Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

O'M LLYFKGELL. -

News
Cite
Share

O'M LLYFKGELL. Pedivar-cari mIwyddiant genedigaeth Luther— Pabyddiaeth yn Eglwys Loegr — Perygl i'r Eglwysi Rhyd'dion. GAN y bydd y lOfed o Dachwedd nesaf yn der- fyniad pedwar can' mlynedd dydd genedigaeth Martin Luther, nid anfuddiol fyddai galw sylw Cymru unwaith eto at brif ffeithiau ei fywyd, a phrif ddygwyddiadau ei oes, yn ogystal ag at rai o wersi ac egwyddorion y Diwygiad Protes. tanaidd. Mae yn debyg y cedwir y 10fed o Dacbwedd nesaf yn ddiwrnod gwyl ar y Cyfan- dir yn gyffredinol. Yn Germani mae y Kaisers wedi anfon allan orehymyn ar i'r dathliad fod o nodwedd genedlaethol. Y mae yna arwyddion eisoes nad yw Lloegr Brotestanaidd yn an. mharod i ddangos cydymdeimlad perffaith a'r symudiad. Mae Cynghor y Cynghrair Efeng- ylaidd wedi bod yn ystyried y mater, ac y maent wedi penderfynu gohebu a'r prif gym- deithasau Cristionogol er cael cydweithrediad. Nis gwyddom yn hollol beth a olygir wrth y prif gymdeithasau, diau fod yr enwadau yn gynwysedig yn hyn. Y canlyniad yw penodiad cynrychiolwyr i ystyried y cwestiwn. Pa le y mae Cymru Brotestanaidd ar adeg fel hyn ? Os nad oes ganddi lais yn y cynghor uchod, yr ydym yn gobeithio y cymerir mantais o'r gauaf dyfodol i godi egwyddorion y Diwygiad Pro- testanaidd i sylw drwy y Wasg, ar yr esgyn- lawr, ac yn mhwlpudau ein gwlad. Ac yn ychwanegol at hyn, gellid ffurfio dosbarthiadau i ddysgu ein dynion ieuaine yn hanesiaeth y cyfnod, ac yn egwyddorion ein Protestaniaeth. Yn y rhagymadrodd i'w lyfr rhagorol ar y Diwygiad Protestanaidd yn Lloegr, gan Dr Geikie, awdwr By wyd a Gciriau lesu Grist, eawn y dyfyniad canlynol o lythyr oddiwrth un o Esgobion y wlad at yr awdwr, "Yrwyfyn berffaith gydwybodol fod y Diwygiad Protes- tanaidd yn cael ei fygwth, a bod ffurf llygredig o addoliad ac addysg yn awr yn cael ei ddwyn i mewn mewn modd bradwrus. Y mae genym i ymwneyd, nid ag unigolion, ond a bradwriaeth. Nis gall pethau fel y maent yn bresenol fyned yn mlaen yn hir, y cysur ydyw, nas gallant yn hawdd fod yn waeth." Dyma syniad un o Esgobion Eglwys Loegr. Dywedodd Esgob y I Durham hefyd mewn siars a draddododd ryw bedair blynedd yn ol, fod yn y gymdeithas a elwir yr English Church Union— cynghrair o ddefodwyr-2,551 o aelodau, neu un ran o wyth o glerigwyr Eglwys Loegr, a'u bod wedi ym- rwymo a'u gilydd i wrthwynebu y gyfraith. Addefir yn gyffredin fod defodaeth yn cynyddu yn mhlith y dosbarth ienengafo weinidogiou Eglwys Loegr. Dywedai y diweddar -Eagob Thirlwall, yr esgob galluocaf yn ddiau er dydd- iau Butler: Maent yn ein hysbysu fod eu plaid mewn amod a'u gilydd i wneyd ymgyrch yn erbyn Protestaniaeth. Nid ydynt yn celu eu hawydd a'u hamcan, mor belled ag y mae yn eu gallu, i ddwyn oddiamgylch gyfnewidiad trwyadl yn Eglwys Loegr i ddelw Eglwys Rhufain yn mhob peth, oddigerth ymostyngiad i'r Pab." Am flynyddoedd y mae Eglwys Loegr wedi bod yn brif fagwrfa i Eglwys Ehufain. Byddai yn hawdd rhoddi engreiffciau er profi hyn. Rai blynyddoedd yn ol sefydl- wyd math o gymdeithas i chwiorydd yn Eglwys Loegr ar gynllun y Romanist Sisterhoods. Mae dros haner y boneddigesau fu unwaith mewn cysylltiad ag un ohonynt wedi myned drosodd yn llwyr i Eglwys Ehufain. Aeth un gym- 1 deithns o'r fath fu dan nawdd neillduol Dr Pusey drosodd yn ei chrynswth i'r Babaeth. Mae y Mother Superior a phump o chwiorydd o St. Mary's Priory, Hackney, dan ofal y Parch A. H. Mackonochie, St. Albans, Holborn, wedi dilyn yr un Ilwybr. Mae yr engreifftiau hyn yn ddigon i brofi mai Pabyddiaeth noeth ydyw Uchel-Eglwysyddiaeth, a'i fod yn Hawn mor atgas yn Eglwys Loegr ag yn Eglwys iRhufain. Ond o ran hyny, mae y Defodwyr eu hunain yn addef mai Pabyddion ydynt. Mewn llyfr a gyhoeddwyd rai blynyddoedd yn ol, yn cael ei olygu gan un o'u cynrychiolwyr blaenaf, ac yn mha un y ceir rhagymadrodd gan Dr Pusey, ceir y dyfyniad caniynolYr ydym yn dysgu dynion fod Duw i'w addoli o dan y ffurf o Fara, ac y maent yn dysgu y wers a wrthodasant eu dysgu oddiwrth yr athrawon Pabyddol sydd wedi bod yn eu mysg am y tri chan' mlynedd diweddaf. Yr ydym yn dysgu dynion i ddj. oddef, yn wirfoddol, boenedigaeth y cyffesiad (pain of confession), treial caled i natur y Sais, ac i gredu fod y geiriau Yr wyf yn maddeu i ti,' yn llais Duw. Pa gynifer o Brotestaniaid y mae yr offeiriaid Pabajdd wedi eu dwyn i gyffesiad, mewn cymariaeth i'r nifer a ddygir gan offeiriaid Eglwys Loegr. A. allant hwy orchfygu y dygasedd Seisonig at y mummery hyn, fel yr ydym ni yn ei orchfygu P Ar unrhyw dybiaeth yr ydym yngwneyd eugwailh" (.Essays on the Re-union of Christendom, edited by Dr. ■ Lee, qf Lambeth, with a pi-eface by the Rev. E. B. Pusey). Mae papyrau swyddogol y Defodwyr yn addef, mai eu hamcan eithaf ydyw undeb a Rhufaill. Mae haner y drycioni sydd yn y byd yn byw wrth fasnachu ar enw arall. Mae Pabyddiaeth yn cael ei oddef yn Eglwys Sefydledig ein gwlad, ac eto yn cael ei hwtio a'i ddirmygu pan y trig yn ei Ie ei hun. Mae yn ddrwg genym weled fod Pabyddiaeth yn lefeinio yr Eglwys Wladol, ac ofnwn os na ddaw ymwared o rywle, na fydd yr Eglwysi Rhydd yn hollol rydd o'i dylaiiwad swynol hi. Gwyddom am ddynion ieuainc fagwyd ar ael- wydydd Ymneillduol yn mynychu' Eglwys Loegr am fod y gwasanaeth" yn taro eu harchwaeth. Mae gan y gerddoriaeth a'r organ a'r responses eu swynion i'r dynion hyn. Mae Eglwys Loegr yn myned yn mhell iawn i fodd- hau y synwyrau corfforol, ac ni synem weled y rhai a hudir ganddi yn cael eu hunain o'r diwedd yn ngafaelion yr Eglwys Babaidd.

SABBOTH LLAWEN,

[No title]