Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BOOTLE.

[No title]

ENGLYNION

ER COFFADWRIAETH AM Y DIWEDDAR…

News
Cite
Share

ER COFFADWRIAETH AM Y DIWEDDAR MR. j JOHN GRIFFITHS, LLANBEDR, GER NARBERTH. UNWAITH eto wele angeu I Wedi tynn ei gleddyf llym, Gan drywanu'n mlodau'i ddyddiau J Un oedd gyfaill anwyl im' Trwm yr ergyd i'w gyfoedion, Trwm i'r eglwys, felly mae, Ond i'r t :ulu trwmach loesion, Galar, griddfan, gofid, gwae. Melus gofiaf am yr ade.J Pan yn chwareu yn y pant, Dringo'r rhiwiau serth dan redeg J Fel chwim cwig pan yn blant; Gwrando llais y mwyn gantorion A delorai uwch y graig, Dal y pysg ar fron yr afon Lifa'n "gyson tua'r aig. Dedwydd treulio'm oriau lawer Ddysgu lion ganiadau serch, Dysgu'r anthem nefol seinber, Dringo rhivviau'r ganig erch O mor gyflym hedai'r oriau Pan yn ngwres y mawl a'r gaa Haf fwyneiddiaf i'n calonau Yn y gauaf heb un tan. Ust pa beth yw'r i&s oernadau Glywaf yn yr awel Ion ? Yn ei oerllyd gerbyd—angeu Aeth i ffwrdd a'm cyfaill John. Beth, ai breuddwyd yw'r cyhoeddiad ? Ai dychymyg noeth a gwan ? Na mae'n ffaith, ond anhawdd dirnad, Marw, druan, ddaeth i'w ran.. Codi wnaeth fel haul y boreu Ar fawreddog foreu haf, Brysio'n mlaen dros lawrlas ddyddiau 'N lencyn heini, gwridgoch, braf. Ond eyn cyrhaedd ei feridian, 'Maflodd angeu yn ci law, Gan ddiffoddi haul oi fywyd, Aeth pg ef i'r ochr draw. 'Roedd yn fachgen pur, diniwed, Heb ddim Did na nwydan cas, Heb ddim malais drwg na syched I ddigofaint, crch diras 'Roedd yn addfwyn iawn, a thyner, Yn garedig, hawddgar, lion— Llawn parodrwydd ar bob amser Wneyd a allai ydoedd John. Bu yn aelod bynod ffyddlon Yn y dosbarth Ysgol Sul, Chwareu ran wnai ef yn tryson Heb ragfarnau dall a chul. 'R,occld yn deall trefn y cadw Yn ei holl agweddau llawn, Amcan Iesu Grist yn marw Ar Galfaria er gwneyd lawn. Ond fel un o filwyr Seion Yn y gan rhagorai ef, Cami nes gwefreiddio dynion Wnelai a'i soniarus lef. Pwv a leinw'r adwy lydan Wnard gan an Yeu yn ein Cor ? Cclnai of is-alaw'r gydgan, Chwydda'i lais fel ton y mor. Gwag- o John fydd cor Brynseion, I Chwithig iawn fydd gwcl'd y fan Lle'r eisteddai ef mor gvson Ar yr oriel gantor gan Heddyw chwydda/r gan drag'wyddol Draw yn yr ybbrydol fyd, Haleliwia yn oes oesoedd IR Oen a'i prynodd of mor d irud. Nac wylwch, berth'nasau, nac wylwch, ferch Seion, Wrth golli y dewrion o rengoedd y gild, Symudant o'r ddaear i blitli yr angylion, I fyw-byth i farw, na 'madael a'r wlad Cant hedeg trwy fydoedd afrifed y Duwdod, I ganfod prydferthwch a chariad heb ddig, A chanu am gynllun i achub gan Drindod, A chanfod yr Oen yn y wlad lie y trig. OSSIAN LLAMBED.

Family Notices

! MARWOLAETH A CULADDEDIGKETI-I…

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…