Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

--CYFARFOD CHWARTEROL CYFUNDEB…

CYFUNDEB ISAF CAERFYRDDIN.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

CYFUNDEB ISAF CAERFYRDDIN. Cynaliwyd Cyfarfod Chwarterol y Cyfundeb uchod yn Sardis, Trimsaran, ar Mawrth a Mercher, y 14eg a'r 15fed o Awst. Cynadledd y dydd cyntaf am haner awr wedi dau. Y Parch J. Rogers, Pembre, yn y gadair. Pen- derfynwyd fod— 1. Y Cyfarfod Chwarterol nesaf i fod yn Rhydyceisiaid. 2. Fod y Parch W. C. Jenkins, Cydweli, i bregethu yn y cyfarfod hwnw ar Gadwraeth y Sabbotb." 3. Teimla y Gynadledd hon yn llawen a diolch- gar fod yr eglwys barchus yn Rhydyceisiaid a'i gweinidog yn penderfynu derbyn yn roesawus y Gymanfa Dair-sirol y flwyddyn nesaf. 4. Fod yr Ysgrifenydd i anfon llythyr o gydym- deimlad cynes a pherthynasau galarus ein hanwyl frawd ymadawedig, y Parch E. Ehedydd Thomas, Siloam, Pontargothi. Drwg genym oil oedd colli brawd ieuanc mor addawol bron ar ddechreu ei yrfa weinidogaethol. 5. Fod diolchgarwch cynes ei frodyr yn cael ei gyflwyno i'r Parch E. Evans, Penybont, am ei bregeth bwrpasol ar y pwnc, "Ffyddlondeb yn y Moddion Cyhoeddus." 6. Rhoddodd y Parch D. Thomas, Llanybri, rybudd y bwriada gynyg yn y cyfarfod nesaf yn Rhydyceisiaid, fod pob eglwys yn nghylch y Gymanfa Dair-sirol i wneyd casgliad blynyddol bychan tuag at ei thraul. 7. Fod y .£16 sydd wedi disgyn i ran y Cyfun- deb hwn o Drysorfa y Jubili i gael eu rhanu rhwng Sardis, Trimsaran, a Chapel Hool y Prior, Caerfyrddin-deg punt i Sardis, a chwe' phunt i Heol y Prior. Agorwyd a chauwyd y Gynadledd gan y Parchn D. T. Davies, Llanybri, ac E. Evans, Penybont. Pregethwyd gan y Parchn D. T. Davies a D. Thomas, Llanybri; E. Evans, Penybont; R. Morgan, St. Clears D. E. Williams, Henllan; D. R. Davies, Rhydyceisiaid J. Rogers, Pem- bre a D. Evans, Burry Port. Gweddiodd y Mri W. Morgan, Aberhonddu Thomas, Pontyates a'r Parchn D. E. Davies a D. Evans. Cafwyd cyfarfod 'dedwydd a gwerthfawr, a digon o bregethwyr, er, am ryw reswm neu gil- ydd, fod dwy ran o dair o woinidogion y Cyf- undeb yn absenol. Diolch i'r rhai a hysbys- odd eu hanallu i fod yno, a diolch yn gynes i'r rhai a ddaeth dacthant a chyflawnder bendith- ion Efengyl Crist ganddynt. W. C. JENKINS, Ysg.

---.---_0.-I TY YR ARGLWYDDI.-DYDD…

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.—DYDD MERCHER.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD IAU.

TY Y CYFFREDIN.

TY YR ARGLWYDDI.—DYDD GWENER.…

TY Y CYFFREDIN.

TY Y CYFFREDIN.—DYDD SADWRN.

TY YR ARGLWYDDI.-DYDD LLUN.

TY Y CYFFREDIN.

Advertising