Skip to main content
Hide Articles List

2 articles on this Page

CROESOSWALLT.

News
Cite
Share

CROESOSWALLT. "CYFARFOD SEFYDLIAD. Cynaliwyd cyfarfod sefydliad y Parch James Charles, diweddar o Llanuwchllyn, yn weinidog ar Eglwys Hermon," Croesoswallt, Sul a Llun, Awst 12fed a'r 13eg. Boreu Sabboth, am 7 o'r gloch, cynaliwyd cyfarfod i weddio am wenau'r Arglwydd ar hyd y dydd. Am 10, pregethodd y Parch D. S. Davies, Llanfyllin, oddiwrth Phillipiaid ii. 12, 13, a'r Parch D. Griffith, Dolgellau, oddiwrth Dat. iii. 1. Y prydnawn, pregethodd y Parch R. Roberts, Manchester, oddiwrth 2 Sam. vii. 19, a'r Parch D. S. Davies oddiwrth loan i. 1, A'r hwyr, y Parch R. Roberts oddiwrth 1 Pedr i. 13, ar Parch D. Griffith oddiwrth 1 Pedr i. 8, 9. Prydnawn dydd Llun, cynaliwyd cyfeillach grefyddol o dan lywyddiaeth y Parch D. Griffith, Dolgellau. Darllenwyd a gweddiwyd gan y Parch R. Roberts, Manchester. Ar ol cyfarchiad doeth gan y Cadeirydd, galwodd ar y Parch R. Powell, Drefnewydd. Siaradodd Mr Powell yn benaf ar y pwnc ein bod fel crefyddwyr yn gwneyd yn fawr o'n Beibl-ei gwneyd yn benderfyniad i ddarllen rhyw gyfran ohono bob dydd. Fod perygl mawr yn y dyddiau hyn, pan y mae cynifer ogyhoeddiadau a newyddiaduron yn cael eu gwasgaru, i Air Duw gael ei esgeuluso ac os esgeulusir Gair Duw a gweddi, y byddai yn anmhosibl bod yn gryf gyda chrefydd. Yn nesaf, galwyd ar Mr Evans, un o ddiacon- iaid Eglwys Kingsland-road, Llundain, yr hwn a ddatganai ei lawenydd o fod yn bresenol, ac a'n hanogodd ni i ddyfalbarhad a ffyddlondeb. Cwynai fod y Cymry yn dysgu Saesoneg i'w plant gartref, a'u bod hwythau i ddysgu Cymraeg iddynt ar ol d'od i Lundain fod hyn yn anfantais fawr i'r plant, ac yn golled i'r eglwysi. Os am barhau yr achosion Cyrareig yn y trefi, rhaid i'r rhieni ofalu am ddysgu Cymraeg i'r plant gartref. Yr oedd ef yn byw yn mhentref bach Llundain er's 33 mlynedd, a gwelsent fod ganddo Gymraeg go loew eto; ond i'r rhieni ofalu am Gymraeg i'r plant gartref, nid rhaid iddynt ofni na ddeuant yn ddigon o Saeson. Gadawer iddynt gael yriaith fain-ac yn wir, un fain iawn yw i fasnachu, &c. -ond mynent yr hen iaith sylweddol i addoli Duw. Dymunai lwyddiant mawr ar yr undeb rhwng Mr Charles ac eglwys Hermon. Yn nesaf, galwyd ar y Parch O. L. Roberts, Penarth, a chafwyd anerchiad gwresog iawn yn ein hanog i weithgarwch crefyddol. Dymunai lwyddiant mawr i Mr Charles yn ruaes newydd ei weinidogaeth, ac anogai yr eglwys i ffyddlon- deb gyda'r weddi ddirgel er cael goruchafiaeth ar bechod a diafol. Sylwodd ar y pwys fod yr eglwys yn teimlo ei chyfrifoldeb o gydweithio a'r gweinidog-ei wneyd yn achos iddynt eu hunain, ac nid dysgwyl yr oil oddiwrth y gweinidog. Fod tuedd mewn rhai eglwysi i briodoli pob aflwyddiant ar yr achos i'r gwein- idog, a phob llwyddiant iddynt hwy. Nad yw hyny yn deg; ond penderfyned pob un i wneyd ei ran. Mr W. Williams, diacon hynaf eglwys y Bedyddwyr yn y drefhon, a sylwodd yn bwysig ar ddifrawder crefyddwyr y dyddiau hyn. Teimlai lef y geiriau, "Deffro, deffro, gwisg dy nerth, Seion: gwisg wisgoedd dy ogoniant," &c. Seion gynt wedi myned i gysgu yn drwm iawn, ac fel ami i un mewn cwsg naturiol, rhaid gwaeddi rhagor nag unwaith cyn ei ddeffro. Felly Duw yn gwaeddi, Deffro, deffro," arnynt hwythau o'r cysgadrwydd trwm yr oeddynt fel crefyddwyr wedi syrthio iddo, ac mewn trefn i'n codi at ein gwaith, rhaid ein deffro, oherwydd ni wnai dyn ddim gwaith yn ei gwsg. Y Parch D. S. Davies, Llanfyllin, a sylwai ar y pwys o wneyd y cyfeillachau yn addysgol, profiadol, ac adeiladol. Teimlai y pwys mawr o feddianu profiad diamheuol o fod yn ddyn cadwedeg parai teimlad nad oedd felly iddo ar brydiau fyned yn isel a digalon. Crybwyllodd am hen bar duwiol, a bod un rhyw ddiwrnod ar lawr, ac yn datgan ei ofn y buasai yn myued i uffern. "W el, wel," ebe'r llall, os ei di yno, fyddi di ddim yno yn hir." "Wel pa fodd yr wyt ti yn dyweyd fel yna ? Oherwydd dy fod ti yn rhwym o dd'weyd rhywbeth am lesu Grist, ac o ganlyniad na fydd dim caniatad i ti aros yn y gymdeithas fydd yno." Teimlai yn lion am y profiad oedd ganddo mai Dobl yr Arglwydd oedd ei bobl ef. Nad oedd dim yn fwy annymunol i'w deimlad na bod yn nghymdeithas dynion annuwiol. Teimlai rhyw fraw yn ei feddianu pan yn teithio yn y tren yn nghwmni meddwon a rhai yn cymeryd enw Duw yn ofer, ac am hyn yr oedd yn cael He i gredu, pe teflid yntau i uffern, na chai fod yno yn hir, am mai Iesu Grist a'i ganlynwyr oedd ei hoff gyfeillion ac er mwyn cael sicrwydd dirgelwch y cyflwr a'r mwynhad cysylltiedig a hyny, mai dilyn adnabod yr Arglwydd trwy gymdeithasu llawer Eig ef oedd y ffordd i hyny. Terfynwyd y gyfeillach felus hon trwy weddi gan y Parch E. M. Edmunds, Croesoswallt. Yr hwyr, am 7 o'r gloch, cynaliwyd cyfarfod cyhoeddus, o dan lywyddiaeth y Parch D. S. Davies, Llanfyllin. Cawsom anerchiad gwresog ganddo i ddechreu, yn datgan ei deimlad ded- wydd oherwydd yr undeb gymerasai le rhwng Mr Charles ac Eglwys Hermon, a dymuniad calon ar fod i'r undeb fod yn un llwyddianus a dedwydd iawn o bob tu. Amlygodd fod llyth- yrau wedi d'od oddiwrth Mr C. R. Jones, Y.H., Llanfyllin; y Parch T. Hughes, Llansantffraid; a'r Parch J. Hughes Parry, Croesoswallt, yn amlygu gofid oherwydd eu hanallu i fod yn bresenol, ac yn datgan eu dymuniadau goreu ar fod i ni gael cyfarfod da, a llwyddiant mawr i Mr Charles i fod yn ddefnyddiol iawn yma, ac yn Nghyfundeb Maldwyn, megys ag yr oedd wedi profi ei hun yn Meirionydd. Galwodd y llywydd ar y Parch R. Powell, Drefnewydd, i ddechreu, pa un a amlygai ei deimladau da tuag at Mr Charles—ei fod ef wedi bod yn gydefrydydcl ag ef, ae yr oedd yn gallu tystio ei fod yn efrydydd rhagorol, yn Gristion da a phregethwr da, ac yn dymuno mawr lwydd iddo yn Nghroesoswallt. Yna galwyd ar y Parch E. M. Edmunds, Croesoswallt, pa un hefyd a amlygai adnabydd- iaeth helaeth o Mr Charles, a'i feddwl uchel am dano. Credai fod Eglwys Hermon wedi bod yn ffodus dros ben i gael Mr Charles yn wein- idog. Credai ef mai un rheswm dros symud- iadau mynych rhai gweinidogion oedd, bod y gweinidog wedi tyfu yn rhy fawr i'r eglwys, neu ynte yr eglwys wedi tyfu yn ormod i'r gweinidog; ond nid oedd ef yn tybied fod perygl i'r eglwys ordyfu Mr Charles, am fod adnoddau dibendraw ynddo. Yr oedd yn dda ganddo ef fod ei goelbren wedi disgyn mor agos ato, ei fod ef wedi dyfod i Groesoswallt fel rhyw loan Fedyddiwr rhyw fis o flaen Mr Charles i fynegi fod un mwy yn dyfod, &c., a datganai ei deimlad nas gallai Mr Charles a'r eglwys dan ei ofal byth fod yn fwy dedwydd nag y dymunai ef iddynt. Galwyd yn nesaf ar y Parch O. L. Roberts, Penarth, pa un a fynegai ei deimlad o lawenydd am fod Mr Charles yn d'od i Gyfundeb Mal- dwyn, a dymunai iddo ef a'r eglwys lwyddiant mawr. Dilynwyd ef gan Mr Jenkins, gweinidog y Bedyddwyr, yr hwn a amlygai pa mor hapus y teimlai i fod yn bresenol. Dywedodd ei fod ef yn dyfod o Gwm Rhondda, ac wedi dechreu ei weinidogaeth yr un Sabboth a Mr Charles yn Nghroesoswallt, ac nid oedd amheuaeth ganddo na byddent yn gyfeillion mawr. Darllenodd i'r eyfarfod ohebiaeth ddyddorol ac addysgiadol a gymerodd le cydrhwng y Parch C. H. Spurgeon ac eglwys a anfonasai ato am iddo anfon iddynt weinidog a fuasai yn llanw eu capel, &c., ac am- lygodd ysbryd brawdol a rhyddfrydig iawn yn ei anerchiad. Yn nesaf, galwodd y Cadeirydd ar Alderman Minshall, diacon hynaf yr Eglwys Annibynol Seisonig. pa un sydd adnabyddus iawn i Gymru fel Ymneillduwr trwyadi a Christion gloew. Rhoddodd Mr Minshall anerchiad rhagorol yn Saesoneg. Datganai ei lawenydd i weled cy- nifer o wahanol enwadau crefyddol yn y cynull- iad, yr hyn a arwyddai ein hunoldeb fel Ym- neillduwyr, a bod yn bwysig iawn i ni fod yn un a/n gilydd fel gwahanol enwadau or sicrhau ein hiawnderau a gorchfygu ein .gelynion. Mewn undeb yr ydoedd nerth. Siaradodd hefyd ar y cysylltiad agos a fodolai cydrhwng Eglwys Hermon a hwythau. Cyfeiriodd gyda pharch dwfn at y diweddar Ap Fychan, pa un ydoedd wedi bod yn aelod gyda hwy yn yr Hen r, Gapel yn amser Dr Jenkyn, ac mai ei dad ef a J anogodd y dyn mawr gogoneddus hwn i ddechreu pregethu gyntaf erioed, ac y byddai Robert Thomas, fel y galwai of, yn arfer dyweyd wrtho, "It was your father that made me a preacher." Datganai Mr Minshall ei lawenydd o ddyfodiad Mr Edmunds a Mr Charles i'r dref—Mr Charles yn disgyn o linach yr cnwog Charles o'r Bala, a Mr Edmunds o linach yr anfarwol Williams o'r Wern. Hyderai y byddai eu dyfodiad yn fendithiol iawn, ac anogai yr eglwys i gyd- weithredu a Mr Charles, gan gofio ei fod yn wr o'u dewisiad eu. hunain, ac nid wedi ei osod arnynt gan ereill. Yn nesaf galwyd ar Mr. Edward Roberts, un o ddiaconiaid hynaf eglwys Hermon. Dat- ganai fod yr eglwys er's amser wedi cael ei dwyn i deimlo angen mawr am weinidog, ac wedi bod yn gweddio yn daer ar yr Arglwydd i anfon bugail; nad oedd wedi gweddio arno am anfon Mr Charles, ond mai efe ddaeth, ac o ganlyniad ei fod wedi cael ei roddi gan y Pen Bugail mewn atebiad i weddiau'r eglwys. Yn ddilynol galwodd y parchus gadeirydd ar yr eglwys i ddangos ei dewisiad o Mr Charles fel ei gweinidog, trwy godi eu deheu- I aw, a'r hyn y cydsyniwyd yn unfrydol, ac yn ychwanegol arwyddodd yr holl gynulleidfa, pa un oedd yn cynrychioli gwahanol eglwysi Cymreig y dref. Yna datganodd y gweinidog ci deimlad. Siaradodd ar y pwys o gydweithrediad, a bod yn llawer mwy pwysig ar i'r undeb fod yn ddedwydd a llwyddianus nag ei fod yn un hir ei barhad. Yn ddilynol galwyd ar y Parch R. Roberts, a chafwyd ganddo ancrchiad rhagorol. Dywedai nad oedd ei adnabyddiaeth o Mr Charles yn helaeth, ond ei fod wedi clywed llawer am dano, ae nad oedd wedi clywed dim ond da yn ddi- eithriad. Pe buasai," meddai, rhyw ddrwg i'w gael diau y clywswn, oherwydd fe gludir new- yddion drwg i bellder mawr yn fuan. Ym- ddangosai iddo ef fel Demetrus gynt, a gair da. iddo gan bawb, a chredai ei fod felly gan y gwir- ionedd ei hun. Yr oedd yr adeg a dreuliasai yn y weinidogaeth yn y gorphenol yn llefaru yn uchel am dano, a chredai ei fod yn un a ddaliai ei symud a myned ar ei well o hyd. Cynghorai yr eglwys i fod yn dirion wrtho a chynal ei freichiau ef i fyny trwy ffyddlondeb yn mhob moddion o ras, yn wythnosol a Sab- bothol, a bod yn haelionus yn ei chyfraniadau tuag at ei gynal yn anrhydeddus. Pan oedd ef yn gweinidogaethu yn Sir Drefaldwyn, ystyrid, meddai, eglwys Hermon, Croesoswallt, ar flaen y rhestr mewn haelioni, a hyderai na ddygid ei choron oddiwrtbi yn yr ystyr hwn. Dymunai o galon lwyddiant a chysur mawr yn nglyn a'r undeb. Yn olaf galwyd ar y Parch D. Griffith, Dol- gellau. Amlygai Mr Griffith mai efe yn unig oedd yn bresenol o Sir Feirionydd i ddatgan eu galar a'u colled ar ol Mr Charles o'r Cyfundeb hwnw lie yr oedd wedi bod yn ffyddlon iawn fel ei ysgrifenydd a chynrychiolydd y Gymdeithas Genadol, Llundain, a bod y ffaith fod casgliad y sir at y Gymdeithas hono wedi ychwanegu deg- au o bunoedd yn ystod yr amser y bu of yn ei chynrychioli yn brawf digonol o'i gymhwysder- au i'r gorchwyl hyny. Hyderai yntau y buasai i'r ail briodas hon brofi yn un ddedwydd a llwyddianus iawn. Cyfeiriai Mr Griffith yn dra thyner fod Mrs Charles, oherwydd symudiad gan angcu un a fawr garai, yn peri ei bod hi a Mr Charles yn lied iscl eu meddwl ar hyn o bryd, ac anogai i gydymdeimlad. Gwoddïwyd am fendifch y Nefoedd ar yr undeb gan Mr Griffith, ac felly terfynwyd un o'r cyfarfodydd mwyaf dedwydd, fel y tystia llawer, ag y buont ynddo erioed, yr hyn a hyderwn oedd yn ar- wydd o foddlonrwydd yr Arglwydd ar ddyfod- iad a sefydliad ei anwyl was yn ein plith. Rhoed Duw o'i ras i'w was o hyd I to I yn wir oleuui'r byd Boed geiriau'r Nef o'i enau'n glau Yn llaiJd pechadur, a'i fywhau. JOSEPH EVANS.

[No title]