Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

PENIEL, ABERiERON, A'l GWEINIDOG.

News
Cite
Share

PENIEL, ABERiERON, A'l GWEINIDOG. At Olygwyr y Tyst a'r Dydd. FoNEDDMiON,—Diaa fod enw y Parch William Evans, Peniel, Aberaeron, yn adnabyddus i fwyafrif Annibynwyr Cymreig Lloegr a Chymru. Y mae y parch a delir iddo gan yr Enwad y perthyna iddo yn fawr a chyffredinol. Y mae wedi cyrhaedd y safle an- rhydeddus hon mewn Nordd gyfreithiawn. Y mae rhai wedi gwthio eu henwau i sylw y cyhoedd, ac wedi d'od i ryw fesur yn boblogaidd, heb fod ganddynt deitl cyf- reithlawn i'r cyfryw gyhoeddnsrwydd. Ond am y Parch W Evans, y mae ei safle yn yr Enwad wedi ei gyrhaeddyd heb unrhyw ymgais o'i du ef. Gallu yw yr eiddo ef a fynai ymguddio mewn dinodedd, a chwenychai dreulio allan o fewn cylch ei gymydogaeth ei hun ond y mae y byd Annibynol o gwmpas er's dyddiau bellach wedi gweled ei ardderchogrwydd, ac wedi ei osod yn y sefyllfaoedd uchaf mewn anrhydedd a fedd yr Enwad yn Nghymru, a hyny oil heb unrhyw awyddfryd nac nchelgais o'i du ef, eithr yn gwbl ac yn hollol oblegid y gwerth sydd yn perthyn iddo fel dyn a phregethwr. Nid yw y defnyddiau ag sydd yn gyffredin yn gwneyd poblogrwydd yn amIwg ynddo ef, ac eto y mae yn boblogaidd nid hylithrwydd ymadrodd, nid pereidd-dra llais, na llywodraeth perffaith arno mewn un modd sydd wedi rhoddi arbenigrwydd arno. Y mae i fesur mawr yn amddifad o'r holl bethau sydd ar unwaith yn denu y lluaws, oblegid hyn yr ydym yn cyfrif fod y maen sydd yn sylfaen ei gymeriad cy- hoeddus o ddefnydd gwerthfawrocach na'r cyffredin, a'r adeiladwaith arno yn fwy trwyadl a pharhaol. Pe gosodasid arnom i symio i fyny mewn dau ymadrodd ddirgelwch dylanwad ei gymeriad a'i Iwyddiant, dy- wedasem mai tryloewder cymeriad, a'i gydnabyddiaeth ddamcaniaethol a phrofiadol o wirioneddau mwyaf ysbrydol yr Efengyl ydynt. Y mae y Beibl, yn ychwanegoi at nodi allan wir clfenau rhagoriaetb, yn cymeradwyo yn ogystal barhad yn y cyfryw. Y mae eisieu mwy o ager ar gyfer taith faith na thaith fer. Y mae llawer cymeriad wedi ymddangos am ysbaid byr fel comed yn neillduol o ddysglaer, yr hwn pe arosasai ar yr wybren am ganrif a gollasai gryn lawer o sylw ac edmygedd y byd. Y mae Mr Evans yn esiampl neillduo), yn wir, eithriadol iawn o barhad mewn dylanwad, ac o gynydd mewn defnyddioldeb; ac at byn y dymunem alw sylw eich darllenwyr, ac yn enwedig aelodau capel Peniel, Aberaeron. Y mae'r byd o gwmpas fel yn chwilio am gyflens- deran i wneyd tystebau, ac i bentyru clod ar rywrai, teilwng neu anheilwng; ac eto nid yw y ffaitli fod llawer heb arbenigrwydd neillduol yn perthyn iddynt yn cael eu cydnabod yn rheswm dros adael y gwir deilwng yn ddisylw. 0 bob lie dan haul, Aberaeron, mor bell ag y mae profiad ugain mlynedd yn myned, yw y tlotaf am gydnabod llafur a gwobrwyo ffyddlon- deb. Dichon nad oes yma, nemawr yn ilafurus nac yn ffyddlawn, ond gadawaf i'eh darllenwyr farnu ai nid yw hen weinidog sydd yn ymylu ar berffeithrwydd yn ngwydd dynion, ao wedi treulio adnoddau bywyd maith a chyfoethog mewn gallu a defnyddioldeb yn ngwasanaeth Icsu Grist, yn teilyngu arwydd o deiml- adau gwresocaf yr eglwys tuag ato ? Os ca Mr Evans fyw ddwy flynedd eto, ac y mae pob arwydd y bydd ddwy-ar-bymtheg, bydd wedi bod yn weinidog yn Peniel haner can' mlynedd. Dyma gyf- nod jubili pob dyn a sefydliad. Y mae meithder y cyfnod, ar wahan oddiwrth bob teilyngdod, bron a bod ynddo ei hun yn ddigon o reswm dros arwydd syl- weddol o deimladau da. Nid oes angen dadleu y cwestiwn—yr ydym wedi dyweyd gormol eisoes. Mae digon o Annibynwyr led-led y Dywysogaeth a fuasent yn ei theimlo yn fraint i gael cyfranu at unrhyw gyn- Ilun a'i amcan i anrhydeddu ein hathraw a'n tad ond credaf mai braint ei eglwys ef ei hun yw cael gwneyd hyn. Y mae yn wir nad oes angen dim daioni arno ef, ond byddai yn foddion gras i'r eglwys, yn esiampl deilwrig ar gyfer y dyfodol, ac efallai yn foddhaol i'w deimladau yntau sydd yn unig jawn ar derfyn ei oes. Hwyrach fod llawer eisoes yn meddwl am hyn. Gadawer fod; hwyrach, er hyny, y bydd pawb yn maddeu i mi am alw sylw yn brydlawn at y mater.- Ydwyf, yreiddoch yn ddiffuant, CADWGAN.

Y DIWEDDAR BARCH G. JONES,…

- AT OLYGWYR Y TYST A'R DYDD.

Cyfarfodydcl, &c.

Family Notices