twylla ei bi-iod o swyddft y gwiitli i'r ty ar ddydd y taiu. Dywedai mai hyn-a hyn oedd yr enill, ond ar yr un pryd yn cuddio rhill ohono er boddio ei flys ei hun. Trwy dwyll ysboilia, ei deulu o'r ariai, gwastraffa yr amser ddylai ei dreulio ar yr aeiwyd i gysuro a by- ftorddi y rhai sydd dan ei ofal yn y modd anheilwng hwn. Ddynion anwyl, cofiwch fod gan eich gwragedd a'ch plant hawl ar eich arian a'ch prescnoldcb yn eich oriau hamddenol. Elfen arall ddylai gael ein sylw- gochelwn g"el ein gwneyd yn ddynion ffasiwn. Nid ocs dim yn achosi mwy o brinder ar aelwydydd gweith- wyr Cymru heddyw na'r ffaith eu bod yn cael eu Uyw- odraethu gan ffasiynau yr oes. Y mae nifer fawr ohonynt wcdi myned i gredu mai y ffordd i esgyn grisiau dyrchafiad ydyw cael gwisg o'r ffasiwn ddi- weddaraf, cadach melyn am y gwddf, a modrwy ar y bys. Bydd gweled ambell un o'r dosbarth hwn yn dwyn i'm cot yr hen ddywediad hwnw sydd yn sicr o fod yn un cvfeiliornus, yn neillduol felly yn ein dydd- iau ni, aef ei bod yn rhaid cael naw teiliwr i wneyd dyn ond yn ol barn rhan fawr o gymdeithas lieddyw, fe fedr un teiliwr wneyd llon'd ardal o ddy nion. Cofiwn, gyfcillion, fod yn bosibl i adcryn gael ei chwythu i fyny i'r awyr gan bylor, ond nid yw yn briodol dyweyd ei fod yn codi ond pan y bydd yn hedfan ar ei adenydd ei bun. Felly y dywodaf finau, os oos yma rywrai am godi i safleoedd nehel mewn cymdcithas, gwyliwch gael eich chwythu i fyny gan bylor pomp, balehder, a tias- iwn yr oes; y mae y nod i'w gyrhaedd trwy lafnr, diwvdrwydd, a gofal personol yu unig. Elfen arall sydd a thuedd i wneyd cartref dedwydd ydyw astud- iaeth fanwl o natur a thyniherau ein gilydd. Pe gwnelid hyn, gellid ysgoi llawer ystorm o feilt a thar- anau nwydau a drwg eiriau glywir yn aflonyddu llawer cymydogaeth yn ein gwiad. Mae ambell i ddyn yn debyg i Pc lr yn wyllt a selog. Ilyfryd o beth i wraig hwnw IyO-ilai astudio y ffordd effeithiolaf i bwyllo a thawclu ei natur gyuliyrfus, yn hytrach na thywallt olev. geiriau geirwon nes ei yru ynfflam. "Jë," meddai rliyw wraig, hawdd y gellwch chwi son; be bai ehwi acw yn elywed John, ni fedrech chwithau ddim dal." Cofus genyf glywed dynes gall a phwyllog yn rhoddi eynghor i nn D4d oedd wedi dysgu atal ei thafod yn ci theulu. "Os bydd dygwydd i John chwi ddyweyd rhywbeth fydd yn eich cynhyrfu (a pheth hawdd i John oedd gwneyd hyny), ewch o'r neilldn a llenwch eich ceg a dwfr, a byddwch ofalus na red i mewn nac allan hyit nes byddo agerdd eich digofaint chwi wedi diflanu." Cofied gwyr a gwragedd ein gwlad y eynghor syml hwn-eegaid o ddwfr yn hytrach na ¡hae. Elfen arall —penderfynweh wneyd cartref y lie mwyaf swvnel ac atdyniadol o bob lie i aelodau y teulu. Cofiwch fod y lie yn ac o gylch y ty yn liin. Un o swyddogion ffydd- loiidf y diafol iddaioitwng plaut dyuion yw d'tiyg glau- weithdra. Dyma un o'r pcthau sydd yn achosi llawer o feddwdod y dosbarth gweithiol yn ein gwlad lieddyw. Mae'r dafarn yn iwy syber, ac felly yn fwy attractive i'r gweithiwr blinedig na'i gartref ei hun. Mae'r dafarn wraig, fel rheol, yn brydferth yr olwg—ei chroen yn dangos fod dwfr a sebon yn nes ati na'r afon—ei gwallt yn sibrwd fod crib a brush heb fod yn mhell. Y mae ei thaclusrwydd yn sirioli yr aelwyd nes ei gwneyd yn atdyniadol. Mewn trefn i gystadlu å tby felly, gofaled pob gwraig fod ei haelwyd yn Ian a dysglaer erbyn y daw y gwr o'r gwaith—mor glir fel y gallo weled ei lun ynddi; y bwyd yn barod, a hwnw wedi ei wlJeyd yn y modd go: eu llian gwyn ar y bwrdd, os bydd i'w gael chwithau eich hun a'ch ym- ddangosiad mor deg a p'nrydferth a'r adeg yr oedd yn dvfod i edrych am danoch yn eich ieuenctyd—croen glan, gwallt trwsiadus, a gwen sirio'. Ewch allan i ben y crws (a chofiwch mai cich drws eich hun, ac nid drws eich cymydoges) i'w gyfarfod pan yn dyfod o'i waith. Bydd eich golwg brydferth a'ch gwen siriol mor feius a derbyniol i'w deimlad, fel y byddai yn foddlon i yfed ei de heb siwgr y noson hono. Y gwyr, o'r tu arall, cofiwch fod eich yrnddygiad pan yn dyfod gartref yn fath o stimulant i'r wraig drefnus a gofalus bydded fod eich geiriau yn dyner, eich gwedd yn siriol a llawen, a'ch holl ymddyddanion yn fath o chimes i'r rhinweddau crybwylledig. Elfen arall hanfodol i sicr- han dedwyddweh cartrefol, ac i wneyd cartref yn (Jeilwng o'r enw, ydyw derbyniad calonog o egwyddor- ion Cristionogaeth yn egwyddorion llywodraetbol yr aeiwyd. Y grefydd hono sydd a'i hysbryd yn rhyddid a brawdgarweh ydyw y gallu effeithiolaf i'n dyrchafu fel dynion, a lla,nw ein p'eswylfod o ddedwyddwch. Iaith Josua ddylai iaith pob penteulu fod, Myfi, mi a'm tylwyth a wasanaethwn yr Arglwydd." Ac at hyn chwancgwch lwyryrnwrthodiad o'r diodydd meddwol. Mewn gair, y mae y rhinwedd hwn yn rhan o £ rrof^^u' ond yn rhan adewir allan gan lawer -ylllon da. Gweisom lawer o ddynion. oherwydd &<*Aaei allan y rhinwedd h«Tja> weai cael eu clvvyto yn nhy eu Garedi^ion H" hymarferiad â'1' ychydig wedi gwan- hau eu dylanwad ar feddyliau eu plant, a thrwy hyny esgor ar annedwyddweh teuluaidd. Byddweh yn llwyr- ymwrthodwyr er cyno'.thwyo pleid-vyr yr egwyddor i gael y byd dan ei dylanwad. Cyhoeddir arcithiau y Parchn W. Gibbon, Llanymddyfri; D. Silyn Evans, Aberdar a D. Roberts, Wrexham, yn ein rhifyn nesaf. DADGYSYJJLTIAD A DADAVADDOLIAD. Cynygiwyd y penderfyniad a ganlyn gan y Parch J. B. Jones, B.A., Aberhonddu— That this meeting of the Welsh Congregational Union, at their annual assembly held at Festiniog August 21st, 22nd, 23rd, 1883, desires to express its hearty approval of Mr Dillwyn's intention to move a resolution in favour of the Disestablish- ment and Disendowment of tee Church of England in Wales in the next Session of Parlia- ment and is strongly of opinion that a measure having this object in view should be passed at an early date, and pledge ourselves to use all legitimate means in support of such action. Eiliwycl gan Mr C. R. Jones, Y.H., Llan- fyllin. Cynygiwyd diolckgarwcii y cyfarfod i'r Cadeirydd gan Mr Idris Williams, Cwm Rhondda, ac cilhvyd gan Mr J. II. Jones, Aberdyfi, a dygodd hyny wcithrcdiadau y dydd i derfyniad. DYDD IATJ. Am 7 y boreu, cynaliwyd Cynadlcdd yn nghapel Jerusalem, o dan lywyddiaeth y Parch D. Jones, B.A., Abcrtawy, cadeirydd y pwyll- gor. Dechreuwyd trwy weddi gan y Parch W. I. Morris, Pontypridd. Wedi darlleniad Adroddiad y Pvvyllgor gan y Parch It. Thomas, Glandwr, cynygiwyd gan y Parch O. Thomas, M.A., TrcfFynon, ac ciliwyd gan y Parch B. Evans, Molinerytitaii- Fod yr Adroddiad i gael ei gymcradwyo. b Cynygiwyd gan y Parch W. I. Morris, Pontypridd, ac eiliwyd gan y Parch J. Morgan, Cwmbach— Fod diolchgarwch gwresocaf y Gynadledd hon yn cael ei gyflwyno i'r Parch William Edwards, Aberdar, am ei wasanaeth gwerthfawr fel Cadeirydd am y flwyddyn, ac yn enwedig am ei Anerehiad grymns a thra amserol o'r Gadair ar "Yr Eglwys a'r Oes yr ydym yn byw ynddi," gan ddymuno iddo fel un sydd wedi gwasanaethu ei Arglwydd, ei oes, a'i Enwad, gyda'r fath ffydd- londeb diflino dros gyfnod hirfaith, brydnawn- ddydd teg a dysglaer. Cynygiwyd gan y Parch J. Alun Roberts, B.D., Caergybi, ac eiliwyd gan Mr Jones, Ffestiniog— Fod diolchgarwch gwresocaf yr Undeb yn cael ei gyflwyno i'r Parch L. Williams, Bontuewydd, am ei wasanaeth gwerthfawr a ffyddlon fel Ykigrifonydd am y ta,ir blynedd diweddaf. Cynygiwyd gan Mr W. Williams, Llundain, ac eiliwyd gan Mr Richard Evans, Carmel— Fod diolcbgarwch gwresocaf v cyfarfod yn cael ei gyflwyno i'r Parchn J. P.Williams, Llanelli; W. Gibbon, Llanymddyfri; D. Silyn Evans, Aberdar; a D. Roberts, Wrexham, am eu hareithiau gorchestol. Cynygiwyd gan y Parch T. D. Evans, Victoria, ac eiliwyd gan Mr L. J. Davies, Llanuwchlly n— Fod diolchgarwch gwresocaf y cyfarfod yn cael ei gyflwyno i Mr J. Rees, Merthyr, am archwilio y cyfrifon am y flwyddyn o'r blaen. Cynygiwyd gan y Parch S. Evans, ac eiliwyd gan Mr W. Beddoe— Fod diolchgarwch gwresocaf y cyfarfod yn cael ei gyflwyno i eglwysi Jerusalem, Brynbowydd, a Salem, Blaenau Ffestiniog, am y derbynifd croesawgar a roddasant i'r Undeb eleni; ac i'r teuluoedd caredig yn perthyn i'r gwahanol enwadau yn yr ardal am eu parcdrwydd siriol yn agor eu tai i dderbyn yr ymwelwyr; ac yn arbeuigol i'r Parch T. R. Davies, a Mri J. Williams a R. H. Hughes, Ysgrifenyddion Llcol, am eu llafur diflino yn nygiad oddiamgylch e" trefniadau rhagorol er hwylusdod a "J:tir cyffredinol. Cynygiwyd gan v. —oa D- M. Liverpool. °7. gan y Parch Jl MachreLh V .L entrcfoelas- That the Welsh Congregational Union, assembled at its annual meeting at Festiniog, 23rd August, 1883, desires to express its satis- faction that Her Majesty's Government proposes to deal with the question of Intermediate Education for Wales early next Session, and, whilst expressing its pleasure at the prospect, it would respectfully impress upon Her Majesty's Ministers that it is of primary importance to ensure the success of any scheme in the Principality that the conduct and management of the schools be purely unsectarian in character and that a copy of this resolution be signed by the Chairman, and forwarded to the Prime Minister, the Right Hon. W. E. Gladstone, M.P. Cynygiwyd gan Mr Ishmael Davies, Man. chester, ac eiliwyd gan y Parch J. Owen, Llanegryn— Fod y personau canlynol i fod yn bwyllgor am y flwyddyn nesaf:—Cadeirydd: Parch W. Roberts, Liverpool. TrysorydA: Mr T. Williams, Y.H., Gwaelodygarth, Merthyr. Ysgrifenyddion_Parchn R.Thomas, Glandwr; J. B. Parry, Llansamlet; H. Jones, Birkenhead. Pwyllgor: Parchn W. Edwards, Aberdar; L. Williams, Bontnewydd; D. Griffith, Dolgellau; W. Lloyd, Caergybi J. Rowlands, Llundain; J. Stephen, Llwynyrhwrdd; D. Adams, B.A., Hawen P. Howell, Ffestiniog; J. LI. Jones, Penclawdd; D. Roberts, Rhyl; J. Charles, Croesosvvallt; D. Thomas, Llangynidr; J. Evans, Cwmafon; T. Davies, Llanelli; J. P. Williams, Llanelli; Mri J. Jeremiah, Llanhiddel; D. Williams, Merthyr; W. D. Davies, Ffrwd Villa, Tonypandy; D. Davies, 84, Stretford-road, Manchester; R. Martin, Abertawy; J. Evans, Liverpool S. Evans, Bangor Joseph Williams, Llanelli; Dr J. E. Jones, Llanelli; Dr Jones- Morris, Porthmadog. Cynygiwyd gan Mr Owens, Pentrefoelas, ac eiliwyd gan Mr G. J. Owens, Liverpool- Fod diolchgarwch y cyfarfod yn cael ci gyflwyno i Mr T. Williams, Y.H., Gwaelodygarth House, am ei wasanaeth gwerthfawr i'r Undeb ar hyd y blynyddoedd fel Trysorydd. Cynygiwyd gan y Parch L. Williams, ac eiliwyd gan y Parch R. Thomas— Fod Mr Joseph Williams, Merthyr, i fod yn Archwiliwr am y flwyddyn ddyfodol. Cynygiwyd gan Mr W. J. Parry, Maosygroes, ac eiliwyd gan y Parch S. Evans, ar gymer- adwyacth y pwyllgor— Fod yr Undeb yn agorcd i weinidogion, diacon- iaid, cenadon o'r eglwysi a'r Cyfundebau, yn nghydag aelodau eglwysig, y rhai a gyfranant, drostynt cu liunaiu nen dros yr eglwysi a gynrychiolant, y SWLlJ o 5g. ac uehod tuag at ei g 11 dreuiiau oddiwrth bob cenad fyddo yn bresenol, enwau y rhai a ymddangosant fel tanysgrifwyr yn yr Adroddiad argrailedig am un o'r ddwy flynedd flaenorol, neu a anfonant eu tanysgrifiadau i'r Trysorydd dri mis cyn y cyfarfod yr hawliant bleidleisio vnddo. Wedi ychydig ymddyddan, barnwyd yn ddoetli myned yn mlaeu fel cyni, a thynwyd y penderfyniad yn ol.