Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

1 article on this Page

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMBEIGr.…

News
Cite
Share

gan hyderu yr estynir ei cinioes am flynyddau lawer eto i wasanaethu ei Arglwydd yn Efengyl ei Fab ef. Mewn geiriau nodedig o dyner, desgrifiai Mr Williams y pryder a feddianai bob dosbarth a phlaid o ddynion, nid yn unig yn Abertawy, ond hefyd drwy Gymru, Lloegr, ac Ysgotland, yn ystod y dyddiau yr oedd bywyd Dr Recs yn y glorian. Darllenodd lythyr a dderbynias- ai ei gyfaill y Parch D. Jones, B.A., Abertawy, y boreu hwnw oddiwrth Miss Rees (merch y Doctor), a telegram oedd yntau newydd ci dderbyn oddiwrth ei fab yn mynegi eyflwr y Doctor am 10 o'r gloch y boreu hwnw. Rhodd- odd ton obeithiol y llythyr a'r telegram foddhad neillduol i'r cyfarfod. Yn nghwrs ei sylwadau, gwnaeth hefyd gyfeiriad tyner a charedig at gystudd diweddar Dr Rees, Caer, yr hwn yr oedd yn dda gan bawb ddeall, ei fod wedi agos lwyr wellhau ac at afiechyd presenol Doctor Thomas, Liverpool, yr hwn yr oedd vpen gan aüYlltnadèâi1 e-1 fod ar wellhad. Eiliodd y Parch O. Evans, Llundain, gan gydsynio a'r oil a ddywcdwyd gan Mr Williams. Pasiwyd y penderfyniad mewn dystawrwydd oedd yn hynod effeitliiol, a therfynwyd y cyfar- fod gan y Cadeirydd. Am 2 o'r gloch yn nghapcl Brynbowydd, dcchrcuwyd trwy ddarllen a gweddio gan y Parch D. Jones, Cwmbwrla. Galwodd y Cadeirydd ar y Parch D. Oliver, Treffynon, i gynyg penderfyniad ar y fasnach sydd yn cael ei chario yn mlaen gan Lywod- raeth Lloegr mewn opium, yn China, yr hon sydd yn annghyfiawnder a chreulondeb tuag at China, yn waradwydd i'r eymeriad cenedlaethol ac yn brif rwystr ar ff'ordd llwyddiant yr Efengyl yn y wlad hono. Eiliwyd gan y Parch D. Jones, B.A., Aber- tawy, a phasiwyd ef yn unfrydol. Cynygiwyd y penderfyniad a ganlyn gan y Parch J. Jones, Machynlleth. Fod yr Undeb hwn yn dwys ofidio oherwydd ymddygiad Ffrainc yn ei hymosodiad presenol ar Madagascar, yn ystyried fod y rheswm a ddyry dros ei hymddygiad yn annheilwng a'i hymosod- iad yn farbaraidd, ei fod yn peryglu atal y llwydd- iant rhyfeddol sydd wedi bod ar y gweithrediadau eenadol yn yr Y nys hono, yn gystal ago oeri y teimlad da sydd wedi ffynu cyhyd rhwng Ffrainc a Lloegr. Y mae yn dymuno gan hyny gahv sylw ein heglwysi at gais Cyfaxwyddwyr Cymdeithas Genadol Llundain ar iddynt gydymuno i erfyn ar i Dduw'gyfryngu yn yr adeg ddifrifol hon. 11 Credai Mr Jones fod priodoldeb neillduol yn ei waith ef yn cynyg y penderfyniad hwnw. Iddo pan yn 12 mlwydd oed dderbyn argraff- iadau dyfnion yn nglyn a Madagascar oddiwrth bregeth a glywsai gan Mr Griffiths pan ar ym- weliad a'r wlad hon, oddiar y geiriau Y berth yn llosgi ond heb ei difa." Yn mhen 14 mlyn- edd daeth Mr Griffiths a'i deulu i breswylio yn Machynlleth. Mae genedigol o Machynlleth oedd Mrs Griffiths, ac yno y gorwedda gwedd- illion Mr a Mrs Griffiths, eu merch, a merch eu merch. Ond fod cymylau duon yn awr uwch- ben Madagascar. Fod Ffrainc wedi ymosod arni, gan bawlio perchenogaeth mewn rhan ohoni. Eu rheswm dros byny ydyw, fod hen gytundeb i'r perwyl wedi ci wneyd. rhwng Ffrainc a rhai o hen dywysogion Madagascar, na osodwyd i weithrediad, a'u bod hwy yn awr yn hawlio eu eyflawniad, er eu bod wedi eu hanwybyddu am flynyddoedd lawer, ac ni ym- ostyngant i'w dangos i neb er gofyn ganddynt. Edrychai ar ymddygiad Ffrainc fel un barbar- aidd. Wedi dyfod o'r llynges o flaen Tamatave, ni rodclasant ond 8 niwrnod i'r llywodraeth yn Antanarivo i bendcrfynu a ymostyngent ai ni wnaent, yr hyn nid oedd yn ddigon o amser i fyned i, a dychwclyd. o'r ddinas i Tamatave. Hefyd, dim ond uri awr o rybucld gafodd tri- golion Tamatave i ddianc cyn i'r llynges ddechreu tan-beleni y lie, a chymerwyd bonedd- iges urddasol yn gaeth ganddynt o blith y Sakalavas, er mwyn eu gorfodi i gymeryd eu plaid hwy yn erbyn yr Hovas. Mor wahanol oedd ymddygiad Brenines a Llywodraeth Madagascar. Rhoddasant liwy bum' niwrnod o rybudd i'r Ffrancod oedd yn byw yn Antan- arivo i ymadael o'r ddinas; ac os na allenfc wneyd hyny y rhoddasai y Llywodraeth help iddynt i gludo eu heiddo ac arian i ddwyn eu treuliau. Fod Ffrainc drwy y weitbred hon wedi peryglu yr heddwch rhwng Ffrainc a Lloegr. Fod cenadwr Prydeinig, Mr Shaw, wedi ei gymeryd yn garcharor ar fwrdd un o'r llongau, a court martial yn cael ei fygwth arno, ac ni oddefid iddo weled hyd yn nod ei wraig, a'r cwbl am iddo ddangos tipyn o garedigrwydd tuag at v Malagasy yr oedd wedi aberthu cvmaint er eu mwyn. Eiliwyd gan y Parch J. R. Williams, Hir- waun. Cydymdeimlai yn llwyr a'r penderfyn- iad, a chredai fod yr amgylchiadau presenol yn cynyrchu mwy o ddyddordeb yn Madagascar yn yr eglwysi. Yr oedd ymddygiad Brenines Madagascar yn peri iddo deimlo yn falch o grefydd Crist, a chredai y dylai yr Undeb godi ei lef i waeddi—Duw gadwo'r Frenines. Pas- iwyd y penderfyniad gyda dystawrwydd. Pa le y cynelir Cyfarfodydd yr Undeb y --Ta J —« yufynodd y Cadeirydd os oedd yno rywun yn ei wahodd. Yn nghanol uchel gymeradwyaeth daeth y Parch T. Johns, Llanelli, yn mlaen i'w wa- hodd i Lanelli, fod yno 5 o eglwysi yn awyddus iawn am dano. Mewn araeth ddoniol iawn, dadlcuodd Mr Johns dros ei achos fel bargyf- reithiwr galluog a medrus. Gyda'i fod yn ter- fynu, wele y Parch It. Rowlands, Aberaman, yn dyfod yn mlaen yn nghanol cheers mawr, i gyflwyno i'r Undeb wahoddiad unol, gwresog, a thaer 15 o eglwysi yn nghwm Aberdar. Siaradai Mr Rowlands fel un a'i bwnc wedi cydio ynddo, ac yntau yn ei bwnc ac fel un yn credu fod cael yr Undeb i le yn gosod anrhydedd ar y lie hwnw Daeth Dr Jones, Llanelli, yn mlaen i gefnogi Mr Johns mewn araeth ddifyrus a llawn o natur dda oedd yn enill cymeradwyaeth gyffredinol. Yna cododd y Parch J. Morgans, Cwmbach, i gefnogi Mr Rowlands. Yr oedd Mr Morgans yn ddawn dyeithr i'r cyfeillion yn y Gogledd, ond ni anghofiant ef yn fuan. Yr oedd ei sylwadau miniog ond chwareus ar resymau y cyfeillion o Lanelli, a'i arabedd fyw yn cario pob peth o'u blaen. Cynygiodd y Parch E. Stephen, Tanymarian, Fod yr Undeb y flwyddyn nesaf i fyned i Llanelli." Eiliodd y Parch E. A. Jones, Castelinewydd Emlyn. Cynygiodd Mr W. Beddoe, Nelson, fel gwelliant, ei fod i fyned i Aberdar. Eiliodd y Parch O. R. Owen, Glandwr. Cafwyd mwyafrif mawr dros Llanelli. Felly yno y cynelir y cyfarfodydd y flwyddyn ncsaf. Ethol Cadeirydd am y flwyddyn nesaf oedd y mater nesaf, ac i hyny gwasgarwyd papyrau ar y rhai yr oedd pob un i ysgrifenu enw yr hwn a ddewisasai efe. Cynygiodd Proff. Rowlands, B.A., Aberhon- ddu, fod y personau canlynol i fod yn archwil- wyr y ploidleisiau:-Parchn E. Stephen, H. Thomas, Glandwr; Mri J. Cadwaladr, a L. J. Davies, Llanuwchlyn. Eiliodd y Parch D. Roberts, Wrexham. Wedi casglu y Papyrau aeth y boneddigion hyn i'r festri i'w harchwilio. Yna galwodd y Cadeirydd ar y Parch L. Jones, Ty'nycocd, i ddarllen Papyr ar Y Beibl ac Addysg Orfodol yn ngoleuni Ym- neilldnactli." Erbyn fod Mr Jones wedi gorphon darllen ei Bapyr gwerthfawr, yr oedd yr archwilwyr wedi dychwelyd. Dywedodd y Parch E. Stephen fod 277 o bleidleisiau wedi eu rhoddi. 0 hyny fod 4 ohonynt wedi bod yn ddigon call i'w enwi cf. Pwy bynag oeddynt, dymunai gyflwyno ei ddiolchgarwch iddynt. Fod yr ctholedig wedi cael 158 o bleidleisiau yn fwy na'r nesaf ato ar y rhes, a 117 yn fwy na'r holl o'r lleill gyda'u gilydd. Mai yr ctholedig oedd y Parch W. gi Roberts, Liverpool, yr hwn a gafodd 197 o bleidleisiau, sef 200 ond 3 allan o 277. Der- byniwyd yr hysbysiad gyda chymeradwyaeth uchel a maith, a drwg Alan y eyfarfod oedd nad oedd Mr Roberts yn bresenol i fod yn dyst o werthfawrogiad y eyfarfod ohono, ac o'u parch mawr iddo. j Yna cynygiwyd y penderfyniad a ganlyn gan ( Mr R. Martin, Abertawy :—- Fod y eyfarfod hwn wedi gwrando gyda dydd- < oideb a¡: Bapyr cynwysfawr, clir, ac awgrymiadol i y Parch L. Jones, Ty'nycood, ar "Y Beibl ac Addysg Orfodol yn ngoleuni Ymneillduaeth," yn hyderu yn fawr y bydd i'r gwrandawiad ohono heddyw yn nghyda'r darlleniad helaethach ohono eto ddeffroi meidyliau i bwysigrwydd y mater, creu awydd adnewyddol mewn llawer i astudio y cwestiwn yn ei holl agweddau, a'n cynhyrfu 011 i sefyll yn gryf dros hawliau eydwybod a rhyddid crefyddol sydd bob amser wedi bod mor werth- fawr a chysegredig yn ein golwg fel Ymneill- duwyr. Canmolai Mr Martin y Papyr yn fawr, am eglurder a thegwch ei ymresymiad, a difloesgni ei cklatganiad ar fater a gyfrifai efe yn perthyn i egwyddorion hanfodol ein Hymneillduaeth. Gofidiai fod cynifer o Fyrddau Ysgol yn N ghymru yn gosod darllen y Beibl yn rhan o waith yr ysgol ddyddiol. Ein bod yn groes i ddynion mewn oed i gael eu talu gan y Llywod- raeth am ddysgu crefydd i ddynion, a'i fod yn methu gweled pa gysondeb oedd rhwng hyny a'n gwaith yn talu dynion o'r trethi i ddysgu crefydd i'r plant. Iddo ef fod yr Eglwys Sefydledig a'r Beibl mewn Ysgol Fyrddol yn gywir ar yr un tir. Iddo of hefyd, yr oedd y poth yn wrthun. Os oeddem yn erbyn i ddyn- ion urddedig, wedi eu trainio i ddysgu crefydd i fod yn weision y Llywodraeth i ddysgu cref- ydd,. gwrthun oedd gosod ysgolfoistr yn was cyflogedig y Bwrdd Ysgol i ddysgu crefydd i'r plant, ac yntau heb ei drainio i hyny. Yr oedd ganddo ef barch i'r Beibl, a chredai yu gryf ynddo, ac y dylid ci ddysgu i blant fel ag i ddynion mewn oed; ond credai mor gryf a hyny mai nid dynion heb eu trainio oedd yn gymhwys i'w ddysgu i blant mwy nag i ddyn- ion, ni ddylid talu neb am ei ddysgu o'r trethi gorfodol, ac na ddylid gwthio eu addysg ar blant yn groes i ewyllys eu rhieni. Nis gallas- cm, dybiai ef, fod yn gyson a ni ein liunain pan yn codi ein Ilef yn erbyn yr Eglwys Sefydiedig, ac ar yr un pryd yn cydsynio a threthi dynion i gynal addysg grefyddol yn yr ysgolion o dan y Byrddau Ysgol. Eiliwyd y penderfyniad gan y Parch J. Charles, Croesoswallt,, yr hwn a ddywedodd Mae dwy neu dair off eithiau y dylid eu cofio wrth ymdrin &'r mater hwn. Mae Mesur Addysg 1870 wedi bod yn llwyddiant mawr, a rhaid edrych arno fel un i wneyd gwaith neillduol eto yn y dyfodol, pa welliantau bynag a wneir arno. Mae y Llywodraeth wedi gadael y pwnc o ddwyn i fewn neu gau allan y Beibl o'r ysgolion yn llaw y Bwrdd Ysgol, y rhai a ddewisir gan y treth- dalwyr. Felly, yn wirioneddol ac yn rhinweddol, y mae y llywodraeth yn Haw y bobl. Gan fod y mwyafrif mawr yn Nghymru yn Ymneillduwyr, yn ymarferol, y mae y llywodraeth yn eu llaw hwy. Mae yr Annibynwyr yn un o'r enwadau lluosocaf a mwyaf ei ddylanwad yn y wlad, a dylai fod ganddynt rywbeth i'w ddyweyd ar y mater hwn. Maent wedi bod yn y front yn brwydro dros ryddid gwladol a chrefyddol, ac nid ydynt ya ol i enwadau ereill yr eu hymlyniad wrth Air Duw a'u ifyddlondeb iddo. Rhaid addef fod gwrthwynebiad lied gryf i ddysgu y Beibl yn ye Ysgolion Byrddol. 0 ba le y mae yn codi ? Beth yw yr achos obono ? Pe codai gwrth- wynebiad o'r fath yn Ffrainc, gellir priodoli y peth i anffyddiaeth y wlad hono ond nid diffyg crefydd yw yr achos o hyn yn y deyrnas hon, yn enwedig yn Nghymru. Rhown y compliment hwn i'r dosbartb sydd yn erbyn, a dylai y rhai sydd drosto gael triniaeth gyffelyb ganddynt hwythau. 1. Mac fod y wlad yn gynwysedig o ivahanol bleidiau crcfydJol yn arihawsder. Dywedir 08 bydd ysgolfeistr yn Fethodist neu yn Annibynwr, y bydd hyny yn anhegweh ac yn anfantais i'r enwadau ereill; ond fel y cyfeiriwyd at ddywediad call o eiddo Mr Humphreys, Dynryn, os na chaiff dyn gyfiawnder gan bawb, y caiff gyfiawnder rhyngddynt oil. Felly am yr enwadan-os na chaiif un mo'i ran mewn un ardal, caiff fwy mewn ardal arall. Caiff yr enwadaxi gyfiawnder rhwng yr holl ysgolfeistri; ac ar y cyfan, gollir dysgwyl teg-wch oddiar eu llaw, gan ou bod yn gwas- anaethu y cyhoedd ac os na cheir, gan fod yr awdurdod yn llaw y cyhoedd, gwyddant y canlyniad. 2. Ond yr anhawsder mawr ydyw perthynas y Llywodraeth d Mesur Addysg, Mae yr addysg yn Drfodol, ond y mae dysgu y Beibl neu beidio at ryddid y Byrddau Ysgol, ac yn rhinweddol yn llaw y bobl. Addysg fydol yw y pwnc mawr o'r iechreu i'r diwedd gan y Llywodraeth. Ni roddir ueiniog o grant ond am hyn, ac y mae y grant yn jael ei roddi am y llafur trwy y fl wyddyn. Beth ti-ull a alias, y Llywodraeth wneyd? A oedd