Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

--CYFARFOD CHWARTEROL CYFUNDEB…

News
Cite
Share

CYFARFOD CHWARTEROL CYFUN- DEB DEHEUOL MORGANWA. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn Seion, Cwmafon, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Awst 14eg a'r 15fed. Yr oedd hefyd yn gyfarfod cenadol i neillduo y Parch W. H. Rees, Llechryd, yn Genadwr i China. Y Gynadledd am 3 o'r gloch dydd Mawrth, y Parch D. G. Morgans, Resolven, yn y gadair. Penderfynwyd- 1. Fod y cyfarfod nesaf i fod yn Car me], Maesteg, yn ol y gylclires. 2. Ar ddarlleniad llythyr oddiwrth Ysgrifenydd Cyfundeb sir Aberteifi, fod y Parchn J. Edwards, Soar, Castellnedd, a J. G. Evans, Wern, Aberafon, yn cael eu derbyn yn galonog yn aelodau o'r Cyfundeb hwn, gan ddymuno iddynt bob llwydd- iant yn nghylchoedd newydd eu gweinidogaeth. 3. Fod y Gynadledd yn dymuno cyflwyno ei diolchgarwch gwresocaf i Mrs Whitworth am ei haeUoni yn rhoddi tir yn rhad i adeiladu capel yn Tonmawr, a'i bod yn llawenhau fod y capel newydd wedi ei agor, a bod golwg obeithiol ar yr achos yn y lie o dan ofal Mr Davies. 4. Ein bod yn dymuno amlygu ein cydym- deimlad dwysaf a'n hanwyl frawd y Parch Dr Eees, Abertawy, yn ei gystudd trwm presenol, ac yn dymuno ar i Dad y trugareddau i ddyogelu ei fywyd a'i adferyd eto i'w nerth a'i iechyd arferol, fel y byddo eto am flynyddau, ni obeithiwn, ynwr o gynghor, cysur, a gwasanaeth, nid yn unig i'r Cyfundebau, ond i'r Enwad yn gyffredinol. 5. Fod y Parch D. G. Evans, Wern, i bregethu yn y cyfarfod nesaf ar "Berthynas edifeirwch a maddeuant," a'r Parch T. H. Thomas, Taibach, ar destyn a roddir iddo gan eglwys Carmel. 6. Hysbysodd Mr E. Morgans, Sciwen, fod ei gyfarfod sefydliad i fod yn Sciwen y 5ed a'r 6ed o'r mis nesaf, a'i fod yn rhoddi gwahoddiad caredig i'r frawdoliaeth i ddyfod yno mor gryno ag y byddo modd. 7. Hysbysodd y pwyllgor a nodwyd i ranu arian Trysorfa y Jubili ei bod wedi gwneyd ei goreu i ranu rhwng yr eglwysi oedd wedi gweithio mor dda am y iwyddyn ddiweddaf, a'i bod yn rhoddi challenge grants i nifer o eglwysi am y flwyddyn sydd yn terfynu Mawrth y 25ain nesaf, fel y gallont roddi ryw swm benodol i'r rhai a wnant ei goreu i ddileu neu leihau eu dyledion y flwyddyn nesaf. Rhoddwyd ef i'r Gynadledd, a phasiwyd ef yn unfrydol. Yr oedd yn lion genym weled Mrlloberts a Mr Foulkes, Aberafon, yn ein plith ar ol hir gystudd a llesgedd. Rhodded yr Arglwydd iddynt nerth ac iechyd am flynyddau lawer i wasanaethu Duw yn Efengyl ei Fab. y MODDION CYHOEDDU8. Pregethwyd a chymerwyd rhan yn y gwa- banol gyfarfodydd gan y Parchn canlynol;- Morris, Dyffryn; Thomas, Salem, Ceredigion Rees, Glandwr Jones, Drenewydd Davies, Widn ep, Lancashire; Morgans, Sciwen a Morgans, Resolven, ar y mater a roddwyd iddo, Cyfiawnder Duw." Pregeth bwrpasol ac Ys- grythyrol, a thraddodiad eglur a hyawdl. Yr oedd y cyfarfodydd dydd Mercher am 2 a 7 o nodwedd Genadol. Cymerwyd rhan yn- ddynt gan Mr Thomas, Cwmafon. Cawsom hanes dyddorol am Pekin fel maes Cenadol Mr Rees gan Mr Gilmore, dros Gymdeithas Gen- adol Llundain, ac wedi bod yn China am 12 mlynedd. Holwyd ychydig o ofyniadau gan Mr Rees, Glandwr, ewythr Mr Rees, a chafwyd atebion syml a theilwng iawn. Gweddiwyd yn gynwysfawr a thoddedig gan Mr Thomas, Brynmair, drosto ef a'i amvyl briod. Pregeth- wyd siara gan Proff'eswr Lewis, Bala, a diben- wyd gan Mr Jones, Maesteg. Am 7, cymerodd Mr Davies, cynfaer Aberafon, y gadair, yn y Tabernacl, capel y Methodistiaid, lie cynaliwyd y cyfarfodydd, am fod Scion o dan adgyweiriad, Dechreuwyd gan Miss Griffiths, Dowlais, a chafwyd anerchiadau gwresog gan Mr Evans, Wern, a'r brodyr a nodwyd yn flaenorol. Mae Mr Rees yn ddyn ieuanc gobeithiol, ac yn meddu ysbryd Cenadol er yn ieuanc iawn. Gollyngir cf mewn dagrau a'r dymuniadau goreu gan Eglwys Llechryd, Capel Seion, lie y dcrbyniwyd efyn aelod, ac y cafodd ei ddwyn i fyny o dan weinidogaeth oleu a nerthol yr Hybarch Mr Roberts, a'r frawdoliaeth oil. Llwyddiant iddo gyrhaedd gyda Mr Gilmore yn ddyogel. Dyogelerei iechyd, a nerther ef i wneyd ei fare yn y maes Cenadol gyda ein han- wyl frawd Mr Griffith John, a chenadon ereill a lafuriant yn nhir China draw. Yr oedd y cyf- arfodydd yn cael eu mwydo a dagrau, a gwedd- iau, a'r dylanwad Dwyfol. Casgler y ffrwyth mown gorfolcdd. DAVID EVANS, Ysg.

CYFUNDEB ISAF CAERFYRDDIN.

---.---_0.-I TY YR ARGLWYDDI.-DYDD…

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.—DYDD MERCHER.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU.

TY Y CYFFREDIN.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD GWENER.…

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.—DYDD SADWRN.

TY YR ARGLWYDDI.-DYDD LLUN.

TY Y CYFFREDIN.

Advertising