Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Family Notices

CWM HHONDDA.I

----._-CYSTUDD Y PARCH DR…

[No title]

Advertising

ESGOB^^-^EAGLR"

News
Cite
Share

hwyliau areithyddol yr ESGOB. Mae areithyddiaeth yn rhagorol pan yn seiliedig ar ffeithiau, ond yn dra dirmygedig pan yn seiliedig yn unig ar ddychymyg a drwg- dybiaeth. Profa ysgrifenydd yr erthygl y tuhwnt i amheuaeth nad yw ymddygiadau yr Aelodau Ymneillduol yn nglyn a chwestiwn Gwerthiant Bywoliaethau yn agored i gyhuddiadau yr ESGOB. Yr ydym yn diolch o galon i Mr EICHAED am yr erthygl ragorol hon. Nid oes pall ar ei ddiwydrwydd, er ei fod bellach yn "henafgwr yn mysg gwyr." Yr wythnos o'r blaen crybwyllasom am ei ffyddlondeb yn Nhy y Cyffredin tra yr oedd yr boll Aelodau Cymreig rywle o'r golwg. Ysgrif- enodd yn ddiweddar erthygl i'r British Quarterly Review ar gwestiwn agos iawn at ei galon, sef Cymru yn ei pherthynas ag Addysg." Atebiad anatebadwy ydoedd i erthygl anheg a ymddangosodd yn agos i flwyddyn yn ol yn y Church Quarterly Review. A dyma ef drachefn yn amddiffyn yr Ym- neillduwyr ar dudalenau y Contemporary Review. Yn sicr nid oes genym yr un dyn yn y Senedd nac allan o'r Senedd yn fwy teyrngarol i'w egwyddorion, na neb yn fwy parod i ruthro i'r adwy pan fydd y gelyn yn cymeryd y fantais leiaf arnom fel Ymneill- duwyr, ac, fel Paul, dwg fawr sel dros ei frodyr, sef ei genedl yn ol y cnawd." Berwa ei holl natur pan ddywedir "unrhyw air sarhaus am ei gig a'i waed ei bun." Mae yn dda genym weled ei fod wedi roddi rybudd y bydd iddo y Senedd-dymhor nesaf gynyg penderfyniad yn nglyn a Dadgysyllt- iad yr Eglwys yn Lloegr. Dysgwyliwn ei weled yn Abertawy a Chaernarfon yn ystod yr hydref yn arwain yr ymgyrch yn Nghymru yn erbyn Eglwys Loegr fel sefydliad gwladol. Yr ydym yn ei longyfarch ar ev adferiad i'w iechyd arferol. Yr ydym yn teimlo fod ei ysgrifell mor finiog, ei watwareg mor lym, a'i ymresymiad mor gryf ag yr oeddynt yn anterth ei ddydd. Fel dyngarwr, fel cenedlgarwr, ac fel amddiffynwr ein heg- wyddorion Ymneillduol, nid oes genym neb o gyffelyb feddwi i HENRY BICHARD.