Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Hide Articles List
6 articles on this Page
Family Notices
Family Notices
Cite
Share
Genedigaethau, Priodasau, &c. MARWOLAETHAU. EVANs.-Awst 17eg, yn 65 mlwydd oed, David Evans, Cwm. Treuliodd ei oes yn ardal ei enedigaeth, ac en- illodd air da ei holl gydnabod. Fel aelod cymdeithas, yr oedd yn srarc iig, hcddychlawn, ac o ymddiried. Un felly oedd o natur. Gormod o boen i'w hen ddyn ef fyddai gwneyd tro gwael. Ni chlywais neb yn ana dIn cyhuddiad o'r fath i'w erbyn. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig pan yn ieuanc, os wyf wedi fy hysbysu yn iawn, yn Penrhiwgaled. Pan sefydlwyd eglwys yn y Wern, ymaelododd yno, a pharhaoddyn aelod, ac yn y blynyddau diweddaf yn ddiacono eglwys y Wern hyd ei farw. Nodweddid ef yn arbcnigol g-an ffyddlondeb. Anaml iawny byddai ei leef yn wag yn unogyfatfod- ydd yr eglwys. Siaradai mewn ton ddifrifol a thra phendant, eto ni ddywedai ddim i frifo non suro teimlad neb. Yr oedd mewn gair yn un o "boddyrhoJ ffyddloniaid Israel." Yr oedd yn fwynhad ei weled yn mwynhau ei hun wrth wrando yr Efengyl. Yroedd trefn gras, fel y dywedai, wrth ei fodd—" yn ei suitio ef i'r dim"—" by wyd mewn iawn." Adroddaibraidd yn wastad Preg. ix. 10, a theimlai pawb fod rhywgyd- darawiad neillduol rhyngddo a hi; ac o'r herwydd dewiswyd hi yn sail ychydig o nodiadau ar ddydd ei angladd. Ychydig cyn marw canodd y penill, Dyma gariad fel y moroedd," &c., trwodd. Yna dywcdodd, Pe rhodiwn ar hyd glyn cydgod angeu, nid ofnaf niwed." Yr oedd bron myned drwy y glyn ar y pryd, oblegid aeth drwyddo yn holiol yn mhen ychydig fyn- ydan. Yr oedd yn falch iawn ei fod wedi magu mab i wasanaethu Daw yn Efengyl ei fab, y Parch 'W. E. Evans, Tresimwn. Yr Arglwydd fyddoyn dirion i'w anwyl weddw a'i amddifaid, ac a'u bendithio a ffydd- londeb digymbar eu tad, fel y caffont glywed y Da, was da a ffydr" Ion.-J. M. P. HUGHES.—Awst 25ain, yn sydyn ac annysgwyliadwy iawn, yn 30 oed, Miss Mary Jana Hughes, unig ferch Mrs Jones, grocer, High-street, Cefu. Nos Wener, daeth gartret' yn iach, ar ol bod yn Cei- newydd am dymhor and cafodd ffit boreu Sadwrn, o'r hon y bn farw. Yr oedd yr ymadawedig yn aolod ffycldlon iawn yn Nghapel Ebeuezer, Cern. Cladd- wyd hi dydd Mercher yn y Cemetery.
CWM HHONDDA.I
News
Cite
Share
CWM HHONDDA. Tanchwa yn Mhwll y Gelli. — Boreu dydd Mawrtb, Awst 21ain, aeth y gweithwyr i lawr i'r pwll fel arfer, tua 400 ohonynt, heb neb yn medd- wl fod dim aunymunol yn aros neb ohonynt, ac nid oedd y firemen oeddynt wedi bod yn archwilio y gwahanol ranau o'r gwaith yn ol eu harfer, wedi darganfod yr un arwydd o berygl yn llechu yn un man, am yr unig reswm, wrth gwrs, nad oedd yno ar y pryd ddim nwy dinystriol. Ac y mae hyn yn myn'd yn mhell i brofi yr hyn a gredir yn gyffredin yn yr ardal, fod y ddatnwain i'w phriod- oli i blower a chwythodd allan yn llechwraidd o ryw gilfach dirgelaidd. Sut bynag y bu, mae y gwirionedd yn aros, i danad ddygwydd yn hollol anuysgwyliadwy ac anesboniadwy hyd yn hyn yn heading Woodlifife tuag 8 o'r gloch y boreu, ac i 21 o'r gweithwyr gael eu llosgi, rhai yn bur ddrwg, o ba rai mae 4 erbyn hyn-boreu Sadwrn -wedi marw, sef John Jones, Victoria-street, Ton David Thomas, Square-street, Pentre John Lewis, Market-street, Pentre a Thomas Woodliffe, Pentre. Dyma restr o'r oil:—Thomas Chubb, overman, Gelli Cottage Rees Watkins, collier, Heolfach John Smith, collier, Gelli Road; Thomas Woodliffe, collier, Pentre William Lloyd, collier, Gelli Road John Jones, Victoria-street, Ton George Cowdry, Pleasant View; John Lewis, Market-street, Pentre; Evan Phillips, Treorci, a James Phillips, Maendy-road, y ddau olaf yn frodyr, Thomas Tucker, dryswr; David Thomas, Square-street, Pentre William Davies, Gelli Road George Hunt, Pentre; William Jones, Heolfach Henry Williams, Gelli Road J. Shortman, Trip Terrace Benjamin Woodliffe, Pentre John Jones, Pentre; William Ruth, Gelli Road, a George Lewis, Gelli Road. Mae y rhan fwyaf ohonynt yn d'od yn mlaen yn dda iawn, ac mae yma byder pur gryf na bydd ych- waneg ohonynt farw. Gellir dyweyd hyn er cysur i'w cyfeillion ddichon fod yn mhell, eu bod yn cael y gofal mwyaf. Yr wyf yn gallu dyweyd hyn am fy mod yn llygad-dyst bob dydd o'r caredig- rwydd hwn. Maent oil o dan ofal tri neu bedwar o ddoctoriaid, ac un ohonynt yn bwrpasol wedi cael ei gyrchu o Lundain ar gyfer yr amgylchiad. Mae yn annichonadwy rhoi gormod o glod i Dr Idris Davies, dan ofal pa un mae y gwaitb, am ei ofal a'i garedigrwydd yn y peth hyn. Peth arall sydd yn ychwanegu at gysur y cleifion yw, fod un o'r perchenogion, sef Mr Thomas, Maendy Hall, yn dygwydd byw yn yr ardal, ac y mae holl ddanteithion y ty at wasanaeth y cleifion, y tlotaf fel y gwychaf ohonynt. Peth arall sydd yn ychwanegu at gysur y cleifion, yw fod y ewmni wedi penodi dynion i ofalu am y cleifion, yn en- wedig y rhai gwacthaf ohonynt. Fel rhwng pob peth, hyderir yn gryf am adferiad y gweddill. Nid wyf yn gwybod am un ffaith bwysig arall y dylwn grybwyll yn nglyn a'r llosgiad hwn, ond ni byddai yn anfuddiol i grybwyll un neu ddwy o ffeithiau cyffredinol yn nglyn ag amgylchiadau fel byn. Wedi i mi ddeall fod y peth wedi dygwydd, aethym ar unwaith i ben y pwll i gael bod yn llygad-dyst o'r boll ddygwyddiadau. Un petb a/m tarawodd i oedd y tawelwch a'r goddef- garwch oedd yn meddianu pawb pan oedd y llosg- edigion yn d'od i fyny. Darllenais mewn papyr dyddiol fod yno ochain, a gala.ru, a gwaeddi." Nae oedd, dim o'r fath beth. Ond yr oedd pob arwyddion fod y teimlad a'r cydymdeimlad mor ddwfn a phe buasent yn gwaeddi. Peth arall a'm tarawodd i oedd y gallu mawr sydd gan amgylch- iadau fel hyn i ddiddymu pob gwahaniaeth cym- deithasol. Un o'r pethau cyntaf welais ar ben y pwll oedd tri cherbyd at wasanaeth y llosgedig- ion, sef cerbyd o'r Maendy Hall, cerbyd y Dr Idris Davies, a cherbyd oddiwrth Mr John, Pentre Hotel. Peth arall a'm tarawodd i oedd yr undeb sydd rhwng y gweithwyr a'r cydymdeimlad sydd yn rhedeg drwyddynt. Yr oedd gweithwyr y gwahanol byllau cymydogaetbol, a'r gwahanol fanagers ar unwaith ar ben y pwll ac i lawr iddo, a dyna lie y buont trwy y dydd nes gweled pob peth yn ei Ie. Ymataliaf ar hyn. Cewch glywed genyf eto sut y bydd pethau yn d'od yn m laen. [Wedi ysgrifenu yr uchod, deallwn fod Chubb, yr overman, wedi marw.J Ymgais at hunan laddiacl.—Yr oedd i lawr yn y pwll uchod pan gymerodd y danchwa le un o'r enw William Davies, yn lletya yn 52, Gelligaled- street, Bodringallt. Pan aeth adref aeth i'r dafarn i yfed a mcddwi, ac yn ei feddwdod rhegai, a gofynai, Paham na chawsai efe fod yn un o'r rhai a losgwyd." Aeth adref i'w lety, a chysgodd trwy y nos yn y gadair wrth y tan. Y boreu wrth fyned i'w waith auogai gwr y ty ef i fyn'd i'w wcly, ond pan godcid gwraig y ty, cafodd y truan dan y grisiau wedi tori ei wddf. Galwyd meddyg ato yn uniongyrchol. Mae yn fyw hyd yn byn, a hyderir y daw. Y farn gyffredin yw fod yr ofn a gafodd wedi effeithio ar ei feddwl. Hunan-laddiad. — Boreu dydd Mercher, cafwjd corff John Jones (Shorn Shan), haulier, yn byw yn Chapel-street, Treorci, ar y mynydd ger Glyn- colly, wedi ymgrogi wrth goeden gyda'i gadach gwddf. Aeth o'r ty gan ddyweyd ei fod yn croesi y mynydd i Aberdar boreu dydd Llun, a boreu dydd Mercher cafwyd ef yn y modd crybwylledig tua haner milltir o Treorci. Yr oedd yn briod. Marivolaelh y Parch R. Herbert, Ehymni. — Bn farw yr hen batriarch uchod dydd Sadwrn, y 18ed cyfisol, yn nhy ei fab-yn-nghyfraith y Parch L. Jones, Nazareth, Pentre, a chladdwyd ef y dydd Mjrohcr canlynol yn Rhymni. Yr oedd yn 75 mlwydd oed, ac wedi bod yn y weinidogaeth am 50 mlynedd. GOHEBYDD.
----._-CYSTUDD Y PARCH DR…
News
Cite
Share
CYSTUDD Y PARCH DR REES, ABERTAWY. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FONEDDIGION,-Nid oes un rhan o Gymru nad yw wedi clywed am gystudd trwm a pheryglus Dr Rees, Abertawy, a mawr yw llawenydd pob calon am y gobaith sydd gtnym yr adferir yr Hybarch Ddoctor i'w iechyd. Pasiwyd penderfyniad yn eglwys a chyn- ulleidfa Bethania, Treorci, nos Sabbotli diweddaf, Awst 27ain, yn datgan eu diolchgarwch a'u llawenydd am fod tebygolrwydd yr adferir y Doctor o'r cystudd presenol i'w iechyd, ac yn dymuno bod iddo flynyddau lawer eto o fywyd a nerth i wasanaethu ei gene II, a'i Enwad, a'i Dduw, Efengyl yr hwn y mae wedi ei phregethu am yn agos i HANER CAN' MLYNEDD. Yn oedd yr oIygfa ar y gynnlleidfa luosog ar ci thraed yr gyffious a dylanwadol. Coffaodd Mr Davies am gys- tudd ac adferiad Dr W. Rees, yn ngbydag anhwylJeb presenol Dr Thomas. Edrycha yr eglwys hon ar y rhai uchod fel cenadon Arglwydd y lluoedd, ac yr oedd yn hawdd adnabod, pan wnaed y cyfeiriad atynt, eu bod yn anwyl ganddi, ac y teimlai bryder yn eu cyleb, rhajf i'r tywysogion hyn yn Israel'syrthio. Gadawed yr Arglwydd hwy eto i ni am flyQyddau lawer. AELOD.
[No title]
News
Cite
Share
JERUSALEM, PEMBRE.-Cynaliwyd cyfarfod blynyddol Jerusalem nos Sadwrn, dydd Sul, a nos Lun, Awst 18fed, 19a.g, a'r 20fed. Y pregethwyr eleni oedrlynt y Parehn E. A. Jones, Castellnewydd-Emlyn, a'r Parch J. T. Jones, Gwerllwyn, Dowlais. Cafwyd pregetbu grymus ac effeithiol, a chynulleidfaoedd llu- osog- a chasgliadau rhagorol.-Gohebydd. RHIGOS, HIRW AUN.-Awst 19eg a'r 20fed, cynaliwyd cyfarfod blynyddol eglwys Annibynol y lie uchod. Y gwahoddedigion eleni oeddynt y Parehn G. B. Williams, Quaker's Yard; J. D. Rees, Salem, Ab"rdar a D. R. J ones, Cefn. Yr oedd y genadwri fawr am y groes yn cael ei theimlo yn allu Duw o enau ei weision. Teimlem awydd diolch i Dduw ei fod yn gofalu am yr areithfa Gymreig, er cymaint o ymosod sydd arni gan rai sydd wedi suro. Gallwn fel Enwad yn Nghymru a Lloegr deimlo yn falch fod ein pwlpud yn cael ei lanw a dynion ieuainc wedi eu donio yn helaeth i'r gwaith, Yr oedd yn wir dda genym weled y brawd ieuanc talentog Mr Jones, Cefn, wedi gwella mor dda, ac yntau wedi bod mor hynod o wan. liir oes iddynt oil i wasanaethu eu eenediaeth yn yr Ar- glwydd, madd—Amtcus. CARMEL, PENRHIWCEIBR. Cvnaliodd yr eglwys hon ei chyfarfodydd blynyddol Sul a Linn, Awst 19eg a'r 20fed. Gweinyddwyd eleni gan y Parchn D. M. Jenk ns, Liverpool; J. T. Evans, Bodringallt; a J. Evans, Nelson. t'awsom gyfarfodydd hyfryd o'r dechreu i'r diwedd-neh yn amheu nad oedd y Meistr gyda'i wcision-Seion Duw yn y lie yn teimlo fod y genadwri fel gwlithwlaw ar irwellt "-a phechadur- iaid yn teimlo ei nerth argyhoeddiadol. Casglwyd yn ystod y cyfarfodydd at leihau dyled y capel, a chafwyd ar y diwedd fod £100 yn Haw y trysorydd. LLANIDLOES.-Cynalioud yr Annibynwyr yn y lie hwn eu cyfarfod blynyddol nos Fercher a dydd Iau, Awst 15fei a'r 16eg. Gweinyddwyd or yr achlysur gan y Parch E. James, Nefyn, a'r Parch D. Roberts, Wrexham. Cafwyd oedfaon gwlithog, a pliregethau grymus, a chasgliadau da. Bydded i ffrwyth toreithiog y gwirionedd a hauwyd ymddangos yn ol llaw er go- goniant Duw Dad.—Cyfaill.
Advertising
Advertising
Cite
Share
BucHUpAiBA.—Gwellhad newydd a chyflym o holl anhwylderau y lleisw a'r arenau. 4.>. Gofynwch am dano i'r Druggists. Prif Swyddfa—Llundain, No. 1, King Edward-street. GREEN MOUNTAIN ASTHMA CUBE. — Anfonii- tiniau bvehaiu YIl rliydil trwy y llj'tliyrdy am Is 2c.—F. NEWJililtV, a'i FELBION, 1, lCiii^ Edward-strcct, Llundain Sefydlwyd yn y tlwyddyn 174H. FEELS YOUNG AGAIN.—"My mother was afflictc-d along time with ncnralgia and a dull. heavy, inactive condition of the whole system, headache, nervous prostration, and was almost helpless. So physiciana or medicincs did her any good. Three mouths ago she began to use Hop Hitters, with such good effect that she seems she began to use Hop Hitters, with such good effect that she seems and ieels young again, although over seventy years old."—A LADX IN H. 1. Ivead Advt.
ESGOB^^-^EAGLR"
News
Cite
Share
hwyliau areithyddol yr ESGOB. Mae areithyddiaeth yn rhagorol pan yn seiliedig ar ffeithiau, ond yn dra dirmygedig pan yn seiliedig yn unig ar ddychymyg a drwg- dybiaeth. Profa ysgrifenydd yr erthygl y tuhwnt i amheuaeth nad yw ymddygiadau yr Aelodau Ymneillduol yn nglyn a chwestiwn Gwerthiant Bywoliaethau yn agored i gyhuddiadau yr ESGOB. Yr ydym yn diolch o galon i Mr EICHAED am yr erthygl ragorol hon. Nid oes pall ar ei ddiwydrwydd, er ei fod bellach yn "henafgwr yn mysg gwyr." Yr wythnos o'r blaen crybwyllasom am ei ffyddlondeb yn Nhy y Cyffredin tra yr oedd yr boll Aelodau Cymreig rywle o'r golwg. Ysgrif- enodd yn ddiweddar erthygl i'r British Quarterly Review ar gwestiwn agos iawn at ei galon, sef Cymru yn ei pherthynas ag Addysg." Atebiad anatebadwy ydoedd i erthygl anheg a ymddangosodd yn agos i flwyddyn yn ol yn y Church Quarterly Review. A dyma ef drachefn yn amddiffyn yr Ym- neillduwyr ar dudalenau y Contemporary Review. Yn sicr nid oes genym yr un dyn yn y Senedd nac allan o'r Senedd yn fwy teyrngarol i'w egwyddorion, na neb yn fwy parod i ruthro i'r adwy pan fydd y gelyn yn cymeryd y fantais leiaf arnom fel Ymneill- duwyr, ac, fel Paul, dwg fawr sel dros ei frodyr, sef ei genedl yn ol y cnawd." Berwa ei holl natur pan ddywedir "unrhyw air sarhaus am ei gig a'i waed ei bun." Mae yn dda genym weled ei fod wedi roddi rybudd y bydd iddo y Senedd-dymhor nesaf gynyg penderfyniad yn nglyn a Dadgysyllt- iad yr Eglwys yn Lloegr. Dysgwyliwn ei weled yn Abertawy a Chaernarfon yn ystod yr hydref yn arwain yr ymgyrch yn Nghymru yn erbyn Eglwys Loegr fel sefydliad gwladol. Yr ydym yn ei longyfarch ar ev adferiad i'w iechyd arferol. Yr ydym yn teimlo fod ei ysgrifell mor finiog, ei watwareg mor lym, a'i ymresymiad mor gryf ag yr oeddynt yn anterth ei ddydd. Fel dyngarwr, fel cenedlgarwr, ac fel amddiffynwr ein heg- wyddorion Ymneillduol, nid oes genym neb o gyffelyb feddwi i HENRY BICHARD.