Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

GOGLEDD CEREDIGION.

COLEG DEHEUDIR CYMRU.

RHOS A'R CYLCHOEDD.

News
Cite
Share

RHOS A'R CYLCHOEDD. President Garfield."—Dyna oedd testyn darlith y Parch T. Nicholson yn y Rhos yr wythnos o'r blaen. Llywyddwyd gan weinidog y lie. Yr oedd y gynulleidfa fawr yn rhyfeddu at athrylith a thalent y darlithydd ieuanc, ac yn mawr edmygu cymeriad godidog yr Arlywydd, yr hwn a bortreiadwyd iddynt inor dra rhagorol. Ponkey.-Awst 13eg a'r 14-eg, bu y Parchn E. James, Nefyn, a Dr J. Thomas, Liverpool, yn pregethu yn nghyfarfod blynyddol yr eglwys uchod. Yr oedd yr holl wasanaeth dan yr eneiniad, a chafwyd prawf fod Duw yr achubydd yn Israel. LlytMjr yr Esgob.—Derbyniodd y Bwrdd Claddu lythyr oddiwrth Esgob Llanelwy yn nghylch y cysegru rhyfedd a fu ar ran o'r gladdfa a bwrcaswyd ag arian y trethdalwyr. Gofidiai ei arglwyddiaeth yn fawr fod y cynhwrf ar y mater yma yn cael ei barhau, a gobeithiai y lleddfid y teimladau digofus, ac y gwnaem ein goreu i adfer heddweh a chymydogaeth dda, ac i feithrin ysbryd Cristionogol yn y plwyf. Cynygiwyd gan Mr R. Roberts, ac eiliwyd gan y Parch R. Roberts, ein bod yn anfon crynodeb o'r holl amgylchiadau i'r Esgob, gan ddeisyf ei sylw manwl arno, ac y byddem yn falch o weithredu yn ol ei gynghor caredig pan wneid cyfiawnder & ni fel Ymneillduwyr.

CAERDYDD.

YMA AC ACW YN MON.

- BALA.

Advertising