Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Hide Articles List
13 articles on this Page
--CYFARFOD CHWARTEROL CYFUNDEB…
News
Cite
Share
CYFARFOD CHWARTEROL CYFUN- DEB DEHEUOL MORGANWA. Cynaliwyd y cyfarfod uchod yn Seion, Cwmafon, ar y dyddiau Mawrth a Mercher, Awst 14eg a'r 15fed. Yr oedd hefyd yn gyfarfod cenadol i neillduo y Parch W. H. Rees, Llechryd, yn Genadwr i China. Y Gynadledd am 3 o'r gloch dydd Mawrth, y Parch D. G. Morgans, Resolven, yn y gadair. Penderfynwyd- 1. Fod y cyfarfod nesaf i fod yn Car me], Maesteg, yn ol y gylclires. 2. Ar ddarlleniad llythyr oddiwrth Ysgrifenydd Cyfundeb sir Aberteifi, fod y Parchn J. Edwards, Soar, Castellnedd, a J. G. Evans, Wern, Aberafon, yn cael eu derbyn yn galonog yn aelodau o'r Cyfundeb hwn, gan ddymuno iddynt bob llwydd- iant yn nghylchoedd newydd eu gweinidogaeth. 3. Fod y Gynadledd yn dymuno cyflwyno ei diolchgarwch gwresocaf i Mrs Whitworth am ei haeUoni yn rhoddi tir yn rhad i adeiladu capel yn Tonmawr, a'i bod yn llawenhau fod y capel newydd wedi ei agor, a bod golwg obeithiol ar yr achos yn y lie o dan ofal Mr Davies. 4. Ein bod yn dymuno amlygu ein cydym- deimlad dwysaf a'n hanwyl frawd y Parch Dr Eees, Abertawy, yn ei gystudd trwm presenol, ac yn dymuno ar i Dad y trugareddau i ddyogelu ei fywyd a'i adferyd eto i'w nerth a'i iechyd arferol, fel y byddo eto am flynyddau, ni obeithiwn, ynwr o gynghor, cysur, a gwasanaeth, nid yn unig i'r Cyfundebau, ond i'r Enwad yn gyffredinol. 5. Fod y Parch D. G. Evans, Wern, i bregethu yn y cyfarfod nesaf ar "Berthynas edifeirwch a maddeuant," a'r Parch T. H. Thomas, Taibach, ar destyn a roddir iddo gan eglwys Carmel. 6. Hysbysodd Mr E. Morgans, Sciwen, fod ei gyfarfod sefydliad i fod yn Sciwen y 5ed a'r 6ed o'r mis nesaf, a'i fod yn rhoddi gwahoddiad caredig i'r frawdoliaeth i ddyfod yno mor gryno ag y byddo modd. 7. Hysbysodd y pwyllgor a nodwyd i ranu arian Trysorfa y Jubili ei bod wedi gwneyd ei goreu i ranu rhwng yr eglwysi oedd wedi gweithio mor dda am y iwyddyn ddiweddaf, a'i bod yn rhoddi challenge grants i nifer o eglwysi am y flwyddyn sydd yn terfynu Mawrth y 25ain nesaf, fel y gallont roddi ryw swm benodol i'r rhai a wnant ei goreu i ddileu neu leihau eu dyledion y flwyddyn nesaf. Rhoddwyd ef i'r Gynadledd, a phasiwyd ef yn unfrydol. Yr oedd yn lion genym weled Mrlloberts a Mr Foulkes, Aberafon, yn ein plith ar ol hir gystudd a llesgedd. Rhodded yr Arglwydd iddynt nerth ac iechyd am flynyddau lawer i wasanaethu Duw yn Efengyl ei Fab. y MODDION CYHOEDDU8. Pregethwyd a chymerwyd rhan yn y gwa- banol gyfarfodydd gan y Parchn canlynol;- Morris, Dyffryn; Thomas, Salem, Ceredigion Rees, Glandwr Jones, Drenewydd Davies, Widn ep, Lancashire; Morgans, Sciwen a Morgans, Resolven, ar y mater a roddwyd iddo, Cyfiawnder Duw." Pregeth bwrpasol ac Ys- grythyrol, a thraddodiad eglur a hyawdl. Yr oedd y cyfarfodydd dydd Mercher am 2 a 7 o nodwedd Genadol. Cymerwyd rhan yn- ddynt gan Mr Thomas, Cwmafon. Cawsom hanes dyddorol am Pekin fel maes Cenadol Mr Rees gan Mr Gilmore, dros Gymdeithas Gen- adol Llundain, ac wedi bod yn China am 12 mlynedd. Holwyd ychydig o ofyniadau gan Mr Rees, Glandwr, ewythr Mr Rees, a chafwyd atebion syml a theilwng iawn. Gweddiwyd yn gynwysfawr a thoddedig gan Mr Thomas, Brynmair, drosto ef a'i amvyl briod. Pregeth- wyd siara gan Proff'eswr Lewis, Bala, a diben- wyd gan Mr Jones, Maesteg. Am 7, cymerodd Mr Davies, cynfaer Aberafon, y gadair, yn y Tabernacl, capel y Methodistiaid, lie cynaliwyd y cyfarfodydd, am fod Scion o dan adgyweiriad, Dechreuwyd gan Miss Griffiths, Dowlais, a chafwyd anerchiadau gwresog gan Mr Evans, Wern, a'r brodyr a nodwyd yn flaenorol. Mae Mr Rees yn ddyn ieuanc gobeithiol, ac yn meddu ysbryd Cenadol er yn ieuanc iawn. Gollyngir cf mewn dagrau a'r dymuniadau goreu gan Eglwys Llechryd, Capel Seion, lie y dcrbyniwyd efyn aelod, ac y cafodd ei ddwyn i fyny o dan weinidogaeth oleu a nerthol yr Hybarch Mr Roberts, a'r frawdoliaeth oil. Llwyddiant iddo gyrhaedd gyda Mr Gilmore yn ddyogel. Dyogelerei iechyd, a nerther ef i wneyd ei fare yn y maes Cenadol gyda ein han- wyl frawd Mr Griffith John, a chenadon ereill a lafuriant yn nhir China draw. Yr oedd y cyf- arfodydd yn cael eu mwydo a dagrau, a gwedd- iau, a'r dylanwad Dwyfol. Casgler y ffrwyth mown gorfolcdd. DAVID EVANS, Ysg.
CYFUNDEB ISAF CAERFYRDDIN.
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
CYFUNDEB ISAF CAERFYRDDIN. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Sardis, Trimsaran, ar Mawrth a Mercher, y 14eg a'r 15fed o Awst. Cynadledd y dydd cyntaf am haner awr wedi dau. Y Parch J. Rogers, Pembre, yn y gadair. Pen- derfynwyd fod— 1. Y Cyfarfod Chwarterol nesaf i fod yn Rhydyceisiaid. 2. Fod y Parch W. C. Jenkins, Cydweli, i bregethu yn y cyfarfod hwnw ar Gadwraeth y Sabbotb." 3. Teimla y Gynadledd hon yn llawen a diolch- gar fod yr eglwys barchus yn Rhydyceisiaid a'i gweinidog yn penderfynu derbyn yn roesawus y Gymanfa Dair-sirol y flwyddyn nesaf. 4. Fod yr Ysgrifenydd i anfon llythyr o gydym- deimlad cynes a pherthynasau galarus ein hanwyl frawd ymadawedig, y Parch E. Ehedydd Thomas, Siloam, Pontargothi. Drwg genym oil oedd colli brawd ieuanc mor addawol bron ar ddechreu ei yrfa weinidogaethol. 5. Fod diolchgarwch cynes ei frodyr yn cael ei gyflwyno i'r Parch E. Evans, Penybont, am ei bregeth bwrpasol ar y pwnc, "Ffyddlondeb yn y Moddion Cyhoeddus." 6. Rhoddodd y Parch D. Thomas, Llanybri, rybudd y bwriada gynyg yn y cyfarfod nesaf yn Rhydyceisiaid, fod pob eglwys yn nghylch y Gymanfa Dair-sirol i wneyd casgliad blynyddol bychan tuag at ei thraul. 7. Fod y .£16 sydd wedi disgyn i ran y Cyfun- deb hwn o Drysorfa y Jubili i gael eu rhanu rhwng Sardis, Trimsaran, a Chapel Hool y Prior, Caerfyrddin-deg punt i Sardis, a chwe' phunt i Heol y Prior. Agorwyd a chauwyd y Gynadledd gan y Parchn D. T. Davies, Llanybri, ac E. Evans, Penybont. Pregethwyd gan y Parchn D. T. Davies a D. Thomas, Llanybri; E. Evans, Penybont; R. Morgan, St. Clears D. E. Williams, Henllan; D. R. Davies, Rhydyceisiaid J. Rogers, Pem- bre a D. Evans, Burry Port. Gweddiodd y Mri W. Morgan, Aberhonddu Thomas, Pontyates a'r Parchn D. E. Davies a D. Evans. Cafwyd cyfarfod 'dedwydd a gwerthfawr, a digon o bregethwyr, er, am ryw reswm neu gil- ydd, fod dwy ran o dair o woinidogion y Cyf- undeb yn absenol. Diolch i'r rhai a hysbys- odd eu hanallu i fod yno, a diolch yn gynes i'r rhai a ddaeth dacthant a chyflawnder bendith- ion Efengyl Crist ganddynt. W. C. JENKINS, Ysg.
---.---_0.-I TY YR ARGLWYDDI.-DYDD…
News
Cite
Share
_0.- TY YR ARGLWYDDI.-DYDD MAWRTH. Pasiodd Mesur Daliadau Amaethyddol Seisonig trwy radd pwyllgor, a dysgwylir y bydd iddo gael ei anfon i Dy y Cyffredin yn fuan.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Mewn atebiad i Syr Alexander Gordon, eglur- odd Syr W. Harcourt maiun o alucanion Mesur Bwrdd Llywodraeth Leol i Ysgotland ydoedd fod ysgordd (staff) a swyddogaeth i gael eu sefydlu er byrwyddiad i'r rbai oedd a gofal gorchwylion Ys- gotaidd ^n y Senedd. Byddai swyddfa llywydd y bwrdd bwriadedig yn Llundain. Yr oedd yn ofynol hefyd fod swyddfa yn Edinburgh, er cyf- lensdra i'r llywydd gyfarfod fig aelodau Ysgot- aidd ac ereill yn ystod gohiriad y Senedd. Mewn atebiad i Syr Eardley Wilmot, dywedodd Mr Gladstone nad oedd efe yn gwybod am ddim ond Llywodraeth y wlad allasai rwystro gwneuthuriad unrhyw dramwyfa, oddieithr un ddyfrol, dros Leindir Suez. Hysbysodd Arglwydd E. Fitz- maurice fod Mr George F. Annesley, trafnoddwr ei Mawrhydi yn Surrinam, wedi ei apwyntio yn olynydd i'r diweddar Mr Pakenham fel trafnodd- wr ei Mawrhydi yn Madagascar. Cariwyd Mosur Cofrestriad Etholiadol Iwerddon trwy y Ty, ac yna aed i ystyried Mesur Methdaliad yn ei wedd ddiwygiedig.
TY Y CYFFREDIN.—DYDD MERCHER.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN.—DYDD MERCHER. Gofynodd Mr Agnew i'r Llofarydd a oedd yn rheolaidd i aelod sefyll wrth y drws i geisio per- swadio aelodau rhag myned i mewn er rhwystro gwneyd Ty. Dywedodd y Llefarydd nad oedd wedi ei hysbysu o un achos o'r fath, ac y buasai yn syn iawn ganddo ef ddeall fod unrhyw aelod wedi gwneuthur hyny. Mr Warton yw y pech- adur, a dylai gymeryd rhybudd o hyn allan. Cy- merwyd y prydnawn i fyny bron yn gyfangwbl i ddadleu Mesur Bwrdd Llywodraeth Leol i Ysgot- land. Ymddengys nad oes llawer o frwdfrydedd yn cael ei arddangos yn mysg aelodau Ysgotaidd dros basiad y Mesur hwn yn awr, ar ol deall nad apwyntir Arglwydd Roesbery yn llywydd y bwrdd. Gohiriodd y Ty am bum' mynyd i j chwech.
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU. Darllenwyd Mesur Methdaliad y waith gyntaf. Gorchymynwyd i Fesur Daliadau Amaethyddol Ysgotland gael ei ddarllen y drydedd waith. Ar y cwestiwn fod Mesur Daliadau Amaethyddol Lloegr i gael ei basio, cynygiwyd gwelliant gan Arglwydd Salisbury nad oedd y Mesur i ddyfod mewn grym hyd Mawrth 31ain, 1884, yn lie Ion- awr laf, yr hwn a basiwyd trwy fwyafrif o naw. Darllenwyd Mesur Arferiadau Llygredig mewn Etholiadau yr ail waith.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Mr Chamberlain a ddywedodd mewn atebiad i Syr H. Holland, na allai hyrwyddwyr Twnel y Sianel fyned yn mlaen a'r gweithiau heb gael can- iatad Bwrdd Masnach. Mewn atebiad i Mr A. Bartlett, dywedodd Mr Campbell Bannerman nad ellid cyhoeddi y gohebiaethau a dderbyniwyd o Madagascar ar hyn o bryd. Mewn atebiad i Mr Jacob Bright, dywedodd Mr Fawcett fod y cwest- iwn o yswirio neu ddyogelu parseli wedi bod o dan ystyriaeth, ond barnwyd yn ddoeth i ohirio y peth hyd nes cael tipyn o brawf ar gynllun new- ydd y parcels post. Rhoddodd Mr Morgan Lloyd rybudd y bydd iddo yn gynar yn y Senedd-dymhor nesaf gyflwyno Mesur er gwella Deddf Dysgybl- aeth Eglwysig a Rbeoleiddiad Gwasanaeth Cy- hoeddus. Gorchymynwyd writ newydd dros East Sussex, yn lie y Milwriad Ruggles Brice, yr hwn sydd wedi derbyn y Chiltern Hundreds. Aeth y Ty wedi hyny yn Bwyllgor Cyflenwad ar amcan- gyfrifon y gwasanaeth gwladol.
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD GWENER.…
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.—DYDD GWENER. Taflwyd allan Fesur oedd yn anghyfreithloni yr arferiad farbaraidd o saethu colomenod. Dar- llenwyd yr ail waith Fesur Methdaliad, a darllen- wyd a phasiwyd yr ail waith Fesur Daliadau Amaethyddol Ysgotland.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Aethpwyd i Bwyllgor ar y Tramways and Public Companies (Ireland) Bill, a phasiwyd un adran ar ddeg. Mewn Cyflenwad pasiwyd fod Coleg Aberystwyth i gael £4,000, a Cholegau Ysgotland i gael £ 19,052.
TY Y CYFFREDIN.—DYDD SADWRN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN.—DYDD SADWRN. Mewn atebiad i Mr Ashmead-Bartlett, dywed- odd Mr Gladstone fod y Llywodraeth wedi dirymu y weithred o gysylitu New Guinea a Threfedig- aethau Awstralia. Llwyddwyd i fyned trwy yr oil o Gyflenwad, a phasiwyd amryw fesurau ereill o natur leol.
TY YR ARGLWYDDI.-DYDD LLUN.
News
Cite
Share
TY YR ARGLWYDDI.-DYDD LLUN. Rhoddwyd y cydsyniad Breninol i amryw fesurau. Mewn atebiad i Ardalydd Salisbury, dywedodd Iarll Granville ei fod wedi ei hysbysu gan M. Waddington nad oedd Mr Shaw, y cenad- wr, yn ngharchar, ond ei fodyncerddedoamgylch ar fwrdd un o longau rhyfel Ffrainc. Y cyhudd- iad yn ei erbyn oedd, iddo gydymddwyn a'r brod- orion; ond nid oedd un rheswm i dybied na roddid iddo gyfleusderau digonol er ei amddiffyn- iad. Aeth Mesur Llygredigaethau mewn Ethol- iadau a Mesur Methdaliad drwy bwyllgor.
TY Y CYFFREDIN.
News
Cite
Share
TY Y CYFFREDIN. Tywalltwyd cawodydd o gwestiynau ar ben Mr Gladstone yn nglyu a'r helyntion yn Madagascar, ond ychydig iawn o wybodaoth ellid gael ar y pwnc, oblegid y rheswm da nad oedd y gohebu i rhwng Llywodraeth y wlad hon a Llywodraeth Ffrainc ar y cwestiwn wedi terfynu. o
Advertising
Advertising
Cite
Share
Mae amryw o gatrodau o fyddin Ysbaen wedi codi mewn gwrthryfel yn erbyn yr awdurdodau. Mae lie i ofni y tywolltir llawer o waed, ac y collir llawor o fy ydau cyn yr adferir heddwch a threfn. SING WELL SPEAK WELL! Douglt(lJ's Voice Lnzcvf/c. has been gi-ateftilly appreciated by thousands of clerical, musical, and other eelebrities lor nearly 10 years. It imparts to the voice clearness of sound and brilliancy ot tone. JENNY LIND.—" I have much pleasuro in confirming, as far as my experience extends, the testimony jj!'ea"J' so general in favour of the Lozenges prepared by you (Miles Doughty). (id, Is, 2s (id, 5s, and Hs-post free, 7d, ls 2d, &c Ask your Chemist i or i hem.— I'.NJi WilliR Y and SON h, 1, Kuig Eùward- streetj London, E.C. Established A.D, 1710.