Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

YR YSGOL SABBOTHOL.

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YR YSGOL SABBOTHOL. Y WERS EHYNGWLADWEIAETHOL. (International Lesson.) GAN Y PARCH. D. OLIVER, TEEFFYNON. AWST 1ge9-1srael yn gwrthod Duw.—Barn. ii. 6-16. Y TESTYN EURAIDD. Ac a wrthodasant Ar- glwydd Dduw eu tadan, yr hwn a'u dygasai hwynt o wlad yr Aipht, ac a aethant ar ol duwiau dyeithr, sef rhai o ddnwiau y bobloedd oedd o'u hamgylch, ac a ymgrymasant iddynt, ac a ddigiasant yr Arglwydd." -Barn. ii. 12. EHAGARWEINIOL. YN y Wers hon ceir crynodeb o hanes Israel dan lywodraeth y Barnwyr, gan ddangos eu gwrtbgiliad graddol, hyd oni suddasant i'r eilunaddoliaeth ffieidd- iaf, ac y gwrthodasant yr Arglwydd i fod yn frenin arnynt. Tra bu Josua a'r henuriaid byw, parhaodd Israel i lynn wrth Dduw, ond wedi hyny gwrthgilias- ant ac aethant ar 01 duwiau y Cenedloedd, a dygasant arnynt ea hunain soriant a barnedkaethau Duw. Gwrthgiliasant oddiwrth Dduw yn Ngwlad yr Addowid o'r hon y cawsant feddiant trwy gyfryngiad neillduol Jehofah. Y fath engraifft o ynfydrwydd ae anniolch- garweh. Oherwydd hyn enynodd digofaint Duw yn eu herbyn, a rhoddodd hwynt yn nwylaw en trelynion. Ataliodd Duw ei gyfryngiad oddiwrthynt. Pwy bynag a ewyllysiai a allai eu hanrheithio; pwy bynag a ewyllysiai a allai eu gorthrymu. Gwasanaethasant dduwiau y Cenedloedd oedd o'u hamgylch, a gwnaeth Dnw iddynt wasanaethu tywysogion y Cenedloedd oedd o amgylch iddynt. Pan yn cael eu gorthrymu a'u gwasgu gan eu gelynion, gwaeddent ar yr Arglwydd. Yr Arglwydd a dosturiai wrth eu griddfan hwynt ac a gyfodai rai i'w hachub. Gelwir hwy y Barnwyr. Yn llyfr y Barnwyr ceir eu hanes, a'r modd y galluogai Duw hwynt i wneuthur pethau mawrion i Israel. Tybir i Lyfr y Barnwyr gael ei ysgrifenu gan Samuel. ESBONIADOL. Adnod 6.—" A Josua a ollyngodd y bobl ymaith a meibion Israel a aethant bob un i'w etifeddiaeth i fedd- ianu y wlad." Gollyngodd hwynt ymaith ar 01 eu cael i adnewyddu eu cyfamod a Duw yn Sichem. (Gwel Jos. xxiv. 28). Aethant bob un i'w etifeddiaeth or ad. newyddu yr ymdrech i enill Gwlad yr Addewid yn llwyr iddynt eu hunain, a gyrn y Canaaneaid allan. Gweler yr banes yn Barnwyr i. Adnod 7. — A'r bobl a wasanaethasant yr Ar- glwydd holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau yr henur- iaid y rhai a fu fyw ar 01 Josua, y rhai a welsent holl fawr-waith yr Arglwydd, yr hwn a wnaethai efe er Israel." Tra y parhaodd y bobl i gofio y gweithred- oedd mawrion a wnaethai Duw er Israel arosasant yn eu ffyddlondeb. Y mae yn anhawdd penderfynu y cyfnod a olygir wrth holl dclyddiau yr henuriaid. Tybir mae rbyw bum' mlvnedd ar hugain ar 01 marw- olaeth Josua, neu haner can' mlynedd o'r adeg y daeth- ant i Ganaan. Sylwa M. Henry, Megys yr aethant i'w meddianau gydag ymroadau da i lynu wrth Dduw, felly daliasant yr ymroadau da hyny, cyhyd ag y bu ganddynt lywodraethwyr da ag oedd yn gosod enareifft- iau da iddynt, yn rhoddi hyfforddiadau da iddynt, ac yn ceryddu ac yn atal y llygredigaethau a ymlusgai i mewn i'w plitb." Adnod 8.—"A bu farw Josua, mab Nun, gwas yr Arglwydd, yn fab deng mlwydd a chant." Bu farw yr un oed a Joseph, ar ol gwasanaethu ei genedlaeth yn dda. Dechrenodd ar ei waith fel cynorthwywr Moses pan yn saith a deugain, a pharhaodd yn ffyddlon am ddeunaw mlynedd ar hugain. Ynabuambum' mlyn- edd ar hugain ei hunan yn arweinydd i Israel. Adnod 9—" A hwy a'i claddasant ef yn nherfyn ei etifeddiaeth, o fewn Timnath-heres, yn mynydd Ephraim, o du y gogledd i fynydd Gaas." Yn nherfyn, nen yn fwy priodol o fewn terfyn ei etifeddiaeth. Gwel Jos. xix. 50. Timnath-heres. Yn Josua gelwir ef Timnath-serah. Dywedir fod y gair heres yn arwydd- ocau haul, a thybir gan rai fod arwydd o'r haul wedi ei osod ar ei feddrod, yn goffadwriaeth i'r haul aros ar ei air. Y mae yn anhawdd penderfynu safle Timnath- heres. Yr un a Jibneh, ar y ffordd Rufeinisr oj Jeru salem i Antipatris, medd rhai. Ereill a dybiant mae yn Kefr Haris, naw tnilldir i'r de o Nablus (Sichem), y ceir ei safle. Ni wyddis ddim am Gaas. Adnod 10.—" A'r holl oes hono hefyd a gasglwyd at eu tadan, a chyfododd oes arall ar eu hoi hwynt, y rhai nid adwaenent yr Arglwydd, na'i weithrtdoedd a wnaethai efe er Israel." Oes hono. Y rhai oedd mewn oed pan ddarostyngwyd Canaan dan arweiniad Josua. A gasglwyd at eu tadau. Ymadrodd pryd- ferth i ddynodi marwolaeth-myned adref at y tadau. Y mae y syniad Cristionogol yn brydferthach eto, Mino yn yr Iesu. Oes arall y rhai nid adwaen- ent yr Argltvydd. Heb wybodaeth brofiadol ohono, heb deimlad gwirioneddol o'u rhwymedigaeth iddo, nac nnrhyw ymlyniad wrtho fel eu Dnw, yr hwn oedd wedi gwneuthur pethau mawrion erddynt. Nid oedd gan- ddynt deimlad crefyddol er holl fanteision eu dygiad i fyny. Yr oeddent wedi ymroddi i'r byd, ae mor an- wesgar o'r cnawd, mewn esmwythid a moethau, fel na phryderent ddim am ogoneddu Duw, ac ufuddhau i'w orchymynion. Yr oedd yn hawdd eu llithro at dduwiau dyeithr gan yr arferion cnawdol oedd yn nglyn ag addoliad iddynt. Adnod 11.—"A meibion Israel a wnaethant ioni yn ngolwg yr Arglwydi, ae a wasanaethasant Baalim." Yn adnodau 11-15, coir crynodeb byr o banes Israel dan y Barnwyr. A ivnaethant ddrygioni yn ngolwg yr Arghvydd. Syrthiasant i eilunaddol- iaeth. Dyma'r ymadrodd a ddefnyddir yn llyfr y Barnwyr i osod allan lithriadau Israel at eilunaddol- iaeth. Nid dyma y tro cyntaf (Num. xxv. 3-5) a pharhaodd y duedd yn Israel hyd ddyddiau Samuel. Baalim. Y ffurf luosog o Baal. Arwydda y gair Arglwydd. Defnyddir y gair yn yr adnod hon mewn ystyr gyffredinol i osod allan dduwiau y Cenedloedd, Y mae yn gyfystyr a'r y mad) odd duwiau dyciihr yn adnod 12. Ceir darluniad manylach o'r duioiau dyeithr hyn yn adnod 13. Pan wrthodasant Jehcfah yr oedd ganddynt dduwiau lawer, ac arglwyddi lnwer. Pa both bynag a gymerasant yn dduwiau iddynt, gwas- anaethasant hwynt, ac ymgrymasant iddynt, rhoisant anrhydedd iddynt, ac erfyniasint am gymwynasau ganddynt." Tybia rhai fod y rhif lluosog Baalim yn golygu y gwahanol swyddi oedd gan Baal i'w cyflawni. Adnod 12.—" Ac a wrthodasant Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a'u dygasai hwynt o wlad yr Aipht, ac a aethant ar ol duwiau dyeithr, sef rhai o dduwiau y bobloedd oedd o'u ham/ylch, ac a ymgrymasant iddynt ac a ddigiasant yr Arglwydd." Dyma eithafnod eu pechod, gwrthod y Duw a'u dygasai o wlad yr Aipht, lie y dyoddefasant y fath galedi a gorthrymder. Ni buasai yn bosibl byth eu dWYIl o'r caethiwed blin hwn heb i Dduw o'i drug iredd mewn modd gwyrthiol gyf- ryngu ar eu rhan. Yn ol y Caldeaeg, gwrthodasant addoliad yr Arghvydd. Y mae y rhai sydd yn gwrthod addoliad Duw, mewn effaith yn gwrthod Duw ei hun. Wedi gwrthod yr Arglwydd, y maent yn ymgymysgu [ a'r Cenedloedd oedd o'u cwrnpas, yn yfed o'u hysbryd, ac yn syrthio i fewn i'w harferiadau. Yr oedd addol- iad y duwiau dyuithr hyn yn fwy cydweddol a'u natur lygrcdig. Yr oedd Duw Israel yn gofyn pnrdeb yn yr addoliad, ond yn addoliad y duwiau dyeithr nid oedd dim ffrwyno ar dueddiadau y natur lygredig. Gallasent wasanaethu pechod dan gymeradwyaeth eu duwiau. Adnod 13.—" A hwy a wrthodasant yr Arglwydd, ac a wasanaethasant Baa! ac Astaroih." Y ffurf unigol o Baalim ydyw Baal. Astarotb, y ffurf luosog o As- toreth, neu Astarte yn y Groeg. Dyma dduwiau pobl. ogaeth y Phceiiiciaid-duwiau gwryw a duwiau benyw. Cysylltent hwy a'r haul a'r lleuad, ac addolent hwy fel ffynonell bywyd. Yr oedd yr addoliad a roddent iddynt yn cynwys rhai o'r arferiadau mwyaf cnawdol a llygredig. Adnod 14.—" A llidiodd digllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel, ac efe a'u rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr, y rhai a'u hanrheithiasant hwy; ac efe a'u gwerthodd hwy i law eu gelynion o amgyich fel na allent sefyll mwyach yn erbyn eu gelynion." Y mae digofaint yn Nuw yn erbyn pechod. Y mae digofaint yn Nuw yn hollol gydweddol a pberfleithrwydd ei natur. Nis gall garu uniondeb heb gasau pechod. Yr oedd eilunaddoliaeth Israel yn enyn digofaint Duw yn eu herbyn. Yr oedd yn angerddol. Llosgai megys tan. Tynodd ei amddiffyniad oddiwrthynt. Rhoddodd hwynt yn llaw yr anrheithwyr. Trwy ffafr Dnw yr oeddent wedi enill eu buddngoliaethau. Wedi iddynt golli y ffafr hono, yr oedd ea gelynion yn drech na hwynt. Anrheithiwyd hwy ganddynt. Efe a'u gwerthodd hwy i law eu gelynion. Y mae y gair i'w gymeryd mewn ystyr ertng, ac yn golygu fod Duw yn ymwrthod a hwy fel ei bobl noilldnol. Eu gelynion o amgylch—i'r De yr oedd yr Amaleciaid a'r Arabiaid— i'r Dwyrain y Moabiaid a'r Amoriaid—i'r Gogledd yr Hefiaid a'r Hitiaid—i'r Gorllewin y Philistiaid. Adnod 15.—"I ba le bynag yr aethant, llaw yr Ar- glwydd oedd er drwg yn eu herbyn hwynt, fel y llefar- asai yr Arglwydd, ac fel y tyn^asai yr Arglwydd wrth- ynt hwy, a bu gyfyng iawn arnynt." I ba le bynag yr aethant. Nid yn viiig yn eu hymgyrch mitwrol, ond yn eu cysylltiadau masnachol. Y mae yr ymadroddion "myned allau" a "dyfod i fewn yn golygu yn Hebraeer masnachu. Llawiji-Arglivyddoedcler(li-qvg, &c. ".Trodd mantol buddugoliaeth yn eu herbyn hwynt. Wedi iddynt wrthod Daw, pa bryd bynag y cymerent y cleddyf mewn Haw, yr oeddynt mor sier o gael eu curo, ag y buasont o'r blaeu yn sier o fudd- ugoliaeth. Gynt, nis gallai eu gelynion ddim sefyll o'u blaen hwynt, ond i ba le bynag yr aent yr oedd Ila w yr Arglwydd drostynt; pan ddechreuasant oeri yn eu crefydd, ataliodd Duw ei radlonrwydd, rhwystrodd fynediad yn mlaen eu buddugoliaethau, ac ni wnai yru eu gelynion allan mwyach, ond goddefodd iddynt yn unin gadw eu tir ond yn awr, pan oeddynt wedi llwyr wrthgilio at eilunaddoliaeth, trodd y rhyfel yn union- gyrchol yn eu herbyn hwvnt, ac ni allent sofyll mwyach yn erbyn eu gelynion." Fel y llefarasai yr Arghvydd. Y mae Duw yn ffyddlon i'w air. Adnod 16.—" Eto yr Arglwydd a gododd farnwyr, y rhai a'u hachubodd hwyut o law eu hanrheithwyr." Y mae Duw yn cosbi ei bobl, ond nid ydyw yn eu llwyr adael. Mor gynted ag yr edifarhant y mae yn trefnu moddion eu gwarediiuieth. Cododd Farnwyr i waredu Israel. Dewisocld Duw- ddynion enwog o bryd i bryd i lywodraethu Israel, a'u harwain o'u cyfyugdcrau, o ddyddiau Josua hyd sefydliad y freaiuiaeth yn eu mysg yn mherson Saul. Gelwir hwy y Barnwyr. Sonia y Beibl am bymtheg o'r swyddogion hyn. GWERSI. Y mae pechod yn arwain dynion i anghofio Duw, ac yn iladd pob teimlad o rwymedigaeth i'w wasanaethu. Y mae yn arwain i ysbryd anniolchgar yn wyneb y mwynhad o'r breintiau gwerthfawiocaf. Wedi gwrthod y gwir Dduw, yr unig Dduw, y mae natur lygredig yn lluosogi duwiau, ac yn cymeryd i fyny gydag unrhyw fath o dduwiau. Y mae cariad at y byd a chymdeithas annuwiolion, yn rhwym o ddylauwadu yn niwe diol. Wrth ymg-y. mysgu a'r Cenedloedd aeth Israel i addoli eu duwiau. Y a ae gwir grefydd yn gofyn bywyd pur. Y mae yn ba-,ddacli addoli Baal gau nad ydyw yn gwrth- wynebu pechod. llhaid i'r gwir Dduw gael addol- iad pur. Y mae pechod ya rhwym o arwain i drueni. Y mae digofaint Dnw ar yr annuwio'. GOFYNIADAU AR Y WERS. 1. At ha. atngylchiad yn hanes Israel y cyfeirir yn yr ymadrodd, "A Josmt a ollyngodd y bobl yinaith adisod 6. 2. Pwy oedd yr henuriaid ? Pa gyfnod aolygir wrth ddyddiau yr henuriaid ? 3. I ba ddylanwad y priodoiir ymlyniad Israel wrth eu Duw yn y cyfnod hwn ? 4. Pa le y claddwyd Josua, a pha both ydyw ystyr Timnath-heres ? 5. Beth fu yr aches o ymlygriad Israel, a'u gwrth. giliad oddiwrth Dclaw P G. Pa dduwiau ydoedd Baal ac Astaroth ? Beth ydyw ystyr yr euwau P 7. Beth a feddylir wrth yr ymadrodd llidiodd dig. llonedd yr Arglwydd yn adnod 14 ? 8. Pwy oedd y Barnwyr ? Pa beth ydoeJd ea swydd neillduol yn Israel ?

AGORIAD CAPET, NEWYDD LLANBEDEOO.…

Advertising