Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

2 articles on this Page

DYDD MEROHER.

UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMBEie.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

erioed. Mae y byd yn edrych i fyny ato yn ei berson a'i waith er's yn agos i ddwy fil o flynyddau, ac yn syllu mwy arno o'r naill oes i'r llall. Mae y cyfrolau ar gyfrolau sydd wedi eu hysgrifenu ar hanes ei fyw yd yn y byd, a hyny can feddyliau a thalentau dysaleiriaf yr oesan, a'r cylchrediad digyffelyb sydd i'r cvfrolau ty»y, yn tystio ei fod ef yn rliywun tnawr. Mae y teitlau goruchel a roddwyd iddo gan ysbrydoliaeth trwy y proffwyd, yn profi fod boll berffeithderau dyn a Duw wedi cydgyfarfod ynddo, "Canys bachgen a anwyd i ni, a Mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd of, a gelwir ei enw ef Ehyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragywyddoldeb, Tywysog tang- nefedd," &c. 3. Teyrnas a'i hamcanion goruchel a daionus yn cyfateb i angenion dyfnion a thruenus y byd.—O'u cymharu a dechreuad dystadl y deyrnas y mae ei ham- can ion mor aruchel nes ymddangos yn ynfydrwydd perflfaith, nou freuddwyd gwag na chyflawnid byth. Nid oedd y byd yn ei fan goreu wedi gailu dychymygu erioed am y fath beth. Yr oedd hanes y byd yn dwyn digon o brofion o'i angen a'i drueni. Ond yn oler y chwilir hanesiaeth a llenycliaetli y byd paganaidd am obeithion dysglaer y dyfodol mewn cysuron a dyrchaf- iad cyfiredinol i daulu dyn. Yr oedd eu "hces cur- aidd hwy yn y gorphenol, yr hyn oedd i fesur pell yn gwneyd eu presenol yn nos dywell, ac awyrgylch eu dyfodol yn gaddug dudow heb un seren ddydd yn y golwg na gobaith am dani. Ond wele yr Iesn yn dyfod allan o weithdj* y saer, ac yn cyboeddi yr athrawiaeth fendigedig am deyrnas nefoedd ar y ddaear, yn dal lamp gobaith am y dyrchafiad, a'r dyfodol mwyaf go- goneddus o ifaen y byd. "Oes euraidd" i dd'od oedd ganddo ef i son am dani. Y seren ddydd wedi ym- ddangos, y wawr wedi tori, teyrnas Ddnw wedi dyfod i'r golwg, wedi nesbau at ddynion. Teyrnas i uno dynolryw yn un teulu mawr eilredig, parod i gynorth- wyo a chysuro eu gilydd, a darostwng yr uchel a dyr- chafu yr isel. Dileu pob pendefigaeth;" &c. Teyrnas i achub, i ddylanwa !u ar yr amzylcbiadau trwy ddy- lanwadu ar eneidiau. Achub hefyd er gogoniant Duw dad. 4. Teyrnas a gviblha ei hamcanion i berffeithrwydd er givaethaf pob rhivystrau. — Canys rhaid iddo deyrnasu hyd oni osodo ei holl elynion dan ei draed." Mae yma gydnabyddiaeth o fawredd y gwaith, a'r an- hawsderau i'w gyflawni. Ond y rnae yma sicrwydd y dygir ef i ben yn ogoneddus er hyny," Canys rhaid iddo deyrnasu byd oni osodo ei boll elynion dan ei draed." iihaid sicrwydd yn codi o'r ffaith fawr fod y fuddugoliaeth fwyaf a phwysicaf wedi ei h, nil]. Mae buddugoliaeth fawr pen Calfaria yn sicrhan buddugol- iaeth ar bob pechod a gelyn, a meddiant llwyr o'r ddaear yn y man. Bydd y "deyrnas wedi royned o for hyd for ewyllys Duw yn cael ei chyflawni ar y ddaer, megys y mae yn ynefoedd;" teyrnasoe id y byd wedi d'od yn eiddo iddo Ef-pob cenedlaeth a enir yn cael eu geni o'r Ysbryd hefyd—yr hen genedl wedi ei bimpio yn ei holewydden ei bun — cyflawnder y cenedloedd wedi d'od i mewn—y Tad wedi ei foddloni -y Mab wedi ei ddiivallu. Yna y bydd y diwedd," pan y cyflwyna efe y deyrnas i'w Dad, y llyncir y cwbl i fyny yn y mawredd Dwyfol, hollbresenol, a thragywyddol, er mawl, gogoniant, ac anrhydedd yr Hivn y dygwyd y cyfan yn mlaen o'r dechreuad. Mae hyn yn galw ar bob gelyn i roi ei arfau i lawr, ar yr Eglwys i gymoryd cysur a bod yn ffyddlon, ac ar y cenadon i fod yn ymroddgar a chalonog. Ar ol canu penill, dilynwyd ef gau y Parch E. A. Jones, Castellnewydd Emlyn, ond ui ddaeth ei sylwadau i law. Cyhoeddir hwy yn ein nesaf. Cododd y teimlad yn uchel iawn yn y cyfar- fod hwn, a chyda hyny ddysgwyliad y dorf am ddyfroedd nofiadwy cyn diwedd y cyfarfodydd nos Iau.