Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BOOTLE.

News
Cite
Share

BOOTLE. Cychwynwyd yr achos yma er's mwy na phed- air blynedd yn ol mewn ystafell fechan yn Balliol- road, gan nifer o aelodau Great Mersey-street, Liverpool, ac wedi cynalYsgol Sabbothol a phreg- ethu yn achlysurol dros ychydig, rhoddwyd llyth- yrau gollyngdod yn rheolaidd i ryw 34 o aelodau i ymffurfio yn eglwys yn y lie, y rhai a gorffolwyd gan y Parchn W. Roberts a J. Thomas, D.D. Buont dan gryn anfantais oblegid anghyfleusdra y lie y cyfarfyddent, ac wedi symud i'r neuadd gyfleus yn Merton-road yr oedd yr ardreth blyn- yddol yn faich trwm. Teimlid fod anhawsder i gael tir at adeiladu heb dalu yn ddrud am dano, yn ychwanegol at yr ardreth flynyddol, heb gael rhyw ddylanwad i fyned yn uniongyrchol at brif oruchwyliwr Iarll Derby, oblegid yr Iarll yw perchenog yr boll wlad oddiamgylch. Yr oedd Dr Thomas a Mr Roberts wedi bod gydag ef yn ymofyn tir rai blynyddoedd yn ol, ond yr oedd rbyw rwystr i gael y tir a geisient y pryd hwnw. Yn nechreu y flwyddyn hon gwnaeth yr eglwys yn Bootle gais atynt ar iddynt fyned eilwaith ar yr un neges, a'r hyn y cydsyniasant yn ebrwydd, a chawsant addewid ddioed am dir ar gongl Uni- versity-road, Trinity-road, un o'r manau goreu a allesid ddymuno; a chyn pen pythefnos yr oedd y tir wedi ei sicrhau. Cafwyd ef heb unrhyw dal, ond yr ardroth flynyddol, ac y mae hono yn rhes- ymol iawn. Mae digon o dir wedi ei ddyogelu i godi capel eang ar gongl yr heol, yr un heol ag y mae capeli y Methodistiaid a'r Wesleyaid ynddi yn barod, ond ychydig yn nwch i fyny, ac o gymaint a hyny yn well ar gyfer y dyfodol. Pen- derfynwyd codi ysgoldy y tu ol i'r capel, gan gadw y tir yn y ffrynt at y capel, ond y mae gwyneb yr ysgoldy i University-road. Mao yr ysgoldy yn un nodeaig o gyfleus, yn mesur 44 troedfedd wrth 27 oddifewn, a festri a phob cyfleusderau ereill yn nglyn ag ef. Nis gellir dymuno lie mwy man- teisiol, ac nid aeth yr holl draul, gan gynwys ei ddodrefniad a'r cwbl, ond rhyw .£500. Agorwyd ef nos Sadwrn, Gorphenaf 28ain, pryd y decbreu- wyd y gwasanaeth gan y Parch W. Roberts, ac y pregethodd y Parch J. Thomas, D.D. Boreu Sabbotb, am 10, pregethwyd gan y Parchn J. Davies (B.), Bootle, a W. Nicholson. Am 2, gaa y Parchn Ishmael Evans (W.), a H. Rees, Caer. Am 6, gan y Parchn H. Rees a W. Roberts. Nos Lun, pregethodd y Parchn H. Ivor Jones, Llan- rwst, a W. Davies, Llandilo; a'r nos Wener di- lynol pregethodd y Parchn G. Ellis, M.A., Bootle, a D. M. Jenkins. Cafwyd cyfarfodydd rhagorol o'r dechreu i'r diwedd, ac y mae yr eglwys fechan yn Bootle yn dechreu yn ei phabell newydd o dan amgylchiadau hynod o ffafriol, a thrwy gydweith- iad dynion, 6 dan fendith Duw, gellir dysgwyl fod dyfodol llewyrchus i'r achos yma.

[No title]

ENGLYNION

ER COFFADWRIAETH AM Y DIWEDDAR…

Family Notices

! MARWOLAETH A CULADDEDIGKETI-I…

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL…