Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Cynwllsiad. I

AT EIN GOHEBWYR.

DAEARGRYNFAAU DINYSTRIOL.

Newyddion Cyffredinol.

Advertising

DYDD MEROHER.

News
Cite
Share

y Wasg yn eu condemnio, ac yn eyhoeddi eu han- athemau uwch eu penau. Nid oes neb yn fwy dros ryddid cyfreithlon y Wasg na mi, ac y mae yn falch genyf gael y eyfleusdra i ddatgan hyny yn ddigel. Credaf fod miloedd o olygwyr a goheb- wyr ein papyrau yn addurn i'w hoes, a'r Wasg ei hun yn fendith anmhrisiadwy. Ond yr wyf yn gwadu hawl y Wasg i gondemnio dynion oher- wydd eu bod yn meiddio barnu drostynt eu hun- ain a dilyn eu hargyhoeddiadau, Dylai yr Eglwys godi ei llais yn uchel, uchel, a gosod ei gwyneb yn galed yn erbyn bob ymgais i lyffetheirio cyd- wybod a mygu argyhoeddiadau. Heb hyny, ni all byth wneyd ei gwaith yn gyflawn ac effeithiol ar yr Oes. DEFODAETH A CHTFFROADAETH. Wrth gwrs, mae Defodaeth yn hanfodol i addol- iad cymde'.thasol yr Eglwys, a Chyffroadau wedi bod fel anadl einioes iddi yn mhob oes. Nis gall hebgor gwasanaeth y naill na'r llall. Dyma bwyntiau eithafol Eglwysyddiaeth pob oes. Cyn- rychiolir y blaenaf gan Ddefodwyr yr Oes, a'r olaf gan or-gynllunwyr yr Oes. Dichon mai can- olfan cryfder gweinyddol y blaenaf ydyw Defod- wyr Eglwys y Wlad, ac mai dirgelwch cryfder yr olaf yn y dyddiau hyn ydyw Byddin yr Iachawd- wriaeth. Nid fy amean ar hyn o bryd, wrth ddwyn y pethau hyn i sylw, ydyw condemnio y naill na'r llall, ac ni ddylai neb wneyd hyny. Cafwyd peth daioni yn mhob un o'r ddau. Gall Defodwyr buro a gwella llawer ar ffurff addoliaeth yr Eglwys, a gall Byddin yr Iachawd- wriaeth wneyd llawer i dynu dynion allan o'u tyllau i gael siawns i ddyfod i gyffyrddiad a'r Efengyl. Nid oes odid ddim yn tynu mwy o sylw yn y blynyddoedd hyn na'r pethau hyn. Mae y bonedd a'r uwchradd yn myned ar ol Defodaeth, a'r werin a'r lluaws yn myned ar ol Cyffroadau a gorgynlluniaeth. Felly dylai yr Eglwys wylio ar eu symudiadau, canys nid yw yr Oes heb fod mewn perygl oddi- wrthynt. Mae Defodaeth yn gweithio o dan seil- iau Protestaniaeth. Gesyd i fyny groes-addoliaeth, canwyllyddiaeth, cell-gyffesiadaeth, ailenedig fedyddiadaeth, traws-sylweddiaeth, ae olyniaeth, yn lie Efengyl bur a syml Crist a'r apostolion. Tuedd uniongyrchol gor-ddefodaeth, a gor- gynlluniaeth, a Chyffroadaeth wyllt yr Oes ydyw lladd crefydd ysbrydol, a gwneyd yr Oes yn ar- wynebol a diddal. Os nad ymgais yr Eglwys i gadw rheolaeth drostynt, bydd ei gwaith am y tri chanrif diweddaf wedi ei rwystro, a gwaed y saint wedi ei dywallt yn ofer. Dyna, yn anmherffaith, yr Eglwys a'r Oes yr ydym yn byw ynddi. Ond beth am Eglwys ac Oes y dyfodol ? Mae yr Eglwys a'r Oes i fod ar ol hyn, a byddwn ninau yn bod byth. Yr ydym ni a'r Oes wedi byw yma yn ein gilydd, a thrwy ein gilydd. Byddwn feirw gyda'n gilydd, a chawn ein gilydd yn ein dyfodol; ond pa beth fydd Eglwys ac Oes y dyfodol ? Rhaid i mi ym- atal, mae arswyd y dyfodol yn syrthio arnaf. Eto, rhaid myned yno. Yr ydym eisoes yn byw ar ei ororau; ac, os nad wyf yn camgymeryd, mae dyfodol llwythog o bob peth sydd ofnadwy yn ein haros. Bydd yr Oes felly. Bydd dyddiau dyn fel dyddiau pren-pob deddf yn y cread yn ym- grymu yn wylaidd ger bron dyn, arglwydd y greadigaeth. Yr ydym yn gweied eisoes amser gwell ar ddyfod. Mae gwybodaeth yn amlhau, y celfau yn cael eu perffeithio, a holl natur yn cael ei chysegru at wasanaeth Duw a dyn. Mae yr Oes yn ymfeichiogi ar helyntion annesgrifiadwy. Mae y wawr ar dori. Mae gwirionedd, a rhyddid, I a cbydraddoldeb crefyddol a gwladol yn enill tir, ac yn gyru ar sodlau gorthrwm a swyddyddiaeth. Un ffydd, un gobaith, un Duw a Thad oil—yr Eglwys wedi ymlapio mewn Undeb mor ddyfned ag angen y ddynoliaeth, ac mor lleted a'r ddaear, a'i heddwch fel yr afon, a'i llwyddiant fel touau y mor. Yna daw y diwedd, wedi y rhoddo Efe y deyrnas i Dduw a'r Tad, wedi iddo ddileu pob pendefigaetb, a phob awdurdod, a nerth. Yr Eglwys wedi dyfod allan o wlad y cystudd mawr, wedi ei golchi yn ngwaed yr Oen, a tbyrfa fawr yn dywedyd, "Iddo Ef y byddo y fendith a'r gogoniant yn oes oesoedd a llais o'i hoi yn dy- wedyd, Ac wele yr wyf yn dyfod ar frys a hithau yn un fonllef yn ateb yn ol, "Amen, yn wir tyred Arglwydd lesu." Ar ol yr AnercKiad, gwcddiwyd gan y Parch J. Owen, Llanegryn. Yna galwodcl y Cadeirydd ar y Parch T. Roberts, ^Wyddgrug, i ddarllen Papyr ar lawn Fagwraeth Crefyddwyr leuainc yr "lawn Fagwraeth Crefyddwyr leuainc yr Eglwysi." [Ceir y gweddill yn y Khifyn nesaf.-—Gol.J