Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

YR YSGOL SABBOTHOL.

AGORIAD CAPET, NEWYDD LLANBEDEOO.…

News
Cite
Share

AGORIAD CAPET, NEWYDD LLANBEDEOO. Ni fu yr eglwys Anaibytiol erioed yn lluosog yn y lie nchod, nac er ei chychwyniad yn amddifad o ryw nifer fechaa o ffyddloniaid. Bn yr achos yn dyoddef oblegid gwahanoi anfanteision, megys boi heb bregethu hollol reolaidd, dyled beryglus ar y capel, a'r capel dyledog hwnw mewn lie ac agwedd hollol annymunol; ond parhaodd yn fyw trwy y cwbl. Teimlid er hyny ei bod yn anmhos- ibl dysgwyl iddo ddal tir, heb son am gynyddu, oni chawsid capel newydd, ac yr ydoedd y meddwl am gael h wn w yn wyneb yr anfanteision trymion a wasgent arnynt, yn yrnddangos yn dra anhawdd i'w roddi mewn gweithrediad. Er hyny, ym- roddodd y gwcinidog ffyddlawn y Parch Evan Jones yn cael ei gefnogi gan y diacon egniol Mr Davies, Talyfan, ac ychydig ereill i fynu capel. Cafwyd prydles ar lecyn dewisol ar etifeddiaeth Madryn yn yr ardal, ac fe sylfaeawyd y ty mewn sirioldeb a llawenydd mawr. Bu Mr Jones yn ddiwyd iawn yn casglu ato cyn ac wedi hyny. Gorphenwyd y gwaith i foddlonrwydd pawb, a chostiodd tua £100. Ar y cyntaf a'r ail o'r mis presenol cynaliwyd cyfarfod ei agoriad, a chyrch- wyd iddo gan ffyddloniaid o Fynytho, Abersoch, Bwlchtocyn, Pwllheli, Ceidio, &c., &c. Pregeth- y 11 wyd y noswaith gyntaf ya Mynytho gan y Parchn R. W. Griffith, Bethel; a Dr Thomas, Liverpool. Cafwyd yuo oedfa luosog a llewyrchus. Pregeth- wyd yr un adeg yn Llanbedrog gan y Parchn O. Jones, Pwllbeli, a L. Probert Porthmadog. Caf- wyd oedfa gref a sylweddo). Dranoeth, am ddeg o'r gloch, pregethwyd gan Mr Probert yn Saeson- eg, a Dr Thomas yn Gymraeg. Yr oedd y gynull- eidfa yn un hynod o barchus ac yn cynwys yn mhlith ereill Mr W. Kathbone, A.S., a'i deulu. Dyma beth newydd yn y rhan yma o'r wlad. Cydrhwng y ddwy oedfa, cafwyd anerchiad gan Dr Thomas yn Gymraeg ac yn Saesoneg, a gwefr- eiddiodd bawb o'r Aelod Seneddol anrhydeddus hyd yr hen gyfeillion mwyaf cartrefol, a chafwyd ar ol hyny gynhauaf ardderchog mown casgliad at y ddyled. Yn yr oedfaon dilynol pregethwyd gan y Parchn R. W. Griffith; Jones, Tabor James, Nefyn a Dr Thomas. Erbyn diwedd y cyfarfod tynwyd dyled y capel newydd i lawr i rywle tua chymydogaeth y £ 70. Bu y gweinidogion yn ciu- ittwa yn Glyn-y-Weddw, y palas godidog lie y preswylia Mr Rathbone a'i deulu yn yr ardai. Yno y bu Dr Thomas yn cysgu y ddwy noswaith. Rhyfedd o'r mwynhad a gaffai Mrs Rathbone wrth groesawu y brodyr. Arosed bendith dan ei chronglwyd hyd byth. Heblaw y capel, mae y cyfeillion wedi adeiladu ty braf i'w gweinidog ffyddlawn, traul adeiladaeth yr hwn sydd yn ddyled ar ei phen ei hun. Gyda'r gweinidogion a onwyd yr oedd yn bres- enol y Parchn Joseph Morris, Madryn Lodge J. C. Jones, Ceidio a li. Hughes, Abersoch. Diau yr hir go fir yr wyl hon gan ugciniau lawer trwy yr ardaloedd cylchynol, fel an hynod yn mysg ein cyfarfudydd. Caller yma Iwyddiant mawr.—E. D

Advertising