Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Hide Articles List
7 articles on this Page
GOGLEDD CEREDIGION.
News
Cite
Share
GOGLEDD CEREDIGION. Cynaliwyd Undeb Canu Cynullcidfaol Anni- bynwyr y cylch uchod yn Aberystwyth, dydd Mawrtb, Awst 14eg, am 2 a, 6 o'r gloch y pryd- nawn. Yr oedd nifer luosog wedi dyfod yn nghyd o Talybont, Salem, a'r cylchoedd, erbyn cyfarfod y prydnawn, fel yr oedd yno gynulleidfa luosog; ac erbyu yr hwyr yr oedd y capel yn orlawn. Yr oedd y rbaglen yn cynwys 24 o do a an o Ail Lyfr Stephen. Yr arweinydd oedd y Parch E. Stephen, Tanymarian. Gwnaeth ei waith yn ardderchog. Yr oedd yn taflu bywyd i'r holl gann, a rhoddodd gymeradwyaeth uchel i'r canu. Yr oedd y corau yn rhoddi boddlonrwydd neill- duol iddo. Canwyd amryw o'r tonau", megys Bryn Calfaria, Hendre, Twrgwyn, a Delyn Aur, gyda hwyl neillduol, yr holl gynulleidfa yn cyduno. De- chreuwyd y gwahanol oedfaon gan y Parchn D. G. Davies, Talybont, a J. Davies. Bethesda. Chwareuwyd yr harmonium gan Mri Kemp, Talybont, a Spurway, Penybono, Salem. Gobeithio y bydd y Gyrnanfa hon yn symbyliad i wella y canu cynulleidfaol yn y cylch, fel y byddo un o ranau mwyaf pwysig addoliad y cysegr yn cael sylw priodol. Byddai yn briodol iawn fod un neu ddwy o chants yn cael en harfer erbyn y cwrdd nesaf, ac yn cael eu harfer yn y gwasanaeth ar y Sabboth, fel y byddo mwy o amry wiaeth yn y gwasanaeth. Ofnwn fod gormod o unffurfiaeth yn ein haddoliad. Y mae eisieu i'r gynulleidfa deimlo fod ganddynt hwy ran yn y gwasanaeth, a thrwy roddi mwy o sylw i'r rhanau arweiniol, a'r gynulleidfa yn uno yn gyffredinol yn y gwasanaeth hwn, y mae cael hyn. Byddant felly yn teimlo dyddordeb yn y gwasanaeth, ac nid yn dysgwyl yn gwbl wrth y pregethwr. Cafodd pawb eu boddloni yn y Gymanfa hon, a'n dymuniad yw am iddi barhau yn sefydliad blynyddol.
COLEG DEHEUDIR CYMRU.
News
Cite
Share
COLEG DEHEUDIR CYMRU. AGORIAD YR ADEILAD. Gorchymynir ni yn swyddogol i hysbysu y bydd i Goleg Prif-athrofaol Deheudir Cymru a sir Fynwy, yr hwn, yn ol pob arwydd, sydd yn debyg o ddyfod yn un o sefydliadau penaf y deyrnas mewn amser dyfodol, gael ei agor i efrydwyr yn mis Hydref nesaf. Bydd i'r anerchiad agoriadol gael ci draddodi gan y llywydd, sef Arglwydd Aberdar. Y mae'r Cyngbor, yr hwn sydd eisoes wedi arddangos gweithgarwch ac yni sydd yn deilwng o efelychiad, yn cynyg oddeutu pedair a deugain o ysgoloriaethau, daliadwy am dair blynedd. Y maent yn amrywio mewn gwerth o 6C40 yn y flwyddyn i lawr byd .£10. Y mae'r swm olaf yn clirio yr boll daliadau mewn cysylltiad a'r dosbarth y byddo'r efrydydd yndd yn gystal a'r mynediad i mewn. Bydd i'r arbit- iadau am yr ysgoloriaethau gael eu cario allan o dan arolygiad maerod a phersonau cyfrifol eroill yn N^haerdydd, Abertawy, Casnewydd, Merthyr, Aberhonddu, Llanandras, Caerfyrddin, Hwlffordd, a threfi ereill. Bydd i etholiad y prif-athraw, sydd wedi rhoddi cymaint o foddlonrwydd i'r wlad, gaelei ddilyn yn mis Medi nesaf gan etholiad y rban fwyaf o'r proffeswyr a'r darlithwyr ereill, ac yr ydym yn deall fod nifer o ddynion gwir alluog yn ym- gystadlu am y gwahanol swyddi hyn. Y mae yn deilwng o sylw y bydd gan bob athraw gangen briodol ei hun i'w dysgu i'r dysgyblion a fyddo o dan ei ofal, a bwriedir traddodi darlithiau ar yr iaith Gymraeg, y Ffrengaeg, y Germanaeg, a Cherddoriaeth. Bydd i'r gadair Geltaidd gael ei sefydlu yn mhen rhyw ddeuddeg mis. Gallwn sylwi hefyd y bydd i'r bnddianau mwnyddol a metelaidd gael eu cynrychioli yn y coleg. Fe welir, gan hyny, y bjdd i'r coleg newydd gychwyn gyda nifer lluosocaeh a mwy cyflawn o broffeswyr na'r un coleg arall a agorwyd yn ddiweddar, oddigerth Coleg Owen, Manceinion. Y mae amryw gynlluniau o dan ystyriaeth y pwyllgor i sefydlu nifer lluosog o ysgoloriaethau gwerthfawr, yn ychwanegol at y 44 yr hysbyswyd 3isoes yr ymgystadlcuir am danynt oddeutu y 12fed o fis Medi nesaf. Yr ydym yn deall befyd fod nifer o efrydwyr o bob gradd ac o'r saith sir yn parotoi ar gyfer myned i mewn i'r coleg. Trwy gynorthwy rhodd y Llywodraeth o £ 4,000 yn y flwyddyn, y mae'r Cynghor wedi llwyddo i benodi y tal dosbarthiadol yn isel anghyffredin, sef £ Is. am y coleg-dymhor, neu tua un rhan o dair o'r swm a delir yn gjffredin mewn colegau. Fe fydd y swm o X- 10 yn ddigon i glirio yr holl daliadau am flwyddyn gyfan. Ni fwriedir arholi y rhai a tint i mewn i'r coleg y flwyddyn gyntaf, ond ni fydd' i efrydwyr o dan un-ar-bymtbeg mlwydd oed gael eu derbyn ar un cyfrif. Yn bresenol, bydd i'r coleg ymdrechu parotoi efrydwyr ar gyfer arholiadau Prif-athrofa Llundain a'r gwasanaeth cartrefol (civil service); ond yn mhen amser, parotoir hwy ar gyfer gradd-arhol- iadau Prif-athrofa Cymru. Bydd y coleg a'r ysgoloriaethau yn agored i ddynion a merched yn ddiwahaniaetb, a gall merched yn awr weithio am a derbyn graddau Prif-athrofa Llundain. Dysgwylir y bydd i gwmniau y gwahanol reil- ffyrdd wneyd trefniadau ar gyfer cludo yr efrydwyr o'u cartrefleoedd yn rhad a rhesymol i Gaerdydd, a gwneir trefniadau ar eu cyfer yn y dref. Ar y cyfan, y mae rhagolygon addysg uwch- raddol yn Ngbymru yn ymddangos yn hynod o oheithiol ar hyn o bryd. Diau y bydd agoriad y y 11 coleg hwn yn ddeebreuad cyfnod newydd yn hanes addysgiadol y wlad.
RHOS A'R CYLCHOEDD.
News
Cite
Share
RHOS A'R CYLCHOEDD. President Garfield."—Dyna oedd testyn darlith y Parch T. Nicholson yn y Rhos yr wythnos o'r blaen. Llywyddwyd gan weinidog y lie. Yr oedd y gynulleidfa fawr yn rhyfeddu at athrylith a thalent y darlithydd ieuanc, ac yn mawr edmygu cymeriad godidog yr Arlywydd, yr hwn a bortreiadwyd iddynt inor dra rhagorol. Ponkey.-Awst 13eg a'r 14-eg, bu y Parchn E. James, Nefyn, a Dr J. Thomas, Liverpool, yn pregethu yn nghyfarfod blynyddol yr eglwys uchod. Yr oedd yr holl wasanaeth dan yr eneiniad, a chafwyd prawf fod Duw yr achubydd yn Israel. LlytMjr yr Esgob.—Derbyniodd y Bwrdd Claddu lythyr oddiwrth Esgob Llanelwy yn nghylch y cysegru rhyfedd a fu ar ran o'r gladdfa a bwrcaswyd ag arian y trethdalwyr. Gofidiai ei arglwyddiaeth yn fawr fod y cynhwrf ar y mater yma yn cael ei barhau, a gobeithiai y lleddfid y teimladau digofus, ac y gwnaem ein goreu i adfer heddweh a chymydogaeth dda, ac i feithrin ysbryd Cristionogol yn y plwyf. Cynygiwyd gan Mr R. Roberts, ac eiliwyd gan y Parch R. Roberts, ein bod yn anfon crynodeb o'r holl amgylchiadau i'r Esgob, gan ddeisyf ei sylw manwl arno, ac y byddem yn falch o weithredu yn ol ei gynghor caredig pan wneid cyfiawnder & ni fel Ymneillduwyr.
CAERDYDD.
News
Cite
Share
CAERDYDD. Dydd Mercher cyn y diweddaf, lansiwyd ager- long newydd yn perthyn i firm adnabyddus Mri Evan Thomas a Radcliffe, o yard Mri Palmer y llong-adeiladwyr enwog yn Jarrow-on-Tyne. Mesura 260 troedfedd o hyd, 35 tr. o led, a 19 tr.. o ddyfnder. Moria i'r Danube, Azoff, Baltic, ac America. Y mae y Hong o'r gwneuthuriad cadarnaf, ac yn meddu pob gwelliantau er mwyn sicrhau cyflymder yn nghyda chynildeb yn y treuliadau. Y mae gan yr un firm bedair o longau ereill yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd yn yr un yard.
YMA AC ACW YN MON.
News
Cite
Share
YMA AC ACW YN MON. Treuliais yr wythnos ddiweddaf gan rodio yma ac acw yn hen ynys anwyl fy nhadau, a gwelais ar y daith hon rai pethau a ystyriaf yn werth' y drafferth o'u hanfon at wasanaeth darllenwyr parhaus y TYST A'R DYDD. Dydd Gwener, y 3ydd cyfisol, rhoddodd y Parch R. Williams (Hwfa Mon) wledd ragorol o de a bara brith i ddeiliaid ei Ysgolion Sabbothol yn Llanerchytnedd a Hebron. Daeth tyrfa luosog yn nghyd, ac yn mysg y cwmni llawen gwelsom y Parchn H. Rees, Caev T. Evans, Amlwch; O. L. Roberts, Penarth; ac R. Evans, New Inn. Gwasanaethwyd wrth y byrddau gan Miss Roberts a Miss Nellie Roberts, Bryn Hwfa, yn cael eu cynorthwyo gan amryw foneddigesau parchus ereill o'r dref. Yn Bryngwran y cynaliwyd Cyfarfod Chwar- terol Mon y tro diweddaf, sef ar y 7fed a'r 8fed cyfisol. Daeth tyrfa dda yn nghyd i'r Gynadledd am ddau o'r gloch y dydd cyntaf. Ni buom erioed mewn cyfarfod mwy tangnefeddus a heddychol, ac yr oedd y pregethu a'r cynull- eidfaoedd dranocth yn bobpeth a allesid ei ddymuno. Drwg genym gofnodi mai methiant perffaith mewn ystyr arianol fu Eisteddfod Gadeiriol Mon eleni, yr hon a gynaliwyd yn y Gaerwen ar y 9fed a'r lOfed. Yn anffodus, y diwrnod cyn yr wyl aeth y pavilion i lawr yn deilcbion, ac yr oedd y tywydd hefyd yn hynod o anffafriol, fel na.3 gallasai lai na bod yn fethiant yn yr ystyr yma ond sicrha y beirniad ni ei bod yn llwyddiant perffaith gan belled ag yr oedd y cyfansoadiadau yn myned. Yr Anturiaethwr oedd testyn y gadair. Daeth pedwar o gyfansoddiadau i law, a dyfarnwyd eiddo Gaerwenydd yn fuddugol, ac yn berifaith deilwng o'r wobr. Gwnaeth y Prif- fardd Hwfa ei ran yn rhagorol fel beirniad, ac yr ydoedd ei anerchiad o'r Orsedd boreu Gwener y peth goreu a glywsom erioed ar y fath achlysur. Yr oedd Tanymarian a Gaerwenydd yn bynod ddoniol fel arweinyddion. Dygwyddodd damwclin ofnadwy i gapel yr Hen Gyfansoddiad yn Nghaergybi dydd LInn di- weddaf. Syrthiodd y talmaen i lawr, a lladdwyd tri o ddynion. Un ohooynt ydoedd Mr Joseph Jones (Iolo Mon). Cydymdeimlir yn fawr thculuoedd y rhai a laddwyd. Gan y credaf y bydd eich gofod yn brin yr wythnos nesaf, ymataliaf yn awr y tro hwn. Gwjronjtab.
- BALA.
News
Cite
Share
BALA. Is-frawcllys.-Dydd Sadwrn, y 4ydd cyfisol, o flaen Mri Owen Richards, R. J. A. Price, E. Evans Lloyd, R. 0. Jones, a R. Jones, cyhudddwyd un Margaret Gasey o ladrata .£10 o dy Rebecca Roberts, Llanfor. Traddodwyd y gyhuddedig i sefyll ei phrawf yn y brawdlys trimisol nesaf. Derbyniwyd meichniaeth. Yr Athrofa Ogleddol.-Dydd Gwener, y 3ydd cyfisol, cynaliwyd cyfarfod o'r pwyllgor lleol yn y Neuadd Drefol, pryd y cadeiriwyd gan y Milwriad Evans Lloyd. Yr oedd hefyd yn bresenol y bon- eddigion canlynol :-Milwriad Jones, Bryntegid Parch Evan Peters; Mri R. Roberts, Arran House; Richard Jones, Plasyracre; D. Morgan, John Parry, J. LI. Owen, yr Ysgol Frytanaidd, &c. Darllenodd yr ysgrifenydd mygedol lythyr a dderbyniasai oddiwrth y Cyflafareddwyr, yn mha un y traethent eu bod wedi llawn ystyried hawliau y gwahanol drefydd, a'u bod wedi dyfod i'r penderfyniad mai ofer a difudd fyddai i amrvw o'r trefydd fyned i'r draul o anfon cynrychiolwyr i ddadleu eu hawliau. Y trefydd ydynt Trallwm, Rhuthyn, Rhyl, a Porthmadog. Felly y trefydd sydd yn aros ydynt Bala, Caernarfon, Conwy, Dinbycb, Bangor, a Wrexham. Erfyniwn am i'r Cyflafareddwyr gael doethineb i benderfynu y pwnc dyrys hwn. Dyfodiad. i Oed.—Dydd o lawenydd, ac nid o waith, yn ngwir ystyr y gair oedd dydd Iau di- weddaf i bentrefwyr, trefwyr, a gwladwyr Meir- ionydd, yn enwedig felly y rhanbarth ogleddol ohoni. Nid oedd dim a dynai sylw un yn fwy yn y gwahanol drefydd na banerau yn cyhwfanu yn mhob cwr ohonynt, ac yn argraffedig arnynt ym- 1!1 y adroddion ag oeddynt yn arwyddnodau o'r hyn ag oedd miloedd o galonau yn wir ddymuno, megys, Hir oes i Mr Robertson," &c. Yr hyn a achosai yr holl arddangosiad hyn oedd dyfodiad Mr Henry Beyer Robertson, mab Mr Robertson, A.S., Pale, ger Corwen, i'w oed. Os ydyw unrhyw ddyn yn haeddu clod am yr hyn y mae'n wneyd i gym- deithas, credwn fod Mr Robertson yn teilyngu hyn. Y mae wedi gwneyd hyd eithaf ei allu yn ystod yr haner can' mlynedd diweddaf i byr- wyddo masnach yn y rhan hon o'r wlad. Trwy ei ymdrechion diflino ef yn benaf, dywedir, y daeth y "ceffyl tan trwy ddyffrynoedd tlysion a lleoedd anhygyrch Meirionydd. Wrth ystyried yr hyn oil ag y mae Mr Robertson wedi wneyd, peth ag a gyflawn haeddai oedd y mawrygiad a'r gydna- byddiaeth a gafodd ar ddyfodiad ei fab i oed. Gwir obeithiwn y bydd i'r mab sangu yn Ilwybrau ei anrhydeddus dad. Llwyddiant ddilyno deulu parchus y Pale. Yn yr hwyr, yn Neuadd Drefol y Bala, cynaliwyd dawns-gymanfa, yr hon a drodd allan yn foddlonrwydd perffaith i bawb oedd yn bresenol. GOHEBYDD.
Advertising
Advertising
Cite
Share
Mae sicrwydd bellach fod Cetewayo yn fyw, er wedi ei glwyfo yn ei goes yn y frwydr ddiweddar rhyngddo ag Uribebu. KL'rTURES."—AVIIITE'S MOC-MAIN LEVER TRUSS is the moot effective invention for the treatment of Hernia. The use of a «tepl spring, so hurtful in its effect, is avoided, a'isoft bandage beimr worn round the body, while the-requisite resisting power is sup- plied by the Moc-Main Pad and Patem ,,tvcr, fitting with so inneh case and closeness that it cannot be detected. Nend for descriptive circular, with testimonials and prices, to J. "White and Co (limited) 228,Piccadilly, London. Do not buy of Chemists wlm of<?n sell an IMITATION of oar Moc-Mazn. J. Wliite and have not any Agents. » CANWCH YN DDA SlABADWCH TN DDA !— Mac JJougJtt.i/'s Voice Lozenge wedi cael ciwcrthf.).wro"i vn f-iwr gan glcngwyr, cantorion, ac enwogion ereill am yn agos i lOain mlynedd. Xihydd ghrder a gloevvder i'r llais JENNY LIND.—" Y mae yn blosor mawr genyf, mor bell atr y niiio fy mhrohiul yn myned, l gadarohau y dystiolaeth sydd mor z IHnighty) 1 Y ozcugos a parotoir genycli clnvi" (Miles Cc, Is, 2s fie 5s.a lls-ynrhydd tnvy y llythynly. 7c. Is 2c, &e. Gof> nweh 1 ch Cj'tterydd am danynt.- XEW15EKY a'i FEIBIOX I, King ]'Ahvard-street, Llundain, E.C. Sefvdlwyd yn v flwyddyn 1740.