Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

YR YSGOL SABBOTHQL.

News
Cite
Share

YR YSGOL SABBOTHQL. Y WEBS EHYNGWLADWBIAETHOL. {International Lesson.) GAN Y PAECH. D. OLIVER, TREFFYNON. AWST 2Gain.-Gedeon y gwaredyd d. -Barn. vii. 1-8. Y TRSrYN EURAIDD-" A'r tair byddin a udgan- asant mewn udgyrn, ac a ddrylliasant y piserau, ac a ddaliasant y lampau yn eu llaw aswy, a'r udgyrn yn eu llaw ddebau i ndganu a hwy a lefasant, Cleddyf yr Arglwydd, a Gedeon."—Adnod 20. RHAGARWEINIOL. AR ol goresgyniad Jabin, cafodd Israel lonyddwch am gryn amser. Ni chofnodir dim o'r dygwyddiadau a gymerasant le yn yr amseroedd llonydd hyn ond y mae yn amlwg fod Israel eto wedi ymollwng i ddifater- wch o'u dyledswyddau i wasanaethu yr Arglwydd, a myned ar ol duwiau dyeithr. Dyga'yr Arglwydd ei geryddon arnynt. Gwasgir hwy i gyfyngder arall. Vaeth y Midianiaid a'r Amaleeiaid, YQ ngnyda llwythau o Arabiaid o'r dwyrain, a goresgynasant y wlad hyd at Gazah. Dinystriasant gnwd y ddaear, ac ni adawsant ddim ymborth yn Israel, na dafad, nac eidion, nac asyn. Deuent bob biwyddyn ychydig cyn amser y cynhauaf, a chan eu bod yn lluosog iawn mewn nifer, fcl locustiaid o amldra, dyfcthent y ewbl o'u blaen. Yr oedd y wlad o'u blaen fel gardd Baradwys, ac ar eu Lol yn ddifaethwch anrheithiedig." Nid oedd gan Israel galon i'w gwrthwynebu. Yr oeddent wedi ymlygru mewn eilunaddoliaeth, ac wedi myned yn wasaidd ac ofnus. A rhag y Midianiaid meibion Israel a wnaethant iddynt y llochesau sydd yn y mynyddoedd, a'r ogofeydd, a'r amddiffynfaoedd." Farhaodd yr ymgyrchiadau byn am saith mlynedd, gan ddifa cnwd y maes, ac anrheithio cynyrch y Uafurwr, nes tlodi Israel yn ddirfawr. Mae Israel wedi cael eu gwasgu i gyfyngder mawr. Yn eu cyfyngder, gwaeddasant ar yr Aiglwydd, ac ete a'u clybu. Cyn danfon angel i goii achubwr i'w gwaredu, danfonodd yr Arglwydd broffwyd i'w ceryddu am ea pechod, ac i'w dwyn i edifeirwch. Ni cliawn enw y proffwyd hwn. Yna ymwelodd angel yr Arglwydd a Gedeon, mab Joas yr Abiezriad, o lwyth Manasseh. Mae yn ymddangos yn debygol nad angel creedig a olygir, ond y Gair tragywyddol, sef Mab Duw. Ymddangosodd i Gedeon yn Ophrab, tref yn Manasseh i'r gorilewin i'r lor- ddonen, nid yn mbell o fynydd Tabor. Eisteddodd dan dderwen, tra yr oedd Gedeon yn dyrnu gwenith wrth y gwin-wryf, i'w guddio rhag y Midianiaid. Dyma ddarluniad ychwanegol o druenus gyflwr meibion Israel dan ormes yr ysbeilwyr hyn. Yr oedd yngorfod dyrnu ei yd bob yn ychydig a gwïalen, fel y dynnda y gair, ac mewn lie anarferol rhag tynu sylw y gelynion. Mae yr ymddyddan a gymerodd le rhwng yr angel a Gedeon yn dangos fod calon Gedeon yn Hawn tristwch oherwydd cyflwr truenus Israel, ac efallai hiraeth ar ol ei frodyr, y rhai oedd wedi eu lladd yn Tabor (viii, 18)- Yr oedd yn naturiol yn wrol a phenderfynol, ac o ymddangosiad pendefigaidd fel ei frodyr-" pob un o ddull meibion brenin." Wedi derbyn archiad yr angel i waredu Israel o law y Midianiaid, teimla yn ofnus, a gofynaam arwydd, yr hwn a roddwyd iddo. Llosgwyd y lluniaeth a ddygasai Gedeon i roesawu yr ymdeithydd dyeithr a than, a hyny yn uniongyrchol wedi i angel yr Arglwydd gytfwrdd ag ef a blaen ei ffon.. Y noson hono, derbyniodd Gedeon orchymyn mewn breuddwyd i fwrw i lawr allor Baal, a thori i lawr y llwyn oedd yn ei hymyl hi, yr hon a adeiladasid ar dir Joas ei dad. Cariodd Gedeon allan y gorcliymyn i'r llythyren. Yn y boreu, gwelodd trigolion Ophrah yr hyn a wnaethid i allor Baal. Teimlent yn ddigofus iawn, ac ofnent y canlyniadau. Disgynodd eu drwgdybiaeth ar Gedeon, a hawlient ef gan ei dad i'w roddi i farwolaeth. Mae yn ymddangos fod casineb Gedeon at eilunaddoliaeth yn hysbys yn y gymydouaeth. Erbyn hyn hefyd y mae ei dad Joas fel wedi deffro i iawn ystyriaeth o ddrygioni eilunaddolia'th. Amddiffyna ei fab, a thrwy ei wawdiaeth ceidw hwy rhag cario allan eu bwriad. Ystyr cyfarchiad Joas yw, "A ddianrhydedd- wch cbwi Baal drwy ddwyn oddiarno y cyfleustra i'w amddiftyn ei hun P Os yw efe dduw mewn gwirionedd, bydd marw fy mab heno." Daeth y Midianiaid a'r Amaleciaid, a meibion y dwyrain, yn 01 eu harfer, i fyny i diriogaeth meibion Israel y flwyddyn hono, a gwersyllasant yn nyffryn Jezreel; ond erbyn hyn, yr oedd Ysbryd yr Arglwydd wedi gwisgo Gedeon yn waredwr i Israel. Geilw yn gyntaf ei dylwyth ei hun ato, sef yr Abiezviaid. Anfonodd genadau trwy boll Manasseh, ac hefyd i Aser, ae i Zabulon, aci Naphtali, a daethant ato; ond yr oedd yr anturiaeth mor bwysig fel yr ofnai Gedeon fyned allan heb gael prawf eto fod yr Arglwydd gydag of. Cafodd arwyddion amlwg ei fod yn llaw yr Arglwydd trwy y cnu gwlan—gw&l Barn. vi. 36-40. Gwaredodd Israel oddiwrth ormes y Midianiaid trwy ddyfais nodedig—Barn. vii. Bu Gedeon yn barnu Israel am ddeugain mIynedd-Barn. viii. 28. Eu farw mewn oedran teg, gan adael ar ei ol deg a thriugain o feihion "—Barn. viii. 30. Cladd- wyd ef yn meddrod ei dad yn Orphah (32). Adgofir am dano yn y llythyr at yr Hebreaid fel engraifft nodedig o ffydd. ESBONIADOL. Adnod 1.—"Yna Jerubbaal (hwnw yw Gedeon) a gyfododd yn forou, a'r holl bobl y rhai oedd gydag of, ae a wersyllas-int wrth ffynon Harod; a gwersyll y Midianiaid oedd o du y gogledd iddynt, wrth fryn Moreb, yn y dyffryn." Jerubbaal. Dadleued Baal. Galwyd of wrth yr enw hwn gan ei dad. Ystyr y gair Gedeon ydyw ditrodwr. Mae y ddau enw yn nodedigo gymhwysiarlol-toroda i lawr allorau Baal, a dyfethodd elynion yr Arglwydd. Mae yn herio Baal i brofi ei hun yn rfduw. Daeth yr enw Jerubbaal yn enw o anrhydedd arno. A gyfododd yn foreu, Fel un oedd a'i galon yn y gwaith, ac hefyd er mwyn iddynt fyned cyn i wres y dydd eu dal. A wersyllasanl wrth, neu, yn fwy priodol, uwchlaw ffynon Harod, Ystyr yr enw ydyw, ffynon yr arswyd." Galwyd hi wrth yr enw hwn oherwydd yr ofn a feddianodd ran o fyddin Gedeon pan welsant nifer o Midianiaid. Tybir eu bod wrth droed mynydd Gibon, ac mai yr un ydyw a ffynon Jezreel y cyfeirir ati yn 1 Sam. xxix. 1. Y Midianiaid. Cenedl fugeilaidd a cbrwydrol, disgyn- yddion Midian, mab Abraham o Ceturah. Moreb yn y dyffryn, sef Jezreel, neu Esdraelon. Adnod 2.—" A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Rhy luosog yw y bobl sydd gyda thi, i mi roddi y Midianiaid yn eu dwylaw rhag i Israel ymogoneddu i'm herbyn, gan ddywedyd, Fy Haw fy hun a'm gwaredodd." Tybir fod byddin y Midianiaid yn 135,000—tua phedwar am bob un i Israel. Ond y mae yr Arglwydd am ddangos yn amlwg mai ei waith ef ydoedd en gwaredu, a thrwy hyny i enill eu calonam i ymddiried ynddo. Ni fuasai y fuddugoliaeth yn ateb y dyben heb hyn. Adnod 3.—" Am hyny, yn awr, cyboedda lie y clywo y bobl, gan ddywedyd, Yr hwn sydd ofnus ac arswydus, dychweled ac ymadawed y boreu o fynydd Gilead. A djchwelodd o'r bobl ddwy fil ar hugain, a deng mil a arosasant." Daw cyflwr isel y bobl hyn i'r golwg yn y ffaith fod dwy fil ar hugain wedi dychwelyd. Yr oedd byddin Gedeon yn llawer cryfach heb y rhai byn. Dywedir i Harri V. anerch ei fyddin fechan mewn geiriau cyffelyb o flaen brwydr Agincourt, ac nis gadawodd un ef. Nid oes lie i lwfriaid ofnus yn myddin Duw; ni wnant ond digaloni ereill, a eroreu pa bellaf y hyddo y bobl sydd yn ofni bob amser." 0 fynydd Gilead. Nid oes mynydd o'r enw hwn yn y gymydogaeth lie yr oedd Israel ar y pryd. Yr oedd mynydd Gilead yr ochr arall i'r Iorddonen. Tybir gan rai y dylid darllen Gilboa yn lie Gilead; ereill a dybiant mai dyma ffurf y cyhoeddiad yn Manasseh, ac nad oes yma gyfeiriad at fynydd o gwbl. Adnod 4.—"A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Eto y mae gormod o bobl. Dwg hwynt i waered at y dyfroedd, a mi a'u profaf hwynt yno i ti: ac am yr hwn y dywedwyf wrthyt, Hwn a a gyda thi, eled hwnw gyda thi; ac am bwy bynag y dywedwyf wrthyt, Hwn nid ii gyda thi, nac eled hwnw gyda thi." Gwyddai yr Arglwydd fod nifer eto yn aros rhag cywilydd, ond nad oedd eu calon yn wrol. Nid oeddynt felly yn gymhwys i ryfel. Cynygir moddion i'w profi. Mae y cynllun yn cael ei gadw yn ddirgelaidd hyd nes y daethant at y dyfroedd. Gideon yn unig gafodd hysbysrwydd, fel nad oedd neb o'r milwyr yn gwybod eu bod yn myned trwy unrhyw brawf wrth dori eu syched. Adnod 6.—" Felly efe a ddygodd y bobi i waered at y dyfroedd. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Pob nn a lepia a'i dafod o'r dwfr fel y llepio ci, gosod ef o'r neilldu a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed." "Yr oedd y prawf yn uu arwyddocaol. Ni wna milwr iawn, pan ar wynebn y gelyn, orwedd i lawr i dori ei syched—dim ond codi dwfr a'i law at ei enau, ae ymaith ag of. Er nad oedd hyn ond peth bychati, eto yr oedd yn ddangoseg o wahaniaeth cymeriad." Adnod 6.—" A rhifedi y rhai a godasant y dwfr a'u llaw at eu genau oedd dri chan' wr a'r holl bobl ereill a ymgrymasant ar eu gliniau i yfed y dwfr." Ychydig oeddent y rhai a amiygent arwyddion o gymedroldeb ac awydd i gyfarfod y gelyn. Prof odd y rhai a godasant y dwfr a'u llaw eu bod yn alluocach i oddef caledu na'r lleill. Adnod 7.—" A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Trwy y tri chan' wr a lepiasant y dwfr y gwaredaf chwi, ac y rhoddaf y Midianiaid yn dy law di ac cled yr holl bobl ereill bob un i'w fangre ei hun." Yr oedd yn gofyn fod gan Go eon ffydd a gwroldeb mawr i gario allan y gorcliymyn hwn. Yr oedd tri chan' wr gyda'r Arglwydd yn ddigon. Syiwa M. H.—" Gallwn dybii d na ddarfu y rhai oedd yn wresog yn yr achos fyned yn mhell allan o glywi ond eu bod yn barod i ganlyn yr ergyd, pan oedd y tri chan' wr wedi gwneyd yr ymosodiad." Adnod 8.—" Felly y bobl a gymerasant fwyd yn eu dwylaw, a'u hudgyrn a Gedeon a oilyngodd ymaith holl wyr Israel, pob un i'w babell, a'r tri chan' wr a ataliodd efe a gwersyll y Midianiaid oedd odditanodd yn y dyffryn." Folly y bobl, sef y tri chan'wr, a gymerasant fwyd a'u hudgyrn yn eu dwylaw. Cymer- asant yr hyn oedd yn angcnrheidiol arnynt o'r pentwr oedd yn perthyn i'r holi fyddin ar y cyntaf. Safent yn ddiofn, er eu bod yn ychydig, yn wyneb byddin luosog y Midianiaid, yr hon oedd wedi gwersyllu yn y dyffryn odditanynt. GWERSI. Cyn y geilir bod yn filwr ffydd!on yn myddin yr Arglwydd, rhaid ufuddhau yn galonog i alwadau Duw, ac ymddiried yn ddiysgog yn ei addewidion. Rhaid meddu penderfyniad diysgog, a hyny yn wyneb y peryglon mwyaf. Nid ydyw y gwangalon a'r ofnus yn werth dim i ymladd rhyfeloedd yr Oen. Rhaid meddu ffyddlondeb sel'ydlog hyd yn nod pan mae llawer ereill yn troi eu cefnaa ac yn gadael. Rhaid meddu y teimlad fod y fuddugoliaeth yn ymddibynu mwy ar yr Arglwydd ei bun nac ar y milwyr, a bod yn barod bob amser i roddi y gogoniant iddo. Nid rhif sydd yn penderfynu neith byddin yr Arglwydd. Y mae un dyn ag sydd yn j tnddvried yn Nuw, ac yn ymdrechu byw bywyd sanctaidd, yn gryfach na deng mil o annuwiolion, Yn Haw yr Arglwydd, y mae ei bobl yn anorchfygol. Cieddyf yr Arglwydd a Gedeon." Rhaid cael Gedeon, ond nid ydyw yn ddim heb gleddyf yr Arglwydd. GOFYNIADAU AR Y WEES. 1. Pwy oedd y gelynion oeddynt yn gormesu Israel pan gododd yr Arglwydd Gedeon i'w gwaredu ? 2. Dangoswch y modd yr anrheithient y tir. 3. Pa fodd yr ymddygai Israel ? 4. Pwy oedd Gedeon ? a dangoswch pa fodd yr ymddygodd yn wyneb gal wad yr angel. 5. Wedi cael sicrwydd o amddifiyniad yr Arglwydd, eglurwch yr hyn a wnaeth er myned allan yn erbyn y Midianiaid. 6. Paham y mae yr Arglwydd yn gorchymyn iddo leihau ei fyddin ? 7. Paham y mae yn gofyn hyn yr ail waith P ae eglurwch y cynllun a ddefnyddiodd. 8. Eglurwch nodwedd neillduol cymeriad Gedeon yn yr amgylchiadau hyn.

YR HEN WE LLON.

THE JOHN THOMAS WELSH SCHOLARSHIP…

[No title]