Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

GOGLEDD CEREDIGION.

COLEG DEHEUDIR CYMRU.

News
Cite
Share

COLEG DEHEUDIR CYMRU. AGORIAD YR ADEILAD. Gorchymynir ni yn swyddogol i hysbysu y bydd i Goleg Prif-athrofaol Deheudir Cymru a sir Fynwy, yr hwn, yn ol pob arwydd, sydd yn debyg o ddyfod yn un o sefydliadau penaf y deyrnas mewn amser dyfodol, gael ei agor i efrydwyr yn mis Hydref nesaf. Bydd i'r anerchiad agoriadol gael ci draddodi gan y llywydd, sef Arglwydd Aberdar. Y mae'r Cyngbor, yr hwn sydd eisoes wedi arddangos gweithgarwch ac yni sydd yn deilwng o efelychiad, yn cynyg oddeutu pedair a deugain o ysgoloriaethau, daliadwy am dair blynedd. Y maent yn amrywio mewn gwerth o 6C40 yn y flwyddyn i lawr byd .£10. Y mae'r swm olaf yn clirio yr boll daliadau mewn cysylltiad a'r dosbarth y byddo'r efrydydd yndd yn gystal a'r mynediad i mewn. Bydd i'r arbit- iadau am yr ysgoloriaethau gael eu cario allan o dan arolygiad maerod a phersonau cyfrifol eroill yn N^haerdydd, Abertawy, Casnewydd, Merthyr, Aberhonddu, Llanandras, Caerfyrddin, Hwlffordd, a threfi ereill. Bydd i etholiad y prif-athraw, sydd wedi rhoddi cymaint o foddlonrwydd i'r wlad, gaelei ddilyn yn mis Medi nesaf gan etholiad y rban fwyaf o'r proffeswyr a'r darlithwyr ereill, ac yr ydym yn deall fod nifer o ddynion gwir alluog yn ym- gystadlu am y gwahanol swyddi hyn. Y mae yn deilwng o sylw y bydd gan bob athraw gangen briodol ei hun i'w dysgu i'r dysgyblion a fyddo o dan ei ofal, a bwriedir traddodi darlithiau ar yr iaith Gymraeg, y Ffrengaeg, y Germanaeg, a Cherddoriaeth. Bydd i'r gadair Geltaidd gael ei sefydlu yn mhen rhyw ddeuddeg mis. Gallwn sylwi hefyd y bydd i'r bnddianau mwnyddol a metelaidd gael eu cynrychioli yn y coleg. Fe welir, gan hyny, y bjdd i'r coleg newydd gychwyn gyda nifer lluosocaeh a mwy cyflawn o broffeswyr na'r un coleg arall a agorwyd yn ddiweddar, oddigerth Coleg Owen, Manceinion. Y mae amryw gynlluniau o dan ystyriaeth y pwyllgor i sefydlu nifer lluosog o ysgoloriaethau gwerthfawr, yn ychwanegol at y 44 yr hysbyswyd 3isoes yr ymgystadlcuir am danynt oddeutu y 12fed o fis Medi nesaf. Yr ydym yn deall befyd fod nifer o efrydwyr o bob gradd ac o'r saith sir yn parotoi ar gyfer myned i mewn i'r coleg. Trwy gynorthwy rhodd y Llywodraeth o £ 4,000 yn y flwyddyn, y mae'r Cynghor wedi llwyddo i benodi y tal dosbarthiadol yn isel anghyffredin, sef £ Is. am y coleg-dymhor, neu tua un rhan o dair o'r swm a delir yn gjffredin mewn colegau. Fe fydd y swm o X- 10 yn ddigon i glirio yr holl daliadau am flwyddyn gyfan. Ni fwriedir arholi y rhai a tint i mewn i'r coleg y flwyddyn gyntaf, ond ni fydd' i efrydwyr o dan un-ar-bymtbeg mlwydd oed gael eu derbyn ar un cyfrif. Yn bresenol, bydd i'r coleg ymdrechu parotoi efrydwyr ar gyfer arholiadau Prif-athrofa Llundain a'r gwasanaeth cartrefol (civil service); ond yn mhen amser, parotoir hwy ar gyfer gradd-arhol- iadau Prif-athrofa Cymru. Bydd y coleg a'r ysgoloriaethau yn agored i ddynion a merched yn ddiwahaniaetb, a gall merched yn awr weithio am a derbyn graddau Prif-athrofa Llundain. Dysgwylir y bydd i gwmniau y gwahanol reil- ffyrdd wneyd trefniadau ar gyfer cludo yr efrydwyr o'u cartrefleoedd yn rhad a rhesymol i Gaerdydd, a gwneir trefniadau ar eu cyfer yn y dref. Ar y cyfan, y mae rhagolygon addysg uwch- raddol yn Ngbymru yn ymddangos yn hynod o oheithiol ar hyn o bryd. Diau y bydd agoriad y y 11 coleg hwn yn ddeebreuad cyfnod newydd yn hanes addysgiadol y wlad.

RHOS A'R CYLCHOEDD.

CAERDYDD.

YMA AC ACW YN MON.

- BALA.

Advertising