Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

GOGLEDD CEREDIGION.

COLEG DEHEUDIR CYMRU.

RHOS A'R CYLCHOEDD.

CAERDYDD.

YMA AC ACW YN MON.

- BALA.

News
Cite
Share

BALA. Is-frawcllys.-Dydd Sadwrn, y 4ydd cyfisol, o flaen Mri Owen Richards, R. J. A. Price, E. Evans Lloyd, R. 0. Jones, a R. Jones, cyhudddwyd un Margaret Gasey o ladrata .£10 o dy Rebecca Roberts, Llanfor. Traddodwyd y gyhuddedig i sefyll ei phrawf yn y brawdlys trimisol nesaf. Derbyniwyd meichniaeth. Yr Athrofa Ogleddol.-Dydd Gwener, y 3ydd cyfisol, cynaliwyd cyfarfod o'r pwyllgor lleol yn y Neuadd Drefol, pryd y cadeiriwyd gan y Milwriad Evans Lloyd. Yr oedd hefyd yn bresenol y bon- eddigion canlynol :-Milwriad Jones, Bryntegid Parch Evan Peters; Mri R. Roberts, Arran House; Richard Jones, Plasyracre; D. Morgan, John Parry, J. LI. Owen, yr Ysgol Frytanaidd, &c. Darllenodd yr ysgrifenydd mygedol lythyr a dderbyniasai oddiwrth y Cyflafareddwyr, yn mha un y traethent eu bod wedi llawn ystyried hawliau y gwahanol drefydd, a'u bod wedi dyfod i'r penderfyniad mai ofer a difudd fyddai i amrvw o'r trefydd fyned i'r draul o anfon cynrychiolwyr i ddadleu eu hawliau. Y trefydd ydynt Trallwm, Rhuthyn, Rhyl, a Porthmadog. Felly y trefydd sydd yn aros ydynt Bala, Caernarfon, Conwy, Dinbycb, Bangor, a Wrexham. Erfyniwn am i'r Cyflafareddwyr gael doethineb i benderfynu y pwnc dyrys hwn. Dyfodiad. i Oed.—Dydd o lawenydd, ac nid o waith, yn ngwir ystyr y gair oedd dydd Iau di- weddaf i bentrefwyr, trefwyr, a gwladwyr Meir- ionydd, yn enwedig felly y rhanbarth ogleddol ohoni. Nid oedd dim a dynai sylw un yn fwy yn y gwahanol drefydd na banerau yn cyhwfanu yn mhob cwr ohonynt, ac yn argraffedig arnynt ym- 1!1 y adroddion ag oeddynt yn arwyddnodau o'r hyn ag oedd miloedd o galonau yn wir ddymuno, megys, Hir oes i Mr Robertson," &c. Yr hyn a achosai yr holl arddangosiad hyn oedd dyfodiad Mr Henry Beyer Robertson, mab Mr Robertson, A.S., Pale, ger Corwen, i'w oed. Os ydyw unrhyw ddyn yn haeddu clod am yr hyn y mae'n wneyd i gym- deithas, credwn fod Mr Robertson yn teilyngu hyn. Y mae wedi gwneyd hyd eithaf ei allu yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf i byr- wyddo masnach yn y rhan hon o'r wlad. Trwy ei ymdrechion diflino ef yn benaf, dywedir, y daeth y "ceffyl tan trwy ddyffrynoedd tlysion a lleoedd anhygyrch Meirionydd. Wrth ystyried yr hyn oil ag y mae Mr Robertson wedi wneyd, peth ag a gyflawn haeddai oedd y mawrygiad a'r gydna- byddiaeth a gafodd ar ddyfodiad ei fab i oed. Gwir obeithiwn y bydd i'r mab sangu yn Ilwybrau ei anrhydeddus dad. Llwyddiant ddilyno deulu parchus y Pale. Yn yr hwyr, yn Neuadd Drefol y Bala, cynaliwyd dawns-gymanfa, yr hon a drodd allan yn foddlonrwydd perffaith i bawb oedd yn bresenol. GOHEBYDD.

Advertising